Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno, i’w  cymeradwyo, gofnodion drafft cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  25 Medi 2018

  22 Hydref 2018 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd canlynol Cyngor Sir Ynys Môn fel rhai cywir :-

 

·      25 Medi, 2018

·      22 Hydref, 2018 (Arbennig)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·      Llongyfarchiadau i bawb fu’n llwyddiannus yn y Ffair Aeaf  ym Mona  mis diwethaf a hefyd yn Llanelwedd.

·      Llongyfarchiadau hefyd i’r Ffermwyr Ifanc o Fôn fu’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn y Barri yn ddiweddar.

·      Diolchodd i staff a defnyddwyr Blaen y Coed a Gerddi Haulfre am addurno coeden Nadolig y Cyngor Sir sydd yng Nghyswllt Môn.

·      Llongyfarchiadau hefyd i Ifan Wyn Erfyl Jones o Ysgol David Hughes sydd wedi’i ethol i gynrychioli Ynys Môn yn Senedd Ieuenctid Cymru.

 

Llongyfarchodd Caroline Turner sydd wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr Cyngor Powys gan ddymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd ymhellach at:-

 

·      Ar dydd Iau,  22 Tachwedd  agorodd Rheolwr Tîm Pêl Droed Cenedlaethol Cymru, Ryan Giggs, a’i gynorthwyydd, Osian Roberts, gae 3G maint llawn cyntaf Ynys Môn ym Mhlas Arthur, Llangefni.  Mae’r cae 3G newydd gwerth £200,000 yn fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Sir yng ngwasanaethau hamdden yr Ynys.   Bu longyfarch Tîm Môn Actif y Cyngor am eu gwaith arbennig.

 

·      Llongyfarchiadau i Dim Pêl Droed Tref Llangefni ar eu llwyddiant yn y ‘JD Welsh Cup’ yn ddiweddar pan wnaethant ennill yn erbyn Tîm Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Uchaf Cymru. Byddant yn chwarae yn erbyn tîm pêl-droed Llandudno yn y rownd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, fel Pencampwr Pobl Hŷn y Cyngor, at gyfleuster Gofal Ychwanegol Hafan Cefni sydd newydd agor yn Llangefni. Nododd fod y cyfleuster pwrpasol hwn yn cynnig cyfuniad unigryw o ffordd annibynnol o fyw a gofal 24 awr ar y safle er mwyn cefnogi a gofalu am y trigolion. Diolchodd i holl staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith caled.    

 

*           *           *           *           *           *

 

Cydymdeimlwyd â theulu Sioned Emrys, Rheolwr Busnes Oriel Ynys Môn a fu farw yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â theulu y diweddar cyn gynghorydd Raymond Jones a fu farw yn ddiweddar.

 

Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth cyn Uwch Swyddog y Cyngor Mr Huw Griffiths.  Roedd Huw yn Bennaeth Adran Economaidd y Cyngor.

 

Cydymdeimlwyd â theulu y Parchedig Euros Jones a a fu farw yn sydyn ddiwedd Tachwedd.  Roedd Euros yn Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol y Cyngor ac yn Ddarlithydd, Awdur, Pregethwr a Golygydd. Fe wasanaethodd mewn sawl gwasanaeth Sul y Cadeirydd dros y blynyddoedd. Bydd colled drist ar ei ôl i’w deulu, cyfeillion a chydnabod.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion i sefyll fel arwydd o barch.

 

 

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i’r Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiadau Economaidd:-  

 

“Cafodd dinistriad Marina Caergybi effaith sylweddol ar y dref. Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd er mwyn cwblhau’r gwaith clirio gan fod nifer fawr o bontynau gyda rhannau tew o arnofion polystyrene yn parhau ger traethlin Traeth Newry. Ai Stena Line ta Conygar sy’n gyfrifol am y gwaith hwn?” 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i’r Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd:-

 

Cafodd dinistriad Marina Caergybi effaith sylweddol ar y dref. Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd er mwyn cwblhau’r gwaith clirio gan fod nifer fawr o bontynau gyda rhannau tew o arnofion Polystyren yn parhau ger traethlin Traeth Newry. Ai Stena Line ta Conygar sy’n gyfrifol am y gwaith hwn?” 

