Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 25ain Hydref, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 503 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2022 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 467 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr (a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd, 2022 i Fehefin, 2023 i’w gadarnhau. 

 

Rhoddodd y Swyddog Polisi ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau newydd ar y Rhaglen Waith a’u cynghori bod Eitem 7 - Rhenti Tai'r CRT a Thaliadau’r Gwasanaeth Tai 2023/24 - wedi ei ddwyn ymlaen o Chwefror, 2023 i Dachwedd, 2022 er mwyn penderfynu ar yr eitem ynghynt. Hefyd, ers i’r Rhaglen Waith gael ei chyhoeddi mae’r Gwasanaeth Tai wedi gwneud cais i gyflwyno eitem ar addasu’r polisi ar ddyrannu tai dros dro yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2022.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Tachwedd 2022 i Fehefin 2023, gyda’r newid y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.

 

5.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2021/22 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn dadansoddi perfformiad y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau a osodwyd ganddo.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o weithgareddau’r Cyngor yn ystod 2021/22 a’i fod yn nodi’r hyn a wnaeth yn ystod y flwyddyn yn erbyn yr hyn a nodwyd yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol.  Mae hefyd yn adrodd ar yr hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni hyd at ddiwedd mis Awst yn erbyn unrhyw waith arfaethedig ar y Cynllun Trosiannol ar gyfer 2022-23. Mae’r uchafbwyntiau ar dudalen 3 yn yr adroddiad yn dangos bod 73% o’r camau yn erbyn y Cynllun Trosiannol ar amser neu wedi’u cwblhau ynghyd â lefel gyflawni o 96% yn erbyn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol. Mae perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad o un flwyddyn i’r llall hefyd wedi gwella. Fe wnaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol hefyd graffu ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 19 Hydref, 2022 a derbyniwyd ei fod yn adlewyrchiad teg o waith yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 27 Hydref, 2022.

Penderfynwyd cytuno cynnwys yr Adroddiad Perfformiad 2021/22 fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod dros y cyfnod hynny ac argymell i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 27 Hydref, 2022 y dylid ei fabwysiadu.

 

6.

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobol Ifanc a oedd yn cynnwys adroddiad ar arolwg Estyn o Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn ynghyd â Chynllun Gweithredu Ôl-Arolwg yr Awdurdod i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg  a roddodd rhywfaint o gefndir i’r meysydd a arolygwyd gan Estyn yn ystod yr arolwg o’r Gwasanaeth Dysgu ym mis Mehefin, 2022. Mae’r adroddiad yn gadarnhaol a nodwyd bod ansawdd ac effeithiolrwydd cadarn arweinwyr y Gwasanaeth Dysgu yn cyfrannu’n effeithiol iawn tuag at sicrhau gwasanaethau addysg o safon uchel. Cafodd dau faes eu hadnabod fel meysydd o ymarfer da yn ystod yr arolwg a bydd yr astudiaethau achos sy’n cael eu paratoi gan y Gwasanaeth Dysgu ar hyn o bryd yn seiliedig ar y meysydd hyn. Cafodd dau faes eu nodi fel meysydd lle'r oedd angen gwella, mewn perthynas â chryfhau prosesau ar gyfer gwerthuso effaith gwaith y Gwasanaeth Dysgu a datblygu a chryfhau trefniadau craffu ffurfiol. Er nad yn ofyn statudol, mae’r argymhellion o’r adroddiad wedi cael eu coladu i mewn i Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg a fydd yn cael ei fonitro mewn adroddiadau rheolaidd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.   

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc ei farn broffesiynol ar yr adroddiad gan ddweud bod yr adroddiad yn glod i’r Gwasanaeth Dysgu. 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Hydref, 2022 a’i fod yn croesawu’r canfyddiadau ac yn derbyn bod y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg yn gynhwysfawr a bod y trefniadau craffu arfaethedig yn effeithiol. 

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith ddiolch yn unfrydol i holl staff y Gwasanaeth Dysgu yn cynnwys staff ysgolion a staff canolog am eu gwaith a’u hymdrech a chanmol y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau llwyddiant a rhagoriaeth o fewn y Gwasanaeth.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg, a bod y Pwyllgor Gwaith yn cymryd sicrwydd bod y cynllun yma yn ymateb i argymhellion yr arolwg Estyn mewn modd rhesymol ac amserol.

 

7.

