Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Wrth groesawu pawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith, manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i bawb a oedd wedi mynd yr ail filltir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau parhad busnes y Cyngor a diogelwch a llesiant yr Ynys a’i thrigolion; ar ran y Pwyllgor Gwaith dymunodd yn dda iddyn nhw, aelodau etholedig a staff y Cyngor a’u teuluoedd yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Wrth gyfeirio at sefyllfa bresennol Covid-19 ar Ynys Môn a thu hwnt a’r ansicrwydd y mae’n ei greu, anogodd pawb sy’n cael eu gwahodd am frechiad atgyfnerthu i dderbyn y cynnig, ac hefyd i barhau i gadw at y mesurau sydd ar waith i reoli lledaeniad y firws, sef gwisgo mwgwd, sicrhau bod mannau dan do yn cael eu hawyru a golchi dwylo yn rheolaidd.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac Ieuan Williams ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitemau 6, 7 ac 8 ar y rhaglen ac nid oeddent yn bresennol pan ystyriwyd y materion hynny.

 

Datganodd Mr Rhys H. Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitemau 7 ac 8 ar y rhaglen ac nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y materion hynny.

 

Wrth ddatgan diddordeb yn eitemau 6 ac 8 ar ran yr aelodau o’r Pwyllgor Gwaith a nodir isod, cadarnhaodd y Cadeirydd bod yr aelodau hynny wedi derbyn caniatâd arbennig i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar eitemau 6 ac 8 gan banel o’r Pwyllgor Safonau a gyfarfu ar 12 Tachwedd 2021 - Y Cynghorwyr Richard Dew, Llinos Medi Huws, Carwyn Jones, Alun Mummery, R.G. Parry, OBE, FRAgS, Dafydd Rhys Thomas a Robin Williams.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w adrodd.

 

3.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Awst 2022, a thynnwyd sylw at y newidiadau a ganlyn -

 

·         Eitem 4 – Gostwng Oed Mynediad i Ysgol Llandegfan – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr 2022.

·         Eitem 7 – Strategaeth Tai Lleol – wedi’i symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr i’r cyfarfod ar 14 Chwefror 2022.

·         Eitem 11 – Cludiant Ysgol: Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

·         Datblygiadau Tai o fwy na 10 uned: Tir ger Ysbyty Penrhos Stanley – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr 2022 nad oedd wedi’i chynnwys yn y Flaen Raglen Waith a gyhoeddwyd.

 

Penderfynwyd cadarnhau’r blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Ionawr i Awst 2022 gyda’r newid ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.

 

4.

Sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd ar gyfer Porthladd Newydd pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn nodi’r gofynion ar y Cyngor i ddatblygu a sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd (AIP) penodedig newydd yn sgil sefydlu Safle Rheoli Ffiniau.

 

Mae ymadawiad y Deyrnas Unediad o’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi creu’r angen i sefydlu trefniadau rheoli ffiniau newydd a gwiriadau ar fewnforion. Gosodwyd y gofynion newydd hyn ar Lywodraeth Cymru yn sgil Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ar hyn o bryd mae dau gyfleuster newydd wrthi’n cael eu datblygu ym Mharc Cybi, Caergybi i gynnal gwiriadau tollau a rheoli ffiniau ar gyfer nwyddau sydd yn dod i mewn neu’n gadael y Deyrnas Unedig drwy borthladd rhyngwladol Caergybi. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn datblygu Cyfleuster Rheoli Ffiniau Mewndirol ac mae Llywodraeth Cymru’n sefydlu Safle Rheoli Ffiniau.

 

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Safle Rheoli Ffiniau o dan bwerau a gafodd eu datganoli gan Lywodraeth y DU, bydd sefydlu’r cyfleuster hwn yn rhoi dyletswyddau ychwanegol ar y Cyngor Sir, fel yr awdurdod lletyol, o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a deddfwriaeth yr UE a gadwyd yn ymwneud ag archwilio mewnforion.  Mae’n rhaid sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd (AIP) penodedig newydd gyda chyfrifoldeb am orfodi mesurau rheoli iechyd ar ffiniau’r DU erbyn mis Gorffennaf 2022 pan fydd archwiliadau ar gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid yn cael eu cyflwyno, er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor sy’n cynnwys amrywiaeth o wiriadau dogfennol, hunaniaeth a ffisegol.

 

 

Mae Swyddogion Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru ers mis Awst 2020 er mwyn deall y newidiadau disgwyliedig i wiriadau rheoli ffiniau yn well. Er gwaethaf ymdrechion y swyddogion, mae diffyg gwybodaeth ac eglurder wedi effeithio ar allu’r Cyngor i gynllunio a pharatoi’n ystyrlon ar gyfer y newidiadau i drefniadau rheoli ffiniau. Dylid nodi hefyd nad oes gan y Cyngor unrhyw arbenigedd, capasiti na gallu ym maes iechyd porthladd ar hyn o bryd. Er bod gwaith datblygu’r AIP wrthi’n cael ei wneud gyda grant untro gan Lywodraeth Cymru, nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch cyllido’r gwaith yn y dyfodol ar wahân i’r posibilrwydd o gynyrchu incwm drwy gynnal gwiriadau dogfennol. Ni fydd unrhyw gymorth ariannol ar gael ar ôl mis Mawrth 2022.

