Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 125 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim trafodaeth. |
|
Prosiect Wylfa Newydd I dderbyn diweddariad, yn dilyn derbyn cais i alw Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir, wedi’i arwyddo gan yr Aelodau canlynol – y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter Rogers, Bryan Owen, Aled Morris Jones ac Eric Wyn Jones, yn unol â pharagraff 4.1.3.1.4 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir.
Cofnodion: Cafwyd cais i alw cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir, wedi’i lofnodi gan yr Aelodau canlynol : Y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter Rogers, Bryan Owen, Aled Morris Jones ac Eric Wyn Jones yn unol â pharagraff 4.1.3.1.4 Cyfansoddiad y Cyngor.
Hysbysodd y Cynghorydd Bryan Owen y cyfarfod ei fod yn dymuno tynnu’r cynigiad yn ôl a chyda cadarnhad y cyfarfod, tynnwyd y cynigiad yn ôl a datganodd y Cadeirydd fod y cyfarfod wedi dod i ben. |