Rhaglen Arfor 2 pdf eicon PDF 586 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gytuno i ymuno â’r Rhaglen Arfor 2.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth grynodeb o’r Rhaglen Arfor 1 a oedd yn weithredol rhwng 2019 a 2020 sef cynllun gwerth £2m a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru i beilota gwahanol ddulliau a phrosiectau i hybu mentergarwch, twf busnes, gwydnwch cymunedol a’r Gymraeg ym mhedair sir y rhaglen Arfor sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn nodi’r allbynnau ar gyfer Ynys Môn lle dyrannwyd 75 o grantiau i gefnogi busnesau a busnesau newydd, swyddi, cynnyrch a gwasanaethau. Roedd hefyd yn cyfeirio at y rhaglen werthuso a gadarnhaodd bod y rhaglen, er gwaetha’r gyllideb cymharol fach ac effaith y pandemig, wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi sefydlu arfer o gydweithio rhwng y pedair sir. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £11m o gyllid pellach i gyflawni ail wedd y Rhaglen Arfor hyd at fis Mawrth, 2025 i gryfhau gwydnwch economaidd a ffyniant yn y pedair sir sy’n gadarnleoedd y Gymraeg a thrwy hynny gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Adfywio a Datblygu Economaidd bod mwy o gyllid ar gael ar gyfer Arfor 2 a bod disgwyl i Ynys Môn dderbyn £1.125m.  Cyfeiriodd at elfennau arfaethedig y rhaglen Arfor 2 fel y nodwyd yn adran 4 yn  yr adroddiad ac mewn perthynas â rheoli’r rhaglen cadarnhaodd bod Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin wedi datgan dymuniad i Gyngor Gwynedd barhau i gydlynu ac arwain y rhaglen ar ran y pedair sir. Mae Bwrdd Arfor, sy’n cynnwys Arweinwyr y pedair sir, wedi cyflwyno Cynnig Amlinellol ar gyfer ail wedd y rhaglen i Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Bydd dogfen i hyrwyddo Arfor 2 yn amlygu’r llwyddiannau yn ystod y wedd gyntaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y Pwyllgor wedi cefnogi’r rhaglen yn ei gyfarfod ar 18 Hydref, 2022 a’i fod yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Aelod Portffolio a’r eglurhad a roddodd o’r modd y mae busnesau lleol wedi elwa o’r wedd gyntaf. Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai’n fuddiol monitro’r ail wedd i weld pa wahaniaeth y mae’n ei wneud yn enwedig mewn perthynas â chreu cyfleoedd i bobl ifanc aros neu ddychwelyd i gymunedau ar yr Ynys.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ail wedd y rhaglen Arfor a chytunwyd y byddai’n fuddiol monitro sut y mae’r rhaglen, drwy’r prosiect Llwyddo’n Lleol 2050, yn galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ar Ynys Môn Dylid canolbwyntio hefyd ar gyhoeddusrwydd fel bod cymaint o fusnesau â phosibl yn gallu manteisio ar y rhaglen.

 

Penderfynwyd -

 

·      Cytuno y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu ar y cyd efo awdurdodau sirol eraill perthnasol fel partner yn Rhaglen ARFOR 2

·      Cytuno y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais am Borthladd Rhydd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) i’w ystyried a oedd yn ceisio cael cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghaergybi. Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd dynodedig lle mae ystod o gymhellion economaidd ar gael i ysgogi’r economi leol ac annog twf a buddsoddiad. Maent yn cynnwys cymhellion yn gysylltiedig â threthi, tollau, cyfraddau busnes, cynllunio, adfywio, arloesi a masnach a chymorth i fuddsoddi.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth a chyfeiriodd at y broses ymgeisio a’r amserlenni heriol ar gyfer cyflwyno’r cais.  Mae £26m o gyllid sbarduno ar gael i’r cais/ceisiadau llwyddiannus - £1m o gyllid refeniw a £25m o gyllid cyfalaf ar ôl i'r achosion busnes amlinellol a llawn gael eu cymeradwyo. Gall ceisiadau gael eu cyflwyno gan gynghrair ac mae’n rhaid i’r gynghrair gynnwys gweithredwr porthladd (Stena Line Ports Ltd. yn yr achos Caergybi) a’r awdurdod lleol ‘lletyol’. Er bod y Prosbectws Ymgeisio yn debyg i’r un ar gyfer Lloegr a arweiniodd at ddyfarnu statws Porthladd Rhydd i wyth ymgeisydd yn 2021, mae gwahaniaethau sylfaenol rhwng Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru a Lloegr ac mae’r trothwy ar gyfer dadreoleiddio yn fwy caeth yng Nghymru ac mae’n cael ei asesu a’i rheoleiddio’n llawer llymach fel y nodir yn yr adroddiad. Dylid nodi na fydd y Cyngor ond yn cyflwyno cais sydd yn sicrhau fod y pryderon a nodir yn yr adroddiad yn cael eu bodloni a’i fod yn gwella swyddi, cyfleoedd a ffyniant ar Ynys Môn.Cynghorodd y Rheolwr Datblygu Economaidd bod Swyddogion y  parhau i weithio gyda Stena Line Ports Ltd. a bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn helpu i gynnal y momentwm mewn perthynas â’r amserlen a’r broses heriol ac i drafod materion eraill yn cynnwys safleoedd y gellir eu cynnwys yn y Prosbectws a sefydlu’r egwyddor o Fodel Llywodraethu cadarn sy’n dderbyniol i’r Cyngor a Stena Ports Ltd. Bydd yr elfennau hyn yn dod yn gliriach pe byddai’r cynnig yn cyrraedd yr ail gam pan fydd rhaid paratoi achos busnes.

