Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   10 Mawrth 2022

   29 Mawrth 2022 (Arbennig)

   25 Ebrill 2022 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd fel a ganlyn yn gywir:-

 

·           10 Mawrth, 2022

·           29 Mawrth, 2022 (Cyfarfod Arbennig)

·           25 Ebrill, 2022 (Cyfarfod Arbennig)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair yr Aelodau a oedd wedi cael eu hethol am y tro cyntaf i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir.

 

Roedd yn dymuno diolch i’r Gwasanaeth Etholiadol a’r staff a fu’n trefnu’r Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhaliwyd yn ddiweddar.

 

Ychwanegodd fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir a’r gobaith yw y bydd y system hybrid ar waith yn y dyfodol agos, ar ôl cwblhau hyfforddiant a phrofion ar y system yn swyddfeydd y Cyngor.

 

Yn dilyn hynny, gwnaeth yr Is-gadeirydd yn y Gadair y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·      Llongyfarchwyd Mr Rhys Howard Hughes sydd wedi’i benodi i’r swydd Dirprwy Brif Weithredwr.

 

·      Cynhaliwyd Eisteddfod Môn (Bro Esceifiog) yn ddiweddar wedi iddi gael ei chanslo am ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran yn yr Eisteddfod.

 

·      Dymunwyd yn dda i bobl ifanc o’r Ynys fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych yr wythnos nesaf.

 

·      Dymunwyd yn dda i’r holl bobl ifanc fydd yn sefyll arholiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

·      Llongyfarchiadau i Fand Pres Biwmares a oedd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Bandiau Pres Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe yn ddiweddar. Byddant yn cynrychioli Cymru yn awr yn rownd derfynol Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr ym mis Medi.

 

·      Llongyfarchiadau i Mr Wayne Hennessey, cyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Biwmares ac Ysgol David Hughes, a oedd yn gapten ar dîm Cymru yn ddiweddar wrth iddo ennill ei 100fed gap dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Siec yng Nghaerdydd.

 

·      Llongyfarchiadau i holl Aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a fu’n cystadlu yng Nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd yn ddiweddar. Roedd tîm dan 14 Ynys Môn yn fuddugol yn y gystadleuaeth – aelodau’r tîm oedd Twm Môn Huws, Clwb Bodedern, Enlli Pennant a Glwys Morris Williams, Clwb Penmynydd.

 

·      Llongyfarchiadau hefyd i Elliw Haf Griffith, Clwb Dwyran, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth Aelod y Flwyddyn.

 

·      Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn a gyrhaeddodd rownd derfynol Côr Cymru.

 

·      Llongyfarchiadau i Casi Evans o Benysarn, a disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a ddewiswyd yn aelod o Garfan Pêl-droed Dan 16 Cymru a chwaraeodd yn erbyn Denmarc, y Ffindir a’r Swistir dros y Pasg.

 

·      Llongyfarchiadau hefyd i’w brodyr hŷn, Caio a Cian Evans, sydd wedi cynrychioli timau pêl-droed Ysgolion Cymru a Cholegau Cymru (yn y drefn honno) yn ddiweddar, yn ogystal ag aelod arall o’r tîm, sef Josh Stanley Williams o Langefni. Dyma’r tro cyntaf i Dimau Cymru ennill y gystadleuaeth mewn dros 40 mlynedd.

 

·      Roedd yr Is-gadeirydd yn y Gadair yn dymuno diolch yn ddiffuant i’r holl drefnwyr a gwirfoddolwyr a fu’n gyfrifol am drefnu Gig Cymru Wcráin a gynhaliwyd ar y Cae Sioe ym Mona ar 9 Ebrill. Roedd y noddwyr yn cynnwys Cyngor Môn a Chyngor Gwynedd a nifer o fusnesau lleol. Bydd yr holl elw’n mynd tuag at gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ac, ar y nodyn hwnnw, hoffwn gyfeirio at drigolion gofalgar Ynys Môn sydd wedi croesawu teuluoedd o Wcráin  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 414 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2021/22 gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2021/22.

 

7.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2021/22 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Cyflwynodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, a’r Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, drosolwg o’r gwaith a gyflawnwyd gan y ddau bwyllgor sgriwtini rhwng Mai 2021 a Mai 2022. Roedd Cadeiryddion y ddau bwyllgor sgriwtini yn arwain ar ddatblygu’r blaen raglenni gwaith yn ystod y cyfnod hwn.

PENDERFYNWYD :-

·           cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2021/22;

·           nodi’r cynnydd parhaus a wnaethpwyd o ran y siwrnai ddatblygu Sgriwtini leol a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer.