Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 26ain Tachwedd, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ac fe’u nodwyd.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Gary Pritchard ddatgan diddordeb personol yn unig pan drafodwyd eitem 13 ar yr agenda (Cynllun Strategol Môn Actif).

 

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w hadrodd.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno i’w cadarnhaugofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2024 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith, a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024, fel rhai cywir.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Gorffennaf 2025 i'w gadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ar eitemau a oedd yn newydd i'r Flaen Raglen Waith ynghyd â'r un eitem a aildrefnwyd sef y Cynllun Tuag at Sero Net a oedd i fod i gael ei gyflwyno i'w ystyried ym mis Mawrth 2025 ond sy'n cael ei aildrefnu ar gyfer dyddiad i'w gadarnhau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi'i dynnu o'r Rhaglen Waith gan ei fod yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac wedyn i'r Cyngor Llawn.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith a ddiweddarwyd ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2024 a Gorffennaf 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Cerdyn Sgôr Corfforaethol - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 480 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y cerdyn sgorio yn rhoi darlun o berfformiad y Cyngor yn erbyn yr amcanion strategol a amlinellir yng Nghynllun y Cyngor ar ddiwedd ail chwarter 2024/25.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, a thynnodd sylw at y ffaith fod mwyafrif (85%) y dangosyddion perfformiad gyda thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn targedau a bod ganddynt statws RAG Gwyrdd neu Felyn. Cyfeiriodd at y chwe dangosydd sydd ar hyn o bryd yn Goch neu Oren yn erbyn targedau, roedd y rhain mewn perthynas â meysydd o dan Addysg, Tai, yr Economi, Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyngor Cyfan. Darperir manylion am y camau lliniaru gyda'r nod o wella perfformiad pob un o'r chwe dangosydd yn yr adroddiad. Hefyd yn yr adroddiad ceir enghreifftiau o berfformiad nodedig yn y chwarter mewn perthynas â gwaith cymorth busnes, gofal cymdeithasol a llesiant gyda phob un o’r dangosyddion yn wyrdd yn erbyn targedau, presenoldeb ysgolion yn y sectorau cynradd ac uwchradd, nifer yr eiddo gwag a ddaeth yn ôl i ddefnydd drwy ymyriadau cartrefi gwag a’r gwaith sy’n parhau i drydaneiddio cerbydau fflyd y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 2 2024/25 a ystyriwyd gan y pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2024. Ymhlith y materion a godwyd yn y drafodaeth oedd y rhesymau dros y gostyngiad mewn perfformiad o Chwarter 1 a'r rhagolygon am welliant parhaus erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a gofynnodd yr aelodau am sicrwydd o hyn. Trafodwyd i ba raddau y mae sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gorwariant a ragwelir ar ddiwedd Chwarter 2 yn risg wrth symud ymlaen, yn ogystal â thanberfformiad parhaus y dangosydd Tai (03) (nifer cyfartalog y diwrnodau calendr i osod unedau llety y gellir eu gosod ac eithrio Eiddo Anodd eu Gosod) a oedd wedi bod yn destun adolygiad gan y pwyllgor sgriwtini. Holodd yr Aelodau a oedd heriau recriwtio yn rhwystr i sicrhau gwelliannau a chodwyd cwestiynau hefyd am reoli achosion o wahardd ac atal plant o ysgolion gan gynnwys y cymorth a ddarperir i ddisgyblion sydd wedi'u gwahardd. Ar ôl cael cyngor gan swyddogion ar y materion hyn, roedd y pwyllgor wedi penderfynu argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith ac roedd wedi cytuno ar gamau gweithredu atodol.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith fod y Dangosydd Tai (03) wedi bod yn Goch yn erbyn y targed ers peth amser, ond nododd fod prinder contractwyr, peintwyr yn benodol, yn ffactor sy’n gyfrifol am fethu'r targed a nododd hefyd fod archwiliad manwl y pwyllgor sgriwtini ar y dangosydd a'r targed wedi dod i'r casgliad bod y Cyngor wedi gwneud pob ymdrech i wella'r perfformiad a bod y perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn well na pherfformiad llawer o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 715 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a dangosodd fod y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £504k (0.28%) ar y gyllideb refeniw. Fodd bynnag, gall y sefyllfa newid ac mae'r adroddiad yn nodi'r meysydd lle mae'r pwysau cyllidebol ar eu mwyaf mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant ac oedolion oherwydd y galw cynyddol a chost y ddarpariaeth. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith y gall cost lleoliad gofal cymdeithasol plant fod mor uchel â £500k y flwyddyn yn yr achosion mwyaf cymhleth sy'n dangos y math o bwysau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei reoli a'r angen felly am well cyllid i helpu awdurdodau lleol i ymateb i'r heriau hyn. Er bod y Cyngor wedi bod yn ddarbodus yn y ffordd y mae wedi rheoli ei gyllideb ac wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i sicrhau ei fod yn gosod cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gofynnir i Lywodraeth Cymru gydnabod y baich ar awdurdodau lleol drwy gynyddu'r cyllid sydd ar gael fel y gellir parhau i ddiwallu anghenion allweddol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) y bydd yn rhaid i unrhyw orwariant yn y pen draw ar gyllideb refeniw 2024/25 ddod o gronfeydd wrth gefn y Cyngor a bydd hynny’n golygu y bydd goblygiadau ar gyfer pennu cyllideb 2025/26. Cadarnhaodd fod y dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2024/25 wedi'i gytuno a'i fod yn cael ei gynnwys yn fras gan y gyllideb ond mae cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi ar gyfer pwysau chwyddiant ar gael i ychwanegu at gyllidebau yn ôl yr angen. Yn yr un modd, mae'r dyfarniad cyflog ar gyfer staff addysgu wedi'i setlo ac er y bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r gost ychwanegol yn rhannol drwy grant, mae'r dyraniad i'w gadarnhau o hyd ac mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r Cyngor ariannu'r gost ychwanegol i ysgolion o'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi.  

