Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod rhai aelodau o'r Pwyllgor Gwaith wedi ceisio ei chyngor mewn perthynas â datgan diddordebau sy'n codi yng nghyd-destun eitem 13 ar yr agenda - y Strategaeth Ariannol ar gyfer y Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2019/20. Roedd hi wedi cynghori bod y diddordebau sydd i'w datgan yn rhai personol yn hytrach na’n rhai sy’n rhagfarnu a bod gan yr Aelodau dan sylw yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem a phleidleisio arni.

 

Yna, datganodd yr aelodau canlynol ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 13 ar yr agenda -

 

Y Cynghorwyr Richard Dew, R. Meirion Jones a Robin Williams mewn perthynas â Phremiwm y Dreth Gyngor.

Y Cynghorwyr Llinos Medi Huws a Carwyn Jones mewn perthynas â phris prydau ysgol.

Datganodd y Cynghorydd Carwyn Jones ddiddordeb personol hefyd mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen.

Datganodd y Prif Weithredwr ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 8 ar yr agenda.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 252 KB

I gyflwyno ar gyfer eu cadarnhau, cofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2019 er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2019 fel rhai cywir.

 

4.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3. 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ragamcanedig gyffredinol ar gyfer 2018/19 yn un o orwariant amcangyfrifedig o £ 1.589m, sy'n welliant sylweddol o gymharu â’r gorwariant o £ 2.66m a ragwelwyd yn Chwarter 2. Fodd bynnag, rhaid nodi, er bod y gorwariant ar wasanaethau hefyd wedi lleihau, rhagwelir y bydd gorwariant o £ 2.972m (2.61%) ar 31 Mawrth, 2019. Os yw'r tueddiad hwn yn parhau yn unol â rhagolygon Chwarter 3, mae Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol y Cyngor yn debygol o ostwng i £ 4.720m erbyn diwedd y flwyddyn, sydd ymhell islaw isafswm balans y gronfa wrth gefn gyffredinol sydd wedi'i osod ar £ 6.5m fel y'i cymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 28 Chwefror, 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa ariannol yn well yn Chwarter 3 yn bennaf oherwydd y canlynol -

 

           Mae data Chwarter 3 yn adlewyrchu cyfran uwch o wariant a gofnodwyd yn wirioneddol ac o ganlyniad, mae wedi'i seilio i raddau llai ar amcangyfrifon, sy’n golygu bod y ffigwr yn fwy cywir.

           Ym mis Tachwedd, 2018, anfonwyd nodyn briffio i Benaethiaid Gwasanaethau ar awdurdod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu hysbysu am yr angen i wneud arbedion. Roedd y nodyn hwn yn awgrymu nifer o fesurau yr oedd eu hangen i leihau gwariant / cynyddu incwm erbyn diwedd y flwyddyn e.e. gohirio recriwtio i swyddi gweigion, cyfyngu goramser a chyflwyno cynnydd mewn ffioedd yn gynharach. Mae'n ganmoladwy bod yr awgrymiadau hyn wedi'u gwneud a bod Penaethiaid Gwasanaeth wedi gweithredu ar y cyngor o ran y gwariant a oedd o fewn eu rheolaeth.

           Tanwariant mewn Cyllid Corfforaethol, yn benodol ar gostau cyllido cyfalaf – y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a chostau llog - sydd wedi helpu i leihau'r ffigwr gan oddeutu £ 500k.

 

Dywedodd y Swyddog, er gwaethaf y ffaith bod y gorwariant a ragamcenir yn welliant o gymharu â Chwarter 2, ni ddylid anghofio bod gorwariant o £3.5m yn debygol mewn perthynas â thri phrif wasanaeth y Cyngor - Addysg, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion. Mae'r arbedion ar Gyllid Corfforaethol yn ddigwyddiad annisgwyl unwaith ac am byth ac mae'n annhebygol y byddant ar gael yn 2020/21; felly mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, cost y gwasanaethau ac i reoli'r galw am wasanaethau. Er y gellir ariannu'r lefel hon o orwariant o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2018/19, bydd yn lleihau'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ffigwr sydd yn is o lawer na’r isafswm a dderbynnir yn gyffredinol ac sy’n destun pryder, yn enwedig os bydd y patrwm o orwario yn parhau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2018/19 pdf eicon PDF 634 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer trydydd chwarter 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai cyfanswm y gwariant ar ddiwedd Chwarter 3 yw £19,043m yn erbyn Cyllideb Gyfalaf o £ 61.920m ar gyfer 2018/19. Rhagwelir tanwariant o £ 29.644m ar Raglen Gyfalaf 2018/19 gyda’r posibilrwydd y bydd yn llithro i Raglen Gyfalaf 2019/20 .Bydd yr arian ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2019/20. Er bod y mwyafrif o’r prosiectau ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau o fewn y gyllideb mae yna 4 prif brosiect y disgwylir iddynt danwario’n sylweddol yn 2018/19. Nodir y rhain yn yr adroddiad. Fodd bynnag, ni ragwelir y bydd unrhyw arian yn cael ei golli oherwydd yr oedi.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw ddatblygiadau sylweddol i’w hadrodd o ran gweithgarwch yn ymwneud â’r gyllideb gyfalaf ers Chwarter 2. Nid yw rhai cynlluniau wedi datblygu cystal â'r disgwyl ac nid yw eraill wedi cychwyn o gwbl oherwydd ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Efallai na fydd y gwelliannau i'r A5025, sef un o'r pedwar prif brosiect nad ydynt wedi dechrau eto yn cychwyn o gwbl, gan fod yr holl waith ar y prosiect wedi’i ohirio ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Swyddog hefyd y bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i sicrhau na chaiff unrhyw arian grant ei golli drwy sicrhau bod gwariant digonol yn digwydd erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Penderfynwyd nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn Cyllideb Gyfalaf 2018/19 yn Chwarter 3.

