Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 17eg Mehefin, 2019 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Robin Williams diddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 11 ar yr agenda.

 

Datganodd y Cynghorydd Glyn Haynes (nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith) ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 14 ar yr agenda.

 

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 787 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2019 a Chwefror, 2020, a nodwyd y newidiadau canlynol - 

 

Eitemau Newydd ar gyfer cyfarfod 15 Gorffennaf, 2019 -

 

           Eitem 3 - Cronfa'r Degwm (cymeradwyo trefniadau newydd)

           Eitem 4 - Trefniadau Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu): Opsiynau Comisiynu

           Eitem 7 - Tai Cyngor: Datblygiadau o 10 uned neu fwy

 

   Eitemau a aildrefnwyd -

 

           Eitem 15 - Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatáu’r broses ymgysylltu) o 15 Gorffennaf i gyfarfod 16 Medi, 2019 ac o ganlyniad, tynnu’r eitem Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (adrodd ar ganlyniad y broses ymgysylltu a chynigion ar gyfer trawsnewid) a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 25 Tachwedd oddi ar y Rhaglen Waith hyd oni cheir cadarnhad ynghylch yr amserlen.

           Eitem 22 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2019/20 - adolygu'r trefniadau ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith a'u cadarnhau yn dilyn trafodaeth fewnol.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Gorffennaf, 2019 i Chwefror, 2020 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) / Trawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2018/19.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol grynodeb o berfformiad ar ddiwedd 2018/19, a fu, er yn flwyddyn heriol arall i'r sector cyhoeddus, yn dda ar y cyfan, gyda'r rhan fwyaf o feysydd wedi perfformio’n unol â’u targedau ac eithrio dau DP yn y Gwasanaethau Oedolion ac un DP yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd (gweler paragraff 2.1.9). Mae mesurau i fynd i'r afael â thanberfformio yn y meysydd hyn yn cael eu cymryd a'u monitro fel y disgrifir. Er bod Chwarter 4 wedi gweld gwelliant o gymharu â’r chwarter blaenorol mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith gwaith, roedd y sgôr gronnus ar gyfer y flwyddyn, sef 10.34 WDL fesul CALl dros y targed o 9.95 WDL fesul CALl ac mae'n parhau i fod yn faes o ffocws parhaus. Mae’r defnydd o gyfryngau digidol - App Môn a'r wefan - i gysylltu a rhyngweithio â'r Cyngor wedi parhau i dyfu dros y flwyddyn gyda phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cynyddu eto yn Chwarter 4. Mae hyn yn gadarnhaol a gobeithio y bydd yn arwain at fwy o ddefnydd o ffurflenni ar-lein ac ymgysylltu ar-lein a fydd yn gyrru'r rhaglen newid sianel ddigidol i alluogi preswylwyr i dalu a gofyn am wasanaethau ar-lein. Achubodd yr Aelod Portffolio ar y cyfle i longyfarch staff a chontractwyr Gwasanaeth Rheoli Gwastraff y Cyngor yn dilyn cyhoeddi arolwg blynyddol gan Cadwch Gymru'n Daclus a roddodd  Ynys Môn ar frig tabl awdurdodau lleol gyda sgôr o 100% am strydoedd Gradd B neu uwch.

 

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn cytuno fod y data perfformiad ar ddiwedd y flwyddyn yn galonogol ac yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gref i barhau i wneud gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol a bod y canlyniad yn y pen draw i’w briodoli i’r gwaith parhaus sy'n digwydd trwy yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Craffu a'r Pwyllgor Gwaith.

Yn absenoldeb cynrychiolwyr y Pwyllgor Sgriwtini, soniodd y Cadeirydd am y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2018 lle'r oedd Aelodau wrth cydnabod perfformiad da pob DP ar draws y gwasanaethau ond hefyd wedi herio'r Aelodau Portffolio a'r Swyddogion ar y meysydd lle roedd perfformiad wedi disgyn yn fyr ac wedi gofyn am gadarnhad eu bod yn cael sylw, ac wedi ceisio sicrwydd hefyd bod y patrwm gwariant sydd ar i fyny yn y Gwasanaethau Oedolion yn cael ei reoli yn wyneb y pwysau cynyddol. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini wedi cymryd sicrwydd o’r mesurau lliniaru arfaethedig i ymdrin â'r meysydd hynny lle roedd perfformiad yn is na'r targed ac yn hapus i’w hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth gloi, fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod gwaith a wnaed gan staff y Cyngor i gyrraedd y sefyllfa hon a dywedodd ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Dogfen Cylfawni Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) / Trawsnewid yn ymgorffori'r Ddogfen Gyflwyno Flynyddol ar gyfer 2019/20. Mae'r ddogfen yn egluro sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei flaenoriaethau allweddol dros y deuddeg mis nesaf yng nghyd-destun amcanion ehangach y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017-22.

