Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd at absenoldeb Mr Fôn Roberts, y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd profedigaeth deuluol ac estynnodd gydymdeimlad y Pwyllgor Gwaith â Mr Roberts a'i deulu.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno, i'w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-.

 

·      30 Tachwedd 2020

·      14 Rhagfyr 2020

·      17 Rhagfyr 2020 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a  gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol i'w cymeradwyo ganddo:

 

30 Tachwedd, 2020

14 Rhagfyr, 2020

17 Rhagfyr, 2020 (cyfarfod arbennig)

 

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir

 

           30 Tachwedd, 2020

           14 Rhagfyr, 2020

           17 Rhagfyr, 2020 (cyfarfod arbennig)

 

4.

Cofnodion - Panel Rhiantu Corfforaethol pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2020 i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Panel Rhiant Corfforaethol, amlinellodd y Prif Weithredwr fusnes cyfarfod y Panel ar 8 Rhagfyr gan nodi, ar ôl bwlch oherwydd  Covid 19, fod y Panel Rhiant Corfforaethol wedi ailddechrau cyfarfod ym mis Rhagfyr, 2020 pan gafodd diweddariad ar waith a wnaed gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod y pandemig, gan gynnwys y camau a gymerwyd i gwrdd â'r rhwymedigaethau statudol a'r dulliau creadigol a fabwysiadwyd i gadw mewn cysylltiad â phlant sy'n derbyn gofal gan  yr Awdurdod mewn cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol. Hysbyswyd y Panel am lwyddiant parhaus yr ymgyrch i recriwtio a chadw Gofalwyr Maeth, a gefnogwyd gan lansiad y Cynnig Craidd ym mis Ionawr, 2019, sef cymhelliant marchnata i ddenu gofalwyr maeth newydd. Diweddarwyd y Panel hefyd ar gyraeddiadau addysgol y plant a'r bobl ifanc sydd yng ngofal yr Awdurdod. Yn ystod y pandemig penderfynodd y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Arweinydd / Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol achub ar y cyfle i gomisiynu adolygiad gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o lywodraethiant, rheolaeth risg a rheolaeth fewnol  y Panel, yn benodol p’un a oedd ganddo drefniadau priodol i gefnogi a hwyluso'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau fel rhiant corfforaethol. Er bod yr adolygiad gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi rhoi sicrwydd bod y Panel yn gweithredu'n effeithiol ar y cyfan, nododd hefyd welliannau y gellid eu gwneud a bydd y rhain yn cael sylw mewn cynllun gweithredu y cytunir arno gan y Panel.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2020.

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 380 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor am y cyfnod rhwng mis Chwefror, 2021 a mis Medi, 2021 a nodwyd y newidiadau canlynol - 

 

           Eitemau newydd

 

           Eitem 21 - Datganiad ar y Polisi Trwyddedu - ar gyfer cyfarfod 22 Mawrth, 2021

           Eitem 22 - Cynllun Rheoli Asedau Gwasanaeth 2020 - 2030: Y Stad Mân-ddaliadau -  ar gyfer cyfarfod 22 Mawrth, 2021.

           Eitemau 33-36 - Adroddiadau Chwarterol Perfformiad a Monitro Cyllideb 2021/22  - ar gyfer cyfarfod Medi, 2021.

 

           Eitemau a ailraglennwyd

 

           Eitem 3 - Rhent Tai CRT a Thaliadau Gwasanaeth Tai 2021/22 - a ddygwyd ymlaen i gyfarfod 15 Chwefror, 2021

           Eitem 19 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20 - eitem wedi'i hailraglennu o gyfarfod 25 Ionawr, 2021 i gyfarfod 22 Mawrth, 2021

           Eitem 20 - Cwrs Golff Llangefni - eitem wedi'i hailraglennu o gyfarfod 15 Chwefror, 2021 i gyfarfod 22 Mawrth, 2021.

