Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 12fed Medi, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:-

 

  23 Mai 2023 (Cyfarfod Cyffredinol) - 10:30 am

  23 Mai 2023 (Cyfarfod Blynyddol) - 2:00 pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir yn gywir:-

 

·                 23 Mai, 2023 (Cyfarfod Cyffredinol) – 10.30 a.m.

·                 23 Mai, 2023 (Cyfarfod Blynyddol) – 2.00 p.m.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Margaret M Roberts ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 10 – Penodi Cynghorydd Sir i’r Pwyllgor Safonau a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·        Llongyfarchiadau i holl aelodau ffermwyr ifanc Môn a fu’n cystadlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd. 

 

·        Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r rhai a fu’n arddangos eu hanifeiliaid a’u cynnyrch yn y Sioe Fawr ac i Mr Richard Roberts o gwmni amaethyddol Emyr Evans am dderbyn gwobr am wasanaeth hir i'r cwmni. 

 

·          Llongyfarchiadau i bawb o’r Ynys a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn ym mis Awst ac yn enwedig i Gôr Ieuenctid Môn, dan arweiniad Mrs Mari Pritchard, a enillodd dri o brif wobrau corawl yr Eisteddfod.

 

·          Llongyfarchiadau hefyd i’r rhai â chysylltiadau ag Ynys Môn a gafodd eu hurddo i’r orsedd eleni.

 

·          Llongyfarchiadau i Ms Alison Cairns o Lannerch-y-medd am ennill y wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod.

 

·          Cyfeiriodd y Cadeirydd at lwyddiant Sioe Môn eto eleni.  Mynegodd ei diolch i’r Gymdeithas Amaethyddol ac i bawb a gefnogodd y sioe. Diolchodd hefyd i bawb fu ynghlwm â’r gwaith o drefnu pafiliwn y Cyngor yn y sioe.

 

·          Dywedodd y Cadeirydd bod Ynys Môn wedi cael ei derbyn yn ddiweddar fel aelod swyddogol o Rwydwaith Byd-eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar, Sefydliad Iechyd y Byd. Fel aelod newydd o'r rhwydwaith, mae’r Ynys yn rhan o symudiad byd-eang sydd yn ceisio creu cymunedau ble gall bawb edrych ymlaen at heneiddio’n dda ynddynt. Mynegodd ei diolch i Lywodraeth Cymru a Thîm Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y gefnogaeth yn ystod y daith; Fforwm Pobl Hŷn Ynys Môn; y Cynghorydd Gwilym Jones ein Pencampwr Oed-Gyfeillgar; a staff a phartneriaid y Cyngor am eu gwaith caled.

 

·          Llongyfarchiadau i Dîm Maethu Môn sydd wedi ennill dwy wobr gan FosteringNetwork Prydain.  Enillodd dau o ofalwyr maeth yr Awdurdod y wobr KinshipCarers tra bod y Tîm Maethu wedi ennill y wobr ar gyfer Tîm Gweithwyr Cymdeithasol. 

·          Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mary Davies sydd wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth anrhydeddus fel Ymdriniwr Galwadau gyda British Telecom a’r Gwasanaethau Brys (999).

·          Llongyfarchiadau mawr i staff y Gwasanaeth Archifau, dan arweiniad Ms Kelly Parry, ar eu llwyddiant diweddar. Mae'r tîm wedi gweithio'n hynod o galed ar gyfer asesiad diweddar ac wedi sicrhau eu bod yn cadw’r statws fel Archifdy Achrededig

·          Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau eleni.  Diolchodd y Cadeirydd i’r athrawon a’r staff yn ein hysgolion yn ogystal am gefnogi’r bobl ifanc yn ystod eu taith addysgol.   

