Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd Arweinydd y Cyngor groeso i’r Aelodau a'r Swyddog i gyfarfod hybrid cyntaf y Pwyllgor Gwaith.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i adrodd arno.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd y 25ain o Ebrill, 2022, i’w cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2022 yn rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth  Democrataidd Dros Dro. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Chwefror 2023, a nodwyd y newidiadau a ganlyn:-

 

·                     Eitem 1 – Gostwng yr Oed Derbyn i Ysgol Corn Hir – penderfyniad dirprwyedig.

·                     Eitem 3 – Cyfrifon Drafft 2021/2022 a’r defnydd o falansau a chronfeydd wrth gefn – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 19 Gorffennaf, 2022.

·                     Eitem 9 – Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24 i 2025/26 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 27 Medi, 2022.

·                     Eitem 10 – Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (Gofal Cymdeithasol) – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 27 Medi, 2022.

·                     Eitem 14 – Cynllun y Cyngor 2022-2027 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 25 Hydref, 2022.

·                     Eitem 20 – Sylfaen Treth y Cyngor 2023/24 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 29 Tachwedd, 2022.

·                     Eitemau 24 – 26 (adroddiadau monitro ariannol chwarterol) – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2022/23; Adroddiad Monitro'r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 3, 2022/23; Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2022/23 – eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 14 Chwefror, 2023.

·                     Eitem 27 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2021/22 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 14 Chwefror, 2023.

·                     Eitem 28 – Cyfrif Refeniw Tai - Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth Tai 2023/24 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 14 Chwefror, 2023.

 

Ers cyhoeddi’r rhaglen:-

 

·                     Penderfyniad wedi’i ddirprwyo i’r Arweinydd – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – cytundeb i barhau i gydweithio neu i uno gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd – Gorffennaf 2022.

 

·                     Adroddiad ar Ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio 2022/23 i'w ystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf o'r Pwyllgor Gwaith.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith Cychwynnol y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2022 i Chwefror 2023, fel y’i cyflwynwyd.

 

 

 

5.

Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 4, 2021/22 pdf eicon PDF 700 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2021/2022 i’r Pwyllgor Gwaith

ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a nododd ei bod yn galonogol adrodd bod y mwyafrif (92%) o'r dangosyddion corfforaethol a gafodd eu monitro yn erbyn y targedau wedi'u cyflawni. Roedd hefyd yn galonogol bod dangosyddion gwasanaeth wedi'u cyrraedd gyda 91% o'r dangosyddion perfformiad penodol yn perfformio uwchlaw'r targed. Rhoddodd enghreifftiau o berfformiad da yn ystod y flwyddyn oedd yn cynnwys canran y cleientiaid NERS yr oedd eu hiechyd wedi gwella ar ôl cwblhau'r rhaglen ymarfer corff - sydd â pherfformiad o 84% yn erbyn targed o 80%. Nifer yr eiddo gwag yr aethpwyd yn ôl i’w defnyddio - aethpwyd yn ôl i ddefnyddio 91 eiddo yn erbyn targed o 50. Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach fod tri dangosydd rheoli gwastraff wedi perfformio'n dda yn erbyn targedau yn ystod y flwyddyn, gyda 95.5% o strydoedd a gafodd eu harolygu yn yr ardal yn lân a dim gwastraff arnynt. Mae'n galonogol nodi, hefyd, bod achosion o dipio anghyfreithlon yn cael eu clirio o fewn 0.25 diwrnod. Mae’r tri dangosydd priffyrdd sy’n ymwneud ag arolygon o gyflwr ffyrdd A, B ac C yr Ynys yn wyrdd yn erbyn targedau ac wedi gwella o gymharu â 2020/21. Mae perfformiad blwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer yr holl ddangosyddion cymaradwy (cyfanswm o 30) yn dangos bod 18 (60%) wedi gwella yn ystod y flwyddyn, 10 (33%) wedi dirywio a 2 (7%) wedi cynnal lefel eu perfformiad.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, rôl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Dywedodd fod Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 20 Mehefin, 2022 a chodwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor:

