Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, 2019 i’w cadarnhau.
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2018 fel rhai cywir yn amodol ar nodi fod y Cynghorydd Richard Dew yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol PDF 271 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cofnodion o gyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol ar 10 Rhagfyr, 2018 i’w mabwysiadu.
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2018. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 773 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror, 2019 i Medi, 2019.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn –
Eitemau newydd i’r Rhaglen Waith -
• Eitem 1 – Ymgynghoriad ar y Strategaeth Doiledau. Mae’r penderfyniad wedi’i ddirprwyo i’r Deilydd Portffolio a’r amserlen ar gyfer ei gyhoeddi yw Ionawr/Chwefror, 2019. • Eitem 7 – Strategaeth Gyfalaf i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019. • Eitem 8 – Cyllideb Gyfalaf, 2019/20 i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019. • Eitem 14 – Newidiadau i’r Cyfansoddiad (Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini) i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019. • Eitem 23 – Polisi Taliadau Tai Dewisol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 24 – Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 25 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 26 – Panel Comisiynu Cefnogi Pobl i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 27 – Moderneiddio Ysgolion (Adroddiad ar wrthwynebiadau i adnewyddu ac ehangu Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 28 – Moderneiddio Ysgolion (Adroddiad ar wrthwynebiadau i ehangu Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 37 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol 2019/20 Chwarter 1 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2019. • Eitem 38 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2019/20, Chwarter 1 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2019.
Newidiadau ers cyhoeddi’r agenda a’r adroddiad uchod –
• Eitem 17 – Polisi Cludiant Ysgolion, wedi’i ail-raglennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019 i’w gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019. • Eitem 22 – Darpariaeth Hamdden ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – Cais gan y gwasanaeth i ail-raglennu’r eitem o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Mawrth, 2019 i gyfarfod diweddarach ar ddyddiad i’w gadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi, 2019 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn crynhoi canlyniad ail-arolwg AGC o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref, 2018. Cyflwynwyd hefyd gopi o adroddiad ail arolwg AGC.
Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod adroddiad AGC yn dilyn ei ail arolwg o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn y Cyngor yn adroddiad cadarnhaol sy’n cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed gan Wasanaethau Plant Ynys Môn mewn nifer o feysydd allweddol ers yr arolwg gwreiddiol ym mis Tachwedd, 2016. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn adnabod meysydd i’w datblygu ymhellach – dyma’r meysydd y bydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn canolbwyntio arnynt a byddant wedi eu hamlygu yn y Cynllun Gwasanaeth newydd a fydd yn mynd â’r gwasanaeth yn ei flaen. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Gwasanaethau Plant yn gydran hanfodol o ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol, ac yn Ynys Môn fel mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, mae’r Gwasanaethau Plant yn wynebu nifer o heriau; roedd Arweinwyr y Cyngor yn cydnabod hyn ac mewn cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roeddent wedi rhannu eu pryderon am ddyfodol y Gwasanaethau Plant a’r pwysau ariannol sydd ar gyllidebau’r Cyngor wrth orfod cwrdd â’r galw sy’n tyfu yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r gwelliannau y mae Gwasanaethau Plant Ynys Môn wedi eu cyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i Aelodau a Swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r bwriad y dylai’r gwelliannau hyn hefyd yn arwain at ganlyniadau gwell i blant a’u teuluoedd. Mae angen i effeithiau positif gwasanaeth sy’n perfformio’n dda gael eu hadlewyrchu o fewn cymunedau ac ym mywydau plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd. Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Dros Dro ar y Gwasanaethau Plant am roi’r Cynllun Gwella Gwasanaeth cychwynnol at ei gilydd ar ôl yr arolwg yn 2016, i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am fynd â’r Cynllun yn ei flaen ac i’r Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol am eu harweiniad a’u cefnogaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ddiolchgar i AGC am eu gwaith arolygu yn 2016 a 2018 ac am eu cyfraniad at welliant y Gwasanaeth trwy roi anogaeth a chefnogaeth iddo, gan sicrhau bod y Gwasanaeth wedi aros ar y trywydd iawn trwy gydol y broses wella dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Pwysleisiodd y Swyddog fod yna dal waith i’w wneud, a bod gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn broses barhaus. Mae’r meysydd i’w datblygu a nodwyd gan AGC yn rhai y mae’r Gwasanaeth yn cytuno efo nhw ac wedi eu hadnabod, a theimlir bod y Gwasanaeth yn fwy ymwybodol ohono’i hun ac yn gwybod lle y mae, a lle y dymuna fod. Mae’r tabl yn yr adroddiad sy’n dangos safle’r Gwasanaeth ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn - Rheoli Trysorlys PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori adolygiad o’r sefyllfa a gweithgarwch Rheoli Trysorlys hanner ffordd trwy flwyddyn ariannol 2018/19.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad adolygiad canol-blwyddyn ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi cael ei baratoi yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys; bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn o dan delerau Cyfansoddiad y Cyngor.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant wedi ystyried a derbyn yr adroddiad heb unrhyw sylwadau ychwanegol. Gellir crynhoi’r prif bwyntiau fel a ganlyn –
• Roedd y Cyngor yn dal gwerth £6.089m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 a cheir manylion amdanynt yn Atodiad 4 yr adroddiad. Mae’r perfformiad am y flwyddyn hyd yma o ran yr arian a ddychwelwyd ar fuddsoddiadau sef £0.023m yn uwch na’r swm o £0.017m a gynhwyswyd yn y gyllideb, a’r rheswm am hyn oedd y cynnydd yn y gyfradd banc o 0.5% i 0.75% yn Awst, 2018. • Mae’r gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) a ragamcannir ar gyfer 2018/19 yn £142m. Mae hyn yn pennu angen gwaelodol y Cyngor i fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf a chaiff ei gyllido trwy fenthyca allanol - £125.6m a hefyd fenthyca mewnol - £16.4m sy’n dod o falensau arian parod y Cyngor. Ym mis Ionawr, 2019 fe wnaeth benthyciad gan y PWLB (£5m) aeddfedu ac fe’i talwyd yn ôl ynghyd â benthyciad gan Gyngor Sir Gogledd Swydd Efrog (hefyd yn £5m); rhoddodd hyn gyfle i ailstrwythuro benthyciadau’r Cyngor a arweiniodd at fenthyciad o £15m ac roedd hynny’n cynnwys £5m i dalu’n ôl i PWLB; £5m i dalu’n ôl i Gyngor Sir Gogledd Swydd Efrog a £5m i ail-gydbwyso’r gyfran o fenthyca mewnol o gymharu â benthyca allanol er mwyn cynyddu balansau arian parod y Cyngor. • Mae’r Cyngor yn gosod Dangosyddion Darbodus fel rhan o’i Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod; caiff y rhain eu dylunio i reoli benthyca’r Cyngor gan sicrhau nad yw’n benthyca ar lefel sy’n anghynaladwy yn y tymor hir. Cyfeirir at y dangosyddion yn rhan 7 yr adroddiad. Ni ragwelir y ceir unrhyw anhawster cydymffurfio gyda’r dangosyddion yn y flwyddyn gyfredol. Mae Tabl 7.5.1 yr adroddiad yn dangos y balans rhwng benthyca allanol a mewnol gyda chyfanswm y benthyca mewnol wedi cael ei adolygu i lawr o’r amcangyfrif gwreiddiol o £27.467m i £16.409m o ganlyniad ostyngiad yn y gwariant cyfalaf a’r ailstrwythuro y cyfeiriwyd ato’n flaenorol.
Penderfynwyd cymeradwyo adroddiad adolygu canol blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2018/19 a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.
|
|
Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid PDF 7 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Leol Cyfranogiad Tenantiaid am y cyfnod 2018-23 er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Landlordiaid Cymdeithasol gytuno ar a chyhoeddi Strategaeth Gyfranogiad ar gyfer Gwasanaethau Tai. Drwy ddarparu strategaeth sy’n cynnig amrediad o ffyrdd o gymryd rhan, gall denantiaid ddewis sut a phryd y maent yn dymuno cyfranogi. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cymeradwyo Cyfranogiad Tenantiaid fel strategaeth o bwys.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) bod cyfranogiad Tenantiaid yn cael ei ystyried fel rhywbeth pwysig gan y Gwasanaeth Tai. Mae’r Gwasanaeth yn defnyddio amrediad o ddulliau i ymgysylltu gyda thenantiaid ar wahanol lefelau. Dywedodd y Swyddog y gwnaed cynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tuag at sicrhau cyfranogiad tenantiaid bywiog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol. |