 

*          *          *          *

 

 

Cydymdeimlwyd â Mrs Sharon Warnes, aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ar golli ei gŵr yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â’r cyn-gynghorydd John Griffith, ar golli ei wraig yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd â Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, ar golli ei dad yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Cafwyd munud o dawelwch a safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

5.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Mehefin, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn asesiad statudol sy’n nodi’r amcanion allweddol a fydd yn helpu i gefnogi twf a chadw darparwyr Gofal Plant ar yr Ynys i sicrhau sector gofal plant cynaliadwy sy'n cynnig cyfleoedd datblygu sylfaenol i blant gan gefnogi rhieni/gofalwyr i weithio. Diolchodd i staff y Gwasanaeth a’r partneriaid sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth gofal plant ar Ynys Môn. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022, y Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant a’r adroddiad cynnydd blynyddol fel rhan o’r Fframwaith Polisi (paragraff 3.2.2.1.1. yn y Cyfansoddiad) ac yna i Lywodraeth Cymru.

 

6.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2023 pdf eicon PDF 408 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod yr adroddiad yn adlewyrchu ail hunanasesiad y Cyngor yn dilyn mabwysiadu’r cyntaf ym mis Medi, 2022 yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r adroddiad yn  tystiolaethu allbwn fframwaith cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad y Cyngor ac yn ddiweddglo proses sy’n dwyn ynghyd amryw o wahanol agweddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

· Gytuno â'r addasiadau a awgrymwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac awdurdodi swyddogion i ddiwygio'r drafft terfynol o’r Asesiad Corfforaethol ar gyfer 2023;

· Mabwysiadu'r Hunanasesiad Corfforaethol ar gyfer 2023 yn ffurfiol;

·Cytuno ei fod yn cael ei anfon at y rhestr ganlynol o dderbynwyr o fewn y cyfnod o bedair wythnos yn dilyn y cyfarfod hwn fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021:-

 

· Archwilydd Cyffredinol Cymru;

· Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

· Gweinidogion Cymru.

 

 

7.

Ymestyn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 930 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 28 Mehefin, a’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 28 Mehefin, a’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yn achos rhai materion, sy’n debygol o arwain at newidiadau cyfansoddiadol a fydd yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn, mae’n bwysig bod yr opsiynau, manteision ac anfanteision yn cael eu trafod yn fanwl cyn y gwneir penderfyniad. O dan y trefniadau presennol nid yw’n bosib trafod materion mewn llawer o fanylder yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn. Felly, dan yr amgylchiadau hyn, cynigir bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gwneud y gwaith hwn ar ran y Cyngor a’i fod hefyd yn ymateb i ymgynghoriadau yn ymwneud â materion cyfansoddiadol. Mae’r opsiynau eraill yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen unigol ar gyfer pob darn o waith, neu sefydlu is-bwyllgor sefydlog o’r Cyngor. Fodd bynnag, gan fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ofyniad statudol, yn bwyllgor â chydbwysedd gwleidyddol a gan fod y cynnig yn cydweddu’n dda â’i rôl statudol, awgrymir mai newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yw’r ateb mwyaf ymarferol ac effeithiol. Ni fydd pob newid cyfansoddiadol yn cael ei ystyried neu ei drafod gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd; bydd hynny’n digwydd dim ond pan fydd angen trafodaeth neu benderfyniad ar ddewis lleol neu er mwyn cytuno ar ymateb i unrhyw ymgynghoriad ar faterion sy’n effeithio ar Gyfansoddiad y Cyngor. Y Swyddog Monitro, gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor, fydd yn penderfynu a fydd mater penodol yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor ai peidio. Bydd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y pŵer i gyflwyno argymhellion i’r Cyngor mewn perthynas â’r materion hyn yn unig ac ni fydd ganddo’r pŵer i wneud y newidiadau y mae’n eu hargymell.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ymestyn cylch gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y cynnig fel y nodir yn yr adroddiad, a bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio yn sgil y newid hwn.

 

8.

Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – Drafft Terfynol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Rhoddodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol amlinelliad o’r cefndir a’r gofynion statudol ar awdurdodau lleol sy’n gweinyddu AHNE oedd yn cynnwys paratoi a chyhoeddi cynlluniau rheoli ar gyfer eu hardal a’u hadolygu pob pum mlynedd. Mae'r Cynllun Rheoli AHNE yn ddogfen eang ac mae’n cyd-fynd yn llawn â Chynllun newydd y Cyngor, a bydd yn helpu i gyflawni’r chwe blaenoriaeth allweddol yng Nghynllun y Cyngor. Mae’r Cynllun Rheoli hefyd yn cyd-fynd â Chynllun Cyrchfan y Cyngor. Mae hefyd yn hanfodol i’r bobl, cymunedau a busnesau o fewn yr AHNE sydd yn dirwedd ddynamig a gweithredol yn ogystal ag ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda’i rhinweddau arbennig. Nododd bod pum thema allweddol o fewn y Cynllun Rheoli ar gyfer 2023-2028 sef cyfoethogi cefn gwald a chymeriad yr arfordir; mynd i’r afael â’r argyfwng natur; yr AHNE fel lle i fwynhau a dysgu; cymunedau bywiog mewn tirwedd weithredol a rheoli’r AHNE mewn hinsawdd sy’n newid. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cynllun Rheoli wedi bod drwy broses ymgynghori ac i’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones er ei fod yn croesawu’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ei bod hi’n bwysig diogelu anghenion cymunedau lleol o fewn yr AHNE gan fod tai yn cael eu codi a choed yn cael eu torri o fewn yr AHNE.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol newydd ar gyfer 2023 – 2028.

 

9.

Mabwysiadu Cynllun Deisebau Drafft pdf eicon PDF 817 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swydogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod Adran 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Deisebau. Cyhoeddwyd y Canllawiau drafft perthnasol ym mis Ebrill 2023. Mae’r Cynllun hwn yn ychwanegol at drefniadau presennol Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor sy’n galluogi aelodau etholedig i gyflwyno deisebau yng nghyfarfodydd y Cyngor. Mae’r Cynllun, yn Atodiad 1 yr Adroddiad, yn bodloni’r gofynion statudol newydd ac mae hefyd yn cynnwys rhai elfennau sy’n fater o ddewis lleol. Trafodwyd y rhain gyda’r Tîm Arweinyddiaeth, Penaethiaid Gwasanaeth, swyddogion perthnasol eraill ac Arweinyddion Grwpiau. Bydd deisebau dilys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Bydd deisebau electronig hefyd yn cael ei cyhoeddus ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio’r meddalwedd Modern.Gov sy’n cefnogi’r system bwyllgorau. Mae’r cynllun yn nodi’r broses ar gyfer cyflwyno deisebau i’r Cyngor a sut y byddant yn cael eu trin ac mae hefyd yn nodi’r amgylchiadau pryd y bydd deisebau’n cael eu gwrthod.  Bydd y cynllun yn cael ei weithredu a'i reoli gan y Gwasanaethau Democrataidd a gyda chytundeb y Cyngor bydd yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ôl bod yn weithredol am 12 mis.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

 

· Fabwysiadu’r Cynllun Deisebu Drafft;

· Caniatáu i’r Swyddog Monitro addasu Cyfansoddiad y Cyngor er mwyn ymgorffori’r Cynllun;

· Rhoi awdurdod i’r Swyddog Monitro wneud addasiadau bach i’r Cynllun, er mwyn sicrhau y gellir ei weithredu’n ddidrafferth, a bydd unrhyw newidiadau materol yn cael eu hawdurdodi gan y Cyngor llawn yn unig;

· Caniatáu i’r Pennaeth Democrataidd weithredu’r Cynllun cyn gynted â phosibl, a sicrhau y dilynir y camau priodol i hyrwyddo’r Cynllun i’r cyhoedd;

· Gofyn i’r Pennaeth Democrataidd baratoi adroddiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar weithrediad y Cynllun cyn gynted â phosibl 12 mis ar ôl y dyddiad gweithredu.

 

10.

Penodi Cynghorydd Sir i'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod sedd wag ar y Pwyllgor Safonau yn dilyn ymddiswyddiad un o’r Cynghorwyr Sir. Nododd bod penodi aelod etholedig o’r Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau yn benderfyniad i’r Cyngor llawn. Yn unol â’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau nid yw’n bwyllgor sy’n denu cydbwysedd gwleidyddol; ni chaniateir i fwy nag un aelod o’r Pwyllgor Gwaith gynrychioli’r aelodau etholedig ar y Pwyllgor Safonau; ni chaniateir i Arweinydd y Cyngor fod yn aelod o’r Pwyllgor Safonau.