 

  • Nododd yr aelodau fod y Cerdyn Sgorio’n crynhoi perfformiad lleol y Cyngor yn ystod Chwarter 4 2021/22 ac yn dangos darlun cadarnhaol;
  • Roedd yr adroddiad yn trafod perfformiad ein trefniadau amddiffyn plant. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn mynd i'r afael â'r mater allweddol hwn;
  • Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor am berfformiad lleol yn erbyn Dangosydd Perfformiad 32 → canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Gofynnwyd cwestiynau am unrhyw effaith ariannol o danberfformio a hefyd y mesurau lliniaru sydd ar waith i gael effaith gadarnhaol ar berfformiad lleol. Cytunwyd bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i berfformiad y Cyngor ar ailgylchu a’r mesurau lliniaru sydd i’w cyflwyno ar ôl i’r Gweithgor Ailgylchu gyda WRAP Cymru adrodd ar ganfyddiadau eu hadolygiad.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch tanberfformiad yn erbyn Dangosydd 36 - canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd. Derbyniodd y Pwyllgor yr eglurhad ynghylch effaith nifer fach o achosion ar y ganran derfynol
  • Adroddwyd bod ymateb amserol i gwynion gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn broblem yn Chwarter 4 a gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch perfformiad yn y maes hwn.

 

Dywedodd Cadeirydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb Refeniw Alldro 2021/22 pdf eicon PDF 535 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyngor hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/2022

