Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 26ain Medi, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

  23 Mai 2017 (Cyfarfod Arferol)(11.00am)

  23 Mai 2017 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf)

  31 Mai 2017 (Y Cyfarfod Blynyddol a Ohiriwyd)

  6 Gorffennaf 2017 (Cyfarfod Arbennig)

  31 Gorffennaf 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, a chadarnhawyd eu bod yn gywir, gofnodion cyfarfodydd blaenorol Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

·      23 Mai, 2017 (Cyfarfod Cyffredin)(11.00 a.m.), yn amodol ar welliant bod Arweinydd y Cyngor wedi dweud y bydd un aelod ychwanegol ar y Pwyllgor Gwaith (mae lle eisoes i 8 Aelod ar y Pwyllgor Gwaith);

 

·      23 Mai, 2017 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf), yn amodol ar welliant bod yr Wrthblaid wedi mynegi nad oedd unrhyw aelod etholedig o grŵp yr wrthblaid wedi eu cynnwys fel aelodau o’r Pwyllgor Safonau;

 

·      31 Mai, 2017 (Cyfarfod Blynyddol wedi;i ohirio);

 

·      6 Gorffennaf, 2017 (Cyfarfod Arbennig), yn amodol ar gofnodi cyfrifoldebau Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Datblygiadau Mawr a’r Iaith Gymraeg) yn y cofnodion;

 

·      31 Gorffennaf, 2017.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd :-

 

  Diolchodd i drigolion yr Ynys a oedd wedi cyfrannu at lwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Modedern yn ddiweddar. Estynnodd Longyfarchiadau i bawb yn Ynys Môn a oedd wedi llwyddo yn yr Eisteddfod. Dywedodd hefyd ei bod hi wedi bod yn fraint cael agor Stondin y Cyngor Sir ar Faes yr Eisteddfod fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn.

  Llongyfarchiadau i gystadleuwyr o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Frenhinol ac ym Mhrimin Môn yn ddiweddar.

  Llongyfarchiadau i’r disgyblion ysgol uwchradd hynny sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau TGAU a Safon Uwch.

 

Llongyfarchiadau i Mr Tom Jones, Maes Mawr, Llanfechell ar ei benodiad fel Llywydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac i’r Cynghorydd Aled Morris Jones ar ei benodiad fel Is-lywydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Ynys Môn.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y cynhelir Sul y Cadeirydd yn Eglwys St Eleth, Amlwch ar ddydd Sul, 8 Hydref 2017 am 2pm ac i ddilyn yng ngwesty’r Lastra.

 

* * * * *

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â’r cyn aelod etholedig Mr Glyn Jones yn dilyn marwolaeth ei wraig yn ddiweddar.

 

Mynegwyd cydymdeimlad ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu unrhyw Aelod o Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch i fynegi eu cydymdeimlad ac i ddangos parch.

 

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd dan reol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau mewn perthynas â rheol 4.1.12.4 o’r Cyfansoddiad.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd ei fod wedi cael 2 ddeiseb gan y canlynol :-

 

Deiseb yn cynnwys 93 o enwau a gafwyd gan y Cynghorydd R.Ll. Jones gan drigolion a oedd yn dymuno cadw cae chwarae Ysgol y Parc, Caergeybi ar gyfer plant yr ardal yn dilyn cau’r ysgol.

 

Deiseb yn cynnwys 272 o enwau a gafwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies gan gefnogwyr sy’n dymuno diogelu Ysgol Gynradd Biwmares rhag cau.

 

Dywedodd y Cadeirydd y bydd y deisebau’n cael eu cyfeirio at yr adrannau perthnasol o’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r deisebau at yr adrannau perthnasol o’r Cyngor.

6.

Cynllun Corfforaethol 2017-2022 pdf eicon PDF 671 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Medi, 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwlynwyd – adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Medi, 2017.

 

Cyfeiriodd yr wrthblaid at y pennawd Addysg a Sgiliau o fewn yr adroddiad sy’n nodi ‘…… posibilrwydd o gampysau dysgu 3-18 mewn lleoliadau penodol’; gofynnwyd am gadarnhad o leoliad y ‘lleoliadau penodol’.  Ymatebodd y Prif Weithredwr bod y rhaglen moderneiddio ysgolion yn cynnwys dyfodol ysgolion uwchradd yr Ynys ac y bydd angen ystyried lleoliad safleoedd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2017-2022.

7.

Datganiad o Gyfrifon 2016/17 ac Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 4 MB

  Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

 Cyflwyno addroddiad Archwilio Allanol ar archwilio’r Datganiadau Ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’I cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 21 Medi, 2017. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn Datganiad Cyfrifon 2016/17;

·           Nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi derbyn Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17 a chyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr er mwyn iddynt ei llofnodi.