 

Yn ogystal, ers cyhoeddi'r rhaglen mae'r Gwasanaeth Tai wedi gofyn am i eitem 2 ar y Rhaglen Waith - Cynllun Comisiynu Grant Cymorth Tai - gael ei hailraglennu o gyfarfod 15 Chwefror, 2021 i gyfarfod 22 Mawrth, 2021.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2020 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad – Ail Strwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth pdf eicon PDF 761 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas ag ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a nododd ei fod yn adroddiad sy'n delio ag ailstrwythuro arfaethedig yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r newidiadau i'r cyfansoddiad o ganlyniad.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2020 i adlewyrchu ailstrwythuro mewnol yr uwch dîm rheoli gan y cyn Brif Weithredwr yn 2019. Yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr, penodwyd y Dirprwy Brif Weithredwr yn Brif Weithredwr a phenodwyd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Ers mis Tachwedd, 2019 mae rôl y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wedi bod yn wag er gwaethaf dwy ymgyrch hysbysebu allanol. Yn dilyn yr ymgyrch hysbysebu aflwyddiannus gyntaf mae dyletswyddau swydd y Cyfarwyddwr wedi bod yn cael eu cyflawni gan ddau ymgeisydd mewnol, gydag un wedi ei benodi'n Bennaeth Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer  Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r llall wedi ei benodi i arwain ar faterion cynllunio lle. Gwnaed y penodiadau hyn yn y lle cyntaf tan Ebrill, 2020 ond oherwydd y pandemig a'r angen i sicrhau parhad busnes fe'u hestynnwyd hyd at fis Rhagfyr, 2020.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod argyfwng y pandemig wedi dangos bod yn rhaid i'r Cyngor fod â swyddogion a chanddynt gymwysterau addas mewn meysydd penodol ar gyfer y dyfodol; mae'r ymateb i'r coronafeirws hefyd wedi dangos yn glir bwysigrwydd cymwyseddau priodol ar gyfer y lefel hon o swyddi. Yn ogystal, mae cyfnod y pandemig hefyd wedi profi pwysigrwydd hanfodol gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i adeiladu gwytnwch cymunedol i ddelio â gwahanol heriau, sef heriau y mae swyddogion angen amser digonol a rhesymol i fynd i'r afael â hwy. Mae angen capasiti digonol a theg / cytbwys ar draws yr holl wasanaethau i sicrhau gwytnwch y Cyngor yn y dyfodol o fewn yr haen uwch o reolaeth ac arweinyddiaeth. Er bod trefniadau dros dro wedi gweithio'n dda nid ydynt yn effeithiol yn y tymor hir. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad mewn perthynas â'r swydd Cyfarwyddwr a'r swyddi dros dro a grëwyd o ganlyniad i'r methiant i recriwtio i'r rôl honno.

 

Gyda hyn mewn golwg, cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Penodi ym mis Rhagfyr, 2020 yn gofyn am ei argymhelliad o ran y ffordd orau ymlaen i lenwi'r gwagle yn uwch dîm rheoli'r Cyngor. Yn yr adroddiad hwnnw mynegodd y Prif Weithredwr ei barn broffesiynol mai'r opsiwn gorau fyddai dileu swydd y Cyfarwyddwr a phenodi un Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a thrwy hynny ddileu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'r uwch Dîm; yn ymarferol, y Dirprwy Brif Weithredwr fyddai'n arwain ar yr agwedd hon ar y swydd yn yr Uwch Dîm. Felly, byddai angen rhoi ystyriaeth i gefnogi rhai o ddyletswyddau'r Dirprwy ac - o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Strategaeth Tai Dros Dro 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ymgorffori Strategaeth Dai Dros Dro 2021.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau, ac fe eglurodd mai'r bwriad wrth gyflwyno'r Strategaeth Dai Dros Dro yw rhoi dogfen strategol ar waith sy'n cydnabod y newidiadau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn, trwy flaenoriaethu'r hyn sydd angen digwydd y flwyddyn nesaf a darparu gwybodaeth am sut mae'r Gwasanaethau Tai a'i bartneriaid yn ymateb, ac yn parhau i ymateb, i'r pandemig coronafeirws. Mae'n bont i ddatblygu'r Strategaeth Dai a fydd yn cynnwys gofynion y Grant Cymorth Tai a Strategaeth Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru erbyn 2022. Defnyddiwyd blaenoriaethau'r Strategaeth gyfredol ar gyfer y Strategaeth Dros Dro a fydd yn llywio blaenoriaethau'r Gwasanaeth am y cyfnod 2022 -2027 ac mae'r rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at y Cynllun Cyfathrebu a’r ymgynghoriad, dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Strategaeth Dros Dro wedi’i rhoi ar wefan y Cyngor i bwrpas ymgynghori â phrif bartneriaid y Gwasanaeth. Rhedodd y cyfnod ymgynghori am 3 wythnos rhwng 27 Tachwedd, 2020 a 18 Rhagfyr, 2020. Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad (y manylir arno yn Atodiad 1) yn dangos cefnogaeth i'r Strategaeth Dai Dros Dro ar gyfer 2021 a bydd yn sail ar gyfer datblygu'r Strategaeth 5 mlynedd am y cyfnod o 2022 i 2027 a'r bwriad yw cyhoeddi drafft cychwynnol erbyn Ebrill, 2021 gyda'r drafft terfynol ar gael ar-lein rhwng Mehefin ac Awst, 2021 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr amserlen ymgysylltu / ymgynghori arfaethedig yn gweld y drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Medi, 2021 ac wedi hynny i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo ym mis Hydref, 2021.

