Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Arbennig (Cyllideb), Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 2ail Mawrth, 2020 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb ar gychwyn y cyfarfod.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

3.

Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2019/20 pdf eicon PDF 849 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, ar sail y wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 3, gan gynnwys cyllid corfforaethol a’r Dreth Gyngor, y rhagwelir gorwariant o £1.246m yn 2019/20, sydd yn cyfateb i 0.92% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae hyn i’w briodoli i bwysau ariannol tebyg i’r rhai a brofwyd yn 2018/19, yr adroddwyd arnynt drwy gydol y flwyddyn ariannol bresennol wrth adrodd ar y gyllideb, a’r pwysau mwyaf sylweddol yw costau yn y Gwasanaeth Oedolion a Chludiant Ysgol. Mae angen i’r Gyllideb ar gyfer 2020/21 roi sylw i’r pwysau ar y meysydd hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gorwariant o £1,246m a ragwelir yn destun pryder oherwydd y bydd rhaid cwrdd â’r costau o Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol y Cyngor a rhagwelir y bydd yr arian wrth gefn yn gostwng ymhellach i lai na £5m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn sylweddol is na’r isafswm o £6.7m a bennwyd ar gyfer y gronfa wrth gefn gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 27 Chwefror, 2019. Yn ystod y flwyddyn mae cynnydd yn nifer y cleientiaid y mae angen darpariaeth gostus arnynt wedi rhoi pwysau ar gyllidebau Gofal Cymdeithasol Oedolion - mae cynlluniau i gydnabod y pwysau hwn yng Nghyllideb 2020/21.

 

Wrth nodi’r wybodaeth, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a yw’r gorwariant wedi digwydd oherwydd bod y gwasanaeth yn gwario mwy na’i gyllideb graidd neu a yw’r adnoddau a ddyrannir wrth bennu’r gyllideb graidd yn annigonol i gwrdd â’r galw. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a fyddai’n bosib bod yn fwy manwl gywir wrth ragweld y galw er mwyn tynnu pwysau oddi ar gynllunio’r gyllideb.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er nad yw’n bosib rhagweld pob un achos costus, mae’r Gwasanaeth yn ceisio rhoi cynllun 3 blynedd mewn lle fydd yn rhoi sylw i bob maes, o Anableddau Dysgu i Iechyd Meddwl, ac a fydd yn nodi’r camau y gellir eu cymryd i ragamcanu’r nifer tebygol o atgyfeiriadau ac i reoli costau wrth i’r atgyfeiriadau hynny ddod i mewn. Bydd hyn yn caniatáu i’r Gwasanaeth ystyried yr heriau o ran ariannu, comisiynu a chydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o reoli’r galw, a’i leihau cyn belled â phosib, o fewn y gofyn cyffredinol i ddiwallu anghenion pobl. Ni fydd y Gwasanaeth fyth mewn sefyllfa i ragweld y galw yn fanwl gywir gan fod rhai unigolion yn dirywio’n gyflym gan olygu eu bod angen darpariaeth fwy dwys a bydd unigolion yn parhau i symud i fyw ar yr Ynys a rhai ohonynt angen cefnogaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod £1.4m o arian ychwanegol wedi ei gynnwys yn y Gyllideb ar gyfer 2019/20 i gefnogi’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Cyllideb Gyfalaf – Chwarter 3, 2019/20 pdf eicon PDF 661 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod 88% o’r gyllideb a broffiliwyd yn achos y gronfa gyffredinol wedi cael ei wario hyd at ddiwedd chwarter 3, fodd bynnag, dim ond 39% o’r gyllideb flynyddol sydd wedi cael ei gwario hyd yma. Y rheswm am hyn yw bod nifer o gynlluniau cyfalaf yn gwario tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio na fydd yr arian yn cael ei golli, ond yn hytrach bydd yn llithro i 2020/21.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er bod y tanwariant o £13.492m yn erbyn cyllideb o £42.392m yn ymddangos yn uchel, mae’n ymwneud ag ychydig o gynlluniau yn unig. Mae’r Cyngor wedi defnyddio’r Grant Cronfa Gofal Ganolradd (ICF) yn hytrach nag arian craidd ar gyfer cyfleusterau/addasiadau i’r anabl gan arwain at danwariant o £0.450m yn y gyllideb graidd. Er bod gwaith wedi cychwyn ar y safle i Sipsiwn a Theithwyr yn Star, Gaerwen bellach, bu oedi ar y cychwyn a bydd y cynllun yn cario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai wedi gwario 73% o’r gyllideb a broffiliwyd a 54% o’r gyllideb flynyddol ac er y bu peth oedi o ran prynu, adnewyddu ac adeiladu tai newydd, rhagwelir y bydd 19 o unedau ychwanegol yn cael eu cwblhau yn ystod y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn ail-ymgynghori ar y cynllun olaf dan Band A Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif mewn perthynas â’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni, ar ôl i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei ddiddymu a’r oedi hwn sydd i gyfrif am oddeutu £5m o danwariant yn yr arian cyfalaf. Bu oedi ym mhrosiect Seilwaith Strategol Caergybi a’r prosiect Porth Ymwelwyr tra’n aros am eglurhad o’r broses grantiau - mae’r ddau brosiect ar waith erbyn hyn. Yn yr un modd, bu oedi yng nghynllun amddiffyn rhag llifogydd Traeth Coch a ni fydd gwaith yn digwydd eleni gan fod angen datrys manylion dylunio. Yn achos y cynlluniau sydd wedi llithro, mae rhai ohonynt wedi cychwyn bellach a bydd cynlluniau eraill yn cychwyn y flwyddyn nesaf a bydd y sefyllfa hon yn cael ei adlewyrchu yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2019/20 yn Chwarter 3.

