Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-
• 26 Medi, 2017 • 30 Hydref, 2017 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir: -
· 26 Medi, 2017, yn amodol ar newid ar Dudalen 5 o'r cofnodion fod y Cynghorydd Aled M Jones wedi dweud '.... bod y polisi cyfredol yn caniatáu i'r Aelod Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) a Swyddogion werthu unrhyw fân-ddaliadau'.
Mae angen newid yn y cofnodion hefyd, sef bod y Cynghorydd Aled M Jones wedi dweud nad oedd yn gwrthwynebu gwerthu mân-ddaliadau hyd at 20 erw ond bod angen cyfeirio pob un dros 20 erw i'r Cyngor llawn.
· 30 Hydref, 2017 (Arbennig)
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol: -
· Llongyfarchiadau i gystadleuwyr a oedd wedi mwynhau llwyddiant yn y Ffair Aeaf ym Maes Sioe Mona fis diwethaf a hefyd yn Llanfair-ym-Muallt yn ddiweddar; · Llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a oedd wedi cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn Llandudno; · Diolchodd i staff a defnyddwyr gwasanaeth Blaen y Coed a Gerddi Haulfre am addurno Coeden Nadolig y Cyngor Sir yn nerbynfa Cyswllt Môn; · Roedd yn dymuno llongyfarch Mr. Fôn Williams ar ei benodiad diweddar yn Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd. Dymunai ddiolch i Mr Llyr Bryn Roberts am ei waith fel y Pennaeth Dros Dro ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd dros y misoedd diwethaf; · Roedd yn dymuno llongyfarch Ms Shan Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ei phenodiad yn Brif Weithredwr Grŵp Cynefin a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd; · Dymunai ddiolch i holl staff y Cyngor Sir am eu gwaith yn ystod y llifogydd diweddar ar yr Ynys a mynegodd ei gydymdeimlad â'r trigolion a'r busnesau lleol yr effeithiwyd arnynt.
* * * * Estynnwyd cydymdeimladau â theulu’r diweddar Mr Carl Sargeant AC.
Talodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, fel Arweinydd y Grŵp Llafur, deyrnged i Mr Sargeant AC. Estynnwyd cydymdeimlad ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu aelod o staff a oedd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau a Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o'u parch a'u cydymdeimlad.
|
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 o'r Cyfansoddiad · Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i Arweinydd y Cyngor :-
“Fel ni gyd, byddwch yn gwbl ymwybodol o’r dicter a’r pryder sy’n cael eu mynegi gan drethdalwyr Ynys Môn yn dilyn eich penderfyniad i gynyddu nifer yr Aelodau ar Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn i 9 aelod.
Yn y cyfnod llym sydd ohoni, sut yn y byd fedrwch chi gyfiawnhau’r ffasiwn wariant?”
· Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorwyr A M Jones a Bryan Owen i Arweinydd y Cyngor :-
“Yn dilyn y penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro am y cytundeb gofal cartref, beth a faint ydy’r costau wedi bod i’r Cyngor?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter S Rogers i Arweinydd y Cyngor: -
“Fel ni i gyd, byddwch yn gwbl ymwybodol o’r dicter a’r pryder sy’n cael eu mynegi gan drethdalwyr Ynys Môn yn dilyn eich penderfyniad i gynyddu nifer yr Aelodau ar Bwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn i 9 aelod.
Yn y cyfnod llym sydd ohoni, sut yn y byd fedrwch chi gyfiawnhau’r ffasiwn wariant?”
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am y cynnydd yn aelodaeth Pwyllgor Gwaith yr Awdurdod hwn. Roedd hi’n dymuno ailadrodd na fydd y cynnydd yn aelodaeth y Pwyllgor Gwaith yn golygu unrhyw faich ariannol i'r awdurdod, dim ond cynyddu’r nifer ar y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad yw'r Dirprwy Arweinydd yn hawlio ei lwfans ond gofynnodd, pe bai’r sefyllfa honno’n newid, a allai hynny olygu baich ariannol ar yr Awdurdod? Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n ymateb i'r mater penodol hwnnw petai'n codi. Gofynnodd y Cynghorydd Rogers ymhellach, gan fod y Rhaglen Ynys Ynni a datblygiadau ynni eraill yn bwysig i'r Awdurdod, pam nad oedd y Cyngor Sir wedi ei gynrychioli ar y Gweithdy Rhan-ddeiliaid ynghylch Targedau Ynni i Gymru a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor trwy nodi bod diffyg capasiti yn un o'r rhesymau dros beidio â mynychu'r Gweithdy Rhan-ddeiliaid yng Nghaerdydd, sy'n enghraifft o pam fod angen cynyddu nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Gwaith.
· Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorwyr A M Jones a Bryan Owen i Arweinydd y Cyngor: -
“Yn dilyn y penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro am y cytundeb gofal cartref, beth a faint ydy’r costau wedi bod i’r Cyngor?”
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y penderfyniad i wahodd tendrau mewn perthynas â'r gwasanaeth gofal cartref wedi ei wneud gan weinyddiaeth flaenorol y Cyngor. Dymunai diolch i aelodau'r Grwpiau Gwrthblaid am fynychu'r sesiynau i asesu'r tendrau a gafwyd. Gwnaed penderfyniad i roi’r gorau i’r broses dendro ac i ailystyried y mater gyda'r Awdurdod Iechyd. Yr unig gostau cysylltiedig i’r Awdurdod hwn a'r Awdurdod Iechyd o ran y broses hon oedd amser staff.
Holodd y Cynghorydd Bryan Owen pam ei bod wedi cymryd tan y funud olaf i roi'r gorau i'r broses dendro pan oedd wedi cymryd tri diwrnod i gyfweld y cwmnïau a oedd wedi cyflwyno tendrau am y gwasanaethau gofal cartref. Gofynnodd am y costau a gafodd y cwmnïau hyn i baratoi tendr a mynychu'r cyfweliad yn y Cyngor a dywedodd y gallai'r Awdurdod wynebu ceisiadau am iawndal gan y cwmnïau dan sylw. Dywedodd fod yr Arweinydd wedi gwahanu'r Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwell cefnogaeth i'r ddau wasanaeth a holodd a fyddai'n mynd yn ôl at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ofyn am Aelod Portffolio arall ar y Pwyllgor Gwaith?
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi, fel yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, bob amser wedi rhoi amser sylweddol i'r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad I gyflwyno Rhybudd o Gynnig gan :-
· Y Cynghorydd Shaun J Redmond
“Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar i symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith gyntaf a’r baich ariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny, rwy’n cynnig, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw fandad a gan nad ydynt wedi ceisio consensws yr etholaeth i newid y polisi o fod yn Bolisi o Ddwyieithrwydd, bod Aelodau yn :-
(a) Cadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth. (b) Derbyn y polisi o gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg. (c) Derbyn y polisi o gyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym Môn y mae eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith yn Gymraeg neu Saesneg.”
· Y Cynghorydd Aled Morris Jones
“Rwy’n gwneud cais i’r Cyngor Sir chwifio baner y Deyrnas Unedig y tu allan i swyddfeydd y Cyngor Sir yn Llangefni yn ddyddiol, ac nid ar ddyddiau penodol yn unig, ochr yn ochr â’r Ddraig Goch a baner y Cyngor.”
· Y Cynghorydd Bryan Owen
“Yn dilyn effaith trychinebus ar unigolion o ganlyniad i’r llifogydd diweddar ar yr Ynys, a wnaiff y Cyngor gytuno i sefydlu cronfa gymorth argyfwng er mwyn cynorthwyo’r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio a blaenoriaethu gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd fel rhan o gyllideb 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y Rhybuddion o Gynigiad isod gan: -
· Y Cynghorydd Shaun Redmond
"Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar i symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith gyntaf a’r baich ariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny, rwy’n cynnig, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw fandad a gan nad ydynt wedi ceisio consensws yr etholaeth i newid y polisi o fod yn Bolisi o Ddwyieithrwydd, bod Aelodau yn :-
(a) Cadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth; (b) Derbyn y polisi o gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg; (c) Derbyn y polisi o gyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym Môn y mae eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith yn Gymraeg neu Saesneg.”
