Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith.
Gwnaeth y Cynghorydd Dylan Rees (nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatganiad o ddiddordeb personol, ond nid un a oedd yn rhagfarnu, mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda ac fe aeth ymlaen i siarad mewn perthynas ag eitem 10 yn ei gapasiti fel Aelod Lleol. |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 2018 i’w cymeradwyo.
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 2018 fel rhai cywir. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 768 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin 2018 a mis Ionawr 2019, ar gyfer cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel a ganlyn –
Eitemau sy’n Newydd i’r Flaen Raglen Waith
Eitem 17 – Protocol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi’i raglennu i’w ystyried yn ei gyfarfod 16 Gorffennaf, 2018 Eitem 34 – Polisi Gamblo sydd wedi’i raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 26 Tachwedd, 2018.
Eitemau sydd wedi eu hail amserlennu o’u dyddiadau gwreiddiol
Eitem 4 – 2017/18 Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf Chwarter 4 wedi’i ail raglennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mai, 2018 i’w gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018. Eitem 8 – Arolwg AGC o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn – Cynllun Gwella – Cynnydd Chwarterol, wedi’i ail ragflennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mai, 2018 i’w gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018. Eitem 24 – Strategaeth Trawsnewid Addysg a Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn wedi’i hail raglennu o gyfarfod 18 Mehefin, 2018 y Pwyllgor Gwaith i’w gyfarfod ar 17 Medi, 2018.
Adroddodd y Swyddog ymhellach, yn ychwanegol at yr uchod ac ers cyhoeddi’r Blaen Raglen Waith, bod y Gwasanaeth Trawsnewid wedi gofyn bod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol (y Cynllun Gwella) 2018/19 yn cael ei chynnwys yn y Blaen Raglen Waith ar gyfer cyfarfod 18 Mehefin, 2018 y Pwyllgor Gwaith.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Fforwm Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Sgriwtini y mae hi fel Arweinwyr yn cael cyfarfodydd â nhw er mwyn trafod y Blaen Raglen Waith ac awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol pe gellid cyfeirio at y Fforwm hwn o fewn y Rhaglen Waith fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad at y gwaith o lunio’r rhaglen.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Mehefin 2018 i Ionawr 2019 wedi ei diweddaru yn amodol ar y newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Mabwysiadu Pwerau gan y Cyngor a Dirprwyo i Swyddogion PDF 442 KB Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i newid Cyfansoddiad y Cyngor cyn cyflwyno’r newidiadau hynny i’w cymeradwyo’n llawn gan y Cyngor Sir llawn. Roedd y newidiadau i’w gweld yn Atodiad 1 Adran A, deddfwriaeth ychwanegol i’w hychwanegu i’r Cynllun Dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd) ac yn Adran B i ddeddfwriaeth gael ei thynnu o’r Cynllun Dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad bod rhai newidiadau cyfansoddiadol a oedd yn codi o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig neu ddeddfwriaeth a ddiddymwyd yn gallu cael eu dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro heb yr angen i’w cyfeirio at y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y bydd mabwysiadu a dirprwyo’r pwerau yn Adran A o Atodiad 1 yn galluogi’r Cyngor i weithredu amrywiaeth ehangach o ddatrysiadau tra bod tynnu’r ddeddfwriaeth yn Atodiad B yn ymarfer cadw tŷ da. Ar hyn o bryd, mae unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad angen cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn. Gofynnir am i rai newidiadau cyfansoddiadol megis y rhai a nodir yn yr adroddiad, gael eu dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd o bwys gwleidyddol sylweddol a newidiadau o ran dewisiadau lleol yn parhau i fod yn fater i’r Cyngor Llawn ond y bydd deddfwriaeth newydd, ddiwygiedig neu ddeddfwriaeth a ddiddymir yn cael ei dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ac y bydd hyn yn cynnwys ychwanegu neu ddileu cyfeiriad at y deddfwriaethau hynny o restrau pwerau dirprwyedig y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol. Byddai hyn yn cynorthwyo gyda llwyth gwaith y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith/Cyngor Llawn. Gwyddys bod manylion o’r fath yn cael eu cynnwys yng nghyfansoddiadau cynghorau eraill at ddibenion symleiddio prosesau a sicrhau bod newidiadau technegol yn cael eu gweithredu mewn modd sydd mor hwylus a chyflym â phosibl.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn bod –