 

Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at y pwysau cyllidebol ar ofal cymdeithasol plant ac oedolion sy'n dod i gyfanswm o tua £3.4m y bydd yn rhaid mynd i'r afael ag ef yng nghyllideb 2025/26. Mae hyn wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan arbedion yn deillio o swyddi gwag staff a ffigurau incwm cadarn yng ngwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd sydd, ynghyd â chostau is o dan benawdau corfforaethol a’r Dreth Gyngor, wedi dod â'r gorwariant cyffredinol a ragwelir i lawr i £504k. Gallai'r sefyllfa newid yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol a gall tywydd garw a'r galw cynyddol am wasanaethau dros fisoedd y gaeaf arwain at gostau ychwanegol i'r Cyngor. Bydd y sefyllfa'n parhau i gael ei monitro'n ofalus.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer gwelliannau i Lyfryn Ffioedd a Thaliadau 2024/25 i gynnwys ffioedd newydd yn dilyn cyflwyno cynllun trwyddedu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb gyfalaf y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a dangosodd wariant gwirioneddol o £22.781m hyd at ddiwedd 30 Medi 2024, yn erbyn cyllideb gyfalaf o £72.477m gyda £2.84m arall o wariant wedi'i ymrwymo sy'n dod â'r cyfanswm i £25.585m neu 35% o'r gyllideb gyffredinol. Y gwariant a ragwelir hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yw £66.980m sy’n rhoi tanwariant a ragwelir o £5.497m fel llithriad posibl i 2025/26, manylir arno yn nhabl 4.1 yr adroddiad. Bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2025/26 a bydd yn cael ei ystyried wrth baratoi Datganiad Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2025/26.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 at y cynlluniau grant cyfalaf yn y rhaglen gyfalaf ac at ddibyniaeth gynyddol y Cyngor ar gyllid grant i gefnogi gwaith cyfalaf. Cadarnhaodd fod mwyafrif y prosiectau yn mynd rhagddynt a'u bod ar y trywydd iawn i'w cwblhau o fewn y gyllideb a bod lefel y tanwariant wedi lleihau ond dywedodd y gall tywydd garw effeithio ar amserlenni a chyllidebau prosiectau yng nghyfnod y gaeaf Chwarter 3.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith nad arian grant yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ariannu prosiectau oherwydd yr ansicrwydd ynghlwm â grantiau, ond roedd yn cydnabod amser, arbenigedd ac ymdrech Swyddogion i sicrhau'r grantiau ar gyfer yr amrywiaeth o brosiectau a gofnodwyd.

 

Penderfynwyd –

 

·                Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod Chwarter 2.

·                Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.116m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 2, a newidiadau yn y cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.477m ar gyfer 2024/25.

·                Cymeradwyo dwyn ymlaen unrhyw danwariant posib, fel y nodir yn adran 4.2 yn yr adroddiad.

