Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24.

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.

 

Wrth dderbyn y fraint o gael ei phenodi, rhoddodd y Cynghorydd Margaret M Roberts sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n gwneud pob ymdrech i gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei gallu. Diolchodd i’w rhagflaenydd, y Cynghorydd Dafydd Roberts, am y ffordd urddasol ac anrhydeddus yr oedd wedi cyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir.

Diolchodd y Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dafydd Roberts i’w etholwyr yn Ward Bodowyr ac i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth yn ystod ei gyfnod fel Is-gadeirydd a Chadeirydd y Cyngor Sir. Cyfeiriodd at y ffaith bod y cymorth gan y Gwasanaethau Democrataidd wedi newid yn ddiweddar ac roedd yn dymuno diolch i Mrs Carys Bullock am ei chymorth. Roedd hefyd yn dymuno diolch i Mrs Debbie Jones a Miss Chloe Hughes yn y Gwasanaethau Democrataidd am eu cymorth ac i Mr Dyfan Sion a benodwyd yn Bennaeth Democratiaeth yn ddiweddar. Bu iddo gydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan Swyddogion y Cyngor yn ystod cyfnod anodd y pandemig a’r argyfwng costau byw. Amlygodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei uchafbwyntiau fel Cadeirydd a chyfeiriodd yn arbennig at gael agor pabell fawr Cyngor Sir Ynys Môn yn Sioe Amaethyddol Ynys Môn. Cyfeiriodd hefyd at y fraint o gael diolch i’r Cyn-gynghorydd Noel Thomas, wedi oedi hir, a chydnabod yr anghyfiawnder yr oedd wedi’i ddioddef.

 

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

4.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·     Llongyfarchiadau i Ysgol Corn Hir ac Ysgol y Borth am gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth pêl-rwyd yr Urdd yn Aberystwyth. Ysgol Corn Hir oedd yn fuddugol gydag Ysgol Borth yn dod yn ail.

 

·     Llongyfarchiadau i nifer o unigolion o Ynys Môn a gwblhaodd y ras am fywyd 5k yng Nghaernarfon ar 14 Mai, 2023 a chodi arian at achosion da.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Stuart Jewell, o’r adran TG am redeg Marathon Llundain i godi arian i Awyr Las – Ysbyty Penrhos Stanley.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Martin Roberts o’r Adran Gyllid ar gael ei ddewis i ddyfarnu yn nhwrnamaint Nations Cup UEFA yn Sbaen fis nesaf.  

 

·     Llongyfarchiadau i Thea Scowcroft-Roberts o Ysgol Rhoscolyn a oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth i greu logo newydd ar gyfer Coleg Treftadaeth Caergybi – y coleg cyntaf o’i fath yng Nghymru.

·     Llongyfarchiadau i Mr Alan Carter a Mr John Pritchard sydd wedi cynrychioli Clwb Pêl-droed Cerdded Cymru i bobl dros 65 oed ym mhencampwriaeth ryngwladol Cwpan 5 bob ochr y Byd yn Zurich. Llwyddodd y ddau i helpu Cymru ddod yn ail yn y gystadleuaeth. 

 

·     Llongyfarchiadau i Keith a Rhian o dîm Maethu Cymru Ynys Môn ac i  Sioned a Ffion o’r tîm Teuluoedd Gwydn am ddringo’r Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan mewn 21 awr a 40 munud. Llongyfarchiad hefyd i un o Ofalwyr Maeth yr Awdurdod, Alina Williams am ymuno â’r tîm i ddringo’r Wyddfa.

 

·     Llongyfarchiadau i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac i Action for Children am dderbyn canmoliaeth uchel am eu gwaith gyda gofalwyr ifanc yma ar Ynys Môn yn ystod seremoni wobrwyo Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

 

·     Dymuniadau gorau i’r plant a’r bobl ifanc o Ynys Môn a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddiwedd y mis. 

 

·     Dymuniadau gorau i bawb o Ynys Môn a fydd yn cymryd rhan yng Ngemau’r Ynysoedd yn Gurnsey ym mis Gorffennaf.

 

·     Llongyfarchiadau i bawb sydd â chyswllt ag Ynys Môn a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

*          *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd a theulu, ffrindiau a chydweithwyr Ms Angela Bennett a oedd yn gweithio yn yr Adran Refeniw a Budd-daliadau.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r ddau Gyn-gynghorydd Sir, Mr Keith Thomas a Mr Eric Roberts.

 

Cydymdeimlwyd â Chyn-arweinydd y Cyngor, Mr Gareth Winston Roberts ar golli ei wraig yn ddiweddar. 

 

Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Cafwyd munud o dawelwch a safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.

 

*          *         *          *          *

Gyda chytundeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Robert Ll Jones deyrnged i Mr Sean Burns, a oedd wedi’i eni a’i fagu ym Mae Trearddur, Ynys Cybi, a fu farw’n ddiweddar. Treuliodd Mr Burns 12 mlynedd yn gwasanaethu fel Gweinyddwr Tristan da Cunha ac Ynys y Dyrchafael a Phennaeth Swyddfa’r Llywodraethwr ar Ynys Santes Helena. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod Ynys Môn yn agos at galon Mr Burns a’i fod bod amser  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Cynghorydd Llinos Medi (Arweinydd) Portffolio Datblygu Economaidd;

 

Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Cyllid;

 

Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Addysg a’r Gymraeg;

 

Cynghorydd Neville Evans Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;

 

Cynghorydd Carwyn Jones Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;

 

Cynghorydd Gary Pritchard Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;

 

Cynghorydd Alun Roberts Portffolio Gwasanaethu Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;

 

Cynghorydd Nicola Roberts Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;

 

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

6.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad Penderfynwyd Ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

7.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arni.

 

8.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·     Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·     Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

·     Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau y cyfeirir ato yn Adran

3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-

 

· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

· Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

·     Is-bwyllgor Indemniadau

 

9.

Rhaglen o Gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24

Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

·      12 Medi 2023                                           -           2:00 pm

·      26 Hydref 2023 (Arbennig)                    -           2.00 pm

·      5 Rhagfyr 2023                                        -           2:00 pm

·      7 Mawrth 2024                                         -           2:00 pm

·      Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol)             -           dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-

 

·     12 Medi, 2023                           -                   2.00 pm

·     26 Hydref, 2023            -                  2.00 pm

·     5 Rhagfyr, 2023            -                  2.00 pm

  Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol)                dyddiad i’w gadarnhau

10.

Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor pdf eicon PDF 147 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·         Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

11.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â phenodi i Gyrff Allanol.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.

 

12.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol -  Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-2024;

 

·     Cadarnhau y bydd deilyddion yr un Swyddi â 2022-2023 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2023-2024, hy:-

 

Cadeirydd y Cyngor;

Is-gadeirydd y Cyngor;

Arweinydd y Cyngor;

Dirprwy Arweinydd y Cyngor;

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7);

Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid fwyaf;

Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2);

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

·     Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.