Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 25ain Ebrill, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn cychwyn y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn cais gan y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Parterniaeth ac Adfywio, i newid trefn yr eitemau er mwyn trafod eitem 5 ar y rhaglen (Strategaeth Wella Canol Trefi Ynys Môn) yn olaf er mwyn caniatáu iddo gyflwyno adborth y Pwyllgor Sgriwtini ar yr eitem honno. Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod trefn yr eitemau’n cael ei newid, yn unol â’r cais, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Gary Pritchard.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 271 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith, a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Fai i Ragfyr 2023.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth wybod i’r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau diweddaraf i’r Flaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –

 

  • Eitem 2 (Cynllun Costau Byw Dewisol – diweddariad wedi i’r cynllun ddod i ben) yn eitem newydd a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 30 Mai 2023.
  • Eitem 13 (Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg) yn eitem newydd a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf 2023.
  • Eitem 19 (Strategaeth Wella Canol Trefi Ynys Môn – drafft terfynol) yn eitem newydd a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi.
  • Strategaeth Rhiantu Corfforaethol yn eitem ychwanegol, nad ydyw wedi’i chynnwys ar y rhaglen waith a gyhoeddwyd, i’w threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 30 Mai 2023.
  • Mae Adroddiad Cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei dynnu o’r rhaglen waith ar ôl cytuno nad oes angen bellach ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith bob chwe mis.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mai i Ragfyr, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn pdf eicon PDF 982 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn cynnwys Strategaeth Wella Canol Trefi Ynys Môn.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd fod y strategaeth yn cyflawni’r amcan o wella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi yn y Cynllun y Cyngor newydd, yn ogystal â chydymffurfio ag argymhellion perthnasol gan Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adfywio canol trefi. Yn amodol ar gymeradwyo’r strategaeth, cynhelir proses ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid i gasglu barn a sylwadau ac i geisio cefnogaeth i’r strategaeth arfaethedig cyn llunio strategaeth derfynol fydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei mabwysiadu ddiwedd 2023. Pwysleisiodd bwysigrwydd derbyn barn y cyhoedd ynghylch eu hanghenion nhw ar gyfer canol trefi, yn ogystal â barn busnesau presennol a busnesau sydd wedi gadael canol trefi hefyd, er mwyn deall eu rhesymau dros wneud hynny a beth fyddai’n eu denu’n ôl.