 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 320 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 2 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a dangosodd fod gwarged refeniw y CRT ar ddiwedd Chwarter 2 yn danwariant o £604k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Ar ddiwedd y flwyddyn rhagwelir gorwariant o £424K fel y manylir yn adrannau 5 i 8 yr adroddiad ac yn Atodiad A. Rhagwelir y bydd gwariant cyfalaf £1,023k yn uwch na'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn fel y manylir yn adran 9 yr adroddiad ac yn Atodiadau B ac C. Disgwylir i incwm grant fod yn fwy o £1,612k a disgwylir hefyd £128k ychwanegol mewn derbyniadau cyfalaf. Mae'r diffyg a ragwelir (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) bellach yn £9,823k sydd £293k yn llai na'r gyllideb. Mae'r CRT wedi'i neilltuo a dim ond ar gyfer stoc tai’r Cyngor y gellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn. Ni ellir eu trosglwyddo i'r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol chwaith i ariannu'r CRT.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa’r CRT wedi newid dros amser. Yr egwyddor yw bod gwarged refeniw CRT o incwm rhent yn cael ei ail-fuddsoddi yn y stoc tai presennol ac mae'r gwarged, ynghyd â Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru, wedi bod yn ddigon yn y gorffennol i dalu costau'r buddsoddiad gyda datblygiadau tai newydd yn cael eu hariannu drwy fenthyca. Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd mewn rhent yn unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cymaint â chostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd, gan gynnwys cost deunyddiau, contractwyr a chyflog staff sy'n golygu bod gwarged y CRT wedi gostwng i bwynt lle nad yw'r arian dros ben a'r grant bellach yn ddigon i dalu costau cynnal y stoc a’u cadw mewn cyflwr da yn ogystal â chyflawni disgwyliadau uwch newydd SATC 2023. Er bod cronfeydd wrth gefn y CRT wedi cael eu defnyddio i wneud iawn am y diffyg, bydd yn rhaid adolygu'r sefyllfa yn y tymor hir a mynd ati i gynnal trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru am y polisi rhent a'r disgwyliadau ar gyfer cynnal tai cymdeithasol i'r safon ofynnol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu tai cymdeithasol newydd a rhagwelir y bydd yn gwario £18m ar ddatblygiadau newydd yn 2024/25 fel y gwelir yn Atodiad C yr adroddiad. Fel gyda chynnal a chadw stoc bydd yn rhaid ystyried y dull strategol o ddatblygu stoc yn y dyfodol a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Busnes y CRT a gyflwynir yn y flwyddyn newydd.

 

Tynnwyd sylw yn y Pwyllgor Gwaith at ddatblygu 192 o unedau tai cymdeithasol newydd yn 2024/25 fel y nodir yn Atodiad C sy'n dangos y pwyslais y mae'r Cyngor yn ei roi ar fuddsoddi mewn cartrefi cyngor newydd, ac er bod y Pwyllgor Gwaith yn cytuno ag egwyddor SATC 2023 i geisio sicrhau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2025/26 pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddiben gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn nodi'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26. Rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn, fel awdurdod bilio, gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal ac ar gyfer gwahanol rannau o’i ardal a rhaid rhoi gwybod am y symiau hyn i’r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2024. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth er mwyn gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 15 Tachwedd 2024, ac er mwyn pennu’r dreth (wedi cadarnhad gan y Pwyllgor Gwaith) erbyn 5 Ionawr 2025. Y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2025/26 yw 31,445.15 sy'n gynnydd o 0.65% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys addasiadau am bremiymau a disgowntiau a roddir gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B, ac C (nid yw hyn yn effeithio ar Ynys Môn gan na roddir disgowntiau o’r fath). Cyfanswm y sylfaen dreth a gynigir ar gyfer 2025/26 er mwyn gosod trethi sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,472.17 ac mae'n gynnydd o 0.91% ar y flwyddyn flaenorol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses o gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor er mwyn i Lywodraeth Cymru bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd er mwyn gosod trethi lleol a'r ffactorau dan sylw. Cyfeiriodd at newidiadau yn sylfaen y dreth o'r flwyddyn flaenorol ar gyfer y Dreth Gyngor safonol, eiddo gwag, ac ail gartrefi a sut mae'r rhain yn effeithio ar refeniw treth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.  Bydd y cynnydd yn nifer yr eiddo gwag yn cynyddu incwm premiwm ar eiddo gwag yn ogystal â'r cynnydd yn nifer yr eiddo sy'n gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi er bod y symudiad yn y gronfa dreth o ran yr olaf yn adlewyrchu newid yn nifer yr eiddo ym mhob band yn hytrach na newid yng nghyfanswm nifer yr eiddo. Er bod ffactorau sy'n gallu dylanwadu ar nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, mae'r ffigyrau'n codi cwestiynau am y premiwm ym mhob achos a ph’un ai a yw'r premiwm yn dal i fod yn effeithiol ar y lefelau presennol, i sicrhau’r canlyniad arfaethedig o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o dai mewn cymunedau. Bydd y newidiadau yn y sylfaen dreth yn effeithio ar fan cychwyn y Cyngor ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd -

 

  • Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2025/26, sef 31,445.15 (gweler Atodiad A ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) 2023/24 ar gyfer Cyngor Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y Llythyr yn crynhoi perfformiad y Cyngor mewn perthynas â'r cwynion am wasanaethau a dderbyniwyd a'u canlyniadau yn ystod 2023/24, achosion yn ymwneud ag ymyrraeth gan yr Ombwdsmon a chwynion a wnaed o dan y Cod Ymddygiad i Aelodau.

 

Cyflwynwyd y prif negeseuon yn y Llythyr Blynyddol gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Dangosodd y rheini fod cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion am wasanaethau a wnaed i OGCC er bod na ymchwiliwyd i’r un o’r cwynion. Mae perfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion wedi dirywio a dibynnir fwy ar ymyrraeth gan OGCC. Ystyrir bod materion staffio corfforaethol yn ffactor sylweddol sy'n cyfrannu at y dirywiad hwn wrth ymdrin â chwynio. Mae un o ddwy swydd allweddol yn dal yn wag ac mae'r ail swydd allweddol hefyd wedi dod yn wag ar 24 Tachwedd 2024. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol at y camau penodol a gynlluniwyd ac sydd ar y gweill i wella'r perfformiad a'r broses o ymdrin â chwynion, gan gynnwys cyflwyno system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) newydd. Bwriad llwyfan CRM yw awtomeiddio prosesau a darparu mwy o ddata amser real am berfformiad ar lefel gwasanaeth a pherfformiad corfforaethol a bydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan Benaethiaid Gwasanaeth a'r Tîm Arweinyddiaeth er ei bod yn annhebygol y bydd gan wasanaethau fwy o gapasiti i ymdrin â chwynion.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na chafodd cwynion Cod Ymddygiad am aelodau'r Cyngor Sir nac aelodau Cynghorau Tref a Chymuned eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau na Phanel Dyfarnu Cymru gan OGCC yn 2023/24.

 

Wrth nodi'r cynnydd yn nifer y cwynion am wasanaethau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd nad oedd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'r un ohonynt a bod 9 cwyn (24%) mewn perthynas â sut yr ymdriniwyd â chwynion, gyda'r swydd wag gorfforaethol wedi bod yn ffactor allweddol yn hyn o beth. Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd canlyniadau cwynion a pharhau i ddysgu yn sgil cwynion er mwyn myfyrio ar arferion, a'u gwella, a nododd y penderfyniadau arfaethedig i ysgogi gwelliant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn gweithredu dan bwysau mewn sawl maes ar adeg pan fo'r galw ar gynnydd, yn ogystal â disgwyliadau’r cyhoedd fod y Cyngor yn gallu cyflawni yn unol â hynny tra bod cyllid y Cyngor yn mynd yn llai. Cyfeiriodd at y swydd gorfforaethol wag fel mater allweddol mewn perthynas â pherfformiad y Cyngor wrth ymdrin â chwynion gan fod lefel o arbenigedd ynghlwm â’r swydd sy'n ei gwneud hi'n anodd i berson arall gamu i'r adwy dros dro. Rhagwelir y bydd llenwi'r swydd wag yn barhaol yn arwain at wella perfformiad y Cyngor wrth ymdrin â chwynion.

 

Penderfynwyd –

 

12.

Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaeth Oedolion 2024-2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn cynnwys Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd y Cynllun yn nodi blaenoriaethau Gwasanaeth Oedolion am cyfnod 2024-2029 i gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor 2023-2028.