i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad a dywedodd fod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2021/2022 ar 9 Mawrth, 2021 gyda gwariant gwasanaeth net o £147.420m, i'w ariannu o Incwm Treth y Cyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o £1.333m ar gyfer cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac eraill. Gostyngwyd y gyllideb ar gyfer Premiwm Treth y Cyngor o £0.121m i £1.514m. Defnyddiwyd £0.300m o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei phennu gyda'r cynnydd o 2.75% yn Nhreth y Cyngor y cytunwyd arno. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw cyllideb 2021/2022 yn gosod gofynion ar y gwasanaethau i wneud arbedion. Dywedodd ymhellach fod yr adroddiadau’n nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth, 2022. Y flwyddyn ariannol hon, ceir hawliadau mewn perthynas ag argyfwng Covid i Lywodraeth Cymru, sef cyfanswm o £6.135m, gyda £3.854m wedi'i dderbyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd unrhyw arian pellach yn cael ei ryddhau i dalu am y golled incwm yn ystod cam newydd y pandemig Covid. Rhagwelir tanwariant o £4.798m yn y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2021/2022, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor. Mae hyn yn 3.25% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/2022. Mynegodd yr Aelod Portffolio ei bod yn amhosibl rhagweld yr heriau a wynebir yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol ynghyd â'r heriau cynyddol gyda chostau cynyddol ac mae gwaith yn cael ei wneud gan yr Adran Gyllid ar yr effeithiau posibl y byddir yn debygol o'i hwynebu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod blwyddyn ariannol 2021/22 yn flwyddyn eithriadol oherwydd y pandemig Covid a gafodd effaith ar waith y Cyngor yn enwedig yn ystod Ch1. Cyfeiriodd at y tanwariant fel y nodwyd yn yr adroddiad a dywedodd fod grantiau'n cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru tuag at wasanaethau ac yn arbennig Gwasanaethau Cymdeithasol i gynorthwyo gyda'r pwysau a wynebir o fewn y gwasanaeth. Derbyniwyd y grant Grant Cynnal Refeniw arferol gan Lywodraeth Cymru ynghyd â grant ychwanegol o £1.4m ar ddiwedd y flwyddyn a dderbyniwyd gan bob awdurdod lleol arall yng Nghymru ac mae hyn wedi cyfrannu at y tanwariant o fewn y gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach fod y costau benthyca wedi gostwng oherwydd y tanwariant yn y gyllideb gyfalaf ac mae premiwm Treth y Cyngor wedi bod yn uwch na’r targedau. Mae hyn, hefyd, wedi cyfrannu at y tanwariant yn y gyllideb ynghyd â swyddi gweigion yn yr awdurdod ac incwm a dderbyniwyd yn arbennig yn y Gwasanaeth Morwrol yn ystod Haf 2021 oherwydd y cynnydd mewn ymwelwyr i'r Ynys. Mae'r incwm o ffioedd cynllunio ac ailgylchu hefyd wedi cyfrannu at y tanwariant yn enwedig yn ystod y chwarter diwethaf. Mae'r balansau cyffredinol yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Alldro Cyfalaf 2021/22 pdf eicon PDF 447 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb Gyfalaf y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, gydag amodau archwilio.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £15.842m ym mis Mawrth 2021 ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai ar gyfer 2021/2022, a Rhaglen Gyfalaf o £20.313m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Yn ogystal, ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith Lithriad Cyfalaf o £11.898m i’w ddwyn ymlaen o 2020/21, gan ddod â’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £25.492m, a £22.561m ar gyfer y CRT. Ers proses pennu'r gyllideb, mae cynlluniau ychwanegol wedi'u hychwanegu at y rhaglen, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu â grant, sef cyfanswm o £15.445m. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i £63.498m. Y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd £40.937m, gyda Gwariant o £23.734m ar 31 Mawrth 2022 sy’n cyfateb i 58% o’r gyllideb. Rhestrwyd y rhesymau dros y tanwariant ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Dywedodd ymhellach fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi gwario 43% o gyfanswm ei gyllideb, gyda thanwariant sylweddol yn cael ei ragweld trwy gydol 2021/2022.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y rhesymau dros y tanwariant ar gyfer 2021/2022 ac yn benodol bod grantiau wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiectau cyfalaf, bod y grantiau hyn yn cael eu derbyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol a’u bod yn amhosib gwario’r grantiau ar y prosiectau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u clustnodi ar gyfer y grantiau hyn. Mae’r sector adeiladu wedi wynebu problemau wrth gyflenwi deunyddiau adeiladu yn ystod y pandemig, ac wedi hynny, gydag oedi wrth ddosbarthu deunyddiau yn achosi oedi i gontractwyr yn cwblhau gwaith. Dywedodd ymhellach fod derbyn tendrau derbyniol, o fewn cyllidebau, hefyd wedi bod yn broblem oherwydd y cynnydd mewn costau deunyddiau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2021/2022 a gaiff ei harchwilio, a

·           Cymeradwyo cario £11.242m ymlaen i 2022/2023 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario ymlaen i 2022/2023 (Atodiad A – paragraff 4.3 yr adroddiad). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/2023 yw £47.203m.

 

 

8.

Adroddiad Alldro'r Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 4, 2021/22 pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 1 Ebrill, 2021 i 31 Mawrth, 2022.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad  gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) wedi’i neilltuo ar gyfer y stoc tai ac na ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol ac na all cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol ychwaith gael eu defnyddio i ariannu'r CRT. Roedd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i addasu yn rhoi diffyg yn y gyllideb wedi'i chynllunio o £9,116k a fyddai'n cael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT. Mae'r gwariant Cyfalaf £12,667k yn is na'r gyllideb, mae hyn ar ôl cymryd i ystyriaeth y cyllid Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol o £706k, y mae’r manylion i'w gweld yn Atodiadau A a B yr adroddiad. Mae'r gwarged (sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf) £11,726k yn is na'r gyllideb, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r hyn a gyllidebwyd. Mae hyn yn gynnydd o £1,851k o'i gymharu â'r rhagolwg a ddangoswyd yn adroddiad Chwarter 3. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf ag Incwm Grant Cyfalaf ychwanegol a dderbyniwyd yn Chwarter 4 sy'n gwrthbwyso'r gostyngiad yn y gwarged refeniw o £648k, o gymharu â rhagolwg Chwarter 3.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai balans y CRT yw £12m ond bydd yn cael ei ddefnyddio dros y flwyddyn tuag at y prosiectau o fewn y Cynllun Busnes 30 mlynedd; y bwriad yw dod â'r balans o fewn y CRT i lawr i tua £1m. Bydd y gyllideb HRA yn cael ei defnyddio i ariannu'r stoc tai newydd y mae'r Cyngor yn bwriadu ei adeiladu a phan fydd y gronfa CRT yn disgyn dan £1m bydd y Cyngor yn benthyca arian i ariannu'r prosiectau adeiladu newydd ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022.

