Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2025. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyhoeddiadau I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cwestiynau I dderbyn rhybudd o’r cwestiynau canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones mewn perthynas â cherbydau mawr yn teithio drwy Gaergybi ar eu ffordd i’r Iwerddon ar y llongau: -
Hoffwn ofyn i Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn os ydi o wedi gofyn i’n Haelod Senedd neu’n Aelod Seneddol lleol i ddweud wrthym beth sy’n digwydd o ran unrhyw gynlluniau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer loriau sy’n teithio i’r Iwerddon drwy borthladd Caergybi.
Mae angen i ni gefnogi’r gyrwyr hyn gan fod y mater yn achosi perygl i gerddwyr pan fydd y loriau yn cael eu parcio ym meysydd parcio siopau ger ardal siopa Penrhos. Mae’r problemau diweddar gyda thywydd garw dros y gaeaf ond wedi ychwanegu at y broblem.
O’r hyn dwi’n ei ddeall mae ein Adran Briffyrdd wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y materion parhaus hyn ac maent yn barod i gydweithio er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i’r broblem. Mae angen i ni weithredu cyn y bydd damwain neu rhywbeth gwaeth yn digwydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Rhybydd o Gynnig Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Dylan Rees: -
Mae Prosiect Cadwraeth arloesol y Wiwer Goch ar Ynys Môn wedi bod yn hynod lwyddiannus. Erbyn hyn mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys ac maent fwyaf niferus yng nghyffiniau Llangefni, Marianglas ac mewn ambell i ardal arfordirol ar hyd y Fenai. Mae gweld wiwerod coch yn brofiad pleserus a chyffroes i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y prosiect hwn dan fygythiad parhaus oherwydd brech y gwiwerod.
Firws sy’n cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd yw brech y gwiwerod, ond nid yw’n effeithio ar y wiwer lwyd. Pan fydd gwiwerod coch yn cael eu heintio, byddant yn cael nifer fawr o friwiau agored ar y croen, cyn marw mewn poen bythefnos yn ddiweddarach. Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 ac 80% o boblogaeth y wiwer goch yng Ngwynedd yn dilyn achos o’r haint yn 2020/21. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae tua 40 o wiwerod llwyd wedi cael eu dal ar Ynys Môn, ac er gwaethaf pob ymdrech, mae’n amhosibl atal pob gwiwer lwyd rhag dod drosodd i Ynys Môn. Mae angen ateb hirdymor, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Yn 2023 sefydlwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil i frechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag glefyd marwol brech y gwiwerod. Mae’r ddeiseb wedi casglu 11,313 o lofnodion o bob rhan o Gymru a chafodd ei thrafod yn y Senedd ar 27 Medi 2023. Derbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol, yn ogystal ag ymrwymiad Gweinidogion.
Yr unig gamau a gymerwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yw gwahodd cyflenwyr sydd wedi cofrestru ar wefan “GwerthwchiGymru’ i gyflwyno tendrau. Digwyddodd hyn ym mis Gorffennaf 2025, a chan mai am bum wythnos yn unig y cafodd yr hysbyseb ei harddangos ar y wefan, nid yw’n syndod na chafodd yr un tendr ei gyflwyno. Nid yw’r Llywodraeth wedi cymryd unrhyw gamau ers hynny.
Mae Cyngor Môn, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, i gymryd y camau angenrheidiol i gomisiynu sefydliad addas i ymchwilio i’r brechlyn. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Rheoli'r Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2025/26 Cyfwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2025. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2026 -2031 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ‘r Pwyllgor Gwaith ar 27 Ionawr 2026. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/2027 · Cyllideb Refeniw 2026/27
Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.
· Cyllideb Gyfalaf 2026/27
Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.
· Newid i Polisi Dewisol Treth Cyngor
Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.
· Gosod y Dreth Gyngor 2026/27
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swydogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cynnig Cyllideb Amgen yr Wrthblaid
I gyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Cyngor, gwelliant yr wrthblaid i gynigion cyllideb terfynol y Pwyllgor Gwaith yn unol ag adran 4.3.2.2.11 y cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Diwygio’r Cyfansoddiad - Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn Derfynol Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2031 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2026 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmer. Dogfennau ychwanegol: |