Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 758 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2020.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd pob Aelod o’r Cyngor Sir ddiddordeb personol yn Eitem 6. Adroddwyd fod Pwyllgor Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau, a gyfarfu ar 29 Gorffennaf 2020, wedi rhoi caniatâd arbennig i’r holl aelodau er mwyn i bob Aelod fedru ystyried y mater hwn a phleidleisio arno.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·           Y prif ffocws ar gyfer y wlad ac yn lleol yn ystod y misoedd diwethaf oedd delio gyda’r pandemig Covid, ac mae’r dasg hon yn parhau. Mae wedi cael effaith sylweddol ar bawb yn y gymdeithas ac ar ein gwasanaethau. Mae’r Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas a chynnal gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn wedi golygu llawer o waith gyda phartneriaid. Mae gofynion sylweddol wedi bod ar wasanaethau’r Cyngor a bydd nifer o heriau’n parhau yn y dyfodol, fel i bob Cyngor.  Rwyf yn gwybod hefyd fod Covid-19 wedi cael effaith uniongyrchol ar sawl teulu ym Môn ac rydym yn meddwl heddiw am y rhai sydd wedi dioddef ac wedi colli anwyliaid. Diolchodd y Cadeirydd i’r staff am eu gwaith caled a dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi eu hymroddiad i sicrhau fod gwasanaethau’r Cyngor yn parhau.

·           Llongyfarchiadau i ddisgyblion ysgolion uwchradd yr ynys a fu’n llwyddiannus yn eu harholiadau TGAU, lefel A a chyrsiau coleg. Dymunwyd yn dda i’r disgyblion hynny fydd yn cychwyn cyrsiau mewn colegau maes o law.

 

*          *          *          *

Yn ystod mis Ebrill, collwyd Aelod gwerthfawr o’r Cyngor Sir, y Cynghorydd Shaun Redmond. Bu’n Aelod o’r Cyngor ers 2017 a gweithiodd yn galed yn ei ward yng Nghaergybi. Cydymdeimlwyd â Mrs Redmond a’r teulu yn eu profedigaeth.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod gan y diweddar Gynghorydd Shaun Redmond ddaliadau cryf a’i fod bob amser eisiau gwneud ei orau glas dros drigolion ei Ward a phobl Ynys Môn. Mynegodd yr Arweinydd ei chydymdeimlad dwysaf â theulu’r diweddar Gynghorydd Redmond.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bryan Owen ei gydymdeimlad dwysaf â theulu’r diweddar Gynghorydd Shaun Redmond. Dywedodd fod gan y Cynghorydd Redmond ddaliadau cryf ac y byddai bob amser yn mynegi ei farn yn gadarn yn y Cyngor ar ran etholwyr Ward Cybi.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones fod y diweddar Gynghorydd Shaun Redmond wedi gweithio’n galed dros etholwyr Ward Cybi a phobl Caergybi a’i fod wedi sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaethau gorau posib gan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts fod gan y diweddar Gynghorydd Shaun Redmond ddaliadau cryf a’i fod yn gweithio’n galed dros Ward Cybi yng Nghaergybi. Mynegodd ei gydymdeimlad dwysaf â theulu’r diweddar Gynghorydd Shaun Redmond.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o’r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o'u parch a'u

cydymdeimlad.

 

4.

Rhybydd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

·           Cyflwyno - y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

 Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.”

 

·           Cyflwyno - y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

“Mae canol ein trefi yma ar Ynys Môn bellach yn cael eu rhoi o dan straen aruthrol wrth i bobl ddewis siopa ar-lein am eu cynnyrch boed hynny’n ddillad, cyflenwadau bwyd, esgidiau a’r rhan fwyaf o bethau eraill. Mae mwy a mwy o siopau gwag ac mae busnesau mawr ac eiddo busnes yn cael eu troi yn llety hunangynhaliol un ystafell wely. Mae hyn wedi digwydd mewn trefi eraill yng Ngogledd Cymru ac wedi arwain at ddirywiad y trefi cyfan. 