5.

Monitro Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2019/20 pdf eicon PDF 662 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod sefyllfa refeniw'r CRT ar gyfer Chwarter 3 yn dangos gorwariant o £220k. Bellach, rhagwelir y bydd incwm £146k yn is na’r gyllideb wreiddiol a rhagwelir y bydd gwariant £75k yn uwch na’r gyllideb wreiddiol. Mae gwariant cyfalaf £2,896k yn is na’r gyllideb a broffiliwyd. Rhagwelir y bydd gwariant £3,117k yn is na’r gyllideb. Mae’r diffyg a ragwelir (yn cyfuno refeniw a chyfalaf) £2,896k yn llai na’r gyllideb (gan greu gwarged o £789k), o gymharu â £40k yn uwch ar gyfer Chwarter 2, yn bennaf oherwydd bod gwariant cyfalaf is na’r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bydd balans wrth gefn y CRT ar ddiwedd y flwyddyn o £9,176k yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at ariannu datblygiadau tai newydd ac y bydd y newid yn y balans yn sgil hyn yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Busnes y CRT fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

           Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 3 2019/20.

           Y canlyniad a ragwelir ar gyfer 2019/20.

 

6.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 422 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ynglŷn â defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau. Mae’r adroddiad yn nodi asesiad y Swyddog Adran 151 ar lefel balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/21 ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas â dyrannu balansau cyffredinol i’w defnyddio yn ystod 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y balansau cyffredinol yn £5.192m ar 31 Mawrth 2019, gostyngiad o £987k o’r flwyddyn flaenorol. Er nad oes rheol bendant ynghylch lefel y balansau y dylai Cyngor eu cynnal, mae rheol y fawd yn bodoli sy’n awgrymu y dylai balansau gyfateb i 5% o’r gyllideb refeniw net. Mae hyn yn cyfateb i swm o £7.1m ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn yn 2020/21. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd gorwariant o £1.24m yn y gyllideb refeniw yn 2019/20 fydd yn cael ei ariannu o’r balansau cyffredinol. Yn ogystal, bydd £425k yn cael ei symud i gronfeydd wrth gefn gwasanaeth os yw’r Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo hynny yn dilyn mabwysiadu dull newydd fydd yn caniatáu gwasanaethau i drosglwyddo tanwariant (os oes tanwariant ar gyllidebau y gellir eu rheoli ac nad ydynt yn cael eu harwain gan y galw) i gronfa wrth gefn gwasanaeth er mwyn cynorthwyo i reoli pwysau neu i ariannu prosiectau yn y dyfodol lle nad oes cyllideb ar eu cyfer. O ystyried yr holl faterion hyn, amcangyfrifir y bydd y balansau cyffredinol yn gostwng i tua £4.6m ar 31 Mawrth 2020. Yn ogystal, mae gan y Cyngor nifer o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd at ddibenion penodol, fel y rhestrir yn adran 4.1 yr adroddiaddywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi gofyn i’r Swyddog Adran 151 adolygu’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i ganfod a fyddai modd eu rhyddhau neu eu trosglwyddo i’r balansau cyffredinol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Portffolio nad yw’n realistig, yn yr hinsawdd ariannol bresennol, i gynllunio am warged er mwyn cynyddu’r balansau cyffredinol fel eu bod yn cyrraedd y lefel sylfaenol a bod rhaid cynyddu’r balansau cyffredinol yn raddol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal astudiaeth o gadernid ariannol pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’r adborth cychwynnol a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, cyn cyhoeddi’r adroddiad ffurfiol, wedi amlygu bod y gostyngiad ym malansau’r Cyngor yn risg ariannol i’r Cyngor ac y bydd rhaid rhoi sylw i’r