Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ddiddordeb rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 3 – Dogfen Gyflawni Flynyddol 2018/19 (cae 3G) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

2.

Cyflwyno Deisebau

I nodi bod 1 deiseb wedi ei dderbyn.    

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod deiseb yn cynnwys 1,010 o lofnodion wedi ei chyflwyno yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Talwrn.  Nododd fod y ddeiseb wedi ei throsglwyddo i’r Adran Addysg.

3.

Dogfen Cyflawni Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi’r targedau y bydd y Cyngor yn eu cyflawni o safbwynt ei brif flaenoriaethau yn ystod y deuddeg mis nesaf, a’u bod yn gysylltiedig â dyheadau ac amcanion Cynllun y Cyngor Sir ar gyfer 2017-2022. Nododd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn dangos fod yr Awdurdod yn barod i fynd i’r afael â heriau wrth foderneiddio ei wasanaethau. Dywedodd fod pob un o’r amcanion yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn bwysig ond cyflwynodd enghreifftiau o’r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yn y

ddogfen :-

 

·      Mae angen mabwysiadu strategaeth moderneiddio ysgolion newydd sy’n amlygu pwysigrwydd datblygu amgylcheddau dysgu newydd er mwyn gwella’r ddarpariaeth a chodi safonau a chyflawniadau plant a phobl ifanc yr Ynys;

·      Mae’r Cyngor wedi lansio cynllun newydd eleni, ‘Denu Talent Môn’, fydd yn rhoi profiad gwaith gyda chyflog i 9 neu 10 o unigolion dros 16 oed gyda gwasanaethau’r Cyngor am gyfnod o 12 wythnos yn ystod yr Haf;

·      Cyfleoedd i drigolion yr Ynys gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles;

·      Mae angen i’r Cyngor weithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae hynny wedi digwydd yn barod gyda’r uned Gofal Dementia newydd yn Garreglwyd, Caergybi a model newydd ar gyfer darparu Gofal Cartref ar draws yr Ynys;

·      Mae bwriad i adeiladu tua 60 o dai cymdeithasol newydd ledled yr Ynys;

·      Mae dewis ehangach o leoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal dan ystyriaeth naill ai drwy gynnig mwy o wasanaethau, cynyddu nifer y lleoliadau gofal maeth sydd ar gael neu ddarparu gofal mewn ffordd wahanol;

·      Adeiladu ar lwyddiant y Cyngor Sir i sicrhau fod dros 70% o wastraff domestig yn cael ei ailgylchu.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cynnwys 38 o amcanion a bod hynny’n dangos fod yr Awdurdod yn barod i fynd i’r afael â heriau wrth iddo foderneiddio ei wasanaethau ar gyfer trigolion yr Ynys.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod y dogfen yn cynnwys prosiectau gwerth chweil y mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i fuddsoddi ynddynt a bod y Cyngor yn gwella ei wasanaethau mewn modd arloesol. Dywedodd fod yr Awdurdod hwn yn dymuno denu cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc yr Ynys ac i wella ansawdd bywyd pobl. Cyfeiriodd at y prosiectau newydd sydd wedi dod neu fydd yn dod i’r Ynys h.y. MSparc yng Ngaerwen, Wylfa Newydd, Prosiect Bluestone yng Nghaergybi,  Morlais yng Nghaergybi a Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi, ymweliadau gan Longau Mordaith, y posibilrwydd o godi trydedd bont dros y Fenai. Roedd yn gobeithio y byddai datblygiadau’n digwydd yn Octel yn Amlwch, Lairds ym Miwmares a hen safle Halal yng Ngaerwen yn y dyfodol.

 

Cododd yr Aelodau'r cwestiynau a ganlyn :-

 

·      Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M Jones at gyfanswm o 15 uned fusnes newydd sy’n cael eu hadeiladu yn Llangefni a Chaergybi. Gofynnodd pam nad oedd unedau’n cael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru : Cytundeb Llywodraethiant pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Prif Weithredwr ar y Weledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru – Cytundeb Llywodraethiant.

