Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor/Rhithiol trwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 444 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref, 2022 fel cofnod cywir. 

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

DERBYN UNRHYW GYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD, ARWEINYDD Y CYNGOR NEU'R PRIF WEITHREDWR

(a) Cynnig diolchiadau i’r cyn gynghorwyr sydd wedi ymddeol o’r Cyngor

Sir cyn etholiadau mis Mai 2022.

 

(b) Cynnig diolchiadau wedi oedi hir i Mr Noel Thomas am ei wasanaeth fel

cyn gynghorydd Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Rhoddwyd cyflwyniad, fel cynnig o ddiolch i’r cyn gynghorwyr sydd wedi ymddeol o’r Cyngor Sir cyn etholiadau mis Mai 2022.

 

John Griffith, Richard Griffiths, Vaughan Hughes, R Meirion Jones, Richard O Jones and Bob Parry OBE FRAgS.

 

  • Rhoddwyd cynnig o ddiolch, wedi oedi hir, i Mr Noel Thomas am ei wasanaeth fel cyn gynghorydd Cyngor Sir.
  •  

Bu i Aelod o bob Grŵp Gwleidyddol roi teyrnged i Mr Thomas a chydnabod y camweinyddiad cyfiawnder yr oedd wedi’i ddioddef am un flwyddyn ar bymtheg cyn iddo lwyddo i glirio ei enw.

 

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

·           Mae prosiect arloesol i gyflenwi banciau bwyd ar Ynys Môn gyda ffrwythau a llysiau ffres wedi ennill gwobr genedlaethol. Mae'r Cyngor Sir wedi arwain ar y prosiect sydd wedi gweld cydweithio gyda Banc Bwyd Môn, Banc Bwyd Amlwch a Bwyd Da Môn, y Wallich, Care Link a Wild Elements.

·           Mae gwaith y Cyngor ar brosiect atal llifogydd Mill Lane - Biwmares - wedi ennill gwobr anrhydeddus ICE Cymru 2022, sef Gwobr Roy Edwards, am fod yr enghraifft orau o brosiect dylunio ac adeiladu eithriadol.

·           Mae’r fenter Cartrefi Clyd wedi ennill Gwobr Plant Mewn Gofal, Gwobrau ‘Children and Young People Now 2022’ a hynny am ei lwyddiant wrth ofalu am blant o fewn cartrefi lle bydd y plant yn cael gofal a magwraeth.    

Mae’r Wobr Plant Mewn Gofal yn cydnabod awdurdod lleol neu ddarparwr gofal sydd wedi gwneud fwyaf i wella canlyniadau ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal boed hynny mewn gofal preswyl, gofal maeth neu leoliadau eraill. 

·           Er bod ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd wedi bod yn un siomedig - roedd hi’n braf iawn gweld dau o hogiau Ynys Môn yn cynrychioli Cymru. Mae’r gôl-geidwad Wayne Hennessey (o Fiwmares) a’i hyfforddwr Tony Roberts (o Gaergybi) wrth gwrs.

 

*          *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd â theulu Mr Geoff Murray, cyn ofalwr Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Gweithiodd Geoff i’r Cyngor rhwng 1991 a 2016 cyn ymddeol.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o’r Cyngor Sir neu Aelod o Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

Bu i Aelodau a Swyddogion sefyll am funud o dawelwch.

4.

RHYBUDD O GYNIGIAD YN UNOL Â RHEOL 4.1.13.1 O'R CYFANSODDIAD

Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Liz Wood, Derek Owen ac Aled Morris Jones:-

 

Gofynnwn i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried yr holl bosibiliadau i wneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc.  Bydd hyn yn ein galluogi i ddathlu diwrnod ein Nawddsant a’n Diwrnod Cenedlaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Liz Wood, Derek Owen ac Aled M Jones :-

 

“Gofynnwn i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried yr holl bosibiliadau i wneud Dydd Gŵyl

Dewi’n ŵyl banc. Bydd hyn yn ein galluogi i ddathlu diwrnod ein Nawddsant a’n

Diwrnod Cenedlaethol.”

 

Bu’r Cynghorydd Aled M Jones, yn absenoldeb y Cynghorydd Liz Wood, ofyn i’r Cyngor Sir roi pwysau ar Lywodraeth y DU am i Ddydd Gŵyl Dewi fod yn wŷl banc er mwyn galluogi dathliad o’n nawddsant.

 

Bu’r Cynghorydd Derek Owen eilio’r cynnig.

 

Bu’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid gynnig gwelliant i’r Rhybudd o Gynigiad sef bod y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf yn cynnig y dylid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn wŷl banc yng Nghymru.

 

Bu Arweinydd y Cyngor eilio’r gwelliant.

 

Cytunodd y Cynghorydd Aled M Jones i dynnu ei Rybudd o Gynigiad yn ôl gan ffafrio’r Rhybudd o Gynigiad gyda’r gwelliant.

 

Cafodd y Gwelliant ei basio.    

 

 

5.

PENODI AELODAU O GYNGHORAU TREF A CHYMUNED I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 143 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro) mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Yn unol â phenderfyniad ar y cyd y cynghorau tref a chymuned, cafodd y cynghorwyr tref a chymuned canlynol eu hethol ar y Pwyllgor Safonau er mwyn iddynt fod yn weithredol ar unwaith:-

 

Cynghorydd Margaret Thomas o Gyngor Tref / Cymuned Llangefni a

Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Tref / Cymuned Bryngwran

 

tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf neu tan na fydd y rhai a benodir yn aelodau cyngor cymuned; pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR AR EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Diolchodd yr Aelodau Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant, i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac i staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, cafwyd nifer o lwyddiannau o fewn y Gwasanaeth. Fodd bynnag fe bwysleisiwyd, oherwydd yr argyfwng costau byw, y bydd mwy o bwysau ar y Gwasanaethau wrth i fwy o bobl fod angen gofal a chefnogaeth.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adroddiad Blynyddol yn adroddiad statudol ac amlygodd y llwyddiannau o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yn benodol at lwyddiant y prosiect Cartrefi Clyd sy’n caniatáu i blant mewn gofal i dderbyn gofal o fewn eu cymunedau lleol. Nododd ymhellach fod cydweithio â’r Bwrdd Iechyd a’r trydydd sector wedi cyfrannu at lwyddiannau o fewn y Gwasanaethau.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod cyfuniad cyllideb y Gwasanaeth Oedolion a Gwasanaethau Plant wedi cynyddi 18% dros y 3 blynedd diwethaf. Holodd am weledigaeth y Gwasanaethau ar gyfer y dyfodol gan fod cynnydd o’r fath yn anghynaladwy.

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion fod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn ael sgyrsiau parhaus er mwyn rhoi mesurau ataliol yn eu lle er mwyn sicrhau bod pobl mor iach â phosibl heb orfod mynd i mewn i’r ysbyty ac angen pecynnau gofal sy’n gallu rhoi straen ar Wasanaethau. 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant hefyd drwy ddweud fod y prosiect Cartrefi Clyd wedi gallu cael ei sefydlu yma yn Ynys Môn o ganlyniad i grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22