mater yn ystod y blynyddoedd nesaf. Cadarnhaodd y Swyddog bod adolygiad cychwynnol o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi nodi dwy gronfa wrth gefn y gellir eu trosglwyddo’n ôl i’r balansau cyffredinol. Er bod balansau ysgolion Ynys Môn wedi bod yn uchel yn hanesyddol o gymharu ag ysgolion mewn rhannau eraill o Gymru, maent wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar 31  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau yn unol â Chôd Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a chadarnhaodd, mewn perthynas â diweddaru’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys, nad oes unrhyw newidiadau’n cael eu hargymell i egwyddorion craidd a pholisïau Datganiad 2019/20.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi craffu ar y Datganiad yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2020 a chafodd ei dderbyn heb wneud unrhyw sylwadau pellach arno. I grynhoi, nid oes unrhyw newid yn ymagwedd y Cyngor at fenthyca gan olygu na fydd ond yn benthyca pan fod angen gwneud hynny, a bydd yn benthyca’n fewnol lle bo hynny’n ymarferol h.y. bydd yn defnyddio’r arian parod sydd ganddo. Nid yw’r Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, na chyn bod angen gwneud hynny dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. O ran buddsoddi, mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn parhau i gefnogi ymagwedd ofalus yn seiliedig ar sicrhau diogelwch buddsoddiadau fel y brif ystyriaeth ac o’r herwydd ni fydd y Cyngor ond yn buddsoddi mewn gwrthbartïon sydd â lefel uchel iawn o deilyngdod credyd, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, am gyfnod byr gan yr ystyrir eu bod yn fuddsoddiadau risg isel. Mae’n annhebygol y bydd dyledion yn cael eu had-dalu’n gynnar gan fod y gosb am ad-dalu dyledion yn gynnar yn uwch na’r arbedion a wneir o ran taliadau llog. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd angen i’r Cyngor fenthyca mwy yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn diwallu anghenion y rhaglen foderneiddio ysgolion wrth iddi ddatblygu a hefyd er mwyn ariannu gwariant y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020/21 ac anfon y Datganiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb wneud unrhyw sylwadau pellach. 

 

8.

Arferion Rheoli Trysorlys (TMP) pdf eicon PDF 839 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.    

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Arferion Rheoli Trysorlys diwygiedig y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau yn unol â Chôd Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys. Mae’r Côd yn argymell bod y Cyngor yn dogfennu ei weithdrefnau rheoli trysorlys ar ffurf Arferion Rheoli Trysorlys. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr Arferion Rheoli Trysorlys, fel y’u dogfennwyd, yn dangos sut mae’r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau trysorlys. Cwblhawyd a chymeradwywyd yr Arferion Rheoli Trysorlys presennol yn 2016. Cawsant eu hadolygu a’u diweddaru i gynnwys adran (TMP13) ar fuddsoddiadau’r Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau trysorlys, yn unol â gofynion y Côd CIPFA diwygiedig. Buddsoddiadau’r Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau trysorlys yw’r eiddo buddsoddi a reolir gan y Gwasanaeth Eiddo ac sy’n cynhyrchu incwm rhent ychwanegol i’r Cyngor ar adeg pan mae arian gan y Llywodraeth yn lleihau. Maent yn cynnwys eiddo manwerthu, swyddfeydd ac unedau masnachol. Mae cyfran helaeth o’r portffolio yn unedau masnachol. Bu i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu ar yr Arferion Rheoli Trysorlys, a’u cymeradwyo, yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror 2020.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.