 

Cyflwynwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion 2024-2029 gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fel un sy'n nodi cyfeiriad cadarn a chlir ar gyfer gwasanaethau oedolion gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn, anableddau dysgu a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r cynllun yn amlinellu camau pendant i ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil y disgwyliadau a’r galw cynyddol, argaeledd staff, adnoddau ariannol cyfyngedig a phoblogaeth sy'n heneiddio ac i foderneiddio elfennau o'r gwasanaeth fel eu bod yn briodol, yn fforddiadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector i ddarparu'r math o gefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. O ystyried yr heriau, mae'r cynllun strategol o reidrwydd yn uchelgeisiol ac yn drawsnewidiol ar gyfer gwasanaethau oedolion ac mae'n ceisio sicrhau bod gwasanaethau i bobl agored i niwed yn cael eu darparu'n effeithiol, yn effeithlon a'u bod o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion nad yw aros yn yr unfan yn opsiwn, a bod yn rhaid i wasanaethau oedolion barhau i ddatblygu er mwyn ymateb i heriau parhaus. Er bod cost darparu gofal yn uchel mae risgiau os na fyddwn yn darparu'r gofal priodol. Nod y strategaeth yw sicrhau'r ddarpariaeth orau ar hyn o bryd yn ogystal â symud y gwasanaeth yn ei flaen yn seiliedig ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd, darparu gwasanaethau'n lleol, pwyslais ar atal a darparu'r cymorth priodol ar yr adeg briodol. Cyfeiriodd at y cyd-destun ac at gynnydd a ragwelir o 70% yn y boblogaeth dros 85+, y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy’n dioddef o ddementia a'r ganran uchel o staff gofal y Cyngor sydd ar eu deng mlynedd olaf o wasanaeth fel rhai o'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Er bod y cynllun strategol yn nodi saith maes blaenoriaeth allweddol, o ystyried y cyfyngiadau ariannol, cydnabyddir efallai na fyddant i gyd yn cael eu cyflawni fel y byddai'r Cyngor yn dymuno ac efallai y bydd yn rhaid blaenoriaethu rhai elfennau o'r cynllun.

 

Gan siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, adroddiad o gyfarfod 20 Tachwedd 2024 y pwyllgor lle trafodwyd Cynllun Moderneiddio Strategol Gwasanaethau Oedolion. Roedd y pwyllgor sgriwtini wedi cydnabod yr angen i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau oedolion er mwyn gwasanaethu dinasyddion Ynys Môn yn well nawr ac yn y dyfodol yn unol ag amcanion Cynllun y Cyngor ac roeddent hefyd wedi nodi'r heriau demograffig, ariannol ac o ran adnoddau a allai effeithio ar allu'r gwasanaeth i weithredu'r cynllun strategol. Roedd y pwyllgor wedi gofyn am sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn gallu cyflawni ei amcanion a'r canlyniadau arfaethedig yn y cynllun. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cynllun Strategol Môn Actif 2024/29 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae Cynllun Strategol Môn Actif yn darparu cyfeiriad clir ac yn nodi meysydd blaenoriaeth allweddol a’r weledigaeth ar gyfer creu cymunedau iach ar Ynys Môn dros y cyfnod pum mlynedd nesaf.

 

Cyflwynwyd Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29 gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol. Y nod yw sicrhau bod gan y Cyngor gynllun cynaliadwy, y gellir ei gyflawni ac sy’n addas i'r diben i ddarparu gwasanaethau i wella iechyd a llesiant trigolion ac ymwelwyr â'r Ynys. Mae'r cynllun yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yng nghyfleusterau hamdden y Cyngor a bydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd am gyllid allanol yn allweddol i'r ymdrech honno.  Mae'r cynllun strategol yn nodi pum maes blaenoriaeth sy'n cysylltu ag egwyddorion ehangach Cynllun y Cyngor 2023-28 ac mae'r rhain yn ymwneud â Chyfranogiad, Iechyd a Llesiant, Datblygu'r Gweithlu, Rheoli Cyfleusterau, Cynaliadwyedd Ariannol a Chydweithio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Neville Evans at amrywiaeth y gweithgareddau hamdden gan Môn Actif ac at gynnydd mewn gweithgareddau yn y gymuned lle mae brand Môn Actif yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Mae rhaglenni gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn arbennig o boblogaidd ac mae lefelau presenoldeb yn dda. Er bod heriau'n parhau ac yn cael eu cydnabod, mae'r cynllun strategol yn nodi'r llwybr i sicrhau bod gwasanaeth Môn Actif yn dal i fod yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y cynllun strategol yn ymestyn y tu hwnt i'r gwasanaeth hamdden yn unig ac y bydd yn arwain at fanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd ehangach gan adeiladu ar ffordd gydweithredol o weithio sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Disgwylir i'w effeithiau gael eu teimlo dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol. 