Eiliodd y Cynghorydd Peter S Rogers y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Redmond fod yr etholaeth wedi cysylltu ag ef yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Etholedig gyda sylwadau yn gofyn pam mae angen polisi o'r fath ar gyfer amgylchedd gwaith y Cyngor. Mae'r cyhoeddiad a wnaed ynghylch symud i'r polisi hwn wedi codi nifer o gwestiynau a phryderon yng nghymunedau Ynys Môn a dyna pam mae angen i bolisïau'r Cyngor fod yn agored a chael eu trafod yn gyhoeddus. Pwysleisiodd nad yw ei rybudd o gynigiad yn ymosodiad ar y Gymraeg a dywedodd ein bod yn byw mewn cymdeithas amrywiol gyda dwy brif iaith ac ‘roedd yn amheus ganddo a fyddai hynny byth yn newid os yw Ynys Môn am ffynnu. Pam fod rhaid newid polisi dwyieithog sydd wedi llwyddo i gynyddu'r niferoedd sy'n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dewis defnyddio'r Gymraeg am bolisi lle mae’n rhaid i weithwyr fod yn rhugl yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar i wneud eu gwaith? Gall staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl gyflawni eu dyletswyddau yn y Gymraeg, sydd yn iawn felly, gan mai eu dewis hwy yw hynny ac ni ddylai neb eu hamddifadu o’r fath ryddid i ddewis. Roedd yn siŵr fod gan staff y parch mwyaf i'r rheiny y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol a’u dewis nhw yw defnyddio'r iaith honno yn ôl eu rhyddid i ddewis. Dywedodd y Cynghorydd Redmond ymhellach y bydd y newid mewn polisi yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth staff. Dywedodd fod problem eisoes o ran recriwtio i swyddi y mae angen cymwysterau uchel iawn ar eu cyfer; gallai hyn gymhlethu'r broses recriwtio. Gofynnodd i'r Cyngor wrthod polisi'r Gymraeg fel iaith gyntaf yng ngweinyddiaeth y Cyngor.
Amlinellodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg y polisi iaith Gymraeg a fabwysiadwyd gan y Cyngor llawn ym mis Mai 2016 ac yna'r Safonau Iaith Gymraeg. Dywedodd fod y Cyngor, wrth fabwysiadu'r Polisi Iaith Gymraeg, wedi penderfynu hefyd i fabwysiadu'r gwelliant a ganlyn ym mharagraff 3.2.4 y polisi sy'n datgan '... mai nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith y Cyngor ar lafar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddeiseb ac arni dros 800 o lofnodion i Gadeirydd y Cyngor gan drigolion ardal Talwrn sy’n gwerthwynebu cau eu hysgol leol fel rhan o’r cynllun moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni.
Derbyniodd y Cadeirydd y ddeiseb a dywedodd y byddai’n ei hanon i sylw’r Pwyllgor perthnasol i’w thrafod. |
|
Penodi Aelod Lleyg o'r Pwyllgor Safonau PDF 22 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd Panel Dethol y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gadeirydd Panel Dewis y Pwyllgor Safonau mewn perthynas â phenodi Aelod Annibynnol cyfetholedig i'r Pwyllgor Safonau.
Anerchwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd R Meirion Jones sy’n Aelod o Banel Dewis y Pwyllgor Safonau a dywedodd fod gan y Pwyllgor Safonau sedd wag achlysurol ar hyn o bryd ar gyfer Aelod Annibynnol. Nododd y cynhaliwyd proses recriwtio yn ddiweddar fel y nodwyd yn yr adroddiad. Yng nghyfarfod y Panel Dewis a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017 cytunodd y Panel i enwebu Mr John Robert Jones i rôl aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau, yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol sydd bellach wedi dod i law ac wedi cael eu hasesu gan Gadeirydd Panel Dewis y Pwyllgor Safonau.
Dywedodd y Cynghorydd A M Jones y byddai'n ymatal rhag pleidleisio ar y mater hwn gan nad oes aelod o Grŵp yr Wrthblaid ar y Pwyllgor Safonau. Dywedodd y bu cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor Safonau o blith y Grwp sy’n Rheoli a’r Gwrthbleidiau yng nghyfnod gweinyddiaeth flaenorol y Cyngor hwn.