           Cymeradwyo’r Arferion Rheoli Trysorlys Diwygiedig (ARhT) sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad ac argymell yr ARhT i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020.

9.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2020/21 pdf eicon PDF 421 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yn cael eu hadolygu’n flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2020/21, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

           Y taliadau Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 1 yr adroddiad.

           Y taliadau ar gyfer Gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl 4 yr adroddiad.

 

Haen 1 – bydd pawb yn talu £47.97

Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu  £95.55

 

           Y Taliadau Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl 5 yr adroddiad

 

Gwasanaethau Cynnal a Chadw-£114.12

Gwasanaethau yn unig - £73.76

Gosod unwaith ac am byth - £45.63

 

           Graddfa ar gyfer Taliadau Uniongyrchol o £11.65 yr awr

 

           Cynnal y taliad o £10 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodyn Glas a rhai yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu dwyn fel yr amlinellwyd.

 

           Cynyddu’r ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd gan gartrefi preswyl annibynnol 3% i £34.18

10.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i bennu lefel Ffi Safonol ar gyfer cartrefi’r awdurdod lleol ar gyfer pobl hŷn am y flwyddyn Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad yn amlinellu’r sail ar gyfer cyfrifo’r ffi safonol ac yn amlygu bod costau’r holl gartrefi wedi cael eu cyfuno er mwyn cyfrifo ffi safonol gyfartalog ar gyfer y cartrefi, yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Fodd bynnag, unwaith eto wrth gyfrifo’r Ffi Safonol ar gyfer 2020/21 ni chynhwyswyd Garreglwyd yn y ffigyrau gan fod y cartref wedi cael ei ailfodelu a’i fod yn darparu gwasanaeth arbenigol erbyn hyn. Ar sail y cyfrifiadau, a chan gynnwys chwyddiant, amcangyfrifir bod y gost fesul preswylydd ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 yn £760.38.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y ffi a gynigir yn adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i gynyddu ffioedd yn unol â gwir gost y ddarpariaeth yn raddol dros gyfnod o 3 blynedd a thrwy hynny osgoi effaith cynnydd sylweddol yn y ffi ar breswylwyr h.y. o £664.11 yn 2019/20 i £760.38 yn 2020/21.

 

Penderfynwyd 

 

           Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost wirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.

           Yn unol â’r cynigion arbedion a wneir i ddiddymu’r cymhorthdal a roddir i rai sy’n hunangyllido rhwng 2019-20 a 2021-22, bod y cynnydd ar gyfer y rhai hynny sy’n cyfrannu tuag at gost gofal yn cael ei osod ar 3% ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean y cymhorthdal a roddir i’r rhai sy’n hunangyllido.

           Bod y ffi ar gyfer 2020-21 felly yn cael ei osod ar £722.21 (£664.11 + 3% + (1/2 x £76.35).

 

