Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025 yn gywir.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei gyfnod yn yn swydd y mae ei dymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2024/25 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ddim yn berthnasol. Nid oedd angen penderfyniad.
|
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2024/25 Derbyn adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Sgriwtini a Throsolwg ar gyfer 2024/25; · Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed o ran gweithredu ein taith Sgriwtini ac effaith hynny ar ymarfer; · Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2025 a Mai 2026.
|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2025/26.
(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Non Dafydd yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025/2026.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2025/26.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn Is-gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025/2026.
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddo i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Ddatblygu Economaidd;
Y Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gyllid a Gwasanaethau Tai;
Y Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb Portffolio am Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio am Fusnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Y Cynghorydd Dyfed W Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio am Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd;
Y Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Wasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Y Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Addysg a’r Gymraeg;
Y Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Swydd Wag - cyfrifoldeb Portffolio am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. |
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Rhan 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno. |
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol: -
· Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau; · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS); · Is-bwyllgor Indemniadau
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredinol yn Cyngor Sir ar gyfer 2025/26 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 25 Medi 2025 - 2:00 pm · 9 Rhagfyr 2025 - 2:00 pm · 5 Mawrth 2026 - 2:00 pm · Mai 2026 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf: -
· 25 Medi, 2025 - 2.00 yp · 9 Rhagfyr 2025 – 2.00 yp · 5 Mawrth 2026 - 2.00 yp · Mai 2026 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd ynglŷn ag unrhyw newid o ran aelodaeth grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.
|
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 a’r Pennaeth Democratiaeth, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 19 Mawrth 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2025-26; · Cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2024-25 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2025-26, sef:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor; Dirprwy Arweinydd y Cyngor; Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7); Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2); Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
· Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau) er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-26.
|