6.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2018/19 pdf eicon PDF 592 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi'r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer trydydd chwarter 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod sefyllfa ariannol refeniw yr HRA yn Chwarter 3 yn dangos tanwariant o £ 110k. Mae’r gwariant cyfalaf £ 4.1m yn is na’r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwarged a ragamcenir (sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf) £ 7.9m yn well na'r gyllideb a hynny’n bennaf oherwydd bod gwariant cyfalaf wedi bod yn is na’r swm y cyllidebwyd ar ei gyfer. Mae'r CRT wedi'i neilltuo i bwrpas penodol ac ni ellir trosglwyddo ei arian wrth gefn i'r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol, sy'n golygu na ellir ei ddefnyddio i unrhyw bwrpas nad yw’n gysylltiedig â stoc dai'r Cyngor.

 

Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 bod balans y gronfa wrth gefn HRA wedi'i glustnodi ar gyfer ei fuddsoddi mewn tai newydd a gaiff ei amlinellu yn y Cynllun Busnes CRT 30 mlynedd a gyflwynir i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth, 2019. 

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

          Y sefyllfa a amlinellir yng nghyswllt perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3, 2018/19.

           Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2018/19.

 

7.

Polisi Cymorth Dewisol tuag at Dreth Busnes pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymestyn y Fframwaith Rhyddhad Dewisol tuag at Drethi Busnes i Elusennau a Sefydliadau nad ydynt yn Gwneud Elw i 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod eiddo annomestig (ar wahân i rai eithriadau, megis amaethyddiaeth, addoldai, eiddo a ddefnyddir gan yr anabl ac ati) yn atebol i dalu trethi annomestig. Yr enw cyffredin ar y rhain yw cyfraddau busnes er nad yw pob trethdalwr yn fusnesau yn yr ystyr cyffredin. Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru roi rhyddhad trethi mandadol i elusennau yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (DCLlL88), fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae'r adroddiad yn nodi trefniadau fframwaith arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y Pwyllgor Gwaith, ar 19 Chwefror, 2018 wedi ymestyn ei Fframwaith Rhyddhad Dewisol tuag at Drethi Busnes ar gyfer Elusennau a Sefydliadau nad ydynt yn Gwneud Elw, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ar y fframwaith yn ystod hanner cyntaf 2018/19 gyda fframwaith diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2019. Er bod y ddogfen ymgynghori wedi'i chymeradwyo, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad gan fod y Gwasanaeth yn ymwybodol o gyhoeddiadau arwyddocaol posibl naill ai gan weinyddiaeth San Steffan neu weinyddiaeth ddatganoledig Caerdydd mewn perthynas â rhyddhad trethi pellach o bosib i fusnesau. Gallai cyhoeddiadau o'r fath fod wedi cael effaith ar yr ymgynghoriad y bwriadwyd ei gynnal. Dywedodd y Swyddog y manylir ar sylwedd y cyhoeddiadau a wnaed mewn gwirionedd yn 2018/19 yn yr adroddiad; mae'r ddogfen ymgynghori mewn perthynas â fframwaith rhyddhad dewisol tuag at drethi busnes y Cyngor wedi cael ei diwygio i gymryd i ystyriaeth y newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, 2018. Gan fod posibilrwydd o oblygiadau cyllidebol i ymgynghoriad o'r fath ac oherwydd na chafodd y setliad ariannol terfynol ar gyfer 2019/20 ei dderbyn tan 19 Rhagfyr, 2018 a oedd yn cynnwys cymorth ychwanegol o £ 2.4m (heb ei neilltuo) i fusnesau bach yn genedlaethol yng Nghymru, nid yw’r amserlen yn caniatáu digon o amser i ymgynghori ac i ddiwygio’r fframwaith , gyda chostau posibl i'w trafod a'u hadlewyrchu yn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2019/20. O ganlyniad, argymhellir mabwysiadu'r polisi presennol am flwyddyn arall a chynnal yr ymgynghoriad yn hanner cyntaf 2019/20 sy’n caniatáu digon o amser i ymateb ac ystyried unrhyw oblygiadau cyllidebol, os o gwbl, cyn i'r fframwaith newydd gael ei weithredu o 1 Ebrill, 2020.

