Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Arbennig, Pwyllgor Gwaith - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Carwyn Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnol mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen oherwydd bod ei gyfneither yn gweithio yn ysgol Biwmares a’i fam a’i wraig yn gweithio yn Ysgol Llandegfan. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi cael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau ar 18 Gorffennaf, 2017 fel y gall gyflwyno barn y bobl leol drwy gydol y broses.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Alun Roberts (nad yw’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith) ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen fel aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Biwmares.

2.

Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Mon - Adroddiad yn dilyn cyhoeddi'r rhybudd statudol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed, a chymeradwyaeth o'r cynnig gwreiddiol pdf eicon PDF 704 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori adroddiad ar wrthwynebiadau (Atodiad 1) yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Statudol o fwriad yr Awdurdod i gau Ysgol Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod yr Awdurdod, er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol o’i fwriad i gau Ysgol Biwmares, i ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed. Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol ar 14 Ionawr, 2019  gyda chyfnod o 28 diwrnod i ddilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig. Yn Atodiad 1 yr adroddiad, ceir crynodeb o’r 50 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr Awdurdod i bob gwrthwynebiad. Mae’r modd y mae’r Cyngor yn delio gyda gwrthwynebiadau i rybudd statudol yn cydymffurfio â’r weithdrefn a amlinellwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy’n golygu bod angen i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda newidiadau.  Cafodd rhybudd statudol o fwriad yr Awdurdod i weithredu’r cynnig ei gyhoeddi’n wreiddiol ar 22 Tachwedd, 2018 a oedd yn golygu bod y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod yn cau ar 27 Rhagfyr, 2018 a oedd yn cyd-dddigwydd â gwyliau’r ysgol. Er mwyn caniatáu mwy o amser i gydranddeiliaid ymateb, cyhoeddwyd rhybudd statudol pellach ar 14 Ionawr, 2019 a daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 10 Chwefror, 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio y cychwynnwyd ar y broses o foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol ym mis Mehefin, 2017 gydag ymgynghoriad anstatudol. Wedi hynny, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol. Ar 26 Mawrth, 2018, penderfynodd y pwyllgor gwaith ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol newydd ar y cynigion ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod cyfarfod heddiw, ble mae’n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gadarnhau, gwrthod neu ddiwygio’r cynigon a gymeradwywyd ganddo ar 18 Gorffennaf, 2018 lle byddai Ysgol Llandegfan yn cael ei hehangu a’i hadnewyddu, Ysgol Biwmares yn cau ac Ysgol Llangoed yn cael ei hadnewyddu, yn benllanw proses faith lle rhoddwyd sylw manwl i ddyfodol addysg gynradd yn Ardal Seiriol sydd wedi golygu ymgynghori eang ar hyd y ffordd ynghyd a chyfnod o oedi er mwyn ail-gynnal ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y gwrthwynebiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac y gellir eu crynhoi dan y themâu isod –

 

           Ar sail proses gan gynnwys y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriadau a’r modd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol.

           Ar sail effeithiau posibl y cynnig ar dref Biwmares a’i demograffi.

           Yn seiliedig ar anghytundeb gyda’r opsiwn a ffefrir.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i opsiynau eraill.

           Ar y sail y gallai’r cynigion arwain at rieni’n dewis anfon eu plant i ysgolion ar y tir mawr.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

           Ar y sail nad oes unrhyw grŵp cydranddeiliaid wedi cael ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Moderneiddio Ysgolion - Adroddiad Gwrthwynebu: Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 816 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad gan y Pennaeth Dysgu yn cynnwys adroddiad ar y gwrthwynebiad (Atodiad 1) a gafwyd yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Statudol i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle ar gyfer disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod yr Awdurdod, er mwyn cydymffurfio gyda gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol o’i fwriad i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle ar gyfer disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn. Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol ar 14 Ionawr, 2019  gyda chyfnod o 28 diwrnod i ddilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig. Yn Atodiad 1 yr adroddiad, ceir crynodeb o’r 23 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr Awdurdod i bob gwrthwynebiad. Mae’r modd y mae’r Cyngor yn delio gyda gwrthwynebiadau i rybudd statudol yn cydymffurfio â’r weithdrefn a amlinellwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy’n golygu bod angen i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda newidiadau.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y gwrthwynebiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac y gellir eu crynhoi dan y themâu isod

 

           Ar sail llefydd ysgol gan ddweud na fydd digon o lefydd yn yr ysgol newydd y bwriedir ei chodi.

           Ar y sail bod nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Talwrn wedi cynyddu ers yr ymgynghoriad.

           Ar sail traffig ac ystyriaethau teithio.

           Ar sail proses gan gynnwys y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad, yr asesiadau effaith a wnaed a’r modd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol.

           Ar y sail bod safonau yn Ysgol Talwrn yn dda a bod yr ysgol wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar.

           Ar y sail na chafodd barn y disgyblion ei chymryd i ystyriaeth fel rhan o’r ymgynghoriad.

           Ar y sail y bydd yn anodd i blant drosglwyddo o ysgol wledig fechan i ysgol fawr mewn tref ac y bydd hynny’n heriol i’r plant dan sylw.

 

Dywedodd y Swyddog fod ymateb yr Awdurdod i bob un o’r gwrthwynebiadau a restrwyd yn yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau yn nodi’r sail dros y modd y bu i’r Awdurdod weithredu mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau a godwyd. Yn yr un modd â’r achos blaenorol, bydd asesiad traffig a theithio’n cael ei gynnal yn dilyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau ac unwaith y bydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud.

 

Wrth ystyried yr adroddiad a’r gwrthwynebiadau a godwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith yr isod

 

           Er bod nifer y disgyblion yn Ysgol Talwrn wedi cynyddu ers yr ymgynghoriad, cyd-ddigwyddodd hynny â chynnydd cyfatebol yn ystod yr un cyfnod o ran nifer y plant a ddaeth i’r ysgol o’r tu allan i’r dalgylch wedi i ysgolion Llangefni gyrraedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.