Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 25ain Tachwedd, 2019 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaithcofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2019.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2019 fel rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 793 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Gorffennaf 2020 a nodwyd y newidiadau a ganlyn - 

 

           Eitemau Newydd

           Eitem 6 – Anableddau DysguTrawsnewid Cyfleoedd Gofal Dydd (Cam 1: Caniatâd ar gyfer y Broses Ymgynghori) (ar gyfer cyfarfod 27 Ionawr, 2019)

           Eitem 27 – Anableddau DysguTrawsnewid Cyfleoedd Gofal Dydd (Cam 2: Adrodd yn ôl ar ganlyniad y broses ymgysylltu ac opsiynau ar gyfer trawsnewid) (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020)     

 

           Cyfarfodydd Ychwanegol

 

           13 Ionawr, 2020 – cwblhau’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer cyllideb 2020/21 ar gyfer ymgynghori yn eu cylch

           2 Mawrth, 2020 – Y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2020/21 ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor Sir ynghyd ag eitemau eraill yn ymwneud â Chyllideb 2020/21.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaithoherwydd y llithriad yn amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi’r setliadau amodol a therfynol i lywodraeth leol ar gyfer 2020/21, bod y llinell amser sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru ddrafftio, ymgynghori ynghylch a gosod eu cyllidebau ar gyfer 2020/21, yn llawer iawn mwy heriol. Felly, oherwydd y cyfyngiadau amser yn ogystal â’r amserlen statudol sydd ar gael i gynghorau osod a chymeradwyo eu cyllidebau, mae’n debyg y bydd y broses o osod y gyllideb ar gyfer eleni’n wahanol i’r broses ar gyfer y blynyddoedd diwethaf gan olygu y bydd yn rhaid i’r Cyngor dderbyn y wybodaeth sydd ei hangen arno i redeg ei weithgareddau o’r flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill, 2020 cyn gynted ag sy’n bosibl. 

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ragfyr, 2019 hyd at Gorffennaf, 2020 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 670 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, bod Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) penodol pellach mewn perthynas â Rheoli Gwastraff wedi cael eu cyflwyno gan Data Cymru ers i’r Pwyllgor Gwaith ystyried yr adroddiad ar gyfer Chwarter 1 y Cerdyn Sgorio ym mis Medi, 2019. Mae’r rhain yn cadarnhau mai’r Awdurdod hwn unwaith eto sydd â’r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru sy’n ei roi ymysg y goreuon yn y byd o ran lefel y gwastraff domestig y mae’n ei ailgylchu. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at bwyntiau allweddol eraill yn adroddiad Chwarter 2 fel a ganlyn -

           Mae 85% o’r dangosyddion perfformiad yn parhau i berfformio uwchlaw’r targed neu o fewn goddefgarwch 5% o’u targedau sy’n cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa yn Chwarter 2, 2018/19. Mae 5 o ddangosyddion yn tan-berfformio (yn ymddangos yn GOCH neu’n AMBR ar y Cerdyn Sgorio) yn y Gwasanaethau Tai, Plant a Chynllunio – yn yr adroddiad, nodir y rhesymau pam fod agweddau o’r gwasanaethau hyn yn tan-berfformio ac amlinellir y mesurau gwella sy’n cael eu gweithredu er mwyn codi perfformiad yn y chwarter nesaf.

           Mae lefelau presenoldeb yn y gwaith ar eu huchaf ers Chwarter 2 2017/18 ac yn ymddangos yn WYRDD gyda pherfformiad o 3.96 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC yn erbyn targed o 4.48 o ddiwrnodau wedi eu colli fesul gweithiwr ALlC.

           Mae’r strategaeth ddigidol wedi parhau i gael ei gwireddu yn ystod Chwarter 2 gyda nifer y defnyddwyr cofrestredig wedi mwy na dyblu o gymharu â’r 5,000 a welwyd ar ddiwedd Chwarter 2, 2018/19.

           O ran rheolaeth ariannol, yn seiliedig ar wybodaeth perfformiad Chwarter 2, rhagamcenir y bydd gorwariant o £1.935m ar gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ym mis Mawrth 2020 a hynny’n bennaf oherwydd y gorwariant yn y Gwasanaethau Oedolion o ganlyniad i’r cynnydd yn y galw am y gwasanaeth sydd yn heriol ac yn anodd i’w ragweld. Ceir gwybodaeth fanylach am hyn yn yr adroddiad ar fonitro’r gyllideb.

           Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella ei wasanaethau’n barhaus ac i gyflawni ei amcanion.

 

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn cytuno â dadansoddiad yr Aelod Portffolio a dywedodd fod y Cyngor, oherwydd ei ymagwedd tuag at reoli perfformiad, yn gallu dangos i ddinasyddion Ynys Môn ei fod yn awdurdod sy’n cyflawni ac y ceir tystiolaeth benodol yn hyn o beth oherwydd mai’r awdurdod hwn sy’n perfformio orau yng Nghymru ac ym Mhrydain am ailgylchu.

