Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 6ed Gorffennaf, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.     

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol: -

·           Llongyfarchwyd Mr. Albert Owen ar gael ei ailethol yn Aelod Seneddol ar gyfer  Ynys Môn. 

·           Llongyfarchwyd pawb a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.

·           Llongyfarchwyd Mrs. Audrey Jones o Langefni ar dderbyn yr MBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd Ei Mawrhydi’r Frenhines.  Derbyniodd Mrs Jones yr anrhydedd am ei gwasanaeth i Sefydliad y Merched a'r gymuned.

·           Llongyfarchwyd y rheini a fu'n cystadlu yn Gemau’r Ynysoedd yn Gotland yr wythnos ddiwethaf.  Enillodd Tîm Ynys Môn 1 fedal aur, 4 medal arian a 4 medal efydd.

·           Llongyfarchwyd y cyn-aelod etholedig, Mr Philip Fowlie ar gael ei benodi'n Gyfarwyddwr yr Adran Moch a Geifr yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â theulu cyn-Reolwr-Gyfarwyddwr Cyngor Sir Ynys Môn, sef Mr Derrick Jones.  Mr Jones oedd Rheolwr-Gyfarwyddwr y Cyngor o 2006-2009.  Bu hefyd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Ceredigion.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod Etholedig neu aelod o staff y Cyngor oedd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

 

2.

Newid i'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro fel y’i gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Mehefin 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio (Corfforaethol) adroddiad y Pennaeth Adnoddau (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar newid i ran 2.7.2 o Gyfansoddiad y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Corfforaethol) fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2017, ar ôl iddo ystyried yr uchod, wedi penderfynu argymell i'r Cyngor llawn ei fod yn awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud a chyhoeddi'r newidiadau canlynol i Gyfansoddiad y Cyngor : -

 

·        Diwygio adran 2.7.2 y Cyfansoddiad i ddarllen fel a ganlyn: -

 

“Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys yr Arweinydd ynghyd ag o leiaf 2, ond dim mwy na 9 Cynghorydd arall, gan gynnwys Dirprwy Arweinydd; a bydd y cyfan yn cael eu penodi i’r Pwyllgor Gwaith gan yr Arweinydd”

 

·           Cytuno bod nifer y swyddi ar y Pwyllgor Gwaith sy’n gymwys i dderbyn uwch gyflog yn codi ar unwaith o 7 i 8.

·           Cytuno mewn egwyddor y dylai’r Cyngor gyflwyno cais i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) am ganiatâd i godi nifer Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gymwys i dderbyn uwch gyflog, o’r cap presennol o 15, hyd at uchafswm o 16.

·           Ar yr amod y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais terfynol ac ar yr amod y ceir caniatâd gan PACGA, rhoi awdurdod i benodi Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith (gan wneud cyfanswm o 9) a fydd yn gymwys i dderbyn uwch gyflog.

·           Cydnabod y bydd penodi dau Aelod pellach o’r Pwyllgor Gwaith yn gost niwtral ar y sail y byddant yn cael eu cyllido o arbedion o gyflogau’r Dirprwy Arweinydd ac un Cadeirydd a fydd, ill dau, yn parhau i wrthod yr uwch gyflogau sy’n daladwy ar gyfer eu swyddi.

 

‘Roedd Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid yn anfodlon ac yn bryderus am y bwriad i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith o 7 i 9 Aelod. Dywedodd ei fod dan yr argraff bod y  Pwyllgor Gwaith blaenorol o 7 Aelod wedi gweithio'n dda.  ‘Roedd ganddo bryder hefyd ynghylch bwriad y grŵp rheoli i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith ar adeg pan fydd y Cyngor yn chwilio am arbedion gan bob gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cynnydd yn y pwysau a’r heriau o fewn portffolios rhai o'r Aelodau Portffolio. Cyfeiriodd at y pwysau yn y Gwasanaethau Plant o fewn y Cyngor a'r prosiect Wylfa Newydd.

 

‘Roedd Aelodau Grŵp yr Wrthblaid o’r farn y dylid gohirio’r mater a’i gyfeirio i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaeth a sgriwtini

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad gofynnodd nifer ddigonol o aelodau am bleidlais gofnodedig ar yr argymhellion fel y nodwyd uchod.

