Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: No declaration of interest was received. |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: None to report. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2022 fel cofnod cywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2022 i Chwefror 2022 fel y’i cyflwynwyd. |
|
Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 4, 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch4 2022/23, nodi meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw Alldro 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- · Nodi’r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2021/22; · Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 y manylir arnynt yn Atodiad C; · Nodi sefyllfa’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH; · Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2021/22 yn Atodiadau D a DD; · Nodi balansau ysgolion yn Atodiad E.
|
|
Alldro Cyfalaf 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- · Nodi sefyllfa alldro drafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 sy’n destun Archwiliad; a · Cymeradwyo dwyn ymlaen £11.242m i 2022/23 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriant. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2022/23 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 yw £47.203m.
|
|
Adroddiad Alldro'r Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 4, 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. |
|
Costau Byw – Cynllun Dewisol Cyflwyno adoddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :- · Cymeradwyo darparu £150 i’r grwpiau a nodir yn adran 2.1.1 yn yr adroddiad, a bod cyllideb gwerth £150,000 yn cael eu gweinyddu gan Adain Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Sir Ynys Môn; · Cymeradwyo cyllid caledi i drigolion sy’n symud o lety brys i lety sefydlog:- ‘Hyd at £300 o gyllid i dalu am gostau bwyd a / neu danwydd wrth symud i lety mwy sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau tanwydd uniongyrchol megis olew. Yn ychwanegol, gellir defnyddio’r cyllid i gefnogi costau dodrefnu. Bydd y cyllid o £50,000 yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol yn seiliedig ar anghenion asesedig.’ · Cymeradwyo £150 ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch ac sy’n rhentu neu’n berchen llety ar yr Ynys ac sydd wedi’u heithrio o gam un:- £5,000 i’w ddarparu i Grŵp Llandrillo Menai i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod; £5,000 i’w ddarparu i Brifysgol Bangor i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod. · Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer ail gam y cynllun costau byw ar gyfer trigolion Ynys Môn sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog / cyn-filwyr ac sydd mewn caledi ariannol. Bydd y taliad o hyd at £300 i bob aelwyd sy’n wynebu caledi yn seiliedig ar anghenion asesedig:- ‘£10,000 i’w ddarparu i Leng Brydeinig Ynys Môn a SAFFA i gefnogi cyn-filwyr sy’n wynebu caledi · Cymeradwyo’r grŵp canlynol ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn caledi ariannol ac sydd heb fynediad at gyllid caledi ychwanegol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol. Fe all y cyllid gefnogi costau bwyd a thanwydd. · Bydd yr agwedd hon yn cefnogi trigolion sydd yn wynebu tlodi er eu bod mewn gwaith. Bydd y taliad hwn o hyd at £300 yn seiliedig ar anghenion asesedig a gellir ei weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn. · Bydd yr agwedd hon yn cynnwys pob math o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a bydd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o galedi. 100,000 i’w weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn. · Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 Cyngor Sir i gynyddu cyllidebau sefydliadau yn seiliedig ar achosion busnes derbyniol, sy’n dangos yr angen a’r galw.
|