 

Soniodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth a gafwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 21 Tachwedd, 2019 ar Ch2 y Cerdyn Sgorio gan ddweud fod y Pwyllgor yn croesawu canlyniadau’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus gan Data Cymru mewn perthynas â Rheoli Gwastraff yn nodi eu bod, unwaith eto, yn rhoi Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Yn seiliedig ar y wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 2, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £1.935m sy’n cyfateb i 1.43% o gyllideb net  y Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae pwyntiau penodol i’w nodi’n cynnwys yr isod

 

           Mae’r ffigyrau ar gyfer Chwarter 2 yn nodi pwysau sylweddol o ran y galw am wasanaethau yn ystod 2 chwarter cyntaf y flwyddyn yn y Gwasanaeth Oedolion (manylion ym mharagraffau 3.2.2 a 3.2.3 yr adroddiad). Roedd gorwariant o £963k yn y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod gyda rhagamcan y byddai  £1,214k (4.82%) o orwariant ar gyfer y flwyddyn a hynny’n bennaf oherwydd 20 o achosion newydd gyda 7 yn unig o’r rheiny’n golygu gwariant ychwanegol oddeutu £700k gyda chyfanswm y costau ychwanegol oddeutu £960k. Mae’n bwysig felly nodi sut y gall cynnydd cyflym yn nifer yr achosion ynghyd â’r math o ddarpariaeth ddwys a chymhleth sydd yn aml yn gysylltiedig â’r achosion hyn gael effaith ar sefyllfa ariannol y Gwasanaethau Oedolion ac ar sefyllfa gyllidebol y Cyngor yn gyffredinol.

           Dygwyd sylw at y ffaith fod ymrwymiad ar y Cyngor i dalu tâl gwyliau i staff llanw a hynny’n seiliedig ar yr amser y maent wedi ei weithio’n ôl-ddyddiedig i 2015. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £94k ynghyd ag ar-gostau. Oherwydd y byddai hynny’n rhoi cyllidebau’r ysgolion dan bwysau pellach, argymhellir y gellid, gyda chaniatâd y Pwyllgor Gwaith, ariannu’r costau hyn o’r Gronfa Gyffredinol sydd wedi cynyddu £479k oherwydd bod 50% o’r gyllideb graidd o ysgolion yr oedd y Cyngor eisoes yn ei ddarparu ar gyfer costau cynyddol pensiynau athrawon wedi cael ei ddychwelyd oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach yn rhoi grant i’r Cyngor i gwrdd â’r costau hyn. Mae 50% o’r gwarged yn cael ei gadw gan yr ysgolion a 50% yn cael ei ddychwelyd i’r Gronfa Gyffredinol sy’n golygu bod mwy o gapasiti yn y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i ariannu’r costau hyn sy’n gysylltiedig ag ysgolion.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 at gasglu’r Dreth Gyngor ac effaith y cynnydd yn y premiwm ar dai gwag tymor hir a nifer y tai gwag ar yr Ynys sydd, yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad yn yr incwm y mae’r Cyngor yn ei gael o bremiwm y Dreth Gyngor fel yr adlewyrchir hynny ym mharagraff 5.1 yr adroddiad oherwydd bod perchenogion tai gwag yn cymryd camau i wneud i ffwrdd â’u hymrwymiad drwy gael gwared ar eu heiddo. Mae’r effaith yn cael ei hesbonio’n gliriach yn yr adroddiad dan eitem 9 sy’n ymwneud â Sylfaen y Dreth Gyngor am 2020/21.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd, serch y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 658 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf am ail chwarter blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod gwariant gwirioneddol y gronfa gyffredinol at ddiwedd yr ail chwarter yn 120% o’r gyllideb a broffiliwyd er mai dim ond 22% o’r gyllideb flynyddol sydd wedi’i wario hyd yma. Mae hyn yn gyson â’r patrwm arferol, lle mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ar gynlluniau cyfalaf yn digwydd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae gwaith ar rai cynlluniau cyfalaf wedi hen ddechrau gyda’r rhan fwyaf o’r gyllideb a broffiliwyd ar gyfer Chwarter 2 wedi’i gwario tra bod eraill y mae’r gwariant wedi ei broffilio tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol eto i gychwyn. Mae nifer o gynlluniau’n cael eu hariannu drwy grantiau cyfalaf yn 2019/20 ac mae’r adroddiad yn darparu diweddariad ar statws y cynlluniau hynny. Mae ymrwymiadau ariannu ychwanegol y gofynnir am ganiatâd ar eu cyfer yn cynnwys yr isod

 

           Mae’r cyfrif terfynol ar gyfer atgyweirio Neuadd y Farchnad wedi’i gytuno gyda’r contractwr ac wedi arwain at yr angen am £75k ychwanegol a fyddai’n cael ei ariannu o dderbynebion cyfalaf.