 

Dywedodd y Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y ddogfen yn darparu manylion ynghylch dyheadau'r Cyngor am y flwyddyn ac mae'n seiliedig ar y gwaith a wnaed mewn adolygiadau gwasanaeth blynyddol ac mewn cyfarfodydd cynllunio busnes gwasanaeth blynyddol sydd, gyda'i gilydd, wedi dylanwadu ar ddisgwyliadau'r Cyngor yn gorfforaethol am y flwyddyn i ddod.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn nodi ei fod yn fodlon â chynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a'i fod yn credu bod modd gwireddu'r dyheadau yr oedd eu hadlewyrchu ond yn ymwybodol hefyd y gall digwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ddrysu unrhyw gynlluniau. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith pam fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cael ei chyhoeddi dri mis i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd er mai’r nod oedd gosod ynddi yr amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a gofynnodd a oedd yn bosibl ei chyhoeddi’n gynharach. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er y byddai’n ddelfrydol ei chyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill bob blwyddyn, mae’n rhaid yn gyntaf cwblhau gweithdrefnau cau lawr ar gyfer diwedd y flwyddyn flaenorol, e.e. cyfrifon y Cyngor, ac yn ychwanegol at hynny, mae’r Ddogfen Gyflawni yn cael ei llywio gan gydnabyddiaeth y gwasanaethau o'r hyn sydd angen ei wneud yn y flwyddyn i ddod ac nid yw’r gwaith cynllunio busnes ar gyfer hyn yn cael ei gwblhau tan ddechrau mis Ebrill.

 

Er yn cydnabod y gallai cyhoeddi’r ddogfen yn gynharach fod yn her, roedd y Pwyllgor Gwaith o'r farn y dylai hyn fod yn nod a chytunwyd i wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw.  

 

Penderfynwyd

 

           Rhoi’r hawl i Swyddogion drwy law’r Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol i ymgymryd â’r dasg o orffen y cynllun drafft ac argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, 2019.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau pa mor ymarferol ydyw cyflawni’r ddogfen hon fel cynllun sydd yn nodi gwaith y Cyngor wedi’i alinio â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer ei gyflawni yn ystod 2018/19.

           Bod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cael ei chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn ariannol yn y dyfodol

