Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2023 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 951 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2023 yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn. Eglurwyd gan y Cadeirydd y byddai’r cyhoeddiadau’n cael eu gwneud yn ystod y Cyfarfod Blynyddol yn y prynhawn.

 

4.

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Llinos Medi:-

 

Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn yn 2026 mewn egwyddor . Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na Môn er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru.”

 

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas: -

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru I ail ymweld ar y penderfyniad i ddod a chymorth cyllid BES3 I ben 24/07/23 i fysus Cyhoeddus. Mae’r cyllid yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bysiau ar yr ynys.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·          Cyflwynwyd -  y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Llinos Medi:-

 

‘Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn yn 2026 mewn egwyddor . Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na Môn er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru.’

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled M Jones gan ei fod yn croesawu gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn.

 

Cefnogwyd y Cynnig i wahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn yn 2026 yn unfrydol gan y Cyngor Sir gan ei fod yn ddigwyddiad ieuenctid o bwys rhyngwladol a bydd hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi ei gwerthfawrogiad i’r Cyngor llawn am eu cefnogaeth ac aeth ymlaen i ddweud bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc Cymru wedi cael profiadau cadarnhaol drwy’r URDD dros y blynyddoedd. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol.

 

·          Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas:-

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad i ddod â chymorth ariannol BES3 ar gyfer bysiau cyhoeddus i ben ar 24/07/23. Mae’r arian hwn yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bws ar yr Ynys.”.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Gary Pritchard a ddywedodd bod lleihau gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig yn effeithio ar allu pobl i fynd i’r gwaith, yr henoed a phobl agored i niwed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bod Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli yn ystod y pandemig na fyddai modd cynnal nifer o wasanaethau bws heb gymorth ariannol a bod y cyllid yn hanfodol bwysig er mwyn diogelu gwasanaethau bws ar yr ynys. Nododd bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gymunedau lleol. Aeth ymlaen i ddweud bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhannau gwledig o Ynys Môn yn wahanol i ddinasoedd mwyaf Cymru.  Dywedodd y Cynghorydd Thomas er bod Llywodraeth Cymru’n adolygu’r mater mae’n hanfodol bod y cyllid hwn yn cael ei ddiogelu er mwyn cefnogi’r cwmnïau bysys ar yr adeg hon gan ei bod yn amhosibl iddynt gynllunio o flaen llaw o dan y system bresennol.

 

Cefnogwyd y Cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad i ddod â chymorth ariannol BES3 ar gyfer bysiau cyhoeddus i ben ar 24/7/23. 

 

      PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim deisebau wedi’u derbyn.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2022/23 pdf eicon PDF 171 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2022/2023.

 

Yn gyntaf diolchodd yr Arweinydd i staff y Cyngor am eu gwaith ac ymrwymo i sicrhau bod yr awdurdod yn llwydd a bod gwasanaethau o safon dda yn cael eu darparu i drigolion Ynys Môn.  Dywedodd bod llawer wedi’i gyflawni drwy gydweithio a bod hynny dangos grym a gallu ein hynys fach i weddill Cymru.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn, fel y nodir yn ei hadroddiad, a hynny mewn perthynas â’r Economi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Hamdden, Tai, yr Hinsawdd a’r Amgylchedd. Cyfeiriodd at y cwmnïau ar yr Ynys sydd wedi cau yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i gostau ynni uchel, chwyddiant a’r ansicrwydd cyffredinol yn economi’r DU. Roedd cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn ergyd drom i’r 700 o bobl a oedd yn gweithio yno ynghyd â’u teuluoedd yn ogystal ag economi’r Ynys.  Mynegodd ei diolch i’r sefydliadau partner a oedd wedi cefnogi’r gweithlu yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.

 

Ar nodyn cadarnhaol, roedd yr Arweinydd yn falch bod y Cyngor, ar ôl gweithio’n agos â Stena Line, wedi llwyddo i gwblhau’r cam cyntaf er mwyn sicrhau statws Porthladd Rhydd i’r Ynys. Aeth ymlaen i gyfeirio at agor ysgol newydd Ysgol Corn Hir, Llangefni sydd wedi gwireddu gweledigaeth yr Awdurdod i ddarparu’r cyfleodd gorau posib i blant a staff yr ysgol. Dywedodd hefyd ei bod wedi gweithio ar lefel ranbarthol ac ar lefel genedlaethol yng Nghymru a’r DU i sicrhau’r buddion gorau posib i’r Cyngor ac i’r Ynys. 

 

The Council was given the opportunity to ask questions of the Leader on the contents of the Annual Report.

 

Er bod y Cynghorydd Jeff Evans yn croesawu llwyddiannau’r Cyngor, dywedodd bod y Cyngor angen mynd i’r afael â chyfleusterau i bobl ifanc gan fod ymddygiad gwrthgymdeithasol ac, yn fwy diweddar, e-sigaréts yn broblem.  Cyfeiriodd at y problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael apwyntiad â’r meddyg, diffyg deintyddion a swyddogion yr heddlu ynghyd â’r broblem o recriwtio gweithwyr gofal, a dywedodd bod angen mynd i’r afael â’r problemau hyn. Yn ei hymateb dywedodd Arweinydd y Cyngor bod 10 mlynedd o lymder ariannol wedi gadel ei ôl ar wasanaethau cyhoeddus. Dywedodd bod y gwasanaeth ieuenctid bellach yn rhan o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau mwy o wydnwch o fewn y gwasanaeth. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n bwysig bod cymunedau’n gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl ifanc yn lleol. Cyfeiriodd at y sylwadau ynglŷn â diffyg heddweision a dywedodd bod gwaith wedi cael ei wneud ar y cyd â’r heddlu yn ddiweddar fel rhan o’r rhaglen Safer Streets er mwyn gwneud ein cymunedau’n llefydd mwy diogel i bobl. 

 

Croesawyd yr adroddiad gan aelodau’r Cyngor Sir a oedd yn gwerthfawrogi llwyddiannau’r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

7.

Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2023-28 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr ar Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2023-28 i’w ystyried.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor bod y drafft diweddaraf o’r Cynllun Llesiant yn amlinellu sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu gwneud gwahaniaeth amlwg i fywydau trigolion drwy gydweithio i sicrhau canlyniadau ar gyfer yr ardal gyfan. Trwy ddefnyddio’r dystiolaeth o’r asesiadau llesiant, mae’r Bwrdd wedi nodi tri amcan Llesiant sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad. Nododd bod hyrwyddo’r Gymraeg rhan annatod o waith y Bwrdd,  yn enwedig gweithio gyda chymunedau i’w helpu i ddatblygu gwasanaethau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i fabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd Ac Ynys Môn 2023-28.

 

8.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2023 pdf eicon PDF 830 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar Hunanasesiad 2023 i’w ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod yr adroddiad yn adlewyrchu ail hunanasesiad Cyngor Sir Ynys Môn fel y disgwylir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Mae’r adroddiad yn adlewyrchu allbwn y fframwaith cynllunio a rheoli perfformiad corfforaethol ac yn darparu sail dystiolaethol o ran y modd y mae’r Cyngor wedi perfformio, sut mae’r Cyngor yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddo a sut y mae’n rheoli a lliniaru risgiau cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r ddogfen fel ‘drafft gweithredol’ a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei chynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin, 2023.