Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y canlynol ddatgan diddordeb personol yn unig mewn perthynas ag eitem rhif 5 ar yr agenda–

 

Y Cynghorydd Neville Evans fel Cadeirydd y Mannau Cynnes, a sefydlwyd gan Medrwn Môn, y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

Y Cynghorydd Ieuan Williams hefyd oherwydd ei fod yn Gadeirydd lleoliad Man Cynnes.

Y Cynghorydd Nicola Roberts gan ei bod yn aelod o CAB Ynys Môn y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

Y Cynghorydd Robin Williams gan ei fod ef a’i wraig yn cael eu cyflogi gan Bwyd Da Môn y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 135 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2023 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar  25 Ebrill, 2023 yn gofnod cywir.

 

 

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mehefin, 2023 i Ionawr, 2024.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith a nodwyd y newidiadau canlynol mewn perthynas â’r Flaen Raglen Waith–

 

  • Mae Eitem 7 (Ymateb i’r Her Dai Lleol – Datblygiadau tai dros 10 uned: Stad Parc y Coed, Llangefni, Cam 4) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Mehefin, 2023.
  • Mae Eitem 10 (Cynllun Deisebau) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023.
  • Mae Eitem 11 (Newid I’r Cyfansoddiad – Ehangu cylch gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023.
  • Mae Eitem 12 (Dogfen Gyflawni Flynyddol 2023/24) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023.
  • Mae Eitem 16 (Adolygu Dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023.
  • Mae Eitem 22 (Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi, 2023.
  • Mae Eitem 31 (Cynllun Bioamrywiaeth – Cynllun Cynnydd Blynyddol) wedi’i hychwanegu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Rhagfyr, 2023.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mehefin, 2023 i Ionawr, 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Cynllun Dewisol Costau Byw - Adroddiad Terfynol pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er gwybodaeth i’r Pwyllgor Gwaith, a oedd yn nodi sut y cafodd y cyllid grant a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Dewisol Costau Byw i helpu trigolion lleol gyda’r argyfwng costau byw ei wario ar Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gefnogaeth a ddarparwyd o dan y cynllun dau gam a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith (28 Mehefin, 2022 a 24 Ionawr, 2023) a’r arian a ddyrannwyd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid bod Llywodraeth Cymru wedi darparu swm o £585,163 ac roedd modd ychwanegu unrhyw danwariant o’r cynllun Costau Byw cenedlaethol at y cyllid hwnnw yn ogystal. O dan y cynllun cenedlaethol, derbyniodd 21,906 o breswylwyr daliad o £150, ni wnaeth 999 gyfnewid y daleb a anfonwyd atynt am arian ac, oherwydd hynny, trosglwyddwyd £149,780 i’r cynllun dewisol. Roedd hyn yn golygu fod cyfanswm o £734,943 o gyllid ar gael ar gyfer y cynllun. Gan ei fod yn gynllun dewisol lleol, roedd modd i’r Cyngor ddewis sut i ddefnyddio’r grant a thra bod nifer o awdurdodau yng Nghymru wedi defnyddio’r arian i ddyrannu grantiau ychwanegol i grwpiau penodol o breswylwyr, penderfynodd y Cyngor fod yn fwy creadigol a defnyddio dull wedi’i dargedu a oedd yn cyfeirio’r cyllid at feysydd a oedd yn darparu’r budd mwyaf i bobl a oedd fwyaf angen cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw yn cynnwys dosbarthu cyllid i sefydliadau trydydd parti (e.e. Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, y Samariaid a Banciau Bwyd) sydd yn y sefyllfa orau i adnabod pwy sydd fwyaf angen cymorth. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn falch o gadarnhau bod yr holl gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio yn unol â thelerau ac amodau’r grant ac er nad ydi pob sefydliad wedi rhannu’r holl gyllid yr oeddent wedi’i dderbyn cyn 31 Mawrth, 2023, o dan amodau’r grant, bydd modd iddynt gadw unrhyw gyllid sydd heb ei ddefnyddio i roi help cyllidol i unrhyw ymgeisydd newydd a ddaw ymlaen ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion sy’n ymwneud â’r cyllid a ddarperir. Manteisiodd y Cynghorydd Robin Williams ar y cyfle  ddiolch i bawb o’r Gwasanaeth Cyllid a’r Gwasanaethau Tai a oedd wedi bod ynghlwm â’r gwaith o sefydlu a chyflawni’r cynllun. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn greadigol wth ddefnyddio’r cyllid a oedd ar gael iddo er mwyn darparu’r budd mwyaf i’r rheiny sydd fwyaf angen cymorth a dywedodd bod rhaid diolch yn bennaf i Llinos Williams, Rheolwr Tai Cymunedol y Gwasanaeth Tai am weithio’n galed i gysylltu â’r sefydliadau er mwyn rhannu’r cyllid.

