Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 20fed Mai, 2019 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Richard Dew ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 6 ar yr agenda.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Carwyn Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 6 ar yr agenda ond cyfeiriodd at y caniatâd arbennig a gafodd gan y Pwyllgor Safonau ym mis Mehefin, 2017 a oedd yn caniatáu iddo wneud sylwadau fel Aelod Lleol ond nid i bleidleisio ar y mater.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol yn eitem 5 ar yr agenda.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg cyhoeddi’r rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried – cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 752 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Mehefin, 2019 hyd at fis Ionawr, 2020.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ynghylch yr eitemau oedd yn newydd i’r Rhaglen Waith (eitemau 7 a 14) neu rai oedd wedi cael eu hail-raglennu (eitem 22 o fis Medi, 2019 i fis Hydref, 2019) a dywedodd hefyd y bwriedir cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith ar 10 Mehefin, 2019 i ystyried materion Busnes y Cyngor.

 

Penderfynwyd cadarnhau’r Flaen Raglen Waith wedi ei diweddaru am y cyfnod o Fehefin, 2019 i Ionawr, 2020 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Ffurfioli'r Bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre trwy'r Broses Ffederaleiddio pdf eicon PDF 508 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Dysgu ynglŷn â chais a wnaed gan Gyrff Llywodraethu Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre i ffurfioli’r bartneriaeth rhwng y ddwy ysgol trwy ffederaleiddio’r ddau Gorff Llywodraethu.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu fod Swyddogion yn gefnogol i’r cais a’u bod yn argymell symud ymlaen i ymgynghori ar y cynnig yn unol â’r broses. Awgrymodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r argymhelliad.

 

Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i gychwyn y broses o ymgynghori ar ffurfioli’r bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre trwy ffederaleiddio’r ddau Gorff Llywodraethu.

 

6.

Strategaeth Foderneiddio - Ardaloedd Llangefni a Seiriol pdf eicon PDF 572 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddiddymu ei benderfyniadau blaenorol ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, o ganlyniad i nifer o sylwadau a phryderon ynglŷn â’r broses ymgynghori ar foderneiddio ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, ac oherwydd i gŵyn gael ei chyflwyno ynglŷn â diffyg cydymffurfiaeth â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (006/2013), roedd y Swyddogion wedi cynnal adolygiad mewnol o’r broses ymgynghori statudol a wnaethpwyd yn y ddwy ardal. Roedd y canfyddiadau o’r adolygiad mewnol wedi dwyn sylw at bryderon technegol ynglŷn â chydymffurfiaeth â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (006/2013), ac mae enghreifftiau penodol o’r diffyg cydymffurfiaeth i’w gweld yn yr adroddiad. Oherwydd y pryderon hyn, y risgiau sy’n gysylltiedig â’r broses a’r angen i allu dangos bod y broses wedi bod yn gwbl drylwyr a thryloyw, ac oherwydd parch y Cyngor at y cymunedau dan sylw, roedd y Swyddogion yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn diddymu ei benderfyniadau blaenorol ar ddyfodol addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad y Pwyllgor Gwaith na’r Aelodau Etholedig, a oedd wedi gweithredu ar gyngor y Swyddogion, oedd yn gyfrifol am y llithriad hwn; mae wedi codi oherwydd pwyntiau penodol lle nad oedd proses ymgynghori y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Cod, ac ni sylwyd ar y pwyntiau penodol hyn ar y pryd. Fel y Prif Weithredwr ac fel y Swyddog oedd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am y rhaglen ar y pryd, roedd yn edifar ganddo ac roedd yn siomedig iawn fod hyn wedi digwydd, yn enwedig gan fod y broses Moderneiddio Ysgolion yn un o raglenni mwyaf heriol y Cyngor sy’n golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ar brydiau. Ymddiheurodd am hyn, ac yn arbennig wrth yr holl fudd-ddeiliaid a oedd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn y prosesau ymgynghori a wnaed yn ardaloedd Llangefni a Seiriol. Amcan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn dal i fod yw darparu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i ddisgyblion, athrawon a Phenaethiaid yr Ynys gan felly greu’r amgylchiadau lle gallant gyflawni a llwyddo. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod ef a’r Pwyllgor Gwaith yn gweld llwyddiant plant ysgol yr Ynys a llwyddiant addysg fel mater o bwysigrwydd eithriadol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid ei fod yntau, fel y Prif Weithredwr, hefyd yn siomedig gyda’r datblygiad hwn, gan ystyried yr holl waith oedd wedi digwydd ar ran y Cyngor a phawb sy’n gysylltiedig â’r ysgolion yn y ddwy ardal, ac yn enwedig am ei fod o ganlyniad i lithriad mewn proses. Er i’r materion perthnasol dderbyn sylw a chael eu trafod yn y cyfarfodydd sgriwtini a chyfarfodydd eraill, ni wnaeth hyn gydymffurfio’n llwyr â’r Cod. Tra bod y llithriad yn lithriad yn y broses, mae’r Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Polisi Gosod - Ymgynghori ar gynnwys Cysylltiad Lleol o fewn y System Bandio pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymgynghori ar gynnwys cysylltiad lleol o fewn y system fandio ar gyfer gosod tai.

 

Roedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau yn cymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion ynddo i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd Rheolwr Strategaeth, Polisi a Chomisiynu y Gwasanaeth Tai fod y Gwasanaeth yn awyddus i ymchwilio i’r goblygiadau o gynnwys cysylltiad lleol yn y Polisi Gosod Cyffredin. O dan y polisi cyfredol, mae’n ofynnol fod gan ymgeisydd o leiaf 5 mlynedd o gysylltiad gyda’r Ynys; byddai’r ymchwil pellach a fwriedir ynghyd â’r ymgynghoriad yn edrych ar y goblygiadau o gynnwys cysylltiad â phlwyf, pentref neu dref benodol. Mae rhaglen waith a chynllun ymgysylltu wedi cael eu paratoi, i’w gweithredu gyda sêl bendith y Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gefnogol i’r cynnig ac yn cydnabod cysylltiad lleol fel ffactor wrth adeiladu cymunedau cynaliadwy.

 

Penderfynwyd –

 

           Yn dilyn cynnal gwaith ymchwil pellach, bod cyfnod ymgynghori yn digwydd ar gyfer cynnwys cysylltiad lleol o fewn y Polisi Gosod Cyffredin cyfredol a,

           Bod y cyfnod ymgynghori yn gallu cynnig cyfle i wella trefniadau gweinyddu’r Gofrestr.