 

Cynigodd Arweinydd y Cyngor benodi’r Cynghorydd Margaret M Roberts i gynrychioli’r Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn siomedig nad oedd y Pwyllgor Safonau’n bwyllgor â chydbwysedd gwleidyddol gan y byddai hynny’n caniatáu i’r Pwyllgor yn agored a thryloyw.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Margaret Murley Roberts fel aelod etholedig o’r Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau.

 

(Fe wnaeth y Cynghorwyr Paul Ellis, Jeff Evans, Douglas Fowlie, Aled M Jones, R Ll Jones a Liz Wood atal eu pleidlais)

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Archwilio 2022-23 – Adroddiad y Cadeirydd pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 29 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 29 Mehefin, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/2023 gan Mr Dilwyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bod y Pwyllgor yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu’r Cyngor.  Ei swyddogaeth yw darparu adnodd annibynnol a lefel uchel i gefnogi llywodraethu da a rheolaeth ariannol gyhoeddus gref. Nododd bod y dogfennau yn yr Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio at y modd y mae’r Pwyllgor wedi cyflawni ei ddyletswyddau yn ystod 2022/2023 er mwyn  adrodd i’r rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethiant h.y. y Cyngor Sir. Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cael sicrwydd bod systemau rheoli mewnol y Cyngor yn gweithio a bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol, yn hytrach na chraffu ar weithgareddau. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/2023.

 

12.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 14 Gorffennaf, 2023 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan Mr John R Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd Mr Jones mai dyma ail adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Sir, yn unol â gofyniad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Aeth ymlaen i ddweud bod yr adroddiad yn amlinellu’r dyletswyddau a gyflwynwyd dan y Ddeddf a’r gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Safonau i fynd i’r afael â phrif ddarpariaethau’r Ddeddf. Dywedodd Mr Jones bod dyletswydd newydd wedi cael ei rhoi ar Arweinwyr Grŵp i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Aelodau’r Grŵp. Mae gan y Pwyllgor Safonau ddyletswydd newydd i fonitro sut y mae’r Arweinwyr Grŵp yn cydymffurfio â’r ddyletswydd newydd hon ac i ystyried sut y mae’n sicrhau ei fod yn bodloni’r gofyniad i ddarparu cyngor a hyfforddiant i’r Arweinwyr Grŵp. Dywedodd Mr Jones bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor yn unol â’i gyfrifoldebau yn ystod 2022/2023 a chyflwynwyd y Rhaglen Waith ar gyfer 2023/2024 i’w chymeradwyo gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

· Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau;

· Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/24, gan dderbyn y gallai materion ychwanegol gael eu cynnwys, yn unol â’r galw.

 

(Fe wnaeth y Cynghorwyr Paul Ellis, Douglas Fowlie, Aled M Jones, a Liz Wood atal eu pleidlais)

 

13.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2022/23 pdf eicon PDF 750 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a’r Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (hyd at fis Mai 2023) drosolwg o waith y ddau bwyllgor sgriwtini rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2023. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees bod Cadeiryddion y ddau Bwyllgor Sgriwtini wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r Blaen Raglenni Gwaith sy’n cael eu cymeradwyo ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgorau Sgriwtini. Aeth ymlaen i ddweud bod effaith a gwerth ychwanegol y gweithgareddau sgriwtini’n cyfrannu at flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor drwy gefnogaeth a her. Nodwyd bod angen penodi Pencampwr Sgriwtini. Mae gan y Pencampwr Sgriwtini rôl bwysig o ran hyrwyddo’r swyddogaeth trosolwg a sgriwtini yn y Cyngor a gyda phartneriaid allanol yr Awdurdod. Mae’r rȏl yn cael ei rhannu rhwng y ddau gadeirydd sgriwtini bob yn ail. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-

· Gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2022/23;

· Nodi’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud o ran ein siwrnai ddatblygu Sgriwtini a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer.

· Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2023 i Mai 2024.