 

Manylodd y Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar y ddau opsiwn sydd ar gael i’r Cyngor, ym marn y Gwasanaeth, er mwyn cyflawni’r dyletswyddau iechyd porthladd newydd, sef – sefydlu AIP hyd braich newydd ar gyfer Caergybi neu gyflawni’r dyletswyddau’n fewnol yn y Cyngor heb sefydlu AIP newydd – a chyfeiriodd at fanteision ac anfanteision y ddau opsiwn. Cadarnhaodd bod angen gwneud rhagor o waith manwl i adolygu ac asesu addasrwydd, cyflawnadwyedd a fforddiadwyedd yr opsiwn a ffafrir er mwyn sicrhau mai dyma’r ffordd orau ymlaen i’r Cyngor, a bydd y gwaith hwn yn cynnwys adolygu materion megis llywodraethiant corfforaethol, risgiau, rhwymedigaethau, costau a’r angen am gymorth gan wasanaethau eraill y Cyngor. Bydd rhaid paratoi Cynllun Gweithredol ar gyfer yr AIP i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Ardal Gogledd Cymru (CJC) pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn ceisio cytundeb y Pwyllgor Gwaith, mewn egwyddor, i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) newydd Gogledd Cymru gyda’r nod o gyflawni model llywodraethiant symlach ac osgoi dyblygu.

 

Gwnaed rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ar 17 Mawrth 2021 yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru a sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 1 Ebrill 2021. Bydd y pedwar CBC yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â datblygu strategol, cynllunio a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Byddant hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd. Yn wahanol i drefniadau cyd-bwyllgor eraill, mae’r CBC yn gorff corfforaethol ar wahân sy’n gallu cyflogi staff a dal asedau. Mae consensws ymysg awdurdodau lleol Gogledd Cymru y dylai’r CBC barhau i’r cyfeiriad a sefydlwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Ymhellach, mae Arweinyddion a Phrif Weithredwyr y chwe Chyngor yn cytuno y dylai CBC Gogledd Cymru gael ei adeiladu ar y nodau a’r egwyddorion a nodir ym mharagraff 8 yr adroddiad. Mae cytundeb traws-ffiniol hefyd y dylid anelu i ddechrau at sefydlu model llywodraethu symlach, gan osgoi dyblygu tra’n rhoi sylw dyledus i sybsidiaredd. Felly, y flaenoriaeth gyntaf yw symud y Bwrdd Uchelgais Economaidd i is-bwyllgor sydd wedi’i rymuso o’r CBC, gan nodi mai Arweinyddion awdurdodau lleol y rhanbarth fydd yn rheoli’r corff corfforedig hwn. 

 

Mae Pinsent Masons, sydd yn cynghori nifer o ranbarthau Cymru, wedi ystyried y strwythurau gweithredol sydd ar gael i’r Bwrdd Uchelgais wrth symud ymlaen, yng ngoleuni sefydlu’r CBC, cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru a’r egwyddorion rhanbarthol cytunedig a nodwyd o dan baragraff 8 yr adroddiad. Byddai gwneud dim neu ‘cyd-fodoli’ yn annigonol, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, ac nid yw’n mynd i’r afael â sut y bydd swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais yn cael eu cyflawni gan y CBC. Y strwythur gweithredol mwyaf effeithlon a hyfyw, sy’n bodloni’r gofyn i drosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforedig, yw trosglwyddo swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i is-bwyllgor sydd wedi’i rymuso o’r CBC. O ganlyniad, bydd trosglwyddo’r swyddogaethau i is-bwyllgor yn cadw elfennau craidd y Bwrdd Uchelgais, ond bydd yn darparu model cyflenwi mwy cadarn ac effeithlon yn uniongyrchol drwy gerbyd corfforedig y CBC. Mae Pinsent Masons wedi cynghori swyddogion yn fanwl ar y manteision a rhai materion allweddol, cyn dod i’r casgliad mai trosglwyddo swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais i is-bwyllgor fyddai’n darparu’r strwythur gorau ar gyfer y CBC. Mae’r adroddiad yn nodi manteision y trosglwyddiad arfaethedig ac mae’n rhoi sylw i ystyriaethau o ran gwneud penderfyniadau, gwerth a ychwanegir o fabwysiadu’r dull hwn, trosglwyddo trefniadau’r Fargen Dwf a llywodraethiant a chyllid. Ni fyddai cymeradwyo’r penderfyniad a geisir gan yr adroddiad ynghylch y model llywodraethiant yn creu unrhyw oblygiadau ariannol i’r Cyngor. Fodd bynnag, bydd costau anorfod parhaus nad ydynt wedi’u hadnabod yn llawn eto i’r awdurdodau lleol er mwyn gweinyddu a chyflawni swyddogaethau’r CBC. Y cyfeiriad a osodir gan yr adroddiad hwn yw gwneud i’r CBC weithio’n effeithiol tra’n lleihau’r baich  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori’r Strategaeth Ddigidol gyntaf ar gyfer Ysgolion Ynys Môn sy’n nodi gweledigaeth yr Awdurdod yn seiliedig ar egwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn ac yn eitemau 7 ac 8 isod, nid oedd y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac Ieuan Williams yn bresennol ar gyfer yr eitem nac am weddill y cyfarfod.

