Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Bid Bargen Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref, 2018.  

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y weledigaeth Bid Twf yn amlinellu uchelgais

gyfunol a strategol ar gyfer Gogledd Cymru er mwyn datblygu isadeiledd, sgiliau a

chyflogaeth a thwf busnes. Nododd, er mwyn manteisio ar gyfleoedd o'r fath, bod ardal Gogledd Cymru wedi datblygu un weledigaeth ar gyfer twf economaidd a chyflogaeth gydag ymrwymiad rhwng yr holl bartneriaid i gydweithio i sicrhau amcan cyffredin. Mae uchelgais i'r rhanbarth ei gosod ei hun fel un o brif leoliadau'r DU ar gyfer cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu uwch - ynghyd â bod yn ganolbwynt o arloesedd ac arbenigedd technolegol, a chanolfan o ragoriaeth ar gyfer twristiaeth gwerth uchel. Mae'r uchelgais hon yn adeiladu ar gryfderau a chyfleoedd, a bydd ei chyflawni yn creu ymagwedd fwy cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu'r economi. Amlygodd yr Arweinydd y ffaith bod y Weledigaeth Twf yn seiliedig ar dri nod allweddol:-

 

·           Gogledd Cymru Flaengar - gan ganolbwyntio ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel i symud perfformiad economaidd ymlaen;

·           Gogledd Cymru Wydn - gan ganolbwyntio ar gadw pobl ifanc, codi lefelau cyflogaeth a gwella sgiliau er mwyn cyflawni twf cynhwysol;

·           Gogledd Cymru Gysylltiedig - gan ganolbwyntio ar wella isadeiledd trafnidiaeth a digidol er mwyn gwella cysylltedd strategol i'r rhanbarth ac oddi mewn iddi.

 

Mae'r Rhaglenni Strategol a'r prosiectau yn yrwyr allweddol i gyflawni’r weledigaeth a mynd i'r afael â'r heriau sydd wedi'u hadnabod a chreu'r amodau ar gyfer twf. Mae'r Rhaglenni Strategol wedi'u cyd-ddylunio a'u datblygu gan randdeiliaid allweddol, yn benodol y sector preifat. Mae prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu'r amodau i ddenu buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd ymgysylltiad cadarn gyda busnesau lleol er mwyn eu galluogi nhw i gael mynediad i gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i brosiectau a ariennir drwy’r Cynllun Twf, er mwyn cymryd mantais lawn o’r buddion rhanbarthol posib ac effaith y buddsoddiad.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor ymhellach at y Ddogfen Gynnig ynghlwm â’r adroddiad a nododd fel a ganlyn:-  

 

·      Rhan 1 - Cyflwyniad a chyd-destun

·      Rhan 2 - Yr achos dros fuddsoddi

·      Rhan 3 - Y cyd-destun strategol a’r modd y mae’n cyd-fynd â pholisi'r llywodraethau

·      Rhan 4 - Arfarnu'r opsiynau a'r ffordd ymlaen a ffefrir

·      Rhan 5 - Y weledigaeth twf

·      Rhan 6 - Y rhestr o brosiectau

·      Rhan 7 - Yr achos economaidd

·      Rhan 8 - Cyllid ac ariannu

·      Rhan 9 - Grymuso'r rhanbarth

·      Rhan 10 - Y strwythur llywodraethu a chyflawni

 

Gofynnwyd am gadarnhad gan y Cynghorydd Shaun Redmond am y potensial o gynnydd mewn traffig i Borthladd Caergybi petai’r prosiectau yn y Bid Twf yn cael eu gwireddu. Nododd bod potensial i’r traffig gynyddu o 400,000 i 750,000 y flwyddyn drwy’r Porthladd. Gofynnodd am gadarnhad hefyd a oedd y mater wedi’i gynnwys o fewn y Bid Twf gan mai din ond isadeiledd/trafnidiaeth Caergybi y mae’n gallu ei weld o fewn y ddogfen. Dywedodd y Cynghorydd Redmond bod yr isadeiledd priffyrdd tuag at y Porthladd eisoes yn faes  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn, AD a Thrawsnewi fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Hydref, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Hydref, 2018. 

 

Adroddodd Deilydd Portffolio Busnes y Cyngor ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 ynghyd â chynnydd y Cyngor yn erbyn Amcanion Llesiant yr Awdurdod. Amlinellodd y Deilydd Portffolio gyflawniadau’r Cyngor yn ystod 2017/18 fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd ymhellach at y Dangosyddion Perfformiad ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r Dangosyddion Cenedlaethol, y cyfeirir atynt fel Mesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM) sy’n cymharu pob awdurdod lleol yn erbyn yr un  dangosyddion. Yn 2017/18, mae 50% o ddangosyddion yr Awdurdod hwn wedi gwella, 36% wedi gostwng ac roedd 14% o’r dangosyddion yn newydd. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at agoriad y Parc Gwyddoniaeth gwerth £20 miliwn yn Gaerwen sy’n ddatblygiad newydd gan Brifysgol Bangor a tuag at y gwaith adeiladu gan Grŵp Llandrillo Menai ar Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd gwerth £14 miliwn yn Llangefni. Nododd ymhellach bod ymgysylltiad parhaus yn digwydd gyda datblygiadau ynni sylweddol gyda’r nod o greu swyddi a chynyddu ffyniant drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewid sy’n cynnwys Minesto a Morlais er mwyn datblygu potensial ynni morol Ynys Môn a Phŵer Niwclear Horizon. Nododd ymhellach bod 3 Ysgol 21ain Ganrif wedi eu hadeiladu ar yr Ynys sydd â chyfleusterau modern ar gyfer plant yr Ynys. Nododd mai Ynys Môn sydd â’r gyfradd ailgylchu orau o'r 22 awdurdod lleol gyda 72.2% o’i wastraff un ai’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru i geisio statws di-blastig. Dywedodd y Deilydd Portffolio hefyd fod y Cynllun Gofal Ychwanegol, Hafan Cefni yn Llangefni bellach wedi agor. Mae Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi wedi’i ailfodelu a’i adfer a bydd yn darparu lle i swyddfeydd newydd yn ogystal â bod yn gartref i’r Llyfrgell yn y dref.    

 

Cyfeiriwyd at y meysydd canlynol lle gellid gwneud gwelliannau pellach yn y dyfodol:-  

 

·      Mae angen i ysgolion newydd gael eu cwblhau o fewn amserlen benodol a dylid sicrhau bod cosb ariannol yn cael ei gynnwys yng nghontractau’r dyfodol wrth i ysgolion newydd gael eu hadeiladu;

·      Mae angen adnabod ardal Niwbwrch ac yn enwedig ardal Traeth Llanddwyn. Mae angen cyllid er mwyn gwella’r rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal.   

·      Mae angen rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru gan nad yw trigolion yn gallu ymdopi â cynnydd blynyddol parhaus yn y Dreth Gyngor (awgrymwyd gan Aelod Etholedig y dylai Llywodraeth Cymru ystyried codi tâl am bresgripsiynau yn hytrach na rhoi presgripsiynau am ddim fel y gwneir ar hyn o bryd). 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      y dylid cyhoeddi fersiwn terfynol o’r Adroddiad Perfformiad 2017/18 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref

·      bod Adran 3.2 y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau ar gyfer Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2016 fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni.

·      Cytuno i awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.