Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithwir ar Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion Brys Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i adrodd arno.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 485 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 28 Mehefin, 2022 yn rhai cywir. (Ymatalodd y Cynghorydd Nicola Roberts rhag pleidleisio oherwydd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod)

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Demcrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Awst, 2022 i Fawrth, 2023 a nodwyd y newidiadau a ganlyn

 

·         Eitemau Newydd

 

  Eitem 2 - Penodi Cynorthwywyr i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 27 Medi.

   Eitem 13 - Safle Peboc ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 25 Hydref, 2022

   Eitem 14 – Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar gyfer cyfarfod y   Pwyllgor Gwaith 25 Hydref, 2022

   Eitem 21 – Cynllun Rheoli Cyrchfan ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 29 Tachwedd, 2022

   Eitem 31 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2022/23 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2023

   Eitem 32 – Adroddiad Cynnydd Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2023.

 

·         Newid i eitem a adroddwyd yn flaenorol

 

Amlygodd y Swyddog Polisi yr adroddwyd i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin y byddai’r Arweinydd yn gwneud penderfyniad dirprwyedig ynghylch a ddylid parhau i gydweithio ynteu uno â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd. Ar ôl adolygu'r dogfennau, dywedodd ei bod wedi dod yn amlwg mai'r amod oedd y dylai'r ddau Fwrdd gyfarfod i ddod i benderfyniad ar wahân, er bod gofyn cyfreithiol i'r trefniant gael ei adolygu ar ôl yr Etholiad Llywodraeth Leol. Mae'r ddau Fwrdd wedi cyfarfod ers hynny ac wedi penderfynu parhau i gydweithio sy'n golygu nad oes angen penderfyniad dirprwyedig gan yr Arweinydd ynglŷn â threfniadau i'r dyfodol gan na fu unrhyw newid i'r sefyllfa bresennol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cynnwys eitem ar wariant Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar Raglen Waith cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2022, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Gwasanaeth Tai wedi gwneud y cais a dywedodd, er nad oedd ganddo wrthwynebiad mewn egwyddor i'w gynnwys, ei fod yn dymuno trafod y mater ymhellach gyda Phennaeth y Gwasanaethau Tai i sicrhau bod y Gwasanaeth mewn sefyllfa i adrodd i gyfarfod mis Medi yn wyneb toriad mis Awst.

 

Cytunwyd gadael i’r Prif Weithredwr bennu amseriad yr eitem ar y Rhaglen Waith, mewn trafodaeth â Phennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Penderfynwyd cadarnhau Rhaglen Gwaith Cychwynnol y Pwyllgor Gwaith, wedi’i diweddaru, am y cyfnod rhwng Awst, 2022 a Mawrth, 2022 fel y’i cyflwynwyd.

 

5.

Cyfrifon Drafft 2021/22 a defnydd o'r Balansau ac Arian wrth Gefn pdf eicon PDF 731 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2021/22 a’r Fantolen ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2022. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth fanylach am falansau cyffredinol y Cyngor a’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gan gynnwys y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau yn 2022/23 a’r blynyddoedd dilynol.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer ei fod yn gosod allan y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ac yn rhoi crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor a’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Yn unol â’r rheoliadau, llofnodwyd y datganiadau ariannol drafft gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor 17 Mehefin, 2022 ymhell o fewn y gofyn ar gyfer llofnodi’r cyfrifon drafft ar 31 Awst, 2022 (wedi i amserlen y cyfrifon gael ei hymestyn eto ar gyfer 2021/22) i gydnabod y gallai’r pandemig gael effaith o hyd ar staff awdurdodau lleol) ac mae’r gwaith o archwilio’r cyfrifon wedi dechrau. Y bwriad yw cwblhau'r archwiliad dros yr haf gyda'r cyfrifon archwiliedig terfynol yn cael eu cymeradwyo erbyn y dyddiad cau estynedig, sef 30 Tachwedd, 2022.

 

Yn seiliedig ar y cyfrifon drafft y gellid eu newid unwaith y bydd yr archwiliad a’r cyfrifon terfynol wedi’u cwblhau, Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth, 2022 oedd £12.050m, sy’n cyfateb i 8.2% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod isafswm lefel Balans y Gronfa Gyffredinol ar 5% o'r gyllideb refeniw net a fyddai'n cyfateb i £7.4m, sy'n golygu bod Balans y Gronfa Gyffredinol £4.650m yn fwy na'r isafswm gwerth. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo £500k o’r gronfa wrth gefn gyffredinol i’w wario ar wella priffyrdd a bydd £261k yn cael ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn y gwasanaethau yn unol â’r polisi wrth gefn gwasanaethau a gymeradwywyd yn 2019/20. £11.289m yw’r gronfa gyffredinol ddrafft wrth gefn ar ôl yr ymrwymiadau hyn.