 

Gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru, bydd cymhwysedd digidol, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, yn dod yn sgil trawsgwricwlaidd gorfodol y bydd rhaid ei wreiddio mewn unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir. Mae cymhwysedd digidol yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan ddysgwyr y gallu i ddysgu, deall a defnyddio technoleg yn hyderus, yn greadigol ac yn feirniadol. Wrth i’r bygythiadau seibr i sefydliadau addysgol barhau i esblygu, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y data critigol hwn yn cael ei ddiogelu. O ganlyniad, mae angen gwreiddio technoleg ddigidol yn ddiogel yn holl feysydd y cwricwlwm.

 

Nod cyffredinol y strategaeth yw cynorthwyo ysgolion sydd wedi’u galluogi’n ddigidol i sicrhau bod dysgwyr yn ffynnu ac yn gwireddu eu potensial tymor hir. Mae’r strategaeth hefyd yn nodi rôl yr awdurdod lleol wrth gyflawni’r weledigaeth ac mae wedi’i bwriadu ar gyfer yr holl ddysgwyr yn ein hysgolion, athrawon, llywodraethwyr, staff ategol, rhieni a phawb sy’n rhan o gymuned ysgol gyfan Ynys Môn. Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r strategaeth, ymgysylltwyd ag aelodau’r Fforwm TGCh (sy’n cynrychioli penaethiaid ysgolion cynradd), penaethiaid ysgolion uwchradd yr Ynys a phennaeth Canolfan Addysg y Bont a darparwyd crynodeb o’r ymatebion. Sefydlir trefniadau llywodraethiant cadarn i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu a bydd cynnydd yn cael ei adolygu bob chwarter trwy gyfrwng adroddiad cryno ar gamau gweithredu, canlyniadau, effaith, llwyddiannau a phroblemau. Bydd adroddiad cynnydd blynyddol ac adolygiad o’r strategaeth yn cael eu cwblhau hefyd.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at bwysigrwydd y byd digidol a dywedodd bod technoleg yn dod yn fwyfwy amlwg bob wythnos a bod hynny’n berthnasol i Ynys Môn gymaint ag unrhyw le arall. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn enwedig cyfnod y pandemig, wedi dangos sut mae’r Awdurdod, ei weithwyr a’u alluoedd wedi addasu i ddelio â’r argyfwng trwy wneud y defnydd mwyaf posib o dechnoleg i sicrhau fod bywyd yn mynd yn ei flaen, ac yn arbennig felly mewn addysg. Erbyn hyn, mae cymhwysedd digidol yn sgil hanfodol a po fwyaf yw cyrhaeddiadau digidol disgyblion pan fyddant yn gadael yr ysgol yna’r mwyaf yw’r siawns y byddant yn diwallu anghenion y dyfodol wrth iddynt esblygu a newid. Lluniwyd y strategaeth i ddarparu cyfeiriad i bawb yn yr ysgolion a’r gymuned ddysgu a bydd yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â’r holl brif gyfranogwyr yn y system addysg. Er bod cyflawni’r strategaeth yn llwyddiannus yn bwysig i holl bartneriaid addysg yr Awdurdod, mae’n arbennig o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (Paragraffau 14 ac 16) y Ddeddf honno.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni fel y diffinnir ym Mharagraff 14 [gwybodaeth sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy’n dal y wybodaeth honno)] o Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

8.

Strategeath Ddigidol Ysgolion Ynys Môn a Chwmni Cynnal Cyf.

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn nodi’r materion sy’n codi mewn perthynas â’r ddarpariaeth bresennol yn sgil mabwysiadu Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer ysgolion Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn cynnig ffordd ymlaen i fynd i’r afael â’r materion ac yn gofyn am gymeradwyaeth a hawliau dirprwyo er mwyn gwireddu’r cynnig.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, nid oedd Mr Rhys H. Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc na’r Cynghorwyr R. Meirion Jones ac Ieuan Williams yn bresennol yn y cyfarfod pan drafodwyd y mater.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad fel ffordd ymlaen.