 

Wrth nodi'r adroddiad, nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd bod angen diwygio'r cyfraddau busnes yn eu cyfanrwydd ar sail genedlaethol oherwydd eu bod, ar eu lefelau presennol, yn cael effaith andwyol ar fusnesau’r stryd fawr. Mae angen mynd i'r afael hefyd â'r anghysondeb rhwng y cyfraddau a delir gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ffioedd a Thaliadau Gwasanaethau Di-breswyl 2019/20 pdf eicon PDF 609 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y ffioedd a’r taliadau y bwriedir eu codi am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr arferir adolygu'r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref yn flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae'r adroddiad yn nodi’r ffioedd a’r taliadau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned y bwriedir eu codi yn 2019/20 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r ffioedd Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

           Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl 4 yr adroddiad.

 

Haen 1 bydd pawb yn talu £46.60

Haen 2 a 3 bydd pawb yn talu £92.93

 

           Cymeradwyo’r ffioedd Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl 5 yr adroddiad.

 

Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £110.80

Gwasanaethau yn unig £71.60

Costau gosod unwaith ac am byth £44.30

 

           Cymeradwyo cyfradd o £11.30/awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

 

           Cadw’r ffi o £10 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodyn Glas ac i ddarparu bathodynnau newydd yn lle rhai a gollwyd/a gafodd eu dwyn.

 

           Cynyddu’r ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol o 3% i £33.18

 

           Cymeradwyo cynnydd yn y ffioedd a delir am ofal cartref a gaiff ei gomisiynu ar gyfer pecynnau Gofal Anabledd Dysgu, sef talu £15.91 am dros awr o wasanaethau, a thalu £16.86 am wasanaethau o dan awr.

9.

Y Ffi Safonol ar gyfer Cartrefi Gofal y Cyngor 2019/20 pdf eicon PDF 391 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod lefel Tâl Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn rhwng Ebrill, 2019 a Mawrth, 2020.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a'r argymhellion ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y cynigion yn golygu cynnydd o 3% yn y tâl safonol (sef y ffi y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny sydd â'r modd ariannol i dalu cost lawn eu gofal preswyl) yn unol â'r canllawiau ar gyfer cynyddu ffioedd a thaliadau a bennir gan Aelodau ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean y cymhorthdal a roddir i’r sawl sy’n ariannu eu gofal eu hunain, gan leihau'r bwlch rhwng cost y ddarpariaeth a’r hyn y mae’r sawl sy’n ariannu eu gofal eu hunain yn ei dalu. Dywedodd y Swyddog y rhoddwyd ystyriaeth i gynyddu'r tâl i gost lawn y ddarpariaeth, ond gwrthodwyd hynny ar y sail y byddai hyn yn golygu cynnydd sylweddol ac anghymesur i breswylwyr o’r tâl safonol o £ 601.82 yr wythnos yn 2018/19 i £ 752.58.

 

Penderfynwyd –

 

           Tra bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw’r gwir gost o ddarparu’r gofal wedi ei adlewyrchu yn y ffi a godir ar drigolion.

           Yn unol â’r cynnig arbedion a wnaed, tynnu’r cymhorthdal a roddir i rai sy’n ariannu ei hunain dros y tair blynedd nesaf, bod y cynnydd ar gyfer y rheini sy’n cyfrannu tuag at gost eu gofal yn cael ei osod ar 3%, ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean o’r cymhorthdal a roddir i’r rhai sy’n hunan-ariannu.

           Bod y ffi ar gyfer 2019/20 felly yn cael ei osod ar £601.82 +3% + (⅓ x £132.70) = £664.11.

 

 

 