 

Adroddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru yn nodi uchelgais gyfunol a strategol i Ogledd Cymru o ran datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes. Mabwysiadwyd y strategaeth gan y pum Cyngor arall yng Ngogledd Cymru a chytunwyd ar fodel llywodraethiant a ffefrir h.y. cydbwyllgor rhanbarthol dan y teitl gwaith Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: erbyn hyn mae’r model wedi hen sefydlu ac ar y trywydd iawn i gyflwyno Bid i’r Llywodraeth er mwyn derbyn cymeradwyaeth gychwynnol yn ystod 2018. Lluniwyd Cytundeb Llywodraethiant ar gyfer cam cyntaf y Bid Bargen Twf (GA1) i’w fabwysiadu gan holl bartneriaid Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru wedi mabwysiadu’r Cytundeb Llywodraethiant ac y byddai’r pedwar coleg yn rhoi ystyriaeth iddo ym mis Medi. Nododd mai Cydbwyllgor Gweithredol yw’r model llywodraethiant a fabwysiadwyd ar gyfer y Bwrdd ac nad yw’n Gydbwyllgor o’r Cyngor. Bydd un cynrychiolydd o bob un o’r 10 partner. Arweinydd y Cyngor fydd cynrychiolydd Ynys Môn. Penodir Cadeirydd y Bwrdd yn flynyddol o blith cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol ond ni fydd ganddo ef neu hi bleidlais fwrw. Cyngor Gwynedd fydd yr awdurdod lletyol a bydd y Bwrdd yn mabwysiadu Rheolau Sefydlog a Rheolau Caffael ac ati'r Cyngor hwnnw. Cynhelir cyfarfodydd o’r Bwrdd yn fisol a bydd yn mabwysiadu’r Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth h.y. cyhoeddi Rhaglenni, penderfyniadau a chofnodion. Cworwm y corff fydd 4 o blith cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, fydd ag un bleidlais yr un, ond ni fydd gan yr aelodau eraill nad ydynt yn cynrychioli awdurdodau lleol hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, mae’r cytundeb yn datgan fod ganddynt yr hawl i siarad. Ychwanegodd fod gweithdrefn i ddelio â sefyllfa lle nad oes modd dod i gytundeb, ond ar ddiwedd y broses honno os na cheir cefnogaeth y mwyafrif ni fydd y penderfyniad yn cario. Mae gan y Bwrdd y capasiti i greu Is-fyrddau a allai fod â sail statudol neu sail ymgynghorol, yn dibynnu ar eu swyddogaethau, pwerau ac aelodaeth. Yn ystod cyfarfod cyntaf y Bwrdd sefydlir Is-fwrdd Trafnidiaeth ac Is-fwrdd Darpariaeth Ddigidol. Bydd y ddau’n cael eu sefydlu’n ffurfiol fel is-bwyllgorau, ar sail statudol, fel bod modd dirprwyo pwerau iddynt. Mae Côd Ymddygiad ynghlwm i’r Cytundeb a bydd yn berthnasol i’r aelodau nad ydynt yn awdurdodau lleol ond Côd Ymddygiad y Cyngor hwn fydd yn berthnasol i’n cynrychiolydd ni.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y bydd y Cytundeb yn dod i ben pan fydd yr ail gam, GA2, yn dechrau. Mae’r Bid Bargen Twf bellach wedi cael ei ddatblygu i lefel uchel gyda chynnwys y Bid ar fin cael ei flaenoriaethu yn unol ag (1) dewis ac uchelgais rhanbarthol (2) cyngor anffurfiol gan y Llywodraeth ar y rhaglenni a’r prosiectau a allai fod yn gymwys ar gyfer eu cymorth a (3) asesiadau achos busnes.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.