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2018/19 pdf eicon PDF 849 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi’r sefyllfa alldro refeniw dros dro ar gyfer 2018/19, gan gynnwys y prif amrywiadau yn y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, ar ôl rhagamcan y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o Chwarter 1 ymlaen, bod y sefyllfa wirioneddol ar ddiwedd Chwarter 4 2018/19 o orwariant o £ 633k yn well na'r disgwyl ac mae wedi gwella'n fawr o gymharu â Chwarter 2 pryd rhagwelwyd gorwariant sylweddol. Erys pwysau o hyd ar nifer o gyllidebau gwasanaeth gyda gorwariant net o £ 2,287k, a'r prif feysydd ble mae'r pwysau mwyaf yw’r rhai yr adroddwyd arnynt drwy gydol y flwyddyn sef y Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Addysg Canolog. Mae'r gwelliant i’w briodoli’n bennaf i arbedion unwaith ac am byth ar gyllidebau corfforaethol a'r ymdrechion a wnaed gan wasanaethau o ddiwedd Chwarter 2 i gwtogi ar wariant gydag effeithiau cronnus hynny wedi cyfrannu at leihau'r gorwariant. Gan edrych ymlaen at 2019/20, bydd y Cyngor yn dal lefel resymol o gronfeydd wrth gefn cyffredinol, ond ar £ 5.9m, maent yn parhau i fod yn is na'r lefel o £ 6.76m a argymhellwyd ac a gytunwyd gan y Cyngor, ac mae cyllidebau gwasanaethau wedi'u cynyddu i adlewyrchu'r galw cynyddol. Dylai hyn, ynghyd â monitro sefyllfa’r gyllideb yn barhaus yn ystod y flwyddyn, sicrhau mai cyfyngedig yw’r risg o orwariant sylweddol yn ystod 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er gwaethaf y ffaith fod y sefyllfa’n well ar y cyfan, mae tri o wasanaethau'r Cyngor - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Gwasanaethau Dysgu ac Oedolion yn parhau i fod dan bwysau. Er y dylai’r arian ychwanegol y darperir ar ei gyfer yng nghyllideb 2019/20 helpu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i fynd i'r afael â'i gostau cynyddol yn yr adran Plant sy'n Derbyn Gofal, mae hyn yn dibynnu ar i’r galw yn y gwasanaeth hwn ac yn y Gwasanaethau Oedolion aros yn gyson. Cyfeiriodd y Swyddog at y sefyllfa ariannol yn ysgolion yr Ynys nad oedd wedi'i dogfennu yn yr adroddiad ond a oedd wedi gwaethygu erbyn diwedd 2018/19 gyda 12 ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd bellach mewn diffyg o gymharu â 3 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd ar ddiwedd 2017/18. Mae'r ysgol arbennig hefyd yn parhau i fod mewn diffyg. O ganlyniad, mae balansau ysgolion wedi gostwng o £ 1.8m ar ddiwedd 20 17/18 i £ 633k ar ddiwedd 2018/19. Felly mae angen cadw golwg ar y gyllideb ysgolion wrth ystyried y ffigurau.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r canlyniadau gwell na'r disgwyl ar gyfer 2018/19 gan gydnabod bod hyn yn rhannol oherwydd arbedion corfforaethol unwaith ac am byth na fydd efallai’n cael eu hail-adrodd yn y dyfodol ond hefyd gan gydnabod bod gwasanaethau wedi chwarae eu rhan drwy leihau gwariant. Cytunwyd bod y rhagolygon yn parhau i fod yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Alldro Cyfalaf 2018/19 pdf eicon PDF 643 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi’r sefyllfa alldro cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £ 46.521m gyda gwariant o £ 21.650m yn unig ar 31 Mawrth, 2019 sy’n cyfateb i 47% o'r gyllideb. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y tanwariant mawr yn erbyn chwe phrosiect mawr y darperir manylion amdanynt ym mharagraff 2.2 yr adroddiad; nid oedd y rhain yn symud ymlaen gymaint ag y rhagwelwyd oherwydd oedi a achoswyd gan amrywiol resymau ac, yn achos y Briffordd Newydd i Wylfa Newydd, oherwydd gohiriad y prosiect. Bydd yr arian ar gyfer y prosiectau yn cael ei gario drosodd i 2019/20 heb golli adnoddau i'r Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y canlyniad yn unol â'r rhagamcanion yn Chwarter 2 a 3. Gyda phrosiectau cyfalaf mawr fel arfer mae oedi annisgwyl yn digwydd ac nid yw'n anarferol gweld gwariant ar y mathau hyn o brosiectau yn llithro.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Panel Sgriwtini Cyllid am ei gyfraniad hefyd o ran craffu ar hyn ac adroddiadau monitro cyllideb eraill.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi sefyllfa alldro ddrafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 sy’n destun Archwiliad.

           Cymeradwyo cario £3.065m drosodd i 2019/20 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cario drosodd i 2019/20 yn unol â pharagraff 4.2, Atodiad A. 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Blwyddyn Ariannol 2018/19 pdf eicon PDF 578 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod manylion incwm a gwariant o dan y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 yn Atodiad A i'r adroddiad ac yn dangos bod y cyfrif wedi gorwario £ 121k ar yr ochr refeniw gydag incwm £ 55k yn is na'r gyllideb wreiddiol a gwariant £ 66k yn uwch na'r gyllideb wreiddiol. Roedd gwariant cyfalaf £ 7.3m yn is na'r gyllideb fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad. Mae'r gwarged, sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf, £ 7.2m yn well na'r gyllideb sydd, i raddau helaeth, i’w briodoli i'r gwariant cyfalaf is na'r gyllideb.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod balans y Cyfrif Refeniw Tai, sef £ 8,387k ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19, wedi'i glustnodi benodol ac y caiff ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at ariannu gwariant CRT yn y dyfodol yn unig.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

10.

Polisi Corfforaethol ar Adennill Dyledion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r Polisi Dyledion Corfforaethol fel y’i atodwyd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y polisi yn cyflwyno, er cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, yr egwyddorion i'w mabwysiadu gan Gyngor Sir Ynys Môn wrth gasglu dyledion sy'n ddyledus i'r Cyngor fel y manylir arnynt ar dudalen 3. Darllenodd yr Aelod Portffolio yr egwyddorion fel y'u rhestrwyd a thynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gan y Cyngor ymagwedd glir a chytûn tuag at gasglu dyledion sy'n ei alluogi i fynd i'r afael â'r amrywiol ddyledion sy'n ddyledus ac i ddelio'n briodol ag unigolion / busnesau sydd mewn dyled i'r Cyngor.