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio wrth y Pwyllgor Gwaith fod pob awdurdod lleol wedi derbyn cais i roi diweddariad i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gynnydd o ran adfywio canol trefi, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o bobl. Bydd y strategaeth hon hefyd yn golygu y bydd modd sicrhau cyllid at ddibenion adfywio. Comisiynwyd y cwmni Commonplace i gynorthwyo’r Cyngor i ddylunio’r broses ymgynghori, fydd yn cael ei chynnal ar-lein, yn ogystal ag yn lleol yn y gymuned. Mae Comisiwn Dylunio Cymru hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar y broses i bob awdurdod lleol, ac, yn dilyn hynny, bydd y Cyngor yn llunio’r ddogfen ymgynghori gyda Commonplace.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddiad yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ebrill 2023 pan drafodwyd Strategaeth Canol Trefi Ynys Môn. Roedd y Pwyllgor wedi ceisio eglurhad ynghylch y diffiniad o dref a chanol tref a ph’un a oes unrhyw fwriad i gefnogi a gwella pentrefi’r ynys. Roedd yr Aelodau wedi holi am alinio’r strategaeth â ffrydiau gwaith cynllunio lle a chynlluniau i gryfhau isadeiledd mewn cymunedau unigol. Trafodwyd buddion a risgiau pennaf y strategaeth arfaethedig hefyd, yn ogystal â mesurau i liniaru’r risgiau. Roedd y pwyllgor wedi ceisio eglurhad hefyd am y cyfleoedd a’r heriau yn gysylltiedig â’r ddibyniaeth ar arian grant cystadleuol i gyflawni strategaethau a rhaglenni gwaith sylweddol. Gofynnodd yr Aelodau am argaeledd buddsoddiad preifat i ariannu rhaglenni adfywio canol trefi Ynys Môn ac i ba raddau y byddai’n bosib ceisio cymeradwyaeth i gynlluniau gwario i arbed er mwyn cynyddu capasiti staffio mewnol. Nododd y pwyllgor fod penderfyniadau arwyddocaol gan randdeiliaid yn aml yn gatalydd ar gyfer adfywio canol trefi. Holodd y pwyllgor am y broses ymgynghori gyhoeddus, ac yn arbennig yr amserlenni, y strategaeth gyfathrebu a’r meysydd daearyddol i’w cynnwys. Roedd y Pwyllgor wedi nodi cynnwys y strategaeth ddrafft ac wedi argymell y strategaeth i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai, er bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Rheoli AHNE Drafft pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ymgorffori’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (2023-2028) drafft.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, yr adroddiad gan ddweud fod gofyn statudol ar bob awdurdod lleol sy’n gweinyddu AHNEau i baratoi a chyhoeddi cynlluniau rheoli ar gyfer eu hardal a’u hadolygu bob pum mlynedd, a rhaid i’r broses ddilyn canllawiau penodedig. Mae’r cynllun yn amlinellu rhinweddau arbennig yr AHNE sy’n diffinio statws y dynodiad am mae’n cydnabod yr heriau a wynebir, yn enwedig oherwydd gor-dwristiaeth a’i effaith ar wytnwch cymunedau, dirywiad mewn bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Mae’r Cynllun yn nodi pum thema allweddol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn a bydd hefyd yn caniatáu i weledigaeth y Cyngor ar gyfer yr AHNE gael ei chyflawni. Mae statws yr AHNE yn tyfu o fewn Tirweddau Dynodedig Cymru ac mae’n denu refeniw sylweddol i’r Cyngor. Mae cysylltiad hefyd rhwng y Cynllun Rheoli AHNE a’r Cynllun Rheoli Cyrchfan fydd yn cael ei drafod mewn eitem ar wahân ar y rhaglen heddiw. Bydd y Cynllun yn destun ymgynghoriad chwe wythnos gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd ac yna bydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini.

 

Yn ôl y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, er bod y Cynllun newydd wedi’i ohirio oherwydd y pandemig Covid-19, mae’r amser ychwanegol wedi caniatáu i’r Gwasanaeth sicrhau fod y cynnwys a’r blaenoriaethau’n briodol a’u bod yn adlewyrchu themâu a heriau cyfredol. Ystyrir bod angen gwella dealltwriaeth o’r AHNE, yn fewnol yn y Cyngor, ac yn allanol, ymysg y cyhoedd, o ran ei phwrpas a’i sgôp, yn ogystal â nodau’r Cynllun wrth geisio rheoli’r dynodiad. Mae angen gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu sy’n gysylltiedig â’r dynodiad AHNE er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Gwasanaeth a’r Cyngor.

 

Amlygodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Tai, a oedd yn siarad fel un y mae cyfran helaeth o’i ward etholiadol wedi’i chynnwys yn yr AHNE, bwysigrwydd derbyn adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad arfaethedig ar y Cynllun, yn ogystal ag ymgysylltu gyda chynulleidfa mor eang â phosib. Yr AHNE yw un o’r prif resymau pam fod ymwelwyr yn dod i’r Ynys, ac, fel un o’i phrif atyniadau, mae’n rhaid ei hamddiffyn rhag pwysau nifer cynyddol o ymwelwyr, gan sicrhau fod twristiaeth ar yr Ynys yn parhau i fod yn fywiog, ond yn gynaliadwy.

 

Roedd y Cadeirydd yn cytuno ei bod yn bwysig i’r cyhoedd ymateb i’r ymgynghoriad ac anogodd bawb i wneud hynny er mwyn llywio penderfyniadau yn y dyfodol; mae’r ymwybyddiaeth gynyddol o’r AHNE a’r heriau ynghlwm â’i rheoli a’i hamddiffyn yn bwysig hefyd, gan sicrhau fod ei chymeriad a’i rhinweddau arbennig yn cael eu cadw a’u gwarchod tra ei bod hefyd yn hygyrch i bawb ei mwynhau.