11.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 381 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2020/21.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a’i argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith a dywedodd bod rhaid i’r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol bob blwyddyn i gyd-fynd â newidiadau a wneir gan Lywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth bennu ffioedd ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol rhaid dangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gostau’r ddarpariaeth wrth benderfynu ar ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Rhanbarthol, fel y gwnaed yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio’r model hwn ar gyfer 2020/21 sy’n adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â phensiynau, y cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Fel rhan o’r broses pennu ffioedd ar gyfer 2020/21, mae ynys Môn wedi ymgynghori ar y fethodoleg ffioedd Gogledd Cymru ac ni dderbyniwyd unrhyw adborth. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Swyddog Adran 151, mae’r Awdurdod yn argymell defnyddio’r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl i Bobl Hŷn Bregus eu Meddwl (EMI) ac elfen Gofal Cymdeithasol Gofal Nyrsio Sylfaenol. Mae’r gwasanaeth yn argymell cynnydd o 12% yn yr elw ar fuddsoddiad (ROI) ar leoliadau Nyrsio EMI i gydnabod y pwysau yn y maes hwn ac yn unol â’r ffioedd a gynigir gan awdurdodau lleol cyfagos. Yn unol â’r cyfeiriad strategol y mae’r Cyngor yn ei gymryd o ran datblygu dewisiadau amgen ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal cartref, ac wedi ystyried fforddiadwyedd y cynnydd a gynigir ar gyfer cartrefi gofal preswyl, cynigir pennu’r raddfa ar gyfer gofal preswyl (Oedolion) yn seiliedig ar gyfradd is o elw ar incwm, sef 9%. Nodir y ffioedd y mae Ynys Môn yn eu hargymell ar gyfer 2020/21 yn Nhabl 2 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Swyddog efallai y bydd angen ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd hyn. Petai tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a bennwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i’r Cyngor ystyried eithriadau i’r ffioedd a bennwyd.

 

Penderfynwyd

 

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2020/21 (Atodiad 1).

           Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2;

           Yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol o’r cyllidebau cyfredol. Oni fedrir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 968 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ceisio barn y Pwyllgor Gwaith ar Gyllideb Refeniw'r Cyngor a’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 yn deillio o hynny; y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a ddiweddarwyd a defnyddio arian unwaith am byth i gefnogi’r gyllideb.

 

Ar yr adeg hon, datganodd yr Aelod Portffolio Cyllid ddiddordeb personol ond heb fod yn rhagfarnus mewn perthynas â Phremiwm y Dreth Gyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, er bod y Cyngor yn croesawu’r arian ychwanegol sydd ar gael fel rhan o’r setliad refeniw ar gyfer 2020/21, mae’r rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol. Yn ogystal, mae’n anodd dirnad sut y cafodd y fformiwla cyllido ei chymhwyso o ystyried bod cymaint o amrywiaeth yn lefel y cynnydd y mae cynghorau yng Nghymru wedi’i derbyn.

 

Mae cynnydd o 3.8% yn setliad Ynys Môn. Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion drafft y gyllideb refeniw, a oedd yn fwy cyfyngedig eleni oherwydd bod yr amserlen wedi cael ei thocio, dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod mwyafrif o blaid buddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw; diogelu cyllidebau ysgolion a gweithredu’r arbedion arfaethedig, roedd llai yn cefnogi cynnydd o rhwng 4.5% i 5% yn y Dreth Gyngor, gyda 69.88% o ymatebwyr yn gwrthwynebu’r fath gynnydd. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod gofyn cyfreithiol ar yr Awdurdod i lunio cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd gwahaniaeth rhwng y setliad ariannol terfynol a gadarnhawyd ar 25 Chwefror, 2020 a’r setliad dros dro o £101.005m ar gyfer Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019 ac yr adroddwyd arno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2020. Fodd bynnag, roedd y setliad terfynol yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ceisio egluro pam fod lefel y cynnydd yn y setliad yn wahanol o un awdurdod i’r llall. Ar ôl cymryd y setliad terfynol i ystyriaeth, byddai angen £41.172m o arian Treth Gyngor i gyllido gofynion cyllideb o £142.177m, sydd yn cyfateb i gynnydd o 4.58% yn y Dreth Gyngor.

 

