Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Livew Streamed Meeting

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd y canlynol fel y rhai yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Cynghorydd Carwyn Jones (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Ddatblygiad Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth;

Cynghorydd Alun W Mummery gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol.

Cynghorydd Gary Pritchard gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Blant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid;

Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Wasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol);

Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo;

Cynghorydd Ieuan Williams gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Addysg a’r Iaith Gymraeg;

Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldeb Aelod Portffolio am Gyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer.

 

4.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o Gyfansoddiad y Cyngor, penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am y flwyddyn ddinesig.

[Noder: Paragraff 3.4.12.3.1  Penodir y Cadeirydd gan y Cyngor llawn yn ei ail gyfarfod (a ohiriwyd) o’r Cyfarfod Blynyddol ar ôl i’r Arweinydd gyhoeddi pwy yw Aelodau’r Pwyllgor Gwaith (ac os oes angen mewn cyfarfodydd eraill) trwy bleidlais gudd, a Bydd Rheol Gweithdrefn 4.1.18.5 "Pleidlais a Gofnodwyd" yn cael ei hatal ar gyfer y pwrpas hwn.

Paragraff 3.4.12.3.2  Ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o grŵp a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith (ac eithrio mewn awdurdodau lle mae’r holl grwpiau gwleidyddol yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith, ac yn yr achos hwnnw, ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith)].

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3  o Gyfansoddiad y Cyngor, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2022/2023.

5.

Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r

Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym

Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad).

 

6.

Rhaglen Cyfarfodydd Arferol y Cyngor Sir

Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-

 

   13 Medi 2022                                           -           2.00pm

   6 Rhagfyr 2022                                        -           2.00pm

   9 Mawrth 2023                                         -           2.00pm

   Mai 2022                                                   -           dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-  

 

·           13 Medi, 2022                  -            2.00 p.m.

·           6 Rhagfyr, 2022                -            2.00 p.m.

·           9 Mawrth, 2023                 -            2.00 p.m.

·           Mai, 2023                             -        (dyddiad i’w gadarnhau)

 

7.

Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol diweddar ar 5 Mai 2022, ac ar benodi Cynghorwyr i Bwyllgorau.

 

Bydd pob Pwyllgor y cyfeirir ato isod yn cyfarfod am gyfnod byr i benodi ei Gadeirydd a’i Is-Gadeirydd ei hun (ac eithrio’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a fydd wedi cael sylw dan eitem 4 uchod): -

 

   Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

   Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

   Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

   Pwyllgor Trwyddedu

   Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

   Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Is-Gadeirydd)

 

[Noder: anfonwyd hysbysiadau ar wahân at holl Aelodau ac aelodau cyfetholedig perthnasol ar gyfer y cyfarfodydd uchod].

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros dro mewn perthynas â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer eu hystyried. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel y nodir yn yr adroddiad;

·      Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

8.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros dro mewn perthynas â threfniadau Penodi i Gyrff allanol ar gyfer ystyriaeth.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i’r gynrychiolaeth Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor Safonau gyda’r Cynghorydd Dafydd R Thomas yn lle’r Cynghorydd Dafydd Roberts fel a nodwyd yn yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad;

bod y Cynghorydd Dafydd R Thomas yn dod yn gynrychiolydd Aelodau Etholedig ar y Pwyllgor Safonau yn lle’r Cynghorydd Dafydd Roberts