• Ei fod yn mabwysiadu’r pwerau a restrir yn Adran A o Atodiad 1 yr adroddiad. • Ei fod yn diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i ddirprwyo ymarfer y pwerau a nodir yn Adran A o Atodiad 1 i’r adroddiad, i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd). • Ei fod yn tynnu’r pwerau a restrir yn Adran B o Atodiad 1 i’r adroddiad o’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad sy’n dirprwyo’r pwerau hyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd). • Ei fod yn awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo, ac unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i adlewyrchu mabwysiadu, dirprwyo a dileu’r cyfryw bwerau. • Ei fod yn awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth ( ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a oedd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i recriwtio staff asiantaeth ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer ystyriaeth y panel.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd-destun i’r cais gan mai elfen hanfodol o’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant, a oedd wedi’i ffurfio mewn ymateb i arolwg CIW o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn 2016, oedd y gwaith o recriwtio a chadw staff gwaith cymdeithasol cymwys. Er bod llawer eisoes wedi’i gyflawni fel sydd wedi’i nodi o fewn yr adroddiad, mae’r gwasanaeth yn parhau i fod ar daith o welliant ac fel rhan o’r daith hon mae’r gwasanaeth bellach yn edrych i benodi 7 Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (mae 3 eisoes wedi’u penodi); 2 Weithiwr Cymdeithasol asiantaeth ac Arweinydd Ymarfer er mwyn ffurfio Grŵp Ymarfer i adolygu achosion hanesyddol ynghyd â chapasiti cyfreithiol ychwanegol er mwyn gallu cwrdd â’r gofyn sy’n codi o'r adolygiad hwn o ran yr achosion a allai fynd yn eu blaenau i Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus neu i weithdrefnau gofal.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y plant sy’n dod i ofal wedi dyblu yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y gwaith sydd angen ei wneud er mwyn cefnogi’r lleoliadau hyn. Er bod nifer y plant yng ngofal yr Awdurdod wedi sefydlogi ers hynny mae’n fater o fod yn ymwybodol o’r pwysau parhaus ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r cynnydd hwn ac o ganlyniad y nifer o staff sydd eu hangen er mwyn darparu cymorth priodol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hyn. Cyfeiriodd y Swyddog at y cais a oedd yn cael ei wneud gan ddweud bod tair elfen iddo sef -
• Cadw’r 7 Gweithiwr Cymdeithasol Asiantaeth sydd ar hyn o bryd yn llenwi’r 7 swydd wag o fewn yr adran am gyfnod pellach tan ddiwedd mis Hydref pan fydd 3 Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso (NQSWs) yn gallu ymdopi â’r llwyth achosion (Cost £56,658). • Penodi 7 NQSW i’r Timau Gwaith Maes yn Hydref, 2018 (3 ohonynt sydd eisoes wedi eu penodi fel y nodwyd uchod) ac er mwyn cefnogi’r rhain drwy sefydlu 4 gweithiwr asiantaeth am 12 mis (cost £123,686). Mae’r gwasanaeth yn parhau i hysbysebu am weithwyr cymdeithasol parhaol a chafwyd peth llwyddiant yn y cyd-destun hwn er nad yw’r penodiadau sydd wedi’u gwneud yn niferus. Fodd bynnag, yn ystod y rownd ddiweddaraf hon o recriwtio fe benododd y gwasanaeth 3 myfyriwr Gwaith Cymdeithasol, sydd eisoes wedi’u cyfeirio atynt, a fydd yn cymhwyso ym mis Hydref, 2018 fel NQSW. Roedd pedwar ymgeisydd arall y gellid fod wedi eu penodi yn ystod y broses ond ni fyddant yn gymwys am chwe mis arall. O ystyried yr anawsterau i recriwtio gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru a Lloegr, mae’n annhebygol y bydd y gwasanaeth yn gallu recriwtio digon o weithwyr cymdeithasol er mwyn gallu llenwi’r swyddi gwag presennol. Bydd y gwasanaeth felly’n ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 4 2017/18 PDF 793 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi’r alldro dros dro ar gyfer y Gyllideb Refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn siomedig adrodd mai’r alldro ar gyfer 2017/18 yw gorwariant o £1.762k yn erbyn cyllideb o £126.647 miliwn (1.39% o gyllideb net y Cyngor). Mae hyn er gwaethaf y ffaith i’r Awdurdod gyflawni arbedion o £1.55 miliwn dros yr un cyfnod ac mae felly’n golygu bod £1.77 miliwn wedi'i dynnu o’r Arian wrth gefn Cyffredinol er mwyn cydbwyso’r gyllideb sydd yn ei dro, yn golygu bod lefel yr arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio wedi gostwng yn agos i’r trothwy o £6 miliwn a argymhellir gan y Swyddog Adran 151 ac a gymeradwyir gan y Cyngor. Petai’r gorwariant yn digwydd eto yn 2018/19 yna gallai hynny arwain at ostyngiad pellach yn lefelau arian wrth gefn y Cyngor. Gwelwyd y galw mwyaf sylweddol ar wasanaethau mewn Addysg a Gwasanaethau Plant fel sydd wedi’i adrodd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cynnydd yn y pwysau ar gyllidebau penodol yn y maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion dros y chwarter diwethaf wedi arwain at orwariant uwch yn y Gwasanaethau Oedolion na gafodd ei ragweld ar ddiwedd Chwarter 3. Mae Busnes y Cyngor hefyd wedi gweld gorwariant o £181k ar alldro sy’n well na’r rhagamcaniad ar ddiwedd Chwarter 3 ac sydd i’w briodoli yn bennaf i ffioedd asiantaeth oherwydd cyfnodau mamolaeth ac absenoldebau salwch tymor hir. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod hefyd yn dymuno tynnu sylw at y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn yn Atodiad C ac yn benodol at y gorwariant ar y gyllideb wrth gefn ar gyfer tâl a graddfeydd o ganlyniad i fodloni cytundebau diswyddo gwirfoddol; fodd bynnag, bydd y rhain yn arwain at arbedion tymor hir i’r Cyngor.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r prif feysydd lle mae gorwariant ar ei uchaf yw’r rhai hynny sydd wedi’u hamlygu drwy gydol y flwyddyn. Risgiau eraill sy’n codi yn Chwarter 4, ac a allai barhau yn 2018/19 yw costau digartrefedd cynyddol a'r adran Hamdden sy’n ei chael hi’n anodd cyflawni targedau incwm. I liniaru yn erbyn hynny, mae Cyllid Corfforaethol wedi tanwario £655k ar gyfer y flwyddyn; mae hyn yn cynnwys tanwariant o £258k ar y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a thanwariant o £449k ar gostau cyllid cyfalaf. O ran arian wrth gefn y Cyngor, dywedodd y Swyddog bod y pwynt yn cyrraedd lle bydd angen rhoi ystyriaeth i ddatblygu strategaeth fel rhan o’r MTFP er mwyn cynyddu’r arian wrth gefn yn ôl i’r lefel o £6 miliwn; gan ddibynnu ar faint, os o gwbl, y bydd yr Awdurdod yn gorwario yn 2018/19 a faint o dan y trothwy o £6 miliwn y bydd arian wrth gefn yn gostwng ac o ganlyniad bydd angen ystyried dros ba gyfnod o amser y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Monitro Cyllideb CRT - Chwarter 4 2017/18 PDF 548 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2017 a 31 Mawrth, 2108 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid for y sefyllfa refeniw ar gyfer 2017/8 yn dangos tanwariant o £933k a hynny’n bennaf o ganlyniad i gostau ariannu cyfalaf is. Roedd y gwariant alldro cyfalaf yn £3,607k yn is na’r gyllideb a hynny’n bennaf oherwydd oedi nad oedd modd ei ragweld yn rhaglen datblygu tai'r Cyngor. Mae unrhyw danwariant ar gael i’w wario yn 2018/19. Mae’r Cyfrif Refeniw tai wedi’i glustnodi ac ni ellir trosglwyddo ei arian wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol.
Penderfynwyd –
• Nodi’r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 4 2017/18 a, • Nodi hefyd bod y canlyniadau’n amodol ar y broses archwilio arferol ar ddiwedd y flwyddyn sy’n golygu mai rhai dros dro yw’r ffigyrau ar hyn o bryd. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 143 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw. |
|
Cytundeb Cwrs Golff Llangefni
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â Chwrs Golff Llangefni a’r Llain Ymarfer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd yr adroddiad at y sefyllfa bresennol o ran y trefniadau o redeg a rheoli’r Cwrs Golff; roedd yn crynhoi canlyniad ymarfer gwerthuso opsiynau mewn perthynas â dyfodol y Cwrs Golff ac yn nodi’r argymhellion ar gyfer camau gweithredu.
Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees ar y mater fel Aelod Lleol a siaradodd i’r perwyl bod angen i unrhyw gynlluniau ar gyfer yr ardal ystyried anghenion adfywio tref Llangefni.
Penderfynwyd symud ymlaen yn unol ag argymhellion yr adroddiad. |