 

Rhybuddiodd y Cynghorydd Robin Williams na fydd y Cyngor yn eistedd ar ei gronfeydd wrth gefn. Mae cyllidebau’r Cyngor yn debygol o ddod dan bwysau cynyddol yn y flwyddyn gyfredol gan fod yr argyfwng costau byw sy’n cael effaith ar y genedl yn cael effaith debyg ar y Cyngor wrth i gostau gwasanaeth, tanwydd a deunyddiau cynyddol gael eu gyrru’n rhannol gan gyfradd uchel chwyddiant. Gallai mynd i’r afael â hyn yn ogystal ag â heriau eraill, megis cynnydd yn y galw, olygu bod yn rhaid i’r Cyngor dynnu ar ei gronfeydd wrth gefn a dyna pam eu bod yn cael eu dal yn y lle cyntaf - i sicrhau bod arian wrth gefn i gwrdd â heriau ariannol o’r math hwn a sicrhau bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn parhau’n gadarn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y daith y mae’r Cyngor wedi bod arni yn ariannol dros y pedair blynedd diwethaf, o’r adeg pan fynegodd Archwilio Cymru bryder ynghylch lefel ei gronfeydd wrth gefn i’r sefyllfa llawer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio 2022/23 pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn nodi’r ffioedd diwygiedig arfaethedig ar gyfer cartrefi preswyl a nyrsio am 2022/23.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a dywedodd bod sefyllfa’r farchnad a’r economi wedi newid ers i’r ffioedd ar gyfer cartrefi preswyl a nyrsio gael eu gosod yn wreiddiol ym mis Mawrth, 2022, gan olygu bod angen ailedrych ar y strwythur ffioedd presennol am 2022/ 23. Mae’r Cyngor wedi derbyn llythyrau gan gartrefi gofal unigol a chan y sector yn gyffredinol yn dweud na fyddai lefel y ffïoedd a osodwyd ym mis Mawrth, 2022 yn ddigon i gwrdd â gwir gost gofal, gan fod chwyddiant wedi cynyddu’n sylweddol ers hynny, yn enwedig o ran costau ynni a bwyd. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y ffactorau a ystyriwyd wrth ailasesu'r ffïoedd am 2022/23 ac yn cadarnhau bod yr opsiwn arfaethedig, fel y nodir yn Nhabl 2, yn cydnabod y costau cynyddol a wynebir gan ddarparwyr. Mae’r opsiwn, hefyd, yn cynnal y cysylltiad â'r pecyn cymorth rhanbarthol fel dull cyfrifo'r ffioedd tra byddir hefyd yn adlewyrchu pwysau chwyddiant a natur fregus y sector, yn enwedig o ran gofal yr henoed Bregus eu Meddwl.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cynaliadwyedd y sector cartrefi gofal yn ystyriaeth bwysig i’r Cyngor. Y gobaith, felly, yw y bydd y ffioedd diwygiedig yn cynnal y ddarpariaeth ac yn annog darpariaeth fwy arbenigol fydd yn cyfrannu at nod y Cyngor o ddiogelu a sicrhau lleoliadau ar Ynys Môn i drigolion Ynys Môn.

 

Penderfynwyd

 

·                     Cymeradwyo'r cynnydd mewn ffïoedd am ofal preswyl a nyrsio fel y nodir isod:

 

Categori

 

Ffi Wreiddiol 2022/23

Ffi Arfaethedig 2022/23

 

Cynnydd o’r Ffi Wreiddiol 2022/23                  

 

Preswyl

£636.80

£643.78

                   

£6.98

Preswyl Henoed Bregus eu Meddwl

£707.17

£772.29

£65.12

Nyrsio

£703.79*

£752.26*

£48.47

Nyrsio Bregus eu Meddwl

£800.88*

£896.19*

£95.31

(*nid yw’n cynnwys cyfraniad iechyd tuag at ofal nyrsio sydd yn £179.97 ar hyn o bryd)

 

·                     Bod y newid yn y ffi yn dod i rym o'r wythnos sy'n dechrau 17 Gorffennaf, 2022 fel bod amser i roi gwybod i gleientiaid a chartrefi am y newid ac i sicrhau bod y newid yn cyd-fynd â’r patrwm anfonebu.