10.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2019/20 pdf eicon PDF 933 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ffioedd arfaethedig ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol am 2019/20.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod gofyn i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol bob blwyddyn i gyd-fynd â’r newidiadau y mae’r Llywodraeth Ganolog yn eu gwneud i fudd-daliadau a lefelau pensiwn. Wrth osod lefelau ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, mae angen i'r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried yn llawn gostau'r ddarpariaeth wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd trwy ddefnyddio Methodoleg Ffi Rhanbarthol fel y gwnaed yn y blynyddoedd blaenorol.  Bwriedir parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2019/20 sydd wedi adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol o ran pensiynau, cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Fel rhan o’r broses o osod ffioedd ar gyfer 2018/19, ymgynghorodd Ynys Môn ar y ffioedd a gynigiwyd gan y fethodoleg ar gyfer 2018 ac a grynhoir yn Atodiad 2 yr adroddiad. Yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddog Adran 151, mae'r Awdurdod yn bwriadu defnyddio'r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl EMI; a’r elfen Gofal Nyrsio Sylfaenol mewn Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn argymell cynnydd o 12% yn y dychweliad ar fuddsoddiad ar leoliadau Nyrsio EMI i gydnabod y pwysau yn y maes hwn. Yn gyson â'r cyfeiriad strategol y mae'r Cyngor ei gymryd o ran datblygu dewisiadau amgen i ofal preswyl ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal cartref, a chan roi ystyriaeth briodol i fforddiadwyedd y cynnydd a gynigir ar gyfer cartrefi gofal preswyl, bwriedir gosod cyfradd ar gyfer gofal preswyl i oedolion sy’n seiliedig ar ddychweliad buddsoddiad is o 9%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaethau  Oedolion y bydd angen efallai ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd arfaethedig. Bydd eithriadau i'r cyfraddau ffioedd yn cael eu hystyried os oes tystiolaeth glir i nodi nad yw'r ffi a osodir yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol.

 

Penderfynwyd

 

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr awdurdodau yng ngogledd Cymru fel y sail ar gyfer gosod ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2019/20 (Atodiad 2 yr adroddiad).

           Cymeradwyo’r cynnydd yn y lefelau ffioedd fel y nodir yn Nhabl 2 yr adroddiad.

           Yn yr un modd ag awdurdodau eraill, awdurdodi’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Bydd rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion o’r cyllidebau cyfredol. Os na fydd modd dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith. 

  

11.

Rhenti Tai a Ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Tai 2019/20 pdf eicon PDF 390 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Tai. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo cynnydd mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig Rhagfyr, 2018 yn cadarnhau ei fod wedi cytuno i gynnal Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2019/20 yn unig hyd nes y bydd canlyniad yr Adolygiad Cyflenwad Tai Fforddiadwy yn hysbys. Mae'r adolygiad yn ystyried yr angen i gyflwyno polisi rhent diwygiedig sy'n rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac yn cydbwyso’r angen am  ddatblygiad parhaus gyda fforddiadwyedd i denantiaid. Disgwylir y bydd y Panel yn adrodd ei ganfyddiadau ym mis Ebrill, 2019.

 

 Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent yn unol â tharged rhent Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasglu dros 52 wythnos.

           Cymeradwyo cynnydd o 2.4% yn yr holl renti sydd rhwng £0.01 - £4.19 yn is na’r targed ynghyd â swm o hyd at uchafswm o £2.00 yr wythnos er mwyn cyrraedd y rhent targed.

           Cymeradwyo cynnydd o 2.4% yn yr holl renti sydd rhwng £3.58 - £4.66 yn is na’r targed a hefyd £2.00 ychwanegol yr wythnos.

           Bod y rhent ar gyfer yr 14 eiddo sydd â rhent uwch na’r lefel targed yn aros fel y mae.

           Cynyddu rhenti’r holl garejys 20c yr wythnos.

           Cymeradwyo’r taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 3.3 yr adroddiad ar gyfer yr holl denantiaid sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