Mae’r gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac o ganlyniad mae nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y risgiau hyn yn adran 5 yr adroddiad a’r prif risgiau yw dyfarniad cyflog staff a’r galw am wasanaethau. Cytunwyd ar ddyfarniad cyflog athrawon hyd at fis Medi 2020 ac mae’r swm angenrheidiol wedi’i gynnwys yn y cynigion ar gyfer y gyllideb. Fodd bynnag, ni chytunwyd ar ddyfarniad cyflog o fis Medi 2021 ymlaen ac er y caniatawyd ar gyfer cynnydd o 2%, mae’n bosib na fydd hyn yn ddigonol. Mae mwy o risg yn gysylltiedig â’r dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn athrawon fydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2020 gan nad oes cytundeb yn ei gylch hyd yma. Mae’r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae’r Undebau’n gofyn am gynnydd o 10%. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2020/21 i 022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2020/21 i 2022/23.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod Côd Darbodus diwygiedig gan CIPFA, Medi 2017, wedi cyflwyno’r gofyniad ar bob awdurdod i gynhyrchu strategaeth gyfalaf sy’n gosod allan y cyd-destun tymor hir lle caiff penderfyniadau ar wariant a buddsoddiadau cyfalaf eu gwneud. Diben y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau cyfalaf a buddsoddiadau yn unol ag amcanion y gwasanaethau a’u bod yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y dogfennau a gyflwynwyd yn diweddaru’r Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd yn 2019 ar gyfer y cyfnod 2019/20 a 2021/22 ac yn tanlinellu’r amcanion a’r egwyddorion sy’n sail i’r rhaglen gyfalaf, gan gynnwys buddsoddi yn flynyddol i wella a/neu amnewid asedau presennol; gwneud darpariaeth gyfalaf ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl; ariannu lefel o waith gwelliannau ffyrdd bob blwyddyn ac ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Hefyd, mae’r Strategaeth yn gosod allan yr adnoddau cyfalaf sydd ar gael i’r Cyngor yn ystod y cyfnod dan sylw, sut y byddant yn cael eu defnyddio a’r cyfyngiadau/risgiau allai gael effaith ar gyflawni’r Strategaeth. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn un o’r prif ddogfennau strategol sy’n alinio â Chynllun y Cyngor; mae’r Strategaeth hefyd yn cydblethu â’r Datganiad Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Penderfynwyd argymell y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020/21 i 2022/23 ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor Llawn.

14.

Cyllideb Gyfalaf Derfynol Arfaethedig ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r gyllideb gyfalaf derfynol arfaethedig ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.305m yn fuddsoddiad cyfalaf yn nyfodol Ynys Môn ac y dylid edrych arni yn y ffordd honno. Yn yr un modd â’r gyllideb refeniw, ymgynghorwyd ar y gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 ac adlewyrchir y nifer fechan o sylwadau a dderbyniwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gyllideb gyfalaf derfynol arfaethedig ar gyfer 2020/21 yr un fath â’r gyllideb ddrafft dros dro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr 2020, ac eithrio diweddaru ffigyrau ar gyfer llithriadau o 2019/20.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Owain Jones adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror a chadarnhaodd, ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod mewn perthynas â’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21 gan gynnwys canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a chadarnhad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw newid yn y gyllideb gyfalaf ac eithrio bod y ffigyrau wedi eu diweddaru i gynnwys llithriadau o 2019/20, penderfynodd y Pwyllgor ailddatgan ei fod yn argymell y gyllideb gyfalaf arfaethedig fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 13 Ionawr ac a ddiweddarwyd i gynnwys llithriadau.

 

Penderfynwyd argymell y Rhaglen Gyfalaf Ganlynol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor Llawn -

                                                                                                                                                                                   £

 

Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2019/20                     5,829

Adnewyddu/Amnewid Asedau                                      6,192

Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth Newydd        2,174

Mân-ddaliadau a gyllidir o dderbyniadau cyfalaf           100

Ysgolion 21ain Ganrif                                                     2,755

Cyfrif Refeniw Tai                                                         20,255

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a Argymhellir

Ar gyfer 2020/21                                                            37,305

 

Cyllidir Gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                               2,165

Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol                           2,364

Benthyca â Chefnogaeth a ddygwyd ymlaen              1,034

Derbyniadau Cyfalaf                                                          245

Arian Cyfalaf Wrth Gefn                                                    500

Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion 21ain Ganrif            721

Benthyca Digefnogaeth Ysgolion 21ain Ganrif           1,145

Arian Wrth Gefn y CRT a gwared y flwyddyn            14,228

Benthyca Digefnogaeth CRT                                            250

CRT a ddygwyd ymlaen o 2019/20                                3,117

Grantiau Allanol                                                              5,782

Arian 2019/20 a ddygwyd ymlaen                                 5,754

 

Cyfanswm Arian Cyfalaf 2020/21                                37,305

 

Ar ran y Pwyllgor Gwaith, diolchodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Cyllid i staff Gwasanaeth Cyllid y Cyngor am eu gwaith wrth baratoi’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod hwn.