Ymataliodd y Cynghorwyr Aled M Jones, Eric W Jones, Bryan Owen, Peter S Rogers a Shaun Redmond rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD: -
· Penodi Mr John Robert Jones yn aelod annibynnol cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau, i ddod i rym yn syth; · Petai sedd wag achlysurol arall am aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn codi yn ystod y deuddeng mis nesaf, penodi’n awtomatig Ms Sarah Laing Gibbens i’r rôl heb orfod mynd trwy broses recriwtio arall, ar yr amod bob tro bod yr ymgeisydd hon yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y rôl, ac yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol cyn ei phenodi.
|
|
Penodi dau Gynghorydd Cymuned i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau PDF 22 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas ag enwebu Cynrychiolwyr Cynghorau Cymuned i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.
Anerchodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas y cyfarfod a nododd bod y Pwyllgor Safonau'n cynnwys dau Gynghorydd Cymuned, sy'n cymryd rhan ym musnes cyffredinol y Pwyllgor ac sydd ond yn delio ag atgyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a cheisiadau am ganiatâd arbennig pan fo'r materion hynny'n ymwneud â Chynghorwyr Cymuned. Mae gofyn i’r Aelodau Cyngor Cymuned gael eu henwebu ar y cyd gan yr holl Gynghorau Cymuned ar ôl pob etholiad llywodraeth leol.
Dywedodd y Cynghorydd A M Jones y byddai'n ymatal rhag pleidleisio ar y mater hwn gan nad oes aelod o Grŵp yr Wrthblaid ar y Pwyllgor Safonau ac am ei fod o'r farn fod y Grŵp wedi cael ei ddifreinio o'r broses.
Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts i'r Swyddog Monitro egluro'r broses ddethol i'r Pwyllgor.
Eglurodd y Swyddog Monitro fod pob Cyngor Tref / Cymuned yn cael cyfle i gyflwyno enwebiadau am ddim mwy nag 1 Aelod o'u cyngor ar y Pwyllgor Safonau. Cafwyd saith enwebiad a rhoddwyd pleidlais drwy'r post i'r holl Gynghorau Tref / Cymuned yn gofyn i bob un ohonynt ddewis dim mwy na dau ymgeisydd. Yn dilyn y broses, a gafodd ei gwirio gan Gadeirydd y Cyngor a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, rhoddodd y Swyddog Monitro wybod i bob un o'r Cynghorau Tref / Cymuned am ganlyniad y bleidlais a chadarnhaodd pwy oedd y ddau ymgeisydd llwyddiannus.
Ymataliodd y Cynghorwyr Aled M Jones, Eric W Jones, Bryan Owen, Peter S Rogers a Shaun Redmond rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD cadarnhau enwebiadau ar y cyd y Cynghorau Cymuned trwy benodi'r Cynghorwyr Cymuned canlynol fel aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau i ddod i rym ar unwaith: -
Y Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran a
Y Cynghorydd Keith Roberts o Gyngor Cymuned Trearddur
hyd at yr etholiadau llywodraeth leol nesaf, neu hyd nes na fydd y rheini a benodir yn aelodau o'r Cyngor Cymuned mwyach, p’ un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
|
|
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Cyngor 2018/19 PDF 310 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gofyn i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19.
PENDERFYNWYD: -
· Na ddylai’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol gael ei adolygu na’i newid am gynllun arall, heblaw bod y Cyngor llawn yn defnyddio ei ddisgresiwn o dan adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 bod ei Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am 2018/19 ymlaen yn diystyru taliadau a wneir o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (CCGHC). · Ei fod yn mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol (efo’r newid sy’n cael ei argymell uchod) yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19. · Ei fod yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / (Swyddog Adran 151) i wneud trefniadau gweinyddol fel bod pob newid blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu adolygiad technegol mewn unrhyw reoliad/reoliadau sy’n diwygio yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Cyngor ac am bob blwyddyn ddilynol a hefyd i gymryd ystyriaeth o’r newidiadau angenrheidiol i reoliadau gostyngiadau’r dreth gyngor wrth ddefnyddio’r ddiystyriaeth ychwanegol o daliadau a wneir o dan CCGHC
|
|
Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Gwella Gwasanaethau a Chymunedau) a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 27 Tachwedd, 2017.