 

Rydw i bellach yn gofyn  am i’n Cynllun Datblygu ar y Cyd gael ei ail edrych arno ac i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr er mwyn iddynt allu prynu’r eiddo hyn a’u troi yn gartrefi o safon a fydd ar gael i deuluoedd ifanc neu’r henoed sy’n dymuno byw mewn eiddo llai, fel dewis amgen i’r datblygiadau un stafell sy’n beryg o ddod yn ‘norm’ yn ein trefi. Fe allai arwain at weledigaeth o ran rôl bresennol trefi a’u rôl ar gyfer y dyfodol ac y bydd adeiladau newydd ac arloesol yn dod yn lle ein siopau Fictorianaidd sydd wedi gweld dyddiau gwell fel y gwelir mewn trefi ledled Gogledd Cymru. Mae twristiaeth ar gynnydd ymhobman ac mae angen i ni elwa o hynny drwy fod yn lle deniadol i ymweld ag ef tra’n gwneud ein Sir yn rhywle y gallwn ni gyd fod yn falch ohoni. 

 

Oes gennym ni’r ewyllys i gymryd hyn ymlaen fel Awdurdod a chymryd y camau cyntaf er mwyn gwneud hyn yn realiti neu a fyddwn yn parhau i bydru ymlaen a gweld ein hamgylchedd trefol yn parhau i ddirywio.

 

DWI’N GOFYN AM AGWEDD AR Y CYD GAN HOLL AWDURDODAU GOGLEDD CYMRU ER MWYN ARCHWILIO BETH SY’N DIGWYDD A GWNEUD RHYWBETH AMDANO.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-

 

“Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

 

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.

 

“ Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.

 

Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.

 

Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.” 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor llawn ym mis Mawrth a gofynnwyd i Swyddogion baratoi Cynllun Gweithredu llawn ar ddisgwyliadau carbon niwtral yn y Cyngor. Fodd bynnag, ni fu modd gweithio ar y strategaeth oherwydd y pandemig Covid-19. Dywedodd ei bod yn cytuno fod angen i’r Cyngor ymrwymo i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.

 

Eiliwyd y Cynnig gan Arweinydd y Cyngor.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, er bod y Cyngor wedi canolbwyntio ar y pandemig Covid-19 yn ystod y misoedd diwethaf, y bydd newid hinsawdd yn argyfwng yn y dyfodol. Mae mwy o CO2 yn yr amgylchedd yn awr nag a fu erioed yn ein hanes. Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Dywydd i’r 10 mlynedd poethaf ym Mhrydain ddigwydd ers 2002 a bod y 5 mlynedd poethaf wedi digwydd ers 2014. Os na reolir lefelau CO2 erbyn 2070, bydd cynnydd o sawl gradd yn y tymheredd a byddai hynny’n cael effaith ar lefelau’r môr, cyflenwadau bwyd, iechyd pobl a bioamrywiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd ac mae angen rhoi cynllun gweithredu cadarn mewn lle.

 

Cynhaliodd y Cadeirydd bleidlais ar y Cynnig ac roedd y mwyafrif o’i blaid.

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

·     Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

“Mae canol ein trefi yma ar Ynys Môn bellach yn cael eu rhoi o dan straen aruthrol wrth i bobl ddewis siopa ar-lein am eu cynnyrch boed hynny’n ddillad, cyflenwadau bwyd, esgidiau a’r rhan fwyaf o bethau eraill. Mae mwy a mwy o siopau gwag ac mae busnesau mawr ac eiddo busnes yn cael eu troi yn llety hunangynhaliol un ystafell wely. Mae hyn wedi digwydd mewn trefi eraill yng Ngogledd Cymru ac wedi arwain at ddirywiad y trefi cyfan.

 

Rydw i bellach yn gofyn am ailedrych ar y Cynllun Datblygu ar y Cyd ac i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddatblygwyr er mwyn iddynt allu prynu’r eiddo hyn a’u troi yn gartrefi o safon a fydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn un ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y derbyniwyd un ddeiseb gan drigolion Porth Llechog, Amlwch a lofnodwyd gan 61 o bobl. Trosglwyddwyd y ddeiseb i Adran Forwrol y Cyngor Sir.

 

6.

Ymestyn y terfyn amser o dan Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro, yn dilyn penderfyniad y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 29 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn dilyn penderfyniad Panel Caniatâd Arbennig y Pwyllgor Safonau ar 29 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Bod y Cyngor yn cytuno, yn unol â llythyr Gweinidog Cymru dyddiedig 3 Ebrill 2020, i dderbyn y pandemig cyfredol, a’r amgylchiadau fel y disgrifir nhw yn yr adroddiad hwn fel rhesymau boddhaol gan bob aelod dros beidio â chydymffurfio â’r ddarpariaeth yn Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