12.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 906 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai pwrpas yr adroddiad yw nodi asesiad y Swyddog Adran 151 ar lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20 ac i wneud argymhellion ynghylch dyrannu balansau cyffredinol i'w defnyddio yn ystod 2019/20. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn briodol yn y cyd-destun hwn i gyfeirio eto at Lythyr Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2017/18. Mae'r Llythyr yn amlygu sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor ac yn nodi’r duedd ddiweddar o ostyngiad ym malansau cronfa gyffredinol y Cyngor sydd, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol yn anghynaladwy ac sydd wedi ei nodi yn y llythyr fel rhywbeth y mae’r Swyddog Adran 151 a’r Cyngor wedi ei gydnabod fel risg. Mae’r Archiwlydd Cyffredinol yn cynghori bod "ystyriaeth barhaus o falansau wrth gefn wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi cynlluniau ariannol yn arbennig o bwysig oherwydd nid yw’n gynaliadwy dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi costau parhaus y Gwasanaethau Gofal / Gwasanaethau Plant sy’n cael eu harwain gan alw. Unwaith y bydd y cronfeydd wrth gefn wedi lleihau, rhaid canfod  ffynonellau ariannol eraill neu wneud arbedion effeithlonrwydd." Aiff yr Archwilydd Cyffredinol yn ei flaen i ddweud bod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i geisio cydbwyso'r gyllideb refeniw yn 2019/20 heb ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a gwneud arbedion digonol a sicrhau eu bod yn gyraeddadwy, yn benderfyniad i’w groesawu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fod balans cronfa gyffredinol y Cyngor, ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a balansau ysgolion oddeutu £ 27m neu 22% o gyllideb net y Cyngor ar ddiwedd 2015/16; erbyn diwedd 2018/19, rhagwelir y byddant yn lleihau i £ 15m neu 12% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd y Swyddog fod cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn y bydd angen gwario ar unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu ddigwyddiadau heb eu cynllunio; tynnwyd ar y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2017/18 i helpu i gwrdd â gorwariant ar y gyllideb refeniw; mae'n debyg y byddant yn cael eu defnyddio eto i’r pwrpas hwn eleni oherwydd rhagamcenir y bydd gorwariant ar gyllideb refeniw 2018/19. Dyrennir arian hefyd i gyllidebau i gwrdd â chostau digwyddiadau yn ystod y flwyddyn e.e. defnyddiwyd y cronfeydd wrth gefn i gefnogi Tîm Etifeddiaeth yn y Gwasanaethau Plant i ddelio ag achosion hanesyddol ac fe'u defnyddiwyd hefyd yn 2017 i gwrdd â chost ychwanegol difrod llifogydd (y tu allan i gyllideb yr Adran Briffyrdd) yn dilyn y llifogydd difrifol ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Mae cronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor wedi'u neilltuo ar gyfer amryw o ddibenion penodol, e.e. cronfa wrth gefn yswiriant i gwrdd â’r amcangyfrif o hawliadau yn y dyfodol fel y gall y Cyngor dalu gor-daliadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr yswiriant, cronfa wrth gefn ar gyfer Grantiau sy'n dal incwm grant nad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 sy'n cynnwys y cynigion cyllideb refeniw manwl ar gyfer 2019/20 ar gyfer adolygiad terfynol y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy'n darparu cyd-destun ar gyfer y gwaith ar gyllidebau'r Cyngor yn y dyfodol. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor Sir i'w alluogi i fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddwyd yn flaenorol ar yr her o osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 a'i fod eisoes wedi disgrifio’r holl ffactorau negyddol sydd wedi digwydd ar yr un pryd - setliad ariannol is gan Lywodraeth Cymru, chwyddiant prisiau cyffredinol a chostau cynyddol, chwyddiant tâl a chostau cynyddol pensiynau athrawon fel rhai sy’n creu "storm berffaith" o heriau sy'n arwain at fwlch cyllido cychwynnol o £ 7.156m (cyn cynyddu’r Dreth Gyngor a gwneud arbedion). Nodwyd arbedion gwerth £ 3.747m a oedd yn cynnwys gostyngiad o £ 1.76m yn y gyllideb a ddatganolir i Ysgolion. Dywedodd yr Aelod Portffolio y daeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb 2019/20 nad yw pobl yn hapus i doriadau gael eu gwneud yn y maes addysg neu os oes rhaid eu gwneud o gwbl, maent o’r farn y dylent eu cadw i’r isafswm. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried hyn a negeseuon eraill o'r ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi ymateb iddynt trwy wneud addasiadau i'r cynigion arbedion fel yr amlinellir yn adran 9.1 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol iawn heb anghofio bod y Cyngor eisoes wedi gwneud arbedion o tua £ 25m ers 2013/14. Gellid dweud bod y Cyngor yn agos iawn at ddiwedd ei allu i wneud arbedion gwasanaeth a bod yn anodd iawn gweld lle gellir gwneud toriadau pellach heb i hynny gael effaith ddifrifol. Roedd gorwariant ar gyllideb refeniw’r Cyngor yn 2017/18 ac mae'n debygol y bydd gorwariant eto yn 2018/19 yn bennaf oherwydd y pwysau ar gyllideb y Gwasanaethau Plant. Gellir dadlau nad yw'r arian a neilltuwyd ar gyfer y Gwasanaethau Plant wedi cadw i fyny â’r galw sydd wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf gyda chost lleoliadau plant yn yr achosion mwyaf cymhleth gymaint â £ 5,000 yr wythnos. Yn ogystal, mae'r gostyngiad yn lefel  cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn golygu y gall fod yn broblemus mynd i'r afael ag unrhyw orwariant yn y gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn cynnig y gyllideb fel y’i cyflwynwyd gyda chalon drom ond y realiti yw nad yw'r arian y mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn gan y Llywodraeth Ganolog trwy Lywodraeth Cymru yn ddigonol ac wedi cael ei leihau flwyddyn ar ôl blwyddyn dros nifer o flynyddoedd. Dyfynnodd yr Aelod Portffolio o erthygl yn rhifyn 16 Chwefror o’r Guardian ar y system Dreth Gyngor yn Lloegr sy'n codi pwyntiau sy'n berthnasol i Gymru - mae'n tynnu sylw at y pwysau a roddwyd ar y system Treth Gyngor oherwydd y toriadau yn y cyllid a gaiff cynghorau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2019/20 i 2021/22 pdf eicon PDF 845 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 sy'n ymgorffori Strategaeth Gyfalaf 2019/20 i 2021/22 er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Cod Darbodus CIPFA, Medi 2017, fel y’i diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gynhyrchu strategaeth gyfalaf. Yn y strategaeth hon, rhaid nodi'r cyd-destun hirdymor y gwneir penderfyniadau ynghylch gwariant cyfalaf a buddsoddi yn ei erbyn. Nod y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau ynghylch cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn cymryd i ystyriaeth mewn modd priodol stiwardiaeth, gwerth am arian, darbodusrwydd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod yr Awdurdod mewn sefyllfa dda yn hyn o beth gan fod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 wedi cynhyrchu Strategaeth Gorfforaethol gadarn i arwain y Rhaglen Gyfalaf ers 2016/17. Adeiladwyd ar y strategaeth hon i gynnwys gofynion newydd a gyflwynwyd gan y Cod nad oeddent wedi'u cynnwys yn barod.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y Strategaeth Gyfalaf yn darparu crynodeb o'r dogfennau presennol mewn strategaeth gyfansawdd fel sy'n ofynnol dan y Cod. Mae'r Strategaeth yn cadarnhau egwyddorion cytunedig yr Awdurdod ar gyfer gwariant cyfalaf sy'n seiliedig ar fwrw ymlaen â’r rhaglen moderneiddio ysgolion; buddsoddi’n barhau i gynnal a chadw asedau cyfredol; cynnal lefel o waith ar gyfer gwella ffyrdd bob blwyddyn a chefnogi prosiectau sy'n denu cyllid grant a hefyd, brosiectau sy'n cynhyrchu arbedion refeniw. Mae'r Strategaeth yn cymryd i ystyriaeth y risgiau posibl sy'n codi yn arbennig o ran y cyfyngiadau tebygol ar gyllid dros y tair blynedd nesaf ac mae'n dangos sut i mae'n cysylltu â chynlluniau eraill y Cyngor ac yn benodol gyda Chynllun y Cyngor ar gyfer 2017/22; Y Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo –

 

           Y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019/20 – 2021/22.

           Y gostyngiad yn y swm sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf o de minimis o £30k i £10k fesul prosiect i ddod â’r gwariant cyfalaf de minimis yn unol â’r derbyniadau cyfalaf de minimis o £10k.

 

 

15.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (RhT) ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer orau yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys. Yn unol â'r Cod sy'n argymell bod y Datganiad ar y Strategaeth RhT yn cael ei graffu cyn ei gyflwyno i'w fabwysiadu, mae'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi ystyried y Datganiad oherwydd mai’r pwyllgor hwnnw, yn unol â Chynllun Dirprwyo RhT y Cyngor, sy’n gyfrifol am y swyddogaeth hon. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi derbyn y Strategaeth yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror, 2019, pan benderfynwyd ei hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ychwanegol. O ran diweddariadau i’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, nad oes bwriad i wneud unrhyw newidiadau i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 nad yw'r Strategaeth RhT arfaethedig ar gyfer 2019/20 wedi newid yn sylweddol o'r Strategaeth ar gyfer 208/19 a hynny’n bennaf oherwydd y ffaith nad yw'r sefyllfa economaidd a lefel y cyfraddau llog wedi newid i raddau sy’n golygu bod angen adolygu’r Strategaeth. Mae'r Strategaeth yn cadarnhau na fydd y Cyngor yn benthyca mwy na sydd ei angen, neu cyn i unrhyw anghenion ddod i’r fei dim ond er mwyn elwa o fuddsoddiad y symiau ychwanegol a fenthycwyd ac y bydd, lle bo hynny'n bosibl, yn defnyddio ei falansau arian parod ei hun i fenthyca’n fewnol. Bydd ymagwedd y Cyngor tuag at fuddsoddi yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cyfalaf fel blaenoriaeth ac yna ddychweliad ar fuddsoddiadau. Bydd yr ystyriaethau hyn yn penderfynu ble mae'r Cyngor yn buddsoddi ac am faint o amser y bydd yr arian yn cael ei ymrwymo.

 