Rhoddodd yr Aelod Portffolio (Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd) adroddiad cefndir ar y trefniadau dirprwyo sydd raid wrthynt i’r Cyngor fedru cymryd rhan yn yr archwiliad o’r Prosiect Wylfa Newydd a Phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru, sef rhai y bydd gofyn cael Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar eu cyfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol ar argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio.
Codwyd y cwestiynau canlynol gan yr Aelodau: -
· Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts a oedd yna enghreifftiau o ofynion statudol ac anstatudol y prosiectau hyn. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd trwy ddweud bod Swyddogion wedi cydweithio'n agos ag unigolion sy'n ymwneud â'r prosesau cydsynio ar gyfer datblygiad Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf i fanteisio ar eu profiadau a'u gwybodaeth. Nododd, unwaith y bydd y broses Archwilio yn cychwyn, bydd materion yn symud yn gyflym a dim ond mater o ddyddiau fydd gan Swyddogion i ymateb i faterion a godwyd yn yr Ymchwiliad. Dywedodd ymhellach y gallai swyddogion (ar ran y Cyngor Sir) hefyd ddymuno ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd gan sefydliadau eraill. Nododd hefyd y bydd Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a chytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cael eu trafod gyda'r Cyngor llawn wedi hynny.
· Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones y byddai wedi disgwyl enghreifftiau mwy penodol yn yr adroddiad o ran y dogfennau a fydd yn cael sylw yn y broses GCD. Er yn derbyn y bydd angen rhoi sylw ac ymateb ar fyrder i faterion yn yr Ymchwiliad, gofynnodd a gafodd Swyddogion neu Aelodau Etholedig awdurdod dirprwyedig i ddelio â dogfennau yn ystod datblygiad Hinkley Point C. Ymatebodd yr Aelod Portffolio (Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd) fod angen sefydlu cynllun dirprwyo o'r fath yn y Cyngor hwn sy'n debyg i’r profiadau gyda datblygiad Hinkley Point C. Nododd fod y Cyngor hwn yn ffodus fod y Staff o fewn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn brofiadol ond yr Aelodau Etholedig fydd yn parhau i fod â’r pwerau i wneud penderfyniadau. Rhoddodd y Cynghorydd Aled M Jones esiampl o’r opsiynau y gall y Grid Cenedlaethol eu cynnig e.e. tanddaearu’r llinell bŵer mewn un ardal ac nid mewn ardal arall; felly a fyddai'r awdurdod i wneud penderfyniad o'r fath yn fater i’r Swyddog. Roedd y Cynghorydd Jones o'r farn fod hyn yn annheg ac yn annerbyniol a dylai fod yn benderfyniad gwleidyddol.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Adran 101, Paragraff 1 (a)(b) sy'n ymwneud â dirprwyo awdurdod i Swyddogion mewn perthynas â'r mater hwn '... ... gall awdurdod lleol drefnu cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau gan Swyddog o'r Awdurdod Lleol neu gan Bwyllgor neu Is-bwyllgor’. Dywedodd na ellir rhoi pŵer dirprwyedig i un Aelod Etholedig er y gellid ei roi i Bwyllgor neu Is-bwyllgor ond ni fyddai hynny’n goresgyn y mater brys / amseru ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Adolygiad o Etholaethau Seneddol 2018 PDF 360 KB Y Prif Weithredwr i adrodd ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag adolygiad o’r etholaethau seneddol a chynigion diwygiedig 2018.
Gan na fydd y Comisiwn Ffiniau yn derbyn sylwadau ar ôl 11 Rhagfyr, 2017 ac yn wyneb y ffaith fod y Cyngor Sir yn cyfarfod ar 12 Rhagfyr, roedd ymateb wedi ei baratoi mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau yn ail-gadarnhau gwrthwynebiad y Cyngor hwn i'r cynnig diwygiedig. Dosbarthwyd copi o'r ohebiaeth yn y cyfarfod a bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor .
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau gwrthwynebiad y Cyngor Sir i gynigion i newid etholaeth Seneddol Ynys Môn.
|