 

Wrth ddarparu rhagolwg o amcanion y Gwasanaeth Tai cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at 93 o unedau tai y disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn 2021/22 gan y Cymdeithasau Tai sy'n bartneriaid i'r Gwasanaeth o gymharu â 23 uned yn 2019/20 a 49 uned yn 2020/21. Nododd bod  gwaith i godi 38 o unedau tai Cyngor wedi cychwyn ar safleoedd  yn 2020/21 a disgwylir i waith ar 40 uned arall gychwyn erbyn 2021/22. Yn ogystal, rhagwelir y bydd hyd at 75 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd yn 2020/21 ac o leiaf 50 yn 2021/22. Ymgymerwyd â gweithgaredd sylweddol hefyd o dan y Strategaeth Dai flaenorol, sef o 2014 mewn gwirionedd, lle darparwyd 53 o unedau tai newydd rhwng 2015 a 2020 ynghyd â phrynu 65 uned ychwanegol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, cwblhawyd Hafan Cefni, sef cyfadeilad gofal ychwanegol sy'n cynnwys 63 fflat ac fe ailfodelwyd Llawr y Dref yn Llangefni i ddarparu ar gyfer ffordd fwy modern o fyw.

 

Wrth gloi ei gyflwyniad ar y Strategaeth, tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at yr agwedd gadarnhaol ynddi o ran y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yr oedd yn ei phortreadu; mynegodd ei ddiolchgarwch i staff y Gwasanaeth Tai am eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn ystod y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Bioamrywiaeth pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y Cynllun Bioamrywiaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a nododd mai hwn yw Cynllun Bioamrywiaeth cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn a'i fod wedi'i baratoi yn unol ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn unol â'r gofynion yn Adran 6 mae'n nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a gwella bioamrywiaeth ac wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau a gwreiddio materion bioamrywiaeth yn ei benderfyniadau, ei gynlluniau a'i bolisïau o ddydd i ddydd. Mae'r Cynllun hefyd wedi ei baratoi i alinio ag amcanion Cynllun y Cyngor, yn benodol Amcan 3 (Gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi'n effeithiol â newid a datblygiadau tra'n amddiffyn ein hamgylchedd naturiol). Mae'n dilyn canllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn ystyried amcanion y Cynllun Adfer Natur ar gyfer Cymru sy'n nodi gweithredoedd y gellir eu cyflawni yn y tymor byr ac sy'n gosod trywydd i gyflawni ymrwymiadau tymor hwy y tu hwnt i 2020. Mae amcanion y Cynllun Bioamrywiaeth wedi eu hysgrifennu i fod yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn fesuradwy o fewn yr amserlenni ac adroddir ar ei allbynnau i'r Pwyllgor Gwaith bob blwyddyn.

 

Amlygodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro, er bod y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wedi arwain ar ddatblygu’r Cynllun, disgwylir y bydd holl wasanaethau’r Cyngor yn cyfrannu at wireddu ei amcanion. Hefyd, disgwylir ymgeisio am gyllid allanol er mwyn cyflawni rhai o'r prosiectau unigol yn y Cynllun sy'n ystyriaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio (Amgylchedd Adeiledig a Naturiol) at y Cynllun Gweithredu fel elfen arbennig o bwysig o'r Cynllun ehangach gan nodi bod angen i'r Cyngor cyfan weithredu’n gorfforaethol er mwyn cyflawni’r camau a amlinellir ynddo.

 

Croesawodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan gydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth ac integreiddio bioamrywiaeth trwy holl waith y Cyngor. Roedd gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bryderon ynghylch dirywiad coed ynn oherwydd y clefyd gwywiad yr onnen a goblygiadau hynny i goed ynn ar yr Ynys ynghyd â’r posibilrwydd y gallai gael effeithiau ecolegol ehangach.

