Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Dogfen Ymgynghorol Papur Gwyrdd - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys safbwynt y cyngor ar ad-drefnu llywodraeth leol ac ymatebion i gwestiynau penodol i’r Cyngor ar gyfer ystyriaeth. 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Papur Gwyrdd yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Llywodraeth leol gryfach, sy’n fwy grymus yng Nghymru.’ Mae’r Papur Gwyrdd yn dadlau o blaid ad-drefnu - gwahanol safbwynt i Bapur Gwyn 2017 a oedd yn cadarnhau na fyddai’r syniad o ad-drefnu yn cael ei weithredu gyda’r ffocws yn hytrach ar fwy o gydweithio rhwng Awdurdodau. Nododd bod 3 opsiwn yn y Papur Gwyrdd fel a ganlyn:-

 

Opsiwn 1 – Uno gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol

Opsiwn 2 – Dull fesul cam erbyn 2026

Opsiwn 3 – Rhaglen uno gynhwysfawr a phenodol erbyn 2022

 

Nododd fod yr Arweinwyr Grŵp wedi sefydlu Panel Ad-drefnu Llywodraeth Leol er mwyn ystyried ymateb drafft y Cyngor sydd wedi’i atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am eu gwaith mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Dywedodd fod y Panel ac Arweinyddion Grwpiau wedi dod i’r casgliad na chefnogir y cynigion hyn a’u bod yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw ad-drefnu o’r awdurdod yn y dyfodol yn seiliedig ar y ffeithiau a gyflwynwyd.

 

Mae safbwynt y Cyngor wedi’i lunio ar yr egwyddorion a nodir yn nhudalen 1 o’r ymateb

drafft sef:

 

1) Yr angen i ddarparu trigolion Ynys Môn â gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.

Cydnabyddir y gallai hyn gynnwys cydweithio rhanbarthol ac isranbarthol er mwyn

sicrhau bod yr arbenigedd a gwytnwch angenrheidiol yn ei le a bod angen sefydlu

trefniant er mwyn sicrhau atebolrwydd uniongyrchol yn lleol ar gyfer ansawdd y

gwasanaethau. Yn y cyd-destun hwn, mae angen dealltwriaeth o’r math o wasanaethau

a fydd yn cael eu darparu’n rhanbarthol, yn isranbarthol ac yn lleol, wedi’i alinio’n fras â

chanfyddiadau Comisiwn Williams ond hefyd yn awgrymu bod angen i lywodraeth leol

wneud penderfyniadau ar strwythurau cydweithio.

 

2) Fe ddylai unrhyw drefniadau cydweithio fod yn seiliedig ar y buddion tebygol i drigolion

Ynys Môn neu ar y rhagdybiaeth y gellir darparu gwasanaethau o’r un safon yn rhatach.

 

3) Mae’r Cyngor o’r farn bod arweinyddiaeth yn seiliedig ar wybodaeth leol yn bwysicach

na maint. Mae’r Cyngor o’r farn y gellid bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru drwy

gyfuniad o gydweithio a darpariaeth leol, h.y. estyniad naturiol o’r sefyllfa bresennol. Yn

ychwanegol, at hynny, cydnabyddir bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw bosibilrwydd

o ddarparu gwasanaethau mewn modd mwy cost-effeithiol, e.e. lleihau costau rheoli neu

wasanaethau cefnogi.

 

Fe ddylai’r materion allweddol hyn fod yn ganolog i unrhyw benderfyniad ar ad-drefnu

llywodraeth leol, yn hytrach na llinellau ar fap.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai uno ag awdurdod cyfagos yn cael effaith andwyol ar drigolion yr Ynys o ran darpariaeth gwasanaethau; democratiaeth leol ac atebolrwydd ac y byddai hefyd yn effeithio ar yr economi leol a lefelau’r Dreth Gyngor. Dywedodd fod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Ngwynedd dros £100 yn uwch nac ym Môn, sy’n darparu’r un lefel o wasanaethau. Dywedodd yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.