 

Cytunodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod cael proses yn ei lle i adennill dyledion yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni ar hyn o bryd yn bwysig ond gan gydnabod hefyd y gallai rhai unigolion ei chael hi'n anodd talu ac efallai y bydd angen help arnynt i gyflawni eu rhwymedigaethau ariannol tra bod eraill yn cael eu hystyried yn fregus ac y bydd angen eu trin â sensitifrwydd a disgresiwn. Felly, bydd y Cyngor yn gweithredu dull cefnogol o adennill dyledion sy'n diwallu anghenion unigolion ac yn cynnig eu cyfeirio at asiantaethau cymorth annibynnol. Mae'r Polisi yn egluro'r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio wrth adennill yr holl ddyled ac y bydd y polisïau gweithdrefnol ychwanegol yn rhoi mwy o fanylion am y trefniadau ar gyfer casglu dyled ym mhob un o'r meysydd penodol. Yn ogystal, mae'r Cyngor, ers peth amser, wedi bod yn gweithio ar wella ei brosesau ar gyfer gwneud taliadau gan gynnwys hwyluso taliadau ymlaen llaw a galluogi unigolion i sefydlu eu debydau uniongyrchol eu hunain i dalu Treth y Cyngor, ac i wneud cais am ostyngiadau ac eithriadau ar-lein. Bydd gwneud prosesau gweinyddol yn fwy effeithlon fel y gall pobl wneud mwy drostynt eu hunain yn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio mwy ar adennill dyledion.

 

Wrth dderbyn y polisi, nododd y Pwyllgor Gwaith yn benodol ei fod yn gwneud darpariaeth ar gyfer unigolion a all fod mewn trafferthion ariannol ac sy’n ei chael hi'n anodd talu ac yn eu cyfeirio at sefydliadau a all gynnig cyngor a chefnogaeth bellach, ac roedd yn croesawu hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Dyledion Corfforaethol fel y'i cyflwynwyd.

11.

Gostwng Oed mynediad Ysgol Henblas pdf eicon PDF 382 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Dysgu ar yr ymateb i'r rhybudd statudol o'r cynnig i ostwng oedran mynediad Ysgol Henblas.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, y Cod Trefniadaeth 011/2018 ac yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill, 2019 i ostwng oed mynediad Ysgol Henblas i dderbyn disgyblion ar sail rhan-amser o'r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed, i ddod i rym o 31 Awst, 2019, bod y rhybudd statudol yn hyn o beth wedi cael ei gyhoeddi ar 13 Mai, 2019 ac yn dilyn hynny, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol 28 diwrnod ar y cynnig. Yn sgil y ffaith na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau, dywedodd yr Aelod Portffolio, mai'r argymhelliad yw bod y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau'r cynnig yn derfynol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu na dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol yn ystod yr ymgynghoriad statudol na'r cyfnod gwrthwynebu statudol. Mae perthynas gref rhwng yr ysgol a'r cylch sy'n darparu sylfaen dda ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Ni ragwelir unrhyw effeithiau ar gydraddoldeb ac mae'r staff yn gefnogol i'r cynnig ac yn barod i edrych ar yr opsiynau o ran rhoi gofal 10 awr mewn ffordd sy'n gyfleus i rieni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig i ostwng oed mynediad Ysgol Henblas, i fod yn weithredol o 31 Awst, 2019.

12.

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth ar gynnydd a gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Amlygodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdeithasol y wybodaeth ystadegol a gynhwysir yn yr adroddiad sy'n rhoi tystiolaeth bendant o'r perfformiad gwell yn Chwarter 4 2018/19 yn erbyn y dangosyddion gwasanaeth allweddol a gofnodwyd, ac sydd hefyd yn adlewyrchu'r newidiadau a'r datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth cyfan. Mae'r Gwasanaeth bellach yn gweithio i Gynllun Datblygu Gwasanaeth thematig newydd 3 blynedd, sydd wedi disodli'r Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, wrth ystyried yr adroddiad, wedi cydnabod y cynnydd a wnaed ac wedi llongyfarch y Gwasanaeth ar hynny ac wedi cymeradwyo ffurfio Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn gweld yr un lefel o graffu ar Wasanaethau Oedolion â’r Gwasanaethau Plant.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd at y cwynion a'r sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan y gwasanaeth gyda Chwarter 4 yn gweld gostyngiad yn nifer y cwynion Cam 1 tra bod 12 o ganmoliaethau wedi'u cofnodi yn ystod y chwarter. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Gwasanaeth 30 cwyn Cam 1 a 2 gŵyn Cam 2; nid oedd unrhyw ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon a chafwyd cyfanswm o 68 o ganmoliaethau yn dangos gwerthfawrogiad o'r ffordd y mae staff yn cyfathrebu ac yn gwrando, eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a'u heffeithiolrwydd a'r gefnogaeth a ddarperir. Datblygwyd a gweithredwyd polisïau ôl-ofal newydd yn ogystal â pholisi ar faterion ariannol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae'r Pecyn Maethu newydd wedi arwain at nifer o ymholiadau am faethu ac mae rhai ohonynt wedi mynd ymlaen i gael eu hasesu; y gobaith yw y bydd y diddordeb newydd yn troi'n leoliadau ychwanegol yn Ynys Môn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