 

Ymatebodd y Cynghorydd Carwyn Jones gan ddweud er nad yw Marina Caergybi yn gyfrifoldeb i’r Awdurdod hwn, cynorthwyodd staff y Cyngor â’r gwaith o glirio’r Marina. Nododd y deallir bod y Marina ym mherchnogaeth y Marina ei hun ond bod y Cyngor wedi rhoi cymorth ac arweiniad mewn perthynas â’r grant Llywodraeth Cymru er mwyn helpu’r busnesau lleol a effeithiwyd. Gan fod y Marina yn fusnes preifat maent wedi gofyn am amser digonol, hyd at Ebrill 2018, i benderfynu a ddylent achub, ail adeiladu neu ailgylchu’r pontŵn polystyren sydd ar y safle.  

 

5.

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

I gyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Bryan Owen a Peter Rogers:-

 

“Mae angen i ni drafod difrifoldeb galw materion i mewn, ac nad yw pobl yn cael eu cyfeirio atynt yn y Wasg fel rhai sy’n ‘dangos eu hunain’ pan fyddant yn galw mater i mewn”.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorwyr Bryan Owen a Peter Rogers :-

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Rogers y Rhybudd o Gynnig canlynol:-

 

“Mae angen i ni drafod difrifoldeb galw materion i mewn, ac nad yw pobl yn cael eu cyfeirio atynt yn y Wasg fel rhai sy’n ‘dangos eu hunain’ pan fyddant yn galw mater i mewn”.  

 

Eiliwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod ganddo bryderon bod aelod o’r Pwyllgor Gwaith wedi gwneud sylwadau mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fis diwethaf mewn perthynas â rhai Aelodau yn defnyddio’r Pwyllgorau Sgriwtini, megis yr achos diweddar a alwyd i mewn, ar gyfer dangos eu hunain a gwneud safiadau gwleidyddol’. Cyfeiriodd at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â Throsolwg o Sgriwtini Cyngor Sir Ynys Môn sy’n tynnu sylw at y ffaith bod Pwyllgorau Sgriwtini yn cael eu rhedeg yn dda ac roeddent wedi gweld enghreifftiau o’r herio cadarn a’r trafodaethau gwybodus. Nododd y Cynghorydd Rogers ymhellach bod adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd yn nodi bod cyfraniad y cyhoedd i sgriwtini yn gyffredinol yn fwy cyfyngedig a bod presenoldeb y cyhoedd mewn Pwyllgorau Sgriwtini yn brin ac yn gyfyngedig i faterion cynhennus. Dywedodd y byddai gwe-ddarlledu’r cyfarfodydd hyn yn fanteisiol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwaith a gyflawnwyd o fewn y cyfarfodydd.      

 

Mynegodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod yn teimlo nad oedd y sylwadau a wnaed gan yr Aelod o’r Pwyllgor Gwaith yn rhai doeth iawn. Nododd fod y materion a gafodd eu ‘galw i mewn’ yn rhai mewn perthynas â chau ysgolion mewn ardaloedd penodol a’u bod yn faterion a oedd yn achosi pryder sylweddol i rieni a chymunedau lleol gyda phlant ifanc yn gorfod teithio i ysgol newydd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Aled M Jones, fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a ddeliodd â’r achos a gafodd ei ‘alw i mewn’ mewn perthynas â chau ysgolion, bod angen i lais y gymuned gael ei glywed. Roedd cynrychiolwyr o’r ysgolion a’r gymuned yn cael siarad yn y cyfarfodydd ‘galw i mewn’ hyn er mwyn mynegi eu pryderon o ran yr effaith ar ddisgyblion a’r gymuned pan fydd ysgol yn cau.  

 

Nododd Arweinydd y Cyngor nad oedd yr Aelod o’r Pwyllgor Gwaith wedi cyfeirio yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2018 at y cyfarfodydd ‘galw i mewn’ yn y ffordd a awgrymwyd gan yr Aelod. Awgrymodd y dylai’r mater fod wedi’i ddelio ag ef drwy’r strwythurau eraill a oedd ar gael h.y. Cyfarfodydd misol yr Arweinwyr.

 

 

6.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymatebodd y Cadeirydd fod y deisebau canlynol wedi eu derbyn:-

 

·      Deiseb gan grŵp ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion – deiseb wedi ei hanfon ymlaen at yr Adran Addysg.