           Mewn perthynas â Chynllun Lliniaru Rhag Llifogydd Pentraeth, bydd angen i’r Cyngor ddarparu cyllid cyfatebol ychwanegol o £20k (cyfanswm y cyllid cyfatebol yn £50k yn hytrach na £30k) i’w ariannu o dderbynebion cyfalaf.

           Mae’r Cyngor wedi llwyddo i gael grant o £40k gan Lleoedd ar gyfer Chwaraeon (‘Places for Sport’) i uwchraddio’r offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Cyfanswm cost y cynllun yw £130k a bydd y Cyngor yn talu’r £90k sy’n weddill drwy fenthyciad di-gefnogaeth.

           Mae’r Cyngor hefyd wedi llwyddo i sicrhau grant gwerth £72k o’r Gronfa Gydweithredol i addasu’r cwrt tennis yng Nghanolfan Hamdden David Hughes yn gae 3G. Cyfanswm cost y cynllun yw £80k a bydd angen i’r Cyngor gyfrannu £8k o arian cyfatebol a hynny o dderbyniadau cyfalaf.

 

Penderfynwyd -

 

           Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf yn Chwarter 2 2019/20.

           Cymeradwyo dyrannu £75,000 yn ychwanegol tuag at gynllun cyfalaf Neuadd y Farchnad yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £90,000 o fenthyca digefnogaeth i uwchraddio offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn unol â pharagraff 3.3.1 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £20,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd  ym Mhentraeth yn unol â pharagraff 3.1.2 yr adroddiad.

           Cymeradwyo £8,000 o gyllideb cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun cae 3G yng Nghanolfan Hamdden David Hughes yn unol â pharagraff 3.3.2 yr adroddiad.

8.

Monitro Cyllideb y CRT – Chwarter 2, 2019/20 pdf eicon PDF 700 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am Chwarter 2 2019/20.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer Chwarter 2 yn dangos gorwariant o £71k. Mae’r rhagolygon o ran incwm yn parhau i fod £75k yn well na’r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir yn awr y bydd £75k yn well na’r gyllideb wreiddiol (ceir manylion yn Atodiad A). Mae gwariant cyfalaf £1.791k yn is na’r gyllideb a broffiliwyd. Mae’r gwariant a ragwelir £190k yn uwch na’r gyllideb (ceir manylion yn Atodiad B). Mae’r diffyg a ragwelir (yn cyfuno refeniw a chyfalaf) £40k yn uwch na’r gyllideb (o gymharu â £67k yn adroddiad Ch1) oherwydd gwariant cyfalaf uwch na’r gyllideb.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

           Y sefyllfa a nodir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2019/20.

           Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2019/20.

9.

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 463 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd, i’r Pwllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer 2020/21.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod cyfanswm y sylfaen ar gyfer 2020/21, at ddiben pennu’r dreth, yn 31,532,53. Mae hyn yn cymharu â 31,571.46 am 2019/20 ac yn ostyngiad o 0.12%. Mae hyn o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys y canlynol

 

           Disgowntiau ychwanegol ar gyfer pobl sengl a disgowntiau ac eithriadau ychwanegol ar gyfer amhariad iechyd meddwl difrifol. Yn achos yr olaf, os yw’r eithriad ar gyfer amhariad iechyd meddwl difrifol yn berthnasol i aelwyd lle mae cwpl yn byw, yna dim ond un person fydd yn gorfod talu Treth Gyngor ac o dan yr amgylchiadau hyn, byddant yn derbyn y disgownt person sengl.

           Gostyngiad o thua 130 yn nifer y tai gwag hirdymor lle’r oedd y premiwm yn berthnasol, sydd yn dangos bod y premiwm yn effeithiol o ran cyrraedd ei nod o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Mae tua 40 eiddo gwag hirdymor newydd ond nid yw’r premiwm yn berthnasol iddynt ar hyn o bryd.