Wrth nodi'r Strategaeth, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad a oes cynlluniau’n cael eu gwneud ar gyfer y gwahanol senarios mewn perthynas â chanlyniad y broses Brexit, yn benodol y senario pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen sy'n debygol o gael effaith ar yr economi ac, o ganlyniad, ar yr hinsawdd benthyca a buddsoddi.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr Awdurdod wedi cymryd cyngor gan ei Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys sydd wedi asesu'r senarios posibl ar gyfer Brexit. Yn union ar ôl Brexit, mae’n bosib y bydd y swm y gall cyrff sector cyhoeddus ei fenthyca’n lleihau a gall cyfraddau llog ostwng. Dywedodd y Swyddog nad yw anghenion benthyca'r Awdurdod yn pwyso ar hyn o bryd a bod Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yr Awdurdod dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau i fod yn gadarnym marn yr Awdurdod, isel iawn fydd y codiadau yn y cyfraddau llog a bydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cyllideb Cyfalaf 2019/20 pdf eicon PDF 532 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi'r cynigion terfynol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2019/20 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith ac ar gyfer eu hargymell i'r Cyngor llawn ar 27 Chwefror, 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid na dderbyniwyd unrhyw sylwadau ar y rhaglen gyfalaf ddrafft yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd y cyhoeddiad diweddar ynghylch gohirio prosiect Wylfa Newydd yn arwain at oedi o ran y prosiect i wella'r A5025 o'r Fali i Wylfa. Oherwydd nad yw'n glir pryd y bydd y prosiect yn ail-gychwyn, mae'r gwariant ar y prosiect gwella ffyrdd wedi'i ddileu o'r cynnig terfynol ar gyfer y gyllideb. Roedd y cynnig i fod i gael ei gyllido'n llawn gan grantiau allanol ac mae'r addasiad angenrheidiol i'r cyllid hefyd wedi cael ei wneud. Roedd y setliad dros dro yn cynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol o £ 1.327m. Fodd bynnag, roedd y setliad terfynol yn cynnwys £ 0.378m ychwanegol, gan olygu bod swm y grant diwygiedig yn  £2.065m. Gellid delio â'r grant cyfalaf ychwanegol mewn un o dair ffordd fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad gan gynnwys peidio â dyrannu'r grant yn 2019/20 a'i ddefnyddio yn lle hynny fel rhan o'r cyllid ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21. O gofio bod yr arian ar gyfer 2020/21 yn debygol o fod yn gyfyngedig ac mai ychydig iawn o incwm a geir o dderbyniadau cyfalaf (ac eithrio gwerthu safleoedd ysgol lle mae'r derbyniad cyfalaf eisoes wedi'i ddyrannu), byddai'n ddoeth ac yn well defnyddio’r arian fel rhan o raglen gyfalaf 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, gan mai hon oedd yr eitem olaf ar raglen y cyfarfod a oedd yn ymwneud â'r gyllideb, yr hoffai achub ar y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu holl waith caled trwy gydol y broses o osod y gyllideb ac, yn benodol, am baratoi’r adroddiadau ar gyfer yr eitemau ar raglen y cyfarfod heddiw a oedd yn ymwneud â’r gyllideb. 

 

 Penderfynwyd

 

Argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf a ganlyn ar gyfer 2019/20:

                                                                                                                     

                                                                                                         £’m

 

Cynlluniau ymrwymedig a ddygwyd ymlaen o 2018/19            6.429   

Buddsoddi mewn asedau presennol                                            2.539

Ail-wynebu priffyrdd                                                                         1.359

Cynlluniau newydd ar gyfer 2019/20                                             2.146

Ysgolion 21ain Ganrif                                                                       4.809

 

Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf y Gronfa Gyffredinol               17.282

 

Cynlluniau Cyfalaf CRT                                                                  13.110

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf 2019/20                                          30.392

 

Cyllidir drwy:

 

Cyllid a ddygwyd ymlaen o 2018/19                                            1.099

 

Benthyca â Chymorth                                                                       2.026

Benthyca â Chymorth:

Ysgolion 21ain Ganrif                                                                      1.640                                  

Benthyca Digymorth:

Ysgolion 21ain Ganrif                                                                      0.402

Benthyca Digymorth CRT                                                               1.000

 

Cyfanswm Benthyca Newydd                                                         5.068

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                                                 1.327

Grantiau Allanol                                                                              11.671

Grant Adnewyddu Priffyrdd                                                           0.580                          

                                   

 

Cyfanswm Cyllid Grant                                                                  13.578         

 

 

Cyllid wedi ei ailddyrannu o brosiectau eraill

a ohiriwyd                                                                                   1.197

Arian wrth gefn CRT                                                                       9.450

 

CYFANSWM CYLLID                                                                      30.392

 

  Defnyddio balans y grant cyfalaf cyffredinol (£893k) fel rhan o gyllid rhaglen gyfalaf 2020/21.

17.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 739 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref, 2019.

 

Rhoes y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y diweddariad isod i’r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau ar gyfer rhaglenni’r cyfarfodydd a gynhelir yn o fuan -

 

           Bydd y Gwasanaeth Dysgu yn adrodd ar y Cynllun Busnes Llawn mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Mawrth, 2019 a bydd yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud ag Ysgol Henblas i'r un cyfarfod.Nid yw'r eitemau hyn wedi'u cynnwys ar y Rhaglen Waith fel y'i cyhoeddwyd.

              Mae Eitem 14 (Adroddiad ar yr ymgynghoriad statudol ar ostwng oedran mynediad Ysgol Henblas) sydd wedi'i threfnu i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019 yn newydd i'r rhaglen waith, yr un modd ag eitemau 21 (Anableddau Dysgu - Trawsnewid Cyfleoedd Dydd ac Eitem 22 (Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) a fydd yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 15 Gorffennaf, 2019.

 

Penderfynwyd cadarnhau’r Flaen Raglen Waith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth i Hydref, 2019 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn ystod y cyfarfod.