·      Deiseb yn cynnwys 15 llofnod yn erbyn y cod mewn perthynas ag Ysgolion yr 21ain Ganrif – deiseb wedi eu hanfon at yr Adran Briffyrdd a’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn hynny; 

·      Deiseb yn cynnwys 350 o enwau gan drigolion Ward Aethwy yn gwrthwynebu i’r newidiadau arfaethedig i’r llwybr bysiau fel rhan o ymgynghoriad yr Awdurdod ar y gwasanaeth bysiau fel rhan o’r ymgynghoriad ar y gyllideb. Y cynnig yw i dynnu’r bysiau rhif 43 a 47 o’r amserlen fysiau – deiseb wedi ei hanfon ymlaen i’r Adran Briffyrdd ac yna i’r Pwyllgor Gwaith.

 

7.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2019/20 pdf eicon PDF 746 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 mewn perthynas â’r gofyniad i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 ar gyfer ystyriaeth y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Na ddylai’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol gael ei adolygu na’i newid am gynllun arall.
  • mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.
  • rhoi awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i wneud trefniadau gweinyddol fel bod pob newid blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu adolygiad technegol mewn unrhyw reoliad/reoliadau sy’n diwygio yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Cyngor ynghyd ag unrhyw newidiadau trefniadol angenrheidiol i’r cynllun a fydd eu hangen yn dilyn cyflwyno’r Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yn ardal yr Awdurdod o 4 Rhagfyr 2018.

 

 

8.

Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu – Cylch Gorchwyl Diwygiedig pdf eicon PDF 824 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Hydref, 2018. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor, sef cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fel y’i amlinellir yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

 

9.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad – Diwygio'r Côd Ymddygiad i Swyddogion / Arweiniad Lleol ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Hydref, 2018. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • mabwysiadu’r Côd Ymddygiad i Swyddogion yn Atodiad 2;
  • mabwysiadu’r Canllawiau Lleol ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion yn Atodiad 3;
  • awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad, yn cynnwys unrhyw newidiadau dilynol, er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod Atodiadau 2 a 3 wedi cael eu mabwysiadu.

 

10.

Polisi Gamblo pdf eicon PDF 970 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd, 2018.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Polisi Gamblo 2019-2022.  

 

11.

Gweddarlledu Pwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 405 KB

  Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2018 wedi PENDERFYNU argymell peidio â newid y trefniadau gweddarlledu presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd, y Cynghorydd R Ll Jones y byddai costau ychwanegol i weddarlledu yn ogystal â chostau staffio ychwanegol petai gweddarlledu cyfarfodydd eraill yn cael ei ystyried. 

 

Dywedodd y Cynghorydd AM Jones, fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, nad oedd yn ystyried y byddai gweddarlledu’r Pwyllgorau Sgriwtini yn golygu costau ychwanegol gan fod y cyfleusterau i wneud hynny eisoes yn bodoli o fewn Siambr y Cyngor. Dywedodd hefyd ei fod yn ystyried y byddai gweddarlledu Pwyllgorau Sgriwtini yn hyrwyddo Sgriwtini, rhywbeth sydd wedi’i nodi yn adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru o ran Trosolwg a gwaith Sgriwtini Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach a’r bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol ar gyfer gweddarlledu.  

 

(Bu’r Cynghorydd A M Jones atal ei bleidlais.)

 

12.

Cyfraniad y Cyhoedd i Gyfarfodydd pdf eicon PDF 362 KB

  Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2018 wedi PENDERFYNU argymell peidio newid Cyfansoddiad y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cynghorydd A M Jones, er nad yw cyfranogiad y cyhoedd yn digwydd mewn cyfarfodydd yng Nghymru, bod hynny’n digwydd mewn rhai awdurdodau lleol yn Lloegr. Roedd yn ystyried bod teitl yr adroddiad yn gamarweiniol; y rheswm dros godi’r mater oedd er mwyn galluogi aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno materion i Aelodau Etholedig eu trafod mewn cyfarfodydd ac nid i gymryd rhan mewn cyfarfodydd. 

 

PENDERFYNWYD na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

(Bu’r Cynghorydd A M Jones atal ei bleidlais).