 

Mynegodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu diolch a’u gwerthfawrogiad i Llinos Williams a’r tîm yn y Gwasanaethau Tai yn ogystal â’r Gwasanaeth Cyllid am eu menter, ac am wneud eu gorau glas i sicrhau bod y cyllid grant yn cael ei ddefnyddio lle yr oedd yr angen mwyaf ar Ynys Môn.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-Ofal Ynys Môn 2023 – 2028 pdf eicon PDF 731 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal 2023-2028, i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai ac fe amlygodd mai bod yn rhiant corfforaethol i’r plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod yw un o ddyletswyddau pwysicaf y cynghorydd; mae’n golygu gwneud ein gorau ar gyfer y plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod yn yr un modd ag y byddai unrhyw riant yn ei wneud ar gyfer ei blentyn ei hun. Fe ddylai pob plentyn a pherson ifanc ar Ynys Môn gael y dechrau gorau posib mewn bywyd a dylid rhoi pob cyfle iddynt ffynnu, ac fel rhiant corfforaethol gweledigaeth y Cyngor yw sicrhau nad yw plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn wahanol a’u bod yn derbyn yr un gefnogaeth. Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard bod hon yn strategaeth gyntaf o’i math i’r Gwasanaethau Plant  a Theuluoedd Ynys Môn a’i bod o ganlyniad i adolygiad archwilio mewnol a ddaeth i’r casgliad er bod y Panel Rhiant Corfforaethol yn gweithio'n dda bod angen strategaeth i roi cyfeiriad a ffocws i’r gwaith. Mae’r Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal wedi’i chynhyrchu i nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu mynd ati i herio’i hun fel rhiant corfforaethol dros y pum mlynedd nesaf a chafodd ei datblygu gyda chyfraniad y Panel Rhiantu Corfforaethol. Mae’n ddogfen weithredol a bydd y Panel yn derbyn adroddiad blynyddol arni ac yna’r Pwyllgor Gwaith.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Pritchard bod rhiantu corfforaethol yn gyfrifoldeb i bawb yn y Cyngor ac nid dim ond yr Aelod Portffolio, y Pwyllgor Gwaith a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ac felly mae’r strategaeth yn berthnasol i’r holl Gyngor a phob aelod etholedig.  