           Trosglwyddo eiddo domestig/ail gartrefi o sylfaen y Dreth Gyngor i drethi busnes os gellir dangos bod yr eiddo’n cael eu gosod yn fasnachol am 70 niwrnod mewn cyfnod o 12 mis. Er nad yw hon yn broblem neilltuol yn Ynys Môn o gymharu â rhai awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru, teimlir y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd camau i gau’r bwlch cyfreithiol sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod ffigyrau ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor yn 2020/21 wedi cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru a byddant yn eu defnyddio i gyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2020/21 (ac eithrio addasiadau ar gyfer premiymau ac, ar gyfer 2020/21 ymlaen, y gostyngiadau a roddir gan rai awdurdodau - ond nid Ynys Môn - mewn perthynas ag eiddo dosbarthiadau A, B a C). Bydd yn cael ei adlewyrchu yn y setliad dros dro cychwynnol gan olygu, yn ôl y tebyg, y bydd llai o amrywiaeth rhwng y setliad cychwynnol a’r setliad terfynol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gofynnodd, yn yr achosion hynny lle mae eiddo wedi cael eu trosglwyddo i drethi busnes, a oes trefniadau i fonitro a gwirio eu bod yn parhau i gwrdd â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer trethi busnes.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod hyn yn fater i Asiantaeth y Swyddfa Brisio; yn y gorffennol gofynnwyd a oes gan yr Asiantaeth ddigon o gapasiti i wneud gwaith monitro parhaus i sicrhau cydymffurfiaeth. Mae Cyngor Gwynedd wedi arwain o ran cyflwyno achos i Lywodraeth Cymru dros gynyddu adnoddau Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn caniatáu iddi ymgymryd â’r swyddogaeth hon; mae Ynys Môn mewn cysylltiad â Chyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre pdf eicon PDF 416 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod rhybudd statudol ar y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronowy Owen ac Ysgol Moelfre wedi cael ei gyhoeddi ar 30 Medi 2019, ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ac yn unol â gofynion deddfwriaethol,  ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig. Yn yr un modd â’r ymgynghoriad statudol blaenorol, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod hwn ac o ganlyniad argymhellir bod y cynnig i ffederaleiddio’r ddwy ysgol yn cael ei gadarnhau yn derfynol.

 

Penderfynwyd cadarnhau’n derfynol y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.

11.

Ysgogiad Economaidd Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi cynigion i ddefnyddio arian ysgogiad economaidd Llywodraeth Cymru.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £491,330 i’r Cyngor Sir mewn llythyr dyddiedig Awst 2019, ar yr amod bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau cyfalaf i yrru newidiadau pwysig yn ein cymunedau; i ariannu ystod o brosiectau y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn i ddarparu buddiannau economaidd sydd wedi eu halinio â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac ar yr amod hefyd bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn modd sy’n ystyried sut y gellir cael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd. Mae’n holl bwysig bod yr arian yn cael ei wario a’i hawlio cyn 31 Mawrth, 2020. Rhoddwyd ystyriaeth i nifer o brosiectau posib fyddai’n gallu elwa o’r arian hwn ac roedd yr amser byr ar gyfer eu cyflawni yn ffactor hanfodol wrth ystyried dichonoldeb y prosiectau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cefnogi dau brosiect – (1) ailddatblygu tir tu ôl i Peboc (a amlinellir yn Atodiad A) a (2) symud ymlaen i ddymchwel hen Ysgol y Parc a’r llyfrgell yng Nghaergybi (a amlinellir yn Atodiad B). Cydnabyddir, er bod yr arian a dderbyniwyd yn sylweddol, nad yw’r swm yn ddigon i ganiatáu i’r Cyngor gwblhau’r ddau weithgaredd felly bydd y Cyngor yn rhoi arian cyfatebol tuag at y grant i sicrhau fod y ddau brosiect yn cael eu cyflawni, gan fanteisio i’r eithaf ar y canlyniadau. Os na chyflawnir y ddau gynllun blaenoriaeth, yna byddai’r Cyngor yn ceisio prynu tir mewn lleoliadau strategol o gwmpas yr Ynys y gellid ei ddatblygu yn y dyfodol, neu ddatblygu prosiectau eraill a fyddai’n cyfrannu at amcanion datblygu economaidd. Byddai gan y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Deilydd Portffolio ddisgresiwn ynghylch yr opsiynau amgen hyn.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod adnoddau presennol wedi cael eu defnyddio i wneud gwaith paratoi ymlaen llaw ar y prosiectau er mwyn sicrhau eu bod yn barod i gychwyn pan fydd arian ar gael, ac mae hynny wedi creu gwaith ychwanegol i'r Tîm Adfywio Economaidd. Er bod y Cyngor yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian ychwanegol, y mae croeso iddo bob amser ac y byddwn yn gwneud y defnydd gorau ohono - y gobaith yw y bydd arian sy’n cael ei wario yn y modd hwn yn denu datblygiad gan y sector preifat neu grantiau pellach i adeiladu ar y tir dan sylw. Er bod nifer o brosiectau teilwng eraill a oedd yn cyfiawnhau’r gwariant, roedd y cyfyngiad amser yn ffactor allweddol ac felly roedd y ffaith y gellid cyflawni’r ddau brosiect yn elfen bwysig o blaid eu cymeradwyo.

 

Er bod y Pwyllgor Gwaith yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y grant, nododd y byddai’n fuddiol petai mwy o rybudd am yr arian wedi’i roi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.