 

7.

Dyfodol yr Uned Cynllunio Polisi ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd) pdf eicon PDF 400 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar ddyfodol Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd oedd yn nodi’r bwriad i ddod â’r trefniant cydweithio presennol gyda Chyngor Gwynedd ar ddarparu’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i ben ym mis Mawrth, 2023. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod dod â'r cytundeb cydweithio i ben yn golygu y bydd yn rhaid creu Gwasanaeth a Thîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Ynys Môn. Mae’r trefniant cydweithio presennol wedi bod yn llwyddiannus gan arwain at greu Cyd-gynllun Datblygu Lleol cyntaf Cymru ar gyfer ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol Ynys Môn a Gwynedd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Nicola Roberts y byddai’r un adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo i gyfarfod heddiw o Gabinet Cyngor Gwynedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y sefydlwyd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC) gan Gynghorau Ynys Môn a Gwynedd 1 Mai, 2011 ac, yn dilyn adolygiad yn 2017, adnewyddwyd y trefniant hyd at 31 Gorffennaf 2022 gyda chytundeb y ddau Gyngor. Wrth i'r cytundeb cydweithio ddod i ben ddiwedd y mis hwn bu trafodaethau lefel uchel rhwng Swyddogion y ddau awdurdod am ddyfodol yr UPCC. Daethpwyd i gasgliad ar y cyd y dylid argymell i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn a Chabinet Cyngor Gwynedd ddirwyn i ben y cytundeb cydweithio presennol. Mae’r cyd-destun cynllunio yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol wedi newid yn sylweddol ers 2011, yn ogystal â dyheadau, blaenoriaethau ac anghenion y ddau awdurdod. Hefyd, mae sefydlu'r Cydbwyllgor Corfforaethol rhanbarthol sydd yn statudol ofynnol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru yn ychwanegu haen newydd o bolisi cynllunio nad oedd yn bodoli pan grëwyd yr UPCC yn 2011. Argymhellir ymestyn y cytundeb cydweithio tan 31 Mawrth, 2023 er mwyn sicrhau y ceir trefn wrth wahanu a bod y Pwyllgor Gwaith yn cytuno mewn egwyddor i sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd i Ynys Môn. Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yn ystyried strwythur staffio a phroses recriwtio, gofynion adnoddau a rhaglen waith gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach ar oblygiadau cost i'r Pwyllgor Gwaith maes o law. Dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn parhau i gael ei fonitro tan 2026.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, wrth wneud sylw fel aelod o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, bod cyfarfodydd diweddar wedi dangos bod gan y ddau gyngor safbwyntiau gwahanol o ran polisi cynllunio’r dyfodol, cyfeiriad, anghenion a threfniadau gweithredu, er ei bod wedi bod yn bleser gwasanaethu ar y Cyd-bwyllgor.

 

Cynigiodd y Cadeirydd mewn perthynas ag argymhelliad 5 o'r adroddiad y dylid hefyd ymgynghori â'r Aelod Portffolio Cynllunio mewn perthynas â chytuno ar drefniadau cydweithio gyda Chyngor Gwynedd mewn perthynas â gwaith monitro statudol parhaus y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd –

• Ymestyn y trefniant cydweithio ar gyfer darparu'r polisi cynllunio ar y cyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU pdf eicon PDF 352 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu rhagor ar raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Ynys Môn ac yn rhanbarthol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth wybodaeth gefndir a chyd-destun i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi'i lansio gan Lywodraeth y DU, yn lle'r rhaglenni cyllid Ewropeaidd, ac a ariennir yn ddomestig. Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn sicrhau £2.5b o fuddsoddiad tan fis Mawrth, 2025 ledled y DU gyda’r nod o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd. Mae Llywodraeth y DU wedi pennu tair blaenoriaeth fuddsoddi dan y themâu Y Gymuned a Lle; Cefnogi Busnes Lleol a Phobl a Sgiliau. Bydd y rhaglen yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Leol ar draws y DU gyda chyllid yn cael ei neilltuo iddynt lleol drwy fformiwla yn hytrach na thrwy gystadleuaeth. Mae disgwyl Cynllun Buddsoddi sy’n nodi dull cyflawni’r rhaglen er mwyn rhyddhau’r cyllid a bydd angen i Lywodraeth y DU ei dderbyn erbyn 1 Awst, 2022. Gofynnwyd i Lywodraethau Lleol yng Nghymru gydweithio i gynhyrchu un Cynllun Buddsoddi ar gyfer pob rhanbarth ac i enwebu un Corff Arweiniol i gyflwyno'r Cynllun a gweithredu fel corff atebol. Ar hyn o bryd, y cynnig yw gofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel awdurdod arweiniol rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen. Mae disgwyl hefyd i Lywodraethau Lleol, ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y trydydd sector a'r gymuned fusnes, wrth ddatblygu'r rhaglen. £13.304m yw’r arian craidd a neilltuwyd i Ynys Môn ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth, 2025 gyda £2.77m pellach wedi’i neilltuo i’r rhaglen Lluosi, sef menter gan Lywodraeth y DU i hybu rhifedd oedolion.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Carwyn Jones y cynnydd hyd yma o ran ymgynghori â rhanddeiliaid a datblygu’r Cynllun Buddsoddi er mwyn ei gyflwyno erbyn 1 Awst, 2022 a chadarnhaodd fod strwythurau wedi’u sefydlu’n rhanbarthol i arwain y broses hon, gweithdai a chyfarfodydd wedi’u cynnal yn rhanbarthol i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac, yn lleol, bod y Cyngor hefyd wedi ymgysylltu â phartneriaid allanol ac wedi cynnal proses agored i ofyn am i syniadau a phrosiectau lefel uchel cychwynnol gael eu cyflwyno. Y bwriad yw bod y Cyngor yn canolbwyntio ei adnoddau ar nifer lai o flaenoriaethau er mwyn cael yr effaith fwyaf; dylai'r rhain gael eu llywio gan y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, Cynllun y Cyngor a'r Cynllun Llesiant a chanlyniad y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau y cyflwynir y Cynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU erbyn y dyddiad cau, sef 1 Awst.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn cael adroddiad tebyg ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’n rhaid datblygu’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol a’i gyflwyno erbyn 1 Awst ac mae’r adroddiad yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/2022.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Boddhad Cwsmer yr adroddiad, gan ddweud bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu ei berfformiad, sef i ba raddau y mae’n ymarfer ei swyddogaethau yn effeithiol; y mae'n defnyddio ei adnoddau'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol ac y mae ei lywodraethu'n effeithiol ar gyfer sicrhau'r ddau fater cyntaf. Mae disgwyl i bob cyngor gyflawni'r ddyletswydd hon drwy hunanasesu a rhaid iddo gyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr hunanasesiad. Yn unol â’r gofyn hwn, mae hunanasesiad cyntaf y Cyngor am 2021/22 wedi’i baratoi. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu gwaith y fframwaith cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad ac yn cyflwyno sail dystiolaeth o sut mae’r Cyngor wedi perfformio, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ganddo wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig yn ystod cyfnod heriol ac ansicr i lywodraeth leol wrth iddo ymateb i’r pandemig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams y gofynnwyd i bob un o naw gwasanaeth y Cyngor gwblhau hunanwerthusiad, gan sgorio eu perfformiad ar feysydd a nodwyd ac a ystyriwyd yn bwysig, megisRhagorol”, “Da”, “DigonolneuAnfoddhaol.” I gyd-fynd â gwaith  gwerthuso’r perfformiad, gofynnwyd hefyd i bob un o'r gwasanaethau amlygu lle'r oeddent yn credu bod y gwasanaeth o ran y rhagolygon ar gyfer gwella i'r dyfodol gan ddefnyddio'r un meini prawf. Gyda'i gilydd mae gwaith gwerthuso’r perfformiad, yn ogystal â gwireddu'r gobeithion am welliannau, yn rhoi darlun cyfredol a chywir o ble mae gwasanaethau'n gweld eu hunain ac yn rhoi rhan o'r dystiolaeth ar gyfer yr hunanasesiad corfforaethol. Mae'r Cyngor wedi bod yn gwella ac yn aeddfedu gwaith datblygu'r fframwaith rheoli perfformiad yn barhaus dros y naw mlynedd diwethaf. Mae’r hunanasesiad, sydd ar ffurf Datganiad Sefyllfa, yn crynhoi casgliad y gwaith hwnnw am 2021/22 ac yn canfod bod Rheolaeth Perfformiad y Cyngor; ei ddefnydd cyffredinol o adnoddau a'i reolaeth risg ynDda” a bod y naratif yn rhoi'r rhesymeg a'r sail resymegol dros y casgliad hwn. Mae'r hunanasesiad hefyd wedi nodi meysydd lle gellir gwella perfformiad a chaiff y rhain eu hamlygu dan bob adran unigol a’u dwyn ynghyd mewn rhaglen wella ar ddiwedd yr adroddiad sydd hefyd yn dangos y ffynhonnell sicrwydd ar gyfer pob maes gwelliant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai’r adroddiad, yn ogystal â rhoi sicrwydd am berfformiad y Cyngor, gael ei ystyried yn destun balchder. Mae'r Hunanasesiad wedi'i lywio gan adolygiadau perfformiad gwasanaeth; adroddiadau perfformiad; y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, adolygiadau allanol; arolwg staff ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sydd i gyd yn brosesau parhaus ym mywyd gwaith y Cyngor sy’n cefnogi gwelliant parhaus. Cytunodd fod bob amser le i wella ymhellach a bod agweddau ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail ei bod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Lles y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