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i bawb a oedd wedi cyfannu at ddatblygu’r strategaeth. Cadarnhaodd bod gan y Cyngor 150 o blant sy’n derbyn gofal a 63 sy’n gadael gofal a’u bod wedi dod  mewn i ofal nid drwy ddewis ond oherwydd amgylchiadau lle bu’n rhaid i’r Awdurdod ymyrryd. Mae’n briodol felly bod y Cyngor yn gwneud ei orau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yma a’u bod yn derbyn y gofal a sylw angenrheidiol ganddo. Mae cymeradwyo’r strategaeth yn nodi dechrau’r daith a bydd adroddiadau blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar y modd y mae’r Cyngor yn cwrdd â blaenoriaethau’r strategaeth. Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor wedi craffu ar y Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ôl-ofal yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill, 2023. Dywedodd y Cynghorydd Fowlie bod y materion a godwyd gan y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod hwnnw yn cynnwys y cyswllt rhwng y Strategaeth a Chynllun newydd y Cyngor ar gyfer 2023-28, fforddiadwyedd y strategaeth yn yr hinsawdd bresennol a’r risgiau a’r mesurau i liniaru’r effaith ar y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal. Holwyd hefyd ynglŷn ag effaith ehangach y strategaeth ar bobl yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Defnydd o Arian Premiwm Ail Gartrefi pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar y defnydd arfaethedig o arian Premiwm Ail Gartrefi ar gyfer 2023/24 i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynlluniau a fyddai’n elwa o’r £1.502m o gyllid sydd a’r gael a’r swm a ddyrannwyd ar gyfer pob cynllun.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a ddywedodd bod y Cyngor eisoes wedi cymeradwyo cynyddu’r Premiwm Ail Gartrefi o 50% i 75%. Dywedodd bod y blaid sydd mewn grym wedi addo yn eu maniffesto wrth ymgyrchu yn ystod yr etholiadau’r llynedd y byddant yn sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw’n gartref ac fel rhan o’r weledigaeth honno mae’r Weinyddiaeth yn bwriadu defnyddio arian y Premiwm Ail Gartrefi i helpu pobl leol gyda’u hanghenion tai yn cynnwys darparu grantiau i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a darparu benthyciadau rhannu ecwiti i brynwyr tro cyntaf fel y gallant brynu eiddo ar y farchnad agored.  Yn 2023/24 bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno cynllun cymhorthdal i helpu pobl leol fforddio rhenti marchnad agored. Dywedodd y Cynghorydd Pritchard bod y strategaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau tai ar gyfer pobl Ynys Môn a’i bod yn galluogi’r rheiny sydd â digon o fodd i brynu ail gartref helpu’r rheiny sydd methu fforddio unrhyw gartref o gwbl.

 

Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod £170k o gyllid ar gael pan gyflwynwyd y Premiwm Ail Gartrefi yn 2017 tra bo’r Gwasanaeth wedi gwario £696k yn y flwyddyn a aeth heibio. Roedd y ffyddiog y byddai’r cynlluniau a oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad yn dwyn ffrwyth gyda’r cyllid ychwanegol sydd ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid at y £300k sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio ac roedd yn dymuno cael eglurder ynglŷn â sut y byddai’r arian yn cael ei wario.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Gary Pritchard bod yr arian ar gyfer gwaith angenrheidiol yn gysylltiedig â chyfarwyddiadau Erthygl 4 a dywedodd ei fod wedi ymgynghori â Swyddogion Cynllunio a’r Aelod Portffolio Cynllunio i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y £300k yn cael ei wario.

 

Felly cynigodd y Cadeirydd, ac roedd pawb yn gytûn, bod y cynlluniau sydd wedi’u rhestru yn adran 10 yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo ac eithrio’r £300k a ddyrannwyd i’r Gwasanaeth Cynllunio a bod yr Aelodau Portffolio perthnasol yn cytuno i’r dyraniad ar ôl derbyn dadansoddiad manwl.

 

Penderfynwyd -

 

·         Cymeradwyo defnyddio arian Premiwm Ail Gartrefi ar gyfer y cynlluniau a amlygir ym mharagraff 10 yr adroddiad ar gyfer 2023/24 heblaw am y dyraniad o £300k ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio.

·         Bod uchafswm y grant sydd ar gael i ddod â thai gwag yn ôli ddefnydd yn cael ei gynyddu i £25,000.

·         Bod y dyraniad ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio yn cael ei gytuno ar y cyd gan y Deilydd Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a’r Deilydd Portffolio Cyllid unwaith y ceir dadansoddiad o’r £300k.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.