 

Penderfynywd cymeradwyo a chefnogi’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drafft (2023-28) er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arno.

 

7.

Cynllun Rheoli Cyrchfan Drafft 2023-2028 pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-2028 drafft.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio ar gyfer Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, yr adroddiad a oedd yn amlinellu dyheadau’r Cyngor ar gyfer rheoli cyrchfan yn ystod y 5 mlynedd nesaf, gan ystyried effeithiau’r pandemig Covid-19. Mae’r Cynllun yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi rôl sylfaenol rheoli cyrchfan yn economi Ynys Môn a sicrhau nad yw twristiaeth ddilyffethair yn cael effaith andwyol ar rinweddau unigryw'r Ynys. Mae’n cydnabod bod rhaid i’r cynnig twristiaeth ddarparu buddion economaidd a chymdeithasol i bobl leol a’u cymunedau a bod iaith, diwylliant, amgylchedd a threftadaeth yr Ynys yn nodweddion allweddol sy’n sylfaen i’r cynnig. Mae’r Cynllun yn tynnu ynghyd yr holl gyfrifoldebau a blaenoriaethau Cyrchfan a bydd yn gweithredu fel templed ar gyfer dull mwy cydweithredol a holistaidd o reoli cyrchfan, gan greu partneriaethau newydd ar draws y sector a chymunedau. Mae ymgyrch i wella isadeiledd megis toiledau, meysydd parcio a mynediad yn rhan allweddol o’r strategaeth ac, fel rhan o’r ymagwedd newydd, mae’r Cynllun yn amlygu cyfleoedd i gyflawni buddion cymdeithasol a buddion llesiant i gymunedau, yn ogystal ag arwain at well dealltwriaeth o rinweddau arbennig yr Ynys. Mae cyswllt rhwng y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Cynllun Rheoli AHNE ac mae wedi’i alinio’n llawn â’r Cynllun y Cyngor newydd; bydd yn destun ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol a bydd eu safbwyntiau’n cael eu defnyddio i gynorthwyo i siapio a datblygu’r cynllun gweithredu dilynol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y bydd y broses ymgynghori’n canolbwyntio ar randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau lleol trwy’r cynghorau tref a chymuned. Gan gydnabod pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i ddyfodol yr Ynys a’i chymunedau, y nod yw gweithredu’n wahanol i’r gorffennol, a chaniatáu i fusnesau ddefnyddio’r model newydd i sicrhau, nid yn unig economi Ynys Môn i’r dyfodol, ond hefyd agweddau hanfodol bwysig megis y dirwedd, yr amgylchedd a chymunedau gan sicrhau felly fod twristiaeth yn gweithio i bawb. Yn ogystal â chreu heriau, mae’r economi ymwelwyr yn cynnig cyfleoedd i wneud defnydd ehangach o waith rheoli Cyrchfan i gysylltu â gwasanaethau eraill, megis Priffyrdd ac Addysg, gan olygu fod ei werth yn fwy ac yn ehangach na phe bai wedi’i gyfyngu i un gwasanaeth neu ddisgyblaeth.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig i’r Cyngor cyfan gymryd perchnogaeth o’r Cynllun, gan olygu fod gweithdrefnau a chydweithrediad mewnol yr un mor bwysig â’r rhai allanol a sefydlir ac na ddylai cyflawni’r Cynllun Rheoli Cyrchfan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Datblygu Economaidd yn unig, gan fod y materion yn mynd tu hwnt i’r gwasanaeth hwnnw’n unig. Mae grŵp mewnol sy’n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn adlewyrchu’r arwyddocâd a roddir i’r mater hwn, ac mae angen mynd ati i gryfhau prosesau tu mewn a thu allan i’r Cyngor ac adfywio partneriaethau a ffurfioli trefniadau llywodraethiant i ddangos pa mor bwysig yw rheoli Cyrchfan a thwristiaeth gynaliadwy i’r Cyngor. Mae’r cynnydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.