11.

Datblygiad i gynyddu capasiti Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd, gydag Uned Gofal ar safle’r ysgol estyngiedig

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Prif  Weithredwr i’r Pwyllgor Gwaith iddo ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg ac ynddo ‘roedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynyddu buddsoddiad y Cyngor tuag at ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd. Roedd hyn o ganlyniad i gostau cynyddol yn y diwydiant adeiladu oherwydd nifer o ffactorau y tu allan i reolaeth y Cyngor a'r datblygwr.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gytundeb y Pwyllgor Gwaith i ariannu cyfran o gost adeiladu uned gofal plant ar safle estynedig Ysgol y Graig; Deuai hyn o ganlyniad i gadarnhad a dderbyniwyd nad oedd cais y Cyngor am gyllid grant 100% o grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi’i flaenoriaethu ar hyn o bryd, gan fod nifer sylweddol wedi gwneud cais amdano. Gan fod yr uned gofal plant ar safle Ysgol y Graig yn rhan o adeilad newydd y Cyfnod Sylfaen, os yw am gael ei chynnwys yn rhan o'r datblygiad, bydd angen ei hadeiladu'r un pryd â gweddill yr Uned Cyfnod Sylfaen - byddai ei chodi’n ddiweddarach yn aneffeithlon ac yn tarfu ar ddisgyblion a staff Ysgol y Graig yn ogystal ag ar y gymuned leol.

 

Nodai’r adroddiad sut mae'r Cyngor wedi ymateb i'r heriau hyn hyd yma gan gynnwys drwy fynd allan i ail-dendro am y gwaith. Derbyniwyd pris newydd gan y datblygwr a ffefrir 23 Mehefin, 2022 sy’n cynnwys yr uned gofal plant. Mae'r pris yn ddilys tan 28 Gorffennaf, 2022. Hefyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad mae dadansoddiad o sut mae'r costau wedi newid yn ogystal â manteision cael uned gofal plant ar y safle.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Swyddogion y Cyngor wedi cyflwyno “Cais am Newid” i geisio grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a hynny tuag at gostau ychwanegol adeiladu’r ysgol a thuag at gostau’r uned gofal plant. Os byddant yn llwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 65% o'r costau hyn. Bydd angen i'r Cyngor ymrwymo i ariannu'r 35% o gostau sy'n weddill (Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg oedd â chyfradd ymyrraeth o 100% bellach wedi'i hymrwymo'n llawn). Bydd yr ymrwymiad ychwanegol hwn ar ran y Cyngor yn golygu cost flynyddol uwch drwy'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw. Golyga costau cynyddol y prosiect hefyd bod gweddill amlen ariannu Band B Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei leihau. Ychwanegodd y Swyddog Adran 151 fod y cyfle yn parhau i fod yn rhy dda i'w golli o safbwynt addysgol ac ariannol, er gwaethaf y newid yn yr amgylchiadau,

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid ymgynghori â'r Aelodau Portffolio Addysg, Cyllid a Phlant a Phobl Ifanc ynghylch penderfynu ar yr opsiwn gorau ar gyfer rhedeg yr uned gofal plant, boed hynny'n uniongyrchol gan y Cyngor neu drwy gomisiynu partner allanol.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cynyddu buddsoddiad y cyngor tuag at ymestyn Ysgol y Graig yn unol ag argymhelliad yr adroddiad.

·         Ariannu 35% o gost adeiladu uned gofal ar safle Ysgol y Graig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.