Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y Cadeirydd y bu farw Mr Irfon Williams o Fangor ar ddydd Mawrth yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn cancr. Mr Williams oedd Rheolwr y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydymdeimlwyd â theulu a ffrindiau Mr Williams.
Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch a chydymdeimlad.
Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau i gadw’r Rheolau Trafodaeth mewn cof pan fyddant yn annerch y Cyngor llawn. |
|
Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef / hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr aelodau canlynol fel y rheini yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau portffolio :-
Y Cynghorydd Richard A. Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a Datblygu Economaidd; Y Cynghorydd R. Meirion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant; Y Cynghorydd John Griffith gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid; Y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff; Y Cynghorydd Dafydd R. Thomas gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Busnes y Cyngor; Y Cynghorydd Llinos M. Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol; Y Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Prosiectau Mawr a'r Iaith Gymraeg.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Mehefin, 2017 mewn perthynas â newid Cyfansoddiad y Cyngor i gynyddu nifer y swyddi ar y Pwyllgor Gwaith sy’n gymwys i gael uwch gyflog. Nodwyd y bydd angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn yn ei gyfarfod arbennig ar 6 Gorffenna, 2017 ar gyfer yr argymhelliad o’r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 12 Mehefin, 2017. |
|
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o Gyfansoddiad y
Cyngor, penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd am y flwyddyn ddinesig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2017/18. |
|
Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau’r cyfryw ran o’r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i’r Cyngor ydyw i’w chytuno fel y nodir yn Rhan 3.2 y Cyfansoddiad. |
|
Rhaglen cyfarfodydd Cyffredin y Cyngor Sir Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-
• 26 Medi 2017 - 2.00pm • 12 Rhagfyr 2017 - 2.00pm • 28 Chwefror 2018 - 2.00pm • 15 Mai 2018 (Cyfarfod Blynyddol) - 2.00pm
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhagen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-
· 6 Gorffennaf, 2017 am 2.00 p.m. (Cyfarfod Arbennig) · 26 Medi, 2017 at 2.00 p.m. · 12 Rhagfyr, 2017 at 2.00 p.m. · 28 Chwefror, 2018 at 2.00 p.m. · 15 Mai, 2018 at 2.00 p.m. |
|
Cydbwysedd Gwleidyddol a Phenodi Cynghorwyr i Bwyllgorau PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol diweddar ar 4 Mai 2017, ac ar benodi Cynghorwyr i Bwyllgorau.
[Noder: Mae cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i grwpiau gwleidyddol ac nid i Aelodau Digyswllt. Yn y cyfarfod heddiw (gohiriedig), bydd y Cyngor yn neilltuo Aelodau a enwir i wasanaethu ar Bwyllgorau yn unol â phenderfyniadau Arweinwyr eu Grwpiau a bydd yn penodi unrhyw Aelodau Digyswllt i seddau Pwyllgor na ellir eu llenwi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol].
Yn syth ar ôl yr uchod, bydd pob Pwyllgor y cyfeirir ato isod yn cyfarfod am gyfnod byr i benodi ei Gadeirydd a’i Is-Gadeirydd ei hun (ac eithrio’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fydd wedi cael sylw dan eitem 4 uchod): -
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol • Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio • Pwyllgor Archwilio • Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion • Pwyllgor Trwyddedu • Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd)
[Noder: anfonwyd hysbysiadau ar wahân at holl Aelodau ac aelodau cyfetholedig perthnasol ar gyfer y cyfarfodydd uchod].
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynglyn â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
PENDERFYNWYD :-
· nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol priodol newydd a nifer y seddau y gellir eu priodoli i bob un o’r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddau a roddir trwy ddefod ac arfer i’r Aelod(au) nad yw’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt;
Cadarnhau enwau'r Aelodau a fydd yn eistedd ar y pwyllgorau isod er mwyn paratoi ar gyfer y cyfarfodydd i ethol Cadeiryddion ac Is- Gadeiryddion:-
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol; Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio; Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant; Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion; Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd yn unig).
· Mewn perthynas â’r pwyllgorau eraill a nodir yn yr atodiad i'r adroddiad hwn, bod Arweinyddion y Grwpiau yn darparu manylion am aelodaeth i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag y bo modd;
· Penodi’r Cynghorwyr T Ll Hughes MBE a Dafydd R Thomas i wasanaethuar y Pwyllgor Safonau am gyfnod y Cyngor. |
|
Penodi i Gyrff Allanol PDF 197 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau'r rhestr o benodiadau a wneir i gyrff allanol.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau penodi cynrychiolwyr i wasanaethau ar y cyrff allanol a restrir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. · Os bydd angen gwneud newidiadau yn y dyfodol i gynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff allanol, bod awdurdod yn cael ei roi i'r Prif Weithredwrwneud hynny mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion y Grwpiau. · Mewn perthynas â chynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff llywodraethu ysgolion, bod awdurdod yn cael ei roi i'r Pennaeth Dysgu wneud penodiadau o’r fath mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion y Grwpiau. · Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y trefniadau adrodd ac yn gwneud argymhellion i'r Cyngor. |