Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Alwen P Watkin ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 4 – Awdurdodi ac Ariannu Gwaith Trwsio Annisgwyl ac yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddi gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
Fe wnaeth y Cadeirydd longyfarch y Cynghorydd Kenneth P Hughes ar gael ei ethol yn ddiweddar i gynrychioli ward Talybolion.
* * * *
Fe wnaeth y Cadeirydd gydymdeimlo â theulu’r cyn-gynghorydd Jim Evans a fu farw’n ddiweddar. Roedd Mr Evans yn gyn-gadeirydd y Cyngor a chyn bostfeistr yn Llanfairpwll.
Talodd aelodau’r Cyngor deyrnged i Mr Jim Evans gan ddweud ei fod yn uchel ei barch am ei waith fel Aelod Lleol ac fel aelod o gymuned Llanfairpwll.
Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol;-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Awdurdodi ac Ariannu Gwaith Trwsio Annisgwyl Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried.
Adroddodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor, ym mis Mawrth 2024, wedi cyflwyno hysbysiad, yn unol ag adran 78 o Ddeddf Adeiladu 1984, i berchnogion y tri adeilad cyfagos, yn gofyn iddynt gwblhau gwaith brys ar eu hadeiladau er mwyn gofalu am ddiogelwch y cyhoedd.
Fe wnaeth dau o’r tri perchennog weithredu ond ni wnaeth y trydydd gymryd unrhyw gamau.
O ganlyniad, roedd yn rhaid i’r Cyngor gamu i’r adwy a bydd yn ceisio adennill y costau.
Tra bod y gwaith dan sylw’n cael ei wneud, canfu bod cyflwr cyffredinol yr adeiladau, un ohonynt yn enwedig, yn llawer gwaeth nag a dybiwyd yn wreiddiol. Comisiynwyd cwmni peirianneg arbenigol annibynnol i ddarparu tystiolaeth bellach a daethpwyd o hyd i wendidau strwythurol difrifol. Rhannwyd y dystiolaeth â’r perchnogion ac rydym yn aros i weld pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd. Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei wneud heb unrhyw ymyrraeth bellach gan y Cyngor. Fodd bynnag, os na fydd y perchnogion yn gweithredu bydd y Cyngor yn gwneud cais i Lys yr Ynadon dan Adran 77 o Ddeddf Adeiladu 1984 am orchymyn i’w gyflwyno i berchnogion yr adeilad i gau’r adeilad a’u gorfodi i wneud y gwaith. Os na fyddant yn gweithredu, bydd y Cyngor yn gwneud y gwaith brys sy’n weddill ac yn ceisio adennill y gost o ymgymryd â’r gwaith hwnnw gan berchnogion yr eiddo.
Mae angen rhyddhau’r arian o’r balansau cyffredinol felly fel bod y Cyngor mewn sefyllfa i wneud y gwaith pe bai angen.
Roedd aelodau’r Cyngor Sir yn cydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan Swyddogion y Cyngor fynd i’r afael â’r gwaith angenrheidiol i wneud yn siŵr bod yr adeilad yn ddiogel, am y tro, ac unrhyw achosion cyfreithiol angenrheidiol. Fe wnaeth y Swyddogion ateb cwestiynau gan yr Aelodau yn gysylltiedig â’r trefniadau sydd ar waith i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn diogel ac ar gyfer adennill yr arian cyhoeddus a wariwyd ar yr eiddo preifat.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi cyflwr peryglus yr adeilad a’r risg uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd, gan olygu bod angen gweithredu ar frys. · Awdurdodi rhyddhau uchafswm o £500,000 o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn caniatáu i waith strwythurol brys gael ei wneud i sicrhau diogelwch y cyhoedd. · Awdurdodi swyddogion i ddwyn unrhyw achosion cyfreithiol y maent yn ystyried yn rhesymol er mwyn adennill y costau a gafwyd gan y Cyngor wrth gyflawni’r gwaith unioni ar yr adeilad/adeiladau ac ariannu unrhyw gostau cyfreithiol nad ydynt yn cael eu hadennill. · Caniatáu eithriad ar gyfer “contractau lle mae cymaint o frys nad yw’n bosibl cydymffurfio â’r Rheolau hyn” a bydd angen eithriad ar gyfer y gwaith hwn oherwydd y brys.
|