 

Wrth longyfarch y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar eu cynnydd parhaus, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am fwy o wybodaeth am yr effaith y mae buddsoddi mewn mesurau ataliol wedi'i chael a sut y gallai'r mesurau hynny fod yn darparu gwerth ychwanegol.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n ceisio darparu ymyrraeth amserol i deuluoedd y mae angen cymorth arnynt yn gweithio ar hyn o bryd gyda 71 o blant y gallai 50 ohonynt o bosib fod wedi'u rhoi mewn gofal heb fewnbwn gan y tîm.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

13.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 396 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn debygol y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus fel y'i cyflwynwyd.

 

14.

Darparu'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) ynghylch cyflwyno Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd y Cyngor o fis Ebrill 2021 ymlaen.

 

Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol i'r Pwyllgor Gwaith am y contract presennol sydd wedi cael ei ddarparu’n allanol gan Biffa Ltd. ers 2012 ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2021. Er mwyn helpu i benderfynu a fydd y gwasanaeth ar ôl Mawrth, 2021 yn cael ei gyflwyno trwy ail-gaffael yn allanol neu drwy ddod â'r contract yn fewnol, comisiynodd y Cyngor WRAP Cymru (heb unrhyw gost i'r Awdurdod) i gynorthwyo yn y broses werthuso ac i ddarparu asesiad o oblygiadau ariannol darpariaeth fewnol o gymharu â chost parhau i allanoli. Cafodd yr adroddiad gan WRAP Cymru ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ac roedd yn manylu ar y ffactorau a'r risgiau ansoddol sy'n gysylltiedig â'r ddau opsiwn wedi'u rhannu'n feysydd penodol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y prif faterion i'w hystyried mewn perthynas â mewnoli / allanoli a beth oedd y ddau yn ei olygu. Pe bai'r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo parhau i allanoli'r contract a dechrau proses gaffael ffurfiol er mwyn penodi contractwr, sef yr opsiwn a argymhellir, yna mae opsiynau prisio mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth y gellir ystyried eu cynnwys yn y dogfennau gwybodaeth tendr; ymhelaethodd y Swyddog ar y rhain a thynnodd sylw at yr ystyriaethau ynghlwm wrth bob un. Rhestrwyd y rhain yn argymhelliad 3 yr adroddiad.

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith yr opsiynau o ran darparu gwasanaeth gyda'r Swyddogion ac wedi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd, roedd yn cytuno, yn seiliedig ar ystyriaethau cost a gwerth gorau, mai parhau i allanoli’r gwasanaeth yw'r opsiwn mwyaf buddiol i'r Cyngor gan gymryd i ystyriaeth hefyd farn y Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn ac ar bwyntiau eraill a godwyd mewn trafodaeth adeiladol ar y mater yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 13 Mehefin.

 

Cododd y Pwyllgor Gwaith nifer o gwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am eglurder hefyd ar hyd y contract gan nodi bod angen rhywfaint o hyblygrwydd. Ar ôl myfyrio ar y mater a'i drafod, ac ar ôl ystyried yr eglurhad a ddarparwyd gan Swyddogion a mewnbwn y Pwyllgor Sgriwtini, cytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylai proses gaffael ffurfiol i benodi contractwr ar gyfer y contract rheoli gwastraff newydd ddechrau yn unol ag argymhellion 1 i 3 yr adroddiad ond gyda'r newidiadau / ychwanegiadau canlynol -

 

           Opsiwn ar gyfer ymestyn y contract - dylai'r contract redeg am gyfnod cychwynnol o 8 mlynedd gyda'r opsiwn i ymestyn y contract am hyd at uchafswm o 12 mlynedd (gan wneud cyfanswm posibl o 20 mlynedd) yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr ar ôl 6 mlynedd.

•  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.