Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2022/23 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio am Ch3 2022/23 gan nodi’r meysydd sydd wedi gwella ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol.
|
|
Adroddiad Cynnydd: Gwelliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn cymryd sicrwydd bod y cynnydd parhaus a wnaed gan Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhesymol ac yn amserol. · Cefnogi’r bwriad i beidio ag adrodd ar welliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Gwaith o hyn ymlaen a bod adroddiadau yn parhau i gael eu cyflwyno i’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Cymeradwyo oedi dyddiad gweithredu’r cynnig, sef i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn” i 1 Medi, 2024. · Yn amodol ar yr uchod, bydd Swyddogion yn hysbysu’r “partïon perthnasol” o’r penderfyniad i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig ar gyfer Ysgol Y Graig. |
|
Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 yn amodol ar wneud diwygiadau bychain i’r manylion ariannol, ac · Awdurdodi’r Aelod Portffolio Tai a’r Aelod Portffolio Cyllid i gymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai terfynol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Cais Cymhleth am Grant Cyfleusterau i’r Anabl Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer gwaith addasu angenrheidiol fydd yn costio cyfanswm o £122,868 sy’n golygu cymeradwyo grant dewisol gwerth £86,868 yn ychwanegol i’r grant gorfodol o hyd at £36,000. |