 

 

9.

Costau Byw – Cynllun Dewisol pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno adoddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i alluogi cymorth dan gynllun dewisol, er mwyn helpu aelwydydd yr ystyrir bod angen cymorth arnynt gyda'u costau byw. Bwriad y cynlluniau yw rhoi cymorth ar unwaith i aelwydydd wrth i Gymru wella ar ôl y pandemig ac ymdrin ag effaith ynni cynyddol a chostau byw eraill. Wrth ddatblygu’r Cynllun Dewisol lleol, mae gan bob awdurdod lleol rwydd hynt i dargedu’r arian i gynorthwyo ei drigolion yn y ffordd orau ac i sicrhau bod ei ddull yn gweddu orau i anghenion aelwydydd unigol. Mae’r cynlluniau fel a ganlyn:-

 

Y Prif Gynllun bydd tua 23,000 o aelwydydd Ynys Môn yn derbyn taliad o £150 os ydynt ym Mandiau Treth Cyngor A i D, ynghyd ag unrhyw aelwydydd sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor sy’n byw mewn eiddo ym mandiau E i I. Mae hyn tua 75% i 80% o aelwydydd.

 

Cynllun Dewisol Awdurdodau Lleol –Mae tua £580,000 ar gael i'r Cyngor ei weinyddu ar sail angen a galw lleol, er mwyn cefnogi aelwydydd y mae’r cynnydd sylweddol mewn costau byw yn cael effaith arnynt.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at sut y bydd yr Awdurdod yn dosbarthu cyllid y ddau gynllun, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dymunodd Arweinydd y Cyngor ddiolch i'r rhai a weithiodd ar y cyd i ddosbarthu’r cyllid hwn fydd yn helpu pobl yn y sefyllfa heriol a wynebir ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

 

PENDERFYNWYD:- 

·           Cymeradwyo rhoi £150 i’r grwpiau a nodir yn adran 2.1.1 yr adroddiad, a bod cyllideb gwerth £150,000 yn cael ei gweinyddu gan  Adain Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Sir Ynys Môn;

·           Cymeradwyo cyllid caledi i drigolion sy’n symud o lety brys i lety sefydlog:-

Hyd at £300 o gyllid i dalu am gostau bwyd a / neu danwydd wrth symud i lety mwy sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau tanwydd uniongyrchol megis olew. At hyn, gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer costau dodrefnu. Bydd y cyllid o £50,000 yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol yn seiliedig ar anghenion sydd wedi’u hasesu.’

·           Cymeradwyo £150 ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch ac sy’n rhentu neu’n berchen ar lety ar yr Ynys ac sydd wedi’u heithrio o gam un:-

·         Rhoi £5,000 i Grŵp Llandrillo Menai i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod;

 Rhoi £5,000 i Brifysgol Bangor i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod.

·           Cymeradwyo’r isod ar gyfer ail gam y cynllun costau byw ar gyfer trigolion Ynys Môn sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog / cyn-filwyr ac sydd mewn caledi ariannol. Bydd y taliad o hyd at  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.