·           Bod y Cyngor yn ymestyn y darpariaethau yn Adran 85 am chwe mis ychwanegol (fel bod gan bob aelod a enwir yn Atodiad A gyfanswm o ddeuddeg mis o’r dyddiad diwethaf yr oeddent yn bresennol mewn cyfarfod perthnasol i gydymffurfio â gofynion presenoldeb statudol);

·           Dylai unrhyw aelod sy’n ystyried eu bod mewn perygl o fethu â mynychu cyfarfod perthnasol o fewn y chwe mis gwreiddiol a’r chwe mis ychwanegol (a roddir dan yr uchod) gysylltu â’r Swyddog Monitro fel y gellir gwneud cais i’r Cyngor llawn am estyniad ychwanegol. Rhaid i’r Cyngor ystyried cais o’r fath cyn i’r chwe mis ychwanegol ddod i ben; felly anogir aelodau i fonitro eu presenoldeb i sicrhau cydymffurfiaeth.

 

7.

Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 913 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 9 Mawrth 2020, y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 11 Mawrth 2020, a’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Mawrth 2020. 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 9 Mawrth 2020, y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 11 Mawrth 2020, a’r Pwyllgor Gwaith ar 23 Mawrth 2020.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y rheol 5 munud yn y protocol yn ormodol a’i fod hefyd yn cael gwared â disgresiwn y Cadeirydd i ganiatáu i bobl siarad. Roedd yn ystyried y dylid caniatáu pobl i siarad mewn cyfarfodydd Sgriwtini er mwyn iddynt gael mynegi eu barn.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ei fod o’r farn bod y protocol siarad cyhoeddus ar gyfer Sgriwtini yn nodi’r broses ar gyfer siarad cyhoeddus yn glir. Nododd y bydd y protocol yn cael ei adolygu ymhen 6 mis.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini ac y dylid diwygio’r Cyfansoddiad i gynnwys y Protocol Siarad Cyhoeddus.

 

Bydd y Protocol Siarad Cyhoeddus yn dod yn weithredol ar ddyddiad i’w benderfynu gan y Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â’r Arweinyddion Grwpiau.

 

Mae’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro wedi ei dirprwyo i gael gwneud unrhyw newidiadau technegol / ymarferol i’r Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini (ond nid yr egwyddorion a’r amserlenni a nodir yn Atodiad 1, sydd angen eu penderfynu gan y Pwyllgor Gwaith).

 

8.

Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Sirol Ynys Môn pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiadd ar 30 Gorffennaf 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 30 Gorffennaf, 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Comisiwn Ffiniau yn amodol ar newid enw arfaethedig Ward Braint i Ward Bodowyr.

 

9.

Datganiad o'r Cyfrifon 2019/20 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno’r Datganiad o’r Cyfrifion ar gyfer 2019/20 fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 1 Medi, 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 1 Medi, 2020.

 

Nodwyd y bydd y Datganiad o’r Cyfrifon ar gyfer 2019/20 yn dychwelyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cyngor llawn ac yn cael ei lofnodi gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 unwaith y bydd y farn archwilio a’r adroddiad wedi eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Terfynol o Gyfrifon Interim ar gyfer 2019/20 ac y byddant yn cael eu llofnodi gan Arweinydd y cyngor a’r Prif Weithredwr.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020 pdf eicon PDF 808 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â paragraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr uchafbwyntiau o ran y cynnydd a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, fel a ganlyn:-

 

·      Mae datblygu unedau busnes yn parhau ar yr ynys. Mae’r unedau newydd yn Llangefni wedi eu llenwi’n barod ac mae nifer helaeth o ymholiadau yn parhau am rai newydd yng Nghaergybi.

·      Cynllun Adfer Gogledd Môn – yn dilyn penderfyniad Rehau i gau’r ffatri yn Amlwch, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gefnogi’r ardal drwy gytuno ar Gynllun Adfer Economaidd Gogledd Môn – derbyniwyd £495,000 gan yr NDA ar gyfer y gwaith hwn;

·      Rhaglen Ynys Ynni – wedi parhau i gefnogi’r Rhaglen Ynys Ynni i gefnogi datblygiadau economaidd wedi eu seilio ar greu ynni;

·      Bid Twf Gogledd Cymru – llofnododd y ddwy Lywodraeth gytundeb ‘Penawdau’r Telerau’ er mwyn symud Bid Twf Gogledd Cymru i’r cam nesaf;

·      Arfor – cynllun grantiau ar gyfer busnesau i ddatblygu a defnyddio’r iaith Gymraeg;

·      Cyflenwi ac adeiladu Tai – daethpwyd â 104 o dai gwag yn ôl i ddefnydd fel aelwydydd. Datblygwyd tai ar 6 safle ar draws yr ynys;

·      Llawr y Dref – cwblhawyd y cynllun adnewyddu;

·      Trac ac Adtrac – mae’r cynllun wedi gweithio’n llwyddiannus â chriw o bobl ifanc;

·      Hamdden – uwchraddio’r ystafell ffitrwydd ym Mhlas Arthur a derbyniwyd grant i ariannu cae 3G bychan ar safle David Hughes, Porthaethwy;

·      Neuadd y Farchnad, Caergybi – agorwyd y Neuadd yn dilyn gwaith atgyweirio sylweddol ar ôl i’r adeilad fod yn wag am flynyddoedd. Mae’r Llyfrgell wedi ymgartrefu yn yr adeilad newydd;

·      Parc Adfer - wedi agor ym mis Rhagfyr, yng Nglannau Dyfrdwy, fel canolfan ailgylchu sy’n gwasanaethu 5 o awdurdodau yng Ngogledd Cymru. Bydd y datblygiad hwn yn cynhyrchu trydan o’r gwastraff;

·      Rhesymoli defnydd ynni’r Cyngor;

·      Cynlluniau Atal Llifogydd - yn Llansadwrn, Pentraeth a Biwmares;

·      Rhieni Maeth – gwelwyd cynnydd yn niferoedd rhieni maeth yn ystod y flwyddyn;

·      Canolfannau Gofal – cabannau gofal plant yn Ysgol Morswyn, Caergybi ac Ysgol Pencarnisiog;

·      Denu Talent – roedd y cynllun yn llwyddiannus unwaith eto eleni gyda 9 o bobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd o dan y cynllun;

·      Cynllunio Lle – mewn cydweithrediad â Medrwn Môn.

·      Ymgysylltu â phobl ifanc – gwahoddwyd ysgolion i ymweld â’r Cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth am wasanaethau’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ymateb yr Awdurdod i’r pandemig Covid-19 a dywedodd ei bod yn dymuno diolch i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ynghyd â holl staff y Cyngor, am eu gwaith wrth warchod pobl fregus yn ein cymunedau a chefnogi’r rhai sydd mewn angen. Dywedodd ei bod yn dymuno diolch am y gwaith partneriaeth gyda sefydliadau trydydd sector i ddarparu cymorth cymunedol i drigolion yr ynys. Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ei fod yn dymuno diolch i’r Arweinydd am ei gwaith mewn perthynas â’r pandemig, gan nodi iddi fynychu cyfarfodydd mewnol dyddiol, cyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywedodd hefyd y bu’r Arweinydd yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru pan gafwyd achosion o Covid-19 yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad Mr John R Jones, Cadeirydd Annibynnol y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019/20 gan Mr John R Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Cyflwynodd Mr Jones grynodeb o gyflawniadau’r Pwyllgor Safonau yn erbyn amcanion y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20, fel y nodir yn yr Atodiad ynghlwm i’r Adroddiad. Roedd yn dymuno diolch i aelodau blaenorol y Pwyllgor Safonau am eu gwasanaeth yn ystod y ddau dymor diwethaf.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·                     Nodi’r rhaglen a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2019 a Mai 2020 yn ATODIAD A.

·                     Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020/21 a amlinellir yn ATODIAD B, gan dderbyn y gall ffactorau megis capasiti’r Cyngor, gan gynnwys capasiti ei swyddogion, gael effaith ar faint o’r gwaith y bydd modd ei wneud.

·                     Cymeradwyo’r Protocol Datrysiad Lleol fel y diwygiwyd ef ac yn unol ag ATODIAD C.

 

12.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad Cadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2019/20 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Cadeiryddion Sgriwtini wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu blaen raglen waith y ddau Bwyllgor Sgriwtini. Nodwyd fod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth drosolwg a sgriwtini yn y Cyngor yn ogystal â gyda phartneriaid yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·                Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2019/20;

·                Nodi’r cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud o ran ein siwrnai ddatblygu Sgriwtini a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;

·                Cymeradwyo i Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol barhau i weithredu fel Pencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai, 2020 a Mai, 2021 yn unol â’r trefniadau cenedlaethol a lleol oherwydd y pandemig presennol.

 

13.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2019/20 pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 1 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2019/20 gan y Cynghorydd Peter Rogers, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2019/20.

 

14.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2019/20 pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 30 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2019/20 gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019/20.