 

18.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad: 4.5 Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini - 4.5.4 Cynrychiolwyr Addysg pdf eicon PDF 485 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor / Swyddog Monitro) yn amlinellu newid arfaethedig i baragraff 4.5.4 o Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â chynrychiolwyr addysg ar bwyllgorau sgriwtini. Mae'r newid arfaethedig yn golygu dileu Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth i gael cynrychiolydd o grefyddau neu enwadau eraill [yn ogystal â chynrychiolydd o'r Eglwys Gatholig Rufeinig a chynrychiolydd o'r Eglwys yng Nghymru sy'n ofyniad cyfreithiol] ar bwyllgorau sgriwtini'r Awdurdod o ystyried nad yw hyn yn ofyniad deddfwriaethol a’i fod yn fater o ddewis lleol, ac yn wyneb y ffaith hefyd nad oes unrhyw ysgolion o enwadau crefyddol eraill ar Ynys Môn sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddio'r ddarpariaeth ar gyfer y diffiniad o "gredoau neu enwadau eraill. "

 

Cynigiodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

 Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn

 

           Cytuno i dynnu’r gofyniad i gael “un cynrychiolydd o gredoau neu enwadau eraillar Bwyllgor Sgriwtini pan fydd yn delio â materion Addysg (h.y. pan mae’n cyfarfod fel Pwyllgor Sgriwtini Awdurdod Addysg Lleol) fel sydd wedi’i gynnwys ar hyn o bryd ym mharagraff 4.5.4.4 y Cyfansoddiad fel y gwelir yn Atodiad 1 yr adroddiad fel bod paragraff 4.5.4 yn darllen fel yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad.

           Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth y Cyngor (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r ffaith fod y gofyniad a nodir uchod wedi’i dynnu.

 

19.

Adroddiad Cynnydd a Chynllun Gweithredu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant pdf eicon PDF 982 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran digonolrwydd trefniadau gofal plant yn ardal yr Awdurdod ynghyd â chynllun gweithredu diwygiedig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant mai dyma'r ail ddiweddariad a'r adroddiad cynnydd o ran digonolrwydd gofal plant yn dilyn yr asesiad llawn cyntaf a gynhaliwyd ym mis Ebrill, 2017; mae'n darparu gwybodaeth ar y modd y mae'r bylchau yn y ddarpariaeth a nodwyd ym mis Ebrill 2017, ac yn cael sylw. Mae'r cynllun gweithredu diwygiedig yn ystyried y ffaith bod y galw am wasanaethau gofal plant a'r farchnad gofal plant yn esblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Uned Cefnogi Teuluoedd fod yr asesiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn a bod y sefyllfa bresennol yn sefydlog. Mae niferoedd y gwarchodwyr plant yn gymharol isel ac mae angen sicrhau digonolrwydd i alluogi rhieni yn enwedig menywod, i fynd i weithio neu i  aros yn y gwaith. Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed wedi arbed swm sylweddol i rieni o ran costau gofal plant ac mae hefyd werth tua £ 100k y mis i'r economi leol. Dywedodd y Swyddog, ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu, bod Awdurdod wedi clywed ei fod wedi bod yn llwyddiannus gyda chais cyfalaf i ddatblygu canolfannau gofal plant ar safleoedd ysgolion gyda'r nod o’i gwneud yn haws i rieni ddod o hyd i ofal plant sy'n ffitio o gwmpas y diwrnod gwaith ac oedran amrywiol eu plant. Mae’r fid yn werth £ 2.7m a bydd yn ariannu saith o ganolfannau gofal plant ar draws yr Ynys.  Fel rhan o'r datblygiad, rhoddir sylw i ran ogleddol yr Ynys nad yw wedi cael ei hasesu hyd yma gyda'r nod o gydlynu gweithgarwch â’r broses moderneiddio ysgolion. Er bod amrywiaeth o ddarpariaethau ar gael ar yr Ynys, mae nifer y gwarchodwyr plant yn parhau i fod yr agwedd fwyaf problemus - gall y gwaith fod yn heriol a chydag oriau hir. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i greu diddordeb ac i gefnogi busnesau i sicrhau bod y gweithlu yn hygyrch a, chyda'r grant cyfalaf, i sicrhau bod busnesau'n gynaliadwy.

 

Wrth nodi'r adroddiad, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant wrth ddod â rhieni i'r gweithlu sydd, o ganlyniad, yn rhoi hwb i'r economi leol. Er bod y Pwyllgor Gwaith yn nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi cael ei wneud, roedd yn derbyn fod lle i gryfhau'r trefniadau yn lleol yn enwedig o ran cynyddu nifer y gwarchodwyr plant ar draws y sir, ac y bydd y cynllun gweithredu diwygiedig yn mynd â materion yn eu blaen.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad cynnydd ar Ddigonolrwydd Gofal Plant a chymeradwyo’r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu diwygiedig.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 19.