 

Roedd y bleidlais gofnodedig fel a ganlyn: -

 

Bod yr eitem yn cael ei chyfeirio i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaeth: -

 

Y Cynghorwyr Glyn Haynes, K P Hughes, Aled M. Jones, Eric Jones, R.Ll. Jones, Bryan Owen, J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, Shaun Redmond. Cyfanswm 9

 

Yn erbyn y cynnig: -

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Richard A. Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T. Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i drafod yr eitem a ganlyn yn gyhoeddus.

4.

Ymateb y Cyngor Sir i'r Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gan Horizon - Cam 3 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys ymateb yr Awdurdod i drydydd cam yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gan Pŵer Niwclear Horizon (PAC 3) ynghylch y Prosiect Wylfa Newydd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Datblygiadau Mawr a'r Iaith Gymraeg) bod raid cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (GCD) mewn perthynas â’r Orsaf Niwclear arfaethedig newydd yn Wylfa Newydd ar gyfer y prif orsaf bŵer a datblygiadau annatod oddi ar y safle. Mae Pŵer Niwclear Horizon yn rhagweld cyflwyno'r cais GCD i'r Arolygiaeth Gynllunio ym mis Awst 2017.   Er bod y Cyngor yn gefnogol mewn egwyddor i'r datblygiad yn Wylfa Newydd, dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach bod raid cael sicrwydd ar agweddau allweddol er mwyn sicrhau ei fod yn dod â manteision cymunedol sylweddol i'r Ynys.  

 

Dywedodd bod y Cyngor Sir o’r farn nad yw PAC 3 yn dilyn ymlaen o PAC 2 oherwydd y newidiadau sylfaenol yn y prosiect. Nid yw PAC 3 ond yn ymgynghori ar y newidiadau a wnaed yn sgil optimeiddio i leihau costau cyfalaf, dyluniad ar gyfer gorsaf bŵer sy’n fwy cryno, optimeiddio gwaith adeiladu ac optimeiddio llety gweithwyr adeiladu. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn gweld y prosiect a'r effeithiau cysylltiedig ar eu dwysaf yn ystod y cyfnod adeiladu yng Ngogledd Ynys Môn.  Amlygodd yr Aelod Portffolio y meysydd allweddol canlynol mewn ymateb i PAC 3: -

 

·           Diffyg manylder yn y dogfennau ymgynghori PAC 3;

·           Pryder bod nifer y gweithwyr lleol wedi gostwng i 2,000;

·           Dim eglurder ynghylch sut y sicrheir y cyfleon mwyaf posib i fusnesau lleol;

·           Nid oes asesiad o effaith cael cyfleuster llety gweithwyr dros dro ar gyfer  4,000 o weithwyr ar y safle;

·           Nid oes gwybodaeth am sut y bydd gweithwyr adeiladu yn cael eu rheoli;

·           Diffyg manylion am rannu ceir a pharcio ar y safle.  Mae angen mwy o gyfleusterau 'parcio a theithio';

·           Angen gwneud mwy o waith i sicrhau nad yw gweithwyr adeiladu yn effeithio’n andwyol ar y cymunedau lleol, y diwylliant a'r iaith Gymraeg.

 

Mynegwyd pryderon mewn perthynas â rhywfaint o’r geiriad yn ymateb y Prif Weithredwr i PAC 3 a nodwyd bod angen i'r awdurdod weithio gyda Pŵer Niwclear Horizon a Llywodraeth Cymru i roi cyfleoedd i bobl ifanc yr Ynys.  Ymatebodd yr Aelod Portffolio drwy ddweud y byddai'r ymateb drafft yn cael ei ddiwygio cyn y byddai’n cael ei gyflwyno.

 

Ailadroddodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor yn gefnogol i'r prosiect Wylfa Newydd ond nododd y bydd y prosiect yn rhoi pwysau ac yn cael effaith ar ardal ogleddol Ynys Môn a'i chymunedau. Mae'n hanfodol ein bod yn cael mwy o fanylion am agweddau allweddol ar y prosiect cyn i Horizon gyflwyno Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn ddiweddarach eleni. 

 

Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD: -

 

·           Cymeradwyo'r ymateb i Drydydd Cam yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC 3);

·           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr wneud unrhyw fân-newidiadau, amrywiadau neu gywiriadau a nodir ac sy’n rhesymol angenrheidiol cyn cyhoeddi ymateb ffurfiol i PAC 3.