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gefnogol o’r cynnig mewn egwyddor ond nodwyd bod angen mwy o eglurder a sicrwydd ar nifer o faterion wrth i’r cynnig ddatblygu. Rhaid i’r Cyngor hefyd fod yn fodlon y bydd sicrhau statws Porthladd Rhydd i Gaergybi yn gweithio i Ynys Môn ac yn dod â buddion economaidd i'r Ynys.

 

Penderfynwyd –

 

  • Oherwydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cais, bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo’r awdurdod i’r Prif Weithredwr gyflwyno’r Cais Porthladd Rhydd terfynol, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd.
  • Cytuno fod galw i mewn yn cael ei eithrio ar sail brys a niwed i ddiddordeb y cyhoedd.

 

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 464 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

10.

Datblygiad Tai ar Safle Cyn Ysgol Niwbwrch

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn amlinellu’r cynnig i adeiladu 14 o gartrefi newydd ar safle cyn Ysgol Gynradd Niwbwrch  i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Pe byddai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd yr anheddau newydd yn cael eu cynnig fel eiddo rhent cymdeithasol i ymgeiswyr ar y rhestr aros.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â manylion y cynllun mewn perthynas â math, maint ac effeithlonrwydd ynni'r anheddau arfaethedig a chadarnhawyd yn yr adroddiad bod galw am y math yma o gartrefi yn ardal Niwbwrch. Pwysleisiwyd y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnig  yn ystod y cyfnod economaidd digynsail hwn, yn seiliedig ar y galw presennol am y math o unedau a ddisgrifir yn yr adroddiad ac nid ar sail y gost.  Pe byddai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, y bwriad ydi dechrau ar y gwaith tuag at ddiwedd y gwanwyn, 2023.

 

Penderfynwyd, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio, cymeradwyo bwrw ‘mlaen â’r cynllun i ddatblygu 14 o gartrefi newydd mewn ymateb i’r her dai leol, er mwyn galluogi i drigolion lleol brynu neu rentu tŷ fforddiadwy ar hen safle Ysgol Gynradd Niwbwrch.

 

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 464 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

12.

Datblygiad ar Safle Ysgol Parch Thomas Ellis, Caergybi

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn amlinellu’r cynnig i adeiladu 43 o gartrefi ar hen safle Ysgol Parch. Thomas Ellis, Caergybi i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.  Pe byddai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd yr anheddau newydd yn cael eu cynnig fel eiddo rhent cymdeithasol a chanolig i ymgeiswyr ar y rhestr aros y Cyngor a Tai Teg.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â manylion y cynllun mewn perthynas â math, maint ac effeithlonrwydd ynni'r anheddau arfaethedig a chadarnhawyd yn yr adroddiad bod galw am y math yma o gartrefi yn ardal Caergybi, gan mai yng Nghaergybi y mae’r galw uchaf am dai cymdeithasol ar yr Ynys. Pwysleisiwyd y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnig  yn ystod y cyfnod economaidd digynsail hwn, yn seiliedig ar y galw presennol am y math o unedau a ddisgrifir yn yr adroddiad ac nid ar sail y gost.  Pe byddai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, y bwriad ydi dechrau ar y gwaith tuag at ddiwedd yr haf, 2023.

 

Penderfynwyd, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio, cymeradwyo bwrw ‘mlaen â’r cynllun i ddatblygu 43 o gartrefi newydd mewn ymateb i’r her dai leol, er mwyn galluogi i drigolion lleol brynu neu rentu tŷ fforddiadwy ar hen safle Ysgol y Parch. Thomas Ellis, Caergybi.