8.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Medi, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Medi, 2017.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Nodi’r ffigyrau alldro sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn;

·           Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys 2016/17 dros dro sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2016/17 pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2016/17, fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 25 Gorffennaf, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2016/17 gan y Cynghorydd John Griffith, cyn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a hynny yn absenoldeb y Cynghorydd R.Ll. Jones, cyn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

10.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fel y cafodd ei gyflwuno i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Gorffennaf, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fel Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Adroddodd Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn archwiliad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant ym mis Tachwedd 2016 bod y blaenoriaethau ar gyfer gwella’r gwasanaeth wedi eu cytuno arnynt drwy gyflwyno Cynllun Gwella Gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar gryfhau’r gwasanaeth a sefydlu Panel Gwasanaethau Plant sy’n monitro’r Gwasanaeth ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn rheolaidd. Nododd ei bod yn hyderus bod sylfaen ar gyfer gwelliannau cynaliadwy bellach wedi ei sefydlu yn y Gwasanaethau Plant. Ychwanegodd bod y Gwasanaethau Oedolion wedi gweld cyfnod o sefydlogrwydd sydd wedi galluogi’r gwasanaeth i ganolbwyntio ar y dyfodol ac i atgyfnerthu cynnydd mewn perthynas â datblygu cyfleusterau Gofal Ychwanegol Hafan Cefni ac i wneud gwelliannau i Gartref Preswyl Garreglwyd yn ogystal â pharatoi i ail-dendro’r trefniadau Gofal Cartref.

 

Nod y Gwasanaethau Cymdeithasol yw gweithio gydag unigolion a gwrando ar eu hanghenion fel sydd wedi’i ymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn canolbwyntio ar sgyrsiau ‘Beth sy’n Bwysig’) a galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi am gyn hired â phosibl.

 

Diolchodd y Cynghorydd A.M. Jones, cyn ddeilydd portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol, i Dr Turner am ei gwaith a’i gweledigaeth ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2016/17.

11.

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Aled M Jones a Kenneth P Hughes:-

 

“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn annog y Cyngor Sir i fabwysiadu polisi sy’n cadarnhau ymrwymiad tymor hir i’r stad mân-ddaliadau amaethyddol.

 

I wneud hyn, bydd angen i’r Awdurdod roi’r gorau i gael gwared ar ddaliadau wrth iddynt ddod yn wag. Dim mân-ddaliadau sy’n fwy na 20 o erwau i gael eu gwerthu heb i hynny gael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorwyr Aled M. Jones a Kenneth P. Hughes:-

 

Yr ydym ni, y rhai a enwir isod, yn annog y Cyngor Sir i fabwysiadu polisi sy’n cadarnhau ymrwymiad hirdymor i’r stad mân-ddaliadau amaethyddol.

Mae hyn yn gofyn i’r Awdurdod roi’r gorau i werthu mân-ddaliadau gwag pan fyddant yn dod ar gael. Ni ddylid gwerthu unrhyw fân ddaliadau dros 20 acer heb gymeradwyaeth y Cyngor Llawn.”

 

Siaradodd y Cynghorydd Aled M. Jones o blaid y cynnig gan ddweud bod yn rhaid diogelu’r Stad Mân-ddaliadau er mwyn diogelu dyfodol pobl ifanc sy’n dymuno gallu cyfrannu at amaethyddiaeth drwy’r mân-ddaliadau hyn. Nododd fod y polisi presennol yn galluogi’r Deilydd Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) a Swyddogion i werthu mân-ddaliadau hyd at 20 acer; gwerthwyd 2 fân-ddaliad yn ddiweddar. Mae’r Stad Mân-ddaliadau ar hyn o bryd yn cynnwys 98 o unedau, sef yr ail stad fwyaf yng Nghymru, sydd â 78 o anheddau ynghlwm â hi a rhenti blynyddol o £520k. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith ailwampio ac atgyweirio helaeth i’r stad, a oedd mewn cyflwr hynod o wael, yn dilyn trosglwyddo’r ystâd o Gyngor Gwynedd ym 1996. Pwysleisiodd yr angen i ddiogelu’r Stad Mân-ddaliadau ond bod angen i benderfyniadau mewn perthynas â gwerthu mân-ddaliadau neu anheddau hyd at 20 acer fod yn benderfyniadau i’r Cyngor llawn.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P Hughes a dywedodd efallai bod cyfiawnhad dros werthu rhai mân-ddaliadau yn y gorffennol oherwydd cyflwr echrydus y stad wedi iddi gael ei throsglwyddo gan Gyngor Gwynedd. Nododd fod y rhan fwyaf o’r Stad bellach wedi ei hailwampio a bod bellach angen ei diogelu ar gyfer dyfodol pobl ifanc sy’n dymuno ennill bywoliaeth o fewn amaethyddiaeth.

 

Nododd y Cynghorydd Peter Rogers ei fod yn ystyried bod y Stad Mân-ddaliadau wedi cael ei gadael i ddirywio ac nad yw’r modd y mae’r Cyngor yn rhedeg y stad yn addas i’r pwrpas.

 

Cynigiodd y Deilydd Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) welliant i’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd a cynigiodd y dylid gofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod nod y Polisi Gosod Mân-ddaliadau. Mae angen gwerthuso’r Polisi Gosod er mwyn galluogi’r stad mân-ddaliadau i fod mor effeithiol a ffrwythlon â phosibl fel bod pobl ifanc yn cael cyfle i fod yn denantiaid mân-ddaliadau ar yr Ynys ac i allu gwneud bywoliaeth o fân-ddaliadau ac yn fwy na hynny er mwyn gallu dod yn Reolwyr Unedau Ffermio Masnachol yn y dyfodol a sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y Stad. Eiliwyd y gwelliant gan Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M. Jones ei fod o’r farn bod y stad mân-ddaliadau wedi cael ei huwchraddio ond nad oedd yn cytuno y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaethau pellach gan fod y rhenti blynyddol ar gyfer y stad wedi cael eu gwarchod yn benodol ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.