 

Wrth gydnabod bod hon yn broblem genedlaethol sylweddol, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod Cydlynydd y Cyngor ar gyfer y clefyd Gwywiad yr Onnen yn edrych ar y mater o safbwynt yr Ynys a bod panel sy'n cynnwys yr Aelodau Portffolio  perthnasol a Swyddogion hefyd wedi'i sefydlu i'r un pwrpas. Mae  gweithio gyda pherchnogion tir a chynghorau cymuned yr un mor bwysig hefyd, a hynny er mwyn nodi'r ardaloedd hynny lle mae coed heintiedig, ac i ddatblygu cynlluniau ailblannu lle collwyd coed.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Argyfwng Bws pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â'r Cynllun Brys ar gyfer Bysus.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun ehangach, y cefndir a'r Cynllun Brys ar gyfer Bysus (CBB) a'r rhesymau drosto, ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gytuno i i ymuno â chynllun CBB2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS, yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a rhoddodd wybodaeth gefndir bod Llywodraeth Cymru (LlC) ac awdurdodau lleol wedi bod yn darparu cymorth ariannol i'r sector gwasanaethau bws i helpu i ddelio â llai o refeniw a chostau uwch oherwydd effaith Covid-19. Cyn y pandemig roedd LlC wedi ymgynghori ar ystod o newidiadau arfaethedig i'r ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu yng Nghymru ac wedi nodi ei bod am weld y sector cyhoeddus yn cael mwy o ddylanwad dros rwydweithiau gwasanaeth, tocynnau ac integreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd; mae LlC hefyd yn bwriadu cysylltu goroesiad tymor byr y gweithredwyr â diwygio'r sector ar gyfer y tymor hir. Yn y tymor byr, felly, darperir cyllid i gadw gweithredwyr i fynd ac mae nifer o amodau gyda'r cyllid hwnnw. Nod y rhain yw cymell gweithredwyr i ymgysylltu â'r newidiadau y bwriedir eu gwneud ac sy'n unol â'r uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer diwygio'r sector. Rhyddhaodd LlC £29m o Gronfa Caledi a oedd yn gweithredu o Ebrill, 2020 am dri mis, ac ar ôl hynny cyflwynwyd y Cynllun Brys ar gyfer Bysus ym mis Gorffennaf er mwyn parhau i ddarparu cymorth (CBB1) gyda disgwyl y byddai gweithredwyr yn cyfrannu at ail-lunio gwasanaethau bws yng Nghymru. Cyflwynwyd CBB 1.5 ym mis Awst, 2020 a weinyddir gan Awdurdodau arweiniol (Sir y Fflint yn achos Gogledd Cymru) a darparodd hyn £10m o gyllid i gefnogi ailagor ysgolion a gweithgaredd economaidd. Yna estynnwyd CBB 1.5 hyd at ddiwedd mis Mawrth, 2021 yn dilyn cyhoeddi pecyn cymorth pellach ym mis Medi, 2020, a gofynnwyd  i weithredwyr gytuno i ystod o delerau ac amodau ar gyfer manteisio ar y cyllid.

 

Mae LlC, yn gweithio ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru,  bellach yn cynnig gwneud cytundeb CBB2 tymor hwy gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau. Bydd y cytundeb yn rhedeg yn y lle cyntaf am ddim mwy na 2 flynedd o'r dyddiad y cychwynnodd CBB 1.5 h.y. hyd at Orffennaf 2022 oni bai bod amodau'r farchnad yn gwella digon i weithredwr beidio â bod angen cymorth CBB mwyach, boed ar gyfer gwasanaethau masnachol neu wasanaethau dan gontract. Bydd LlC yn gyd-lofnodwr cytundeb CBB2 gyda gweithredwyr bysus ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru. Mae Awdurdodau Lleol yn cadw cyfrifoldebau cyfreithiol am wasanaethau bws ac felly'n parhau i fod â rôl ganolog o ran penderfynu pa wasanaethau lleol sy'n derbyn y cymorth hwn. Mae angen iddynt ymrwymo i egwyddor y cytundeb a'r berthynas â'u hawdurdod arweiniol wrth sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn cwrdd â'u blaenoriaethau ac yn cael ei ddarparu ar eu rhan. Bydd hyn yn darparu'r sylfaen gyfreithiol i LlC  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.