Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

  • Croesawodd y Cyngor yr adolygiad cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru adnabod meysydd o gryfder, arferion da a datblygiadau gwasanaeth ac, yn bwysicaf oll, ni chafodd unrhyw feysydd o risg sylweddol na materion diogelu eu hamlygu. Bu’r Cadeirydd longyfarch yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol am dderbyn adroddiad mor gadarnhaol gan yr Archwilwyr.

 

  • Roedd y Cyngor Sir yn dymuno diolch i gwmni Stena Line ar ôl i griw a staff Caergybi roi rhoddion hael i blant lleol. Cyn y Nadolig, cafodd staff Maethu Môn eu cyflwyno â channoedd o deganau ac anrhegion werth dros £2,000.

 

  • Llongyfarchiadau  Aelodau Ffermwyr Ifanc yr Ynys am eu llwyddiant yn Eisteddfod Cymru yn Sir Benfro ym mis Tachwedd. Llongyfarchiadau hefyd iddynt am eu llwyddiant yn Ffair Aeaf, Llanelwedd diwedd Tachwedd ble gwelwyd llwyddiant barnu stoc, dangos stoc a dylunio cerdyn dolig.

 

  • Congratulations to members of the Young Farmers on Anglesey for their success in the Wales Eisteddfod in Pembrokeshire in November.  Congratulations were also extended to the members of the Young Farmers on Anglesey on their success in the Winter Fair in Builth Wells at the end of November.
  • Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfan Sion, Pennaeth Democratiaeth i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

 

*          *          *         *

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad gan 2 Sisters Food Group yn Llangefni a’u bwriad i gau’r safle.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai hyn yn cael effaith sylweddol gyda’r posibilrwydd o golli 730 o swyddi sydd gyfwerth a 22% o’r gyflogaeth sector preifat yn Llangefni. Nododd fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r cwmni ar hyn o bryd ynghyd â gyda Gweinidogion Llywodraethau’r DU a Llywodraeth Cymru a’r Aelod Seneddol ac Aelod y Senedd. Mae trafodaethau hefyd wedi eu cynnal â’r Prif Weinidog, Mark Drakeford er mwyn ystyried sut y gellid cefnogi’r cwmni a sut y gellid delio a’r posibilrwydd o golli swyddi ar yr Ynys. Dywedodd hefyd y bydd Tasglu yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau cydlyniant a chydweithio effeithiol ac er mwyn parhau a’r trafodaethau er mwyn rhoi pwysau ar y cwmni i ddiogelu swyddi’r gweithlu yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni.   

 

*          *          *          *

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â theulu’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery.

 

Bu Arweinydd y Cyngor, cyd Aelodau etholedig sy’n cynrychioli Ward Aethwy ac Aelodau eraill o’r Cyngor dalu teyrngedau i’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery am ei waith fel Aelod Etholedig ac fel Aelod Portffolio’r Gwasanaeth tai ers 2017. Nodwyd fod y Cynghorydd Mummery yn falch o’r gwaith y buodd ei gyflawni gyda’r Adran Dai. Mynegwyd ymhellach mai diddordeb mwyaf y diweddar Gynghorydd Alun Mummery oedd pêl-droed a’i fod wedi bod wrth wraidd llwyddiant Clwb Pêl-droed Llanfairpwll. Cyfeiriodd Aelodau at ei hiwmor, ei wybodaeth a’i gyfeillgarwch a mynegwyd cydymdeimlad dwys â theulu’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o staff y Cyngor a oedd wedi dioddef profedigaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 547 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith 29 Tachwedd, 2022. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid bod angen i’r Cyngor, yn unol â rheoliadau a roddir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu adolygiad rheoli trysorlys blynyddol o wir weithgareddau’r dangosyddion cynghorus a thrysorlys ar gyfer 2021/2022. Yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, mae’r adroddiad wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 21 Medi, 2022 a’i anfon ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb sylw ar 29 Tachwedd, 2022. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith hefyd anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Nodi bod y ffigyrau alldro yn yr adroddiad hwn yn parhau dros dro hyd nes bydd archwiliad o’r Datganiad Cyfrifon 2021/22 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol sy’n deillio o’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn;
  • Nodi’r Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys Dros Dro am 2021/22 yn yr adroddiad hwn.

 

4.

Datganiad o'r Cyfrifon 2020/21 a'r Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Ionawr 2023 -

 

·  Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 –

   Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22.

 

·  Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a ThrawsnewidDatganiad

   Llywodraethu Blynyddol 2021/22.

 

·  Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol

   (Adroddiad ISA 260).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Ionawr, 2023.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Derbyn y Datganiad Cyfrifon 2021/22 ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i arwyddo’r cyfrifon.

 

·           Nodi'r cynnydd o £228k yn y tanwariant yng Nghronfa'r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, oherwydd diwygiadau a wnaed yn ystod y cyfnod archwilio sy'n effeithio ar Gronfa'r Cyngor. Mae hyn yn cynyddu’r tanwariant am y flwyddyn o £4,798k i £5,026k.