Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Blynyddol Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd y Cyngor

Ethol Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021/22.

 

(Cyfeirir aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ynglŷn â’r seremoni ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir, a fydd yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Gadeirydd y Cyngor Sir 2021/22.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, rhoddodd y Cynghorydd Glyn Haynes sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n cyflawni ei ddyletswyddau hyd orau ei allu. Diolchodd i’w olynydd, y Cynghorydd Margaret M Roberts am y modd yr aeth ati i gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir gydag urddas ac anrhydedd yn ystod cyfnod anodd y pandemig. 

 

Diolchodd y Cadeirydd ymadawol, Y Cynghorydd Margaret M Roberts i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth  yn ystod ei dau dymor fel Cadeirydd oherwydd y pandemig. Nododd ei bod wedi bod yn her cynnal gwasanaethau’r Cyngor ac roedd yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith.   Dywedodd y Cynghorydd Roberts er nad oedd wedi gallu cyflawni ei dyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei bod yn dymuno diolch i Mrs Carys Bullock a Mr J Huw Jones o’r Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Fodd bynnag, rhoddodd grynodeb o’i huchafbwyntiau fel Cadeirydd yn ystod blwyddyn ddinesig 2019/20 yn benodol Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaergybi a chyflwyno Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Ar yr un diwrnod mynychodd Wasanaeth Coffa i nodi 80 mlynedd ers colli HMS Thetis. Cyfeiriodd hefyd at Seremoni Wobrwyo’r Twrnamaint Pêl-droed a oedd yn rhan o Gemau’r Ynysoedd yng Nghaergybi a’r Diwrnod Hwyl i Blant Mewn Gofal yn Ysgol Uwchradd Bodedern.  Cyfeiriodd at Sul y Cadeirydd yng Nghapel Carmel, Moelfre a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021, gyda’r elw’n mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. 

2.

Ethol Is-Gadeirydd y Cyngor

Ethol Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigodd y Cynghorydd Ieuan Williams ethol y Cynghorydd Dafydd Roberts fel Is-gadeirydd y Cyngor.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Llinos M Huws.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai aelodau’r Wrthblaid yn atal eu pleidlais gan fod dealltwriaeth wedi bod rhwng y pleidiau gwleidyddol ers 2011 y byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn newid yn flynyddol rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid bob yn ail.

 

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor a oedd disgwyliad yn y Cyngor bod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion yn cael eu hethol rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid.  Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd gofyniad statudol, nac yn y Cyfansoddiad, i ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion rhwng y grŵp llywodraethu a’r wrthblaid. Roedd proses yn ei lle, sef cytundeb anffurfiol, pan roddwyd y Cyngor dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ond nid yw’r broses wedi parhau wedi hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd  A M Jones  bod protocol anffurfiol yn bodoli yn y Cyngor yn 2013-2017 a bod y grŵp llywodraethu wedi torri’r protocol hwn.  Mynegodd ei bod hi’n biti bod y grŵp llywodraethu’n mynnu gwneud y broses o enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd o’r Cyngor yn un wleidyddol. 

 

Cynigodd y Cynghorydd J Arwel Roberts bleidlais wedi’i chofnodi. Eiliwyd y cynnig  o bleidlais wedi’i chofnodi gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

Cynghorodd y Swyddog Monitro yn unol â pharagraff 4.1.18.4 yn y Cyfansoddiad y gellid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi os oes 8 Aelod yn cefnogi’r cynnig.

 

Yn unol â pharagraff  4.1.18.4 yn y Cyfansoddiad gofynnodd yr aelodau canlynol am bleidlais wedi’i chofnodi:-

 

Y Cynghorwyr T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, A M Jones, Carwyn Jones, R Meirion Jones, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Robin Williams.

 

Trwy bleidlais wedi’i chofnodi penodwyd y Cynghorydd Dafydd Roberts fel Is-gadeirydd o’r Cyngor :-

 

O blaid

 

Y Cynghorwyr R A Dew, John Griffith, Richard Griffiths, T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos M Huws, Carwyn Jones, R Meirion Jones, G O Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Margaret M Roberts, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J Arwel Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R Thomas, Ieuan Williams, Robin Williams.      CYFANSWM 20

 

Yn erbyn

 

Neb                                                                                         CYFANSWM 0

 

YMATAL

 

Y Cynghorwyr Jeff Evans, K P Hughes, A M Jones, R Ll Jones, Bryan Owen,

Peter Rogers.                                                                       CYFANSWM 6

 

PENDERFYNWYD ethol y Cadeirydd Dafydd Roberts yn Is-gadeirydd o’r Cyngor Sir 2021/22.

 

3.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

4.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd neu'r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau ar ei chyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd ymadawol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

 

5.

Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau rhan o’r fath o’r Cynllun Dirprwyo fel y mae’r Cyfansoddiad yn gorchymyn ei bod yn fater i’r Cyngor ei benderfynu fel y nodir yn Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad.

 

6.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·      Pwyllgor Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor)

·      Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·      Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

·      Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodiad y strwythur Pwyllgorau fel y cyfeiriwyd ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:

 

·      Pwyllgor Tâl a Graddfeydd (Is-bwyllgor o'r Cyngor)

·      Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·      Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

Is-bwyllgor Indemniadau

7.

Dirprwyaeth gan yr Arweinydd - Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 o'r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau'r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 o'r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd y Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio :-

 

Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldebau Portffolio am Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd;

Cynghorydd Llinos M Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldebau Portffolio am Wasanaethau Cymdeithasol;

Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldebau Portffolio am Brosiectau Mawr a

Datblygiad Economaidd;

Cynghorydd R Meirion Jones gyda chyfrifoldebau Portffolio am Addysg, Pobl

Ifanc, Llyfrgelloedd a Diwylliant;

Cynghorydd Alun Mummery gyda chyfrifoldebau Portffolio am Dai a Chefnogi

Cymunedau;

Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldebau Portffolio am Briffyrdd, Eiddo a Gwastraff;

Cynghorydd Dafydd R Thomas gyda chyfrifoldebau Portffolio am Wasanaethau

Corfforaethol;

Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldebau Portffolio am

Drawsnewid a’r Gymraeg;

Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldebau Portffolio am Gyllid.

 

8.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21

Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o'r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd Robert Ll Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2021/22.

 

9.

Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol o fewn y Cyngor pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch cydbwysedd gwleidyddol o fewn y Cyngor i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cadarnhau'r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a

ddyrannwyd i bob un o'r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·     Bod Arweinwyr Grŵp yn cynghori'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau i Aelodaeth Grŵp ar Bwyllgorau.

 

 

10.

Cyrff Allanol pdf eicon PDF 102 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Cyrff Allanol i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau penodiadau fel y manylir yn amserlen yr adroddiad.

 

11.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

12.

Rhaglen o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn 2021/22

Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y  Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

·           7 Medi   2021                             -           2.00 pm

·           28 Medi  2021                            -           2.00 pm

·           26 Hydref 2021  (Arbennig)    -           10.30 am

·           7 Rhagfyr  2021                         -           2.00 pm

·           22 Chwefror 2022                     -           2.00 pm

·           Mai (Cyfarfod Blynyddol)         -           dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod: -

  • 7 Medi, 2021 – 2.00 y.h
  • 28 Medi, 2021 – 2.00 y.h
  • 26 Hydref, 2021 (Arbennig) – 2.00 y.h
  • 7 Rhagfyr, 2021 – 2.00 y.h
  • 22 Chwefror, 2022 – 2.00 y.h

      Mai 2022 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau