Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Rhithiol wedi ei ffrydio yn fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithredig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

3.

Apwyntio Staff - Penodi Prif Weithredwr

Penderfynu a ddylid cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr, 2021.  

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021 mewn perthynas â phenodi Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021 bod Mr Dylan Williams yn cael ei benodi’n Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.