Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod arbennig rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith a gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd Richard Dew mewn perthynas ag eitemau 4 a 6 ar y rhaglen a gadawodd y cyfarfod pan ystyriwyd y materion hynny.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu gan y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS mewn perthynas ag eitem 6 ar y rhaglen.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu gan Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys i adrodd arnynt.

3.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Talwrn a Ysgol y Graig) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / mis Mawrth 2020 ar Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r opsiwn a ffefrir sef cynyddu capasiti  Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a dywedodd fod yr adroddiad yn delio â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion fel y mae hi'n berthnasol i Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig a'i fod yn pwyso a mesur dyfodol y ddwy ysgol a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig ar y plant yn y ddwy ysgol. Pwysleisiodd mai buddiannau'r plant ddylai fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Wrth gydnabod y gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol a’i fod ymhlith agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor, dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd a sawl ffactor arall yn ogystal ag effaith Covid. Rhaid i'r Cyngor ystyried o ddifrif sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu  a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Mae strategaethau eraill yr Awdurdod y mae’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn gysylltiedig â hwy yn cynnwys Dogfen Gyflawni 2019/20, y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion fel y’i diwygiwyd a’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith yn 2018 (gyda’r cynnig cyfredol yn ffurfio rhan o Fand B y Strategaeth); Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2015-20; y Strategaeth Ynni; y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd; y Strategaeth Iaith Gymraeg a'r Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliodd swyddogion y Cyngor ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bwysig nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Cyfeiriodd yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / Mawrth 2020 ar Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r dewis rhesymol arall, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae gan mai dyna'r ffordd fwyaf priodol ymlaen o ran y ddwy ysgol.

 

Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn yr eitem hon ac eitem 6 ar y rhaglen, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew ac ni  fu'n  bresennol am weddill y cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a dywedodd fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn yr achos hwn yn cynnwys pwyso a mesur dyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd Talwrn a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig y plant yn y ddwy ysgol y dylai eu buddiannau a’u llesiant fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Ailadroddodd y gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol a’i fod ymhlith agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor, dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn yn llawn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd a sawl ffactor arall yn ogystal ag effaith Covid. Rhaid i'r Cyngor ystyried sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at brif strategaethau a chynlluniau'r Cyngor y mae Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn gysylltiedig â hwy.

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol y cyfnod pandemig.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gyrwyr allweddol ar gyfer newid sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 sy’n cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas at y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 y dylid cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.

6.

Yn amodol ar y penderfyniad ar Eitem 4 item -Ysgol Bodffordd a Corn Hir, i ofyn am awdurdod y Pwyllgor Gwaith i brynu tir ar gyfer datblygiad Ysgol Gynradd Corn Hir newydd yn Llangefni

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â chaffael tir ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir, Llangefni.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Gwaith am y broses aml-adrannol ar gyfer dewis safle a arweiniodd at nodi safle a fyddai'n addas ar gyfer datblygu Ysgol Gynradd Corn Hir newydd yn Llangefni. Cyflwynwyd gwybodaeth amlinellol ynghylch y lleoliad a ffefrir ynghyd â'r telerau  arfaethedig ar gyfer caffael y tir, a rhoddwyd sicrwydd bod y broses wedi'i chynnal yn unol â chyngor ac arweiniad Prif Swyddog Prisio'r Cyngor. Ar ôl nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd a'r rhesymau pam yr ystyriwyd bod yr opsiwn yn well na dull amgen o weithredu, roedd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon mai'r opsiwn fel y'i hargymhellwyd yw'r ffordd orau ymlaen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad ynglŷn â phrynu tir i adeiladu ysgol gynradd newydd.