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i gyflwyno safbwynt y pwyllgor sgriwtini ar Gynllun Strategol Môn Actif o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024. Dywedodd y Cynghorydd Fowlie fod y pwyllgor wedi trafod sut mae'r cynllun strategol yn galluogi'r Cyngor i gyflawni Cynllun y Cyngor 2023-28. Roedd yr Aelodau wedi gofyn am sicrwydd ynghylch y ffynonellau data yn enwedig y data lleol mewn perthynas â gordewdra ymhlith plant a gofynnwyd cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd canolfannau hamdden y Cyngor a'r risgiau a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid wrth weithredu'r cynllun. Roedd y pwyllgor eisiau gwybod sut y gellid cynyddu’r  niferoedd sy'n defnyddio cyfleusterau hamdden y Cyngor a nodwyd bod y DPA cenedlaethol presennol ond yn mesur y defnydd o ganolfannau hamdden ac nad yw'n cynnwys y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau Môn Actif yn y gymuned. Wrth argymell bod Cynllun Strategol Môn Actif yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cytuno ar gamau ychwanegol a oedd yn cynnwys gofyn i'r Arweinydd a'r Aelod Portffolio ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cwmpas y DPA cenedlaethol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Asesiad y Farchnad Dai Leol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.              

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LMHA) 2023-28 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Pwrpas yr LMHA yw darparu dadansoddiad eang o farchnad dai Ynys Môn, gan ystyried gofynion hirdymor tai ar Ynys Môn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a'r asesiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai gan ei fod yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol gynnal Asesiad o'r Farchnad Dai Leol bob pum mlynedd a'i ddiweddaru hanner ffordd drwy’r cyfnod hwnnw. Bydd y sail dystiolaeth yn yr asesiad hefyd yn cael ei defnyddio i lywio strategaeth Dai Ynys Môn a'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hefyd yn llywio blaenoriaethau tai strategol a chynlluno gwasanaethau lleol fel addysg a thrafnidiaeth. Gellir defnyddio'r LHMA hefyd fel adnodd ar gyfer trafod darparu tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu Grant Tai Cymdeithasol (SHG) i helpu i ddarparu tai fforddiadwy. Ar ôl ei chymeradwyo, bydd y ddogfen yn destun ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i gael adborth a sylwadau ac ar ôl hynny bydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Tai drosolwg o'r LHMA yn cadarnhau ei fod wedi'i lunio gan ddefnyddio adnodd gan Lywodraeth Cymru sy'n ei alluogi i gyfrifo ffigurau’r angen am dai a’r galw am dai gan sicrhau bod dull cyson ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Mae'n seiliedig ar amrywiaeth cynhwysfawr o wybodaeth ystadegol ac mae'n cynnwys nifer o amcanestyniadau gan gynnwys rhagdybiaeth y bydd y cyflenwad tai a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu a bydd y rhestr aros ar y gofrestr dai bresennol yn cael ei chlirio. Y gymhareb prisiau incwm/tŷ ar gyfer Ynys Môn yw 7.2 sy'n sylweddol uwch na'r gymhareb ar gyfer Gogledd Cymru a Chymru gyfan sy'n golygu bod dros 60% o'r boblogaeth yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, er bod amrywiadau mewn prisiau ar draws y naw Ardal Farchnad Dai y mae'r Ynys wedi'i rhannu iddynt. Mae'r asesiad yn dangos bod y galw am dai fforddiadwy yn enwedig unedau rhent cymdeithasol un ystafell wely yn parhau i fod yn eithriadol o uchel a gallai nifer o ffactorau ddylanwadu ar hyn gan gynnwys yr angen i sicrhau darpariaeth addas ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol unigol sy'n dymuno symud i dŷ llai o lety maint teulu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth y pwyllgor sgriwtini ar yr LMHA o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd a chyfeiriodd at y materion a godwyd gan y pwyllgor. Roedd y rhain yn cynnwys y risgiau a'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor a'i bartneriaid darparu, y ffyrdd y bydd yr asesiad yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisïau tai wrth lunio'r Cynllun Datblygu Lleol a'r sail ar gyfer dod i'r casgliad bod angen anheddau un ystafell wely. Roedd y pwyllgor wedi nodi bod yr asesiad yn rhoi cipolwg ar y farchnad dai ar hyn o bryd ond nad yw'n cynnig atebion i ddiwallu'r anghenion tai a nodwyd. Roedd yr aelodau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.