Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd yr holl Aelodau a’r Swyddogion a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith. Cyn dechrau busnes y cyfarfod, cyfeiriodd at sefyllfa Covid-19 yng Nghaergybi ac estynnodd ei diolch a'i gwerthfawrogiad i Swyddogion y Cyngor, y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu gwaith caled dros y penwythnos wrth gydlynu trefniadau profi Covid-19. Wrth ddiweddaru'r Pwyllgor Gwaith eglurodd fod nifer fawr o brofion wedi cyrraedd Caergybi y diwrnod cynt a'u bod ar gael i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac ar ben hynny, ddydd Llun, bydd gwirfoddolwyr yn dosbarthu pecynnau prawf i aelwydydd – bydd hyn yn cymryd ychydig ddyddiau a gofynnir i bobl fod yn amyneddgar. Rhaid diolch i'r gwirfoddolwyr am neilltuo amser i gyflawni'r dasg hon ac i Medrwn Môn ac i'r Gwasanaeth Tai am arwain y gwaith.  Er diogelwch, gofynnodd i bobl beidio â dod am brawf heb wneud trefniadau ymlaen llaw. Mae trefniadau hefyd yn cael eu gwneud gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans i sefydlu canolfan brofi yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn y gobaith y bydd yn weithredol erbyn diwedd yr wythnos – mae hyn ar gyfer unigolion heb unrhyw symptomau Covid-19 . Mae'r ganolfan brawf bresennol yng Nghaergybi hefyd ar gael ar gyfer profi galw heibio a thrwy ffenestr y car heb apwyntiad ymlaen llaw. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith am mai dyma'r enghraifft gyntaf o ledaeniad cymunedol ar yr Ynys (heb un pwynt trosglwyddo adnabyddadwy), mae angen ymateb mewn ffordd wahanol i'r trefniadau blaenorol ac anogodd bawb yn Ynys Cybi i gymryd y prawf i ddiogelu eu hunain a chymuned ehangach Ynys Cybi.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Richard Dew ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 7 ar yr agenda.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 298 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar yn dyddiadau canlynol:-

 

  15 Chwefror 2021

  1 Mawrth 2021 (Cyllideb)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2021 ac 1 Mawrth, 2021 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2021 a 1 Mawrth, 2021.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 351 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Thachwedd 2021 i'w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol - 

 

           Eitem 2 – Cynllun Rheoli Asedau Gwasanaeth 2020 i 2030: Ystâd Mân-ddaliadauwedi’i aildrefnu o 22 Mawrth, 2021 i gyfarfod 26 Ebrill 2021.

           Eitem tri (3) – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai – wedi'i aildrefnu o 22 Mawrth, 2021 i gyfarfod 26 Ebrill 2021.

           Eitem 18 – Cynigion Cyllideb Ddrafft Cychwynnol 2022/23 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod 8 Tachwedd 2021.

           Eitemau 20 i 23 – Eitemau’n gysylltiedig â Pherfformiad a Monitro’r Gyllidebeitemau newydd ar gyfer y cyfarfod ar 29 Tachwedd 2021.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Ebrill i fis Tachwedd 2021, fel y’i cyflwynwyd.

5.

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2020/21 pdf eicon PDF 736 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2020/21, cyfnod a oedd yn cyd-daro â’r cyfnod atal byr o bythefnos ym mis Hydref, 2020 a chyfnod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Rhagfyr, 2020. Yn gyffredinol, mae 79% o Ddangosyddion Perfformiad yn cael eu hamlygu rhai Gwyrdd neu Felyn gyda pherfformiad arbennig o dda o ran rheoli absenoldeb staff a’r is-bennawdsymud i wasanaethau digidollle mae'r holl ddangosyddion wedi gweld perfformiadau sydd wedi rhagori ar ganlyniadau blynyddol blaenorol yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Aelod Portffolio na ellir tanbrisio pwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiadau er mwyn sicrhau mwy o gydymffurfiaeth leol â rheolau cyfyngiadau symud cenedlaethol Covid-19. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wedi gweld cynnydd o 8.5k o ddilynwyr ers diwedd Chwarter 3 2019/20 ac yn y cyd-destun hwn dylid cyfeirio at Dîm Cyfathrebu'r Cyngor sydd wedi rhannu negeseuon clir a chyson i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd drwy gydol cyfnod y pandemig. Mae'r Cyngor hefyd yn ymwybodol o aelodau’r gymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a bydd yn parhau i ddarparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddulliau eraill. Ar gyfer yr ychydig feysydd hynny y nodwyd nad ydynt yn perfformio’n unol â'r targed, mae'r adroddiad yn esbonio pam ac yn cynnig mesurau lliniaru er mwyn ceisio gwella perfformiad wrth symud ymlaen i Chwarter 4 a thu hwnt.

 

Wrth gyfeirio at effaith y pandemig ar agweddau ar berfformiad y Gwasanaeth Cynllunio tynnodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd sylw at adborth diweddar gan asiantau cynllunio lleol a nododd mai Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Ynys Môn yw'r unig un yn y rhanbarth sy'n parhau i ddarparu gwasanaeth mor agos i'r arfer â phosibl ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er bod rhai Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hamlygu’n Goch ac yn tanberfformio, bod y duedd sylfaenol ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad hynny ar i fyny sy'n galonogol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mawrth 2021 lle craffwyd ar Gerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3. Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am yr adroddiad a'r diweddariadau a ddarparwyd gan Aelodau Portffolio a Swyddogion yn y cyfarfod ac ar ôl ystyried y rheini ac esboniadau eraill, ac ar ôl gofyn am gael data digartrefedd ar gyfer ei gyfarfod nesaf, roedd y Pwyllgor yn hapus i dderbyn yr adroddiad gan nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol a'r mesurau lliniaru a amlinellwyd, ac i argymell hynny i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad cadarnhaol a'r gwaith da parhaus y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20 pdf eicon PDF 255 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2019/20 fel y nodir yn Atodiad A i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon. Dywedodd ei fod yn falch iawn o allu adrodd am y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn cyfeirio ato i sicrhau bod y Gronfa'n cael ei defnyddio'n fwy at y dibenion elusennol y'i bwriadwyd sy'n dilyn cais a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Ebrill, 2019 i adolygu strwythur yr Ymddiriedolaeth i'r perwyl hwn. O ganlyniad, cymeradwywyd dyraniad untro o £55k ar gyfer pob ysgol uwchradd (o Gronfa Addysg Bellach 1/3 Ynys Môn) gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2019 i ariannu cost Anogwyr Dysgu i ddarparu cymorth i uwch ddisgyblion sy'n dilyn cyrsiau TGAU a Safon Uwch sy'n arbennig o berthnasol o ystyried yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar ysgolion ac ar ddysgu. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith hefyd ddyrannu £8,000 ychwanegol i bob ysgol uwchradd (o Gronfa Addysg Bellach 2/3 Ynys Môn) i ddarparu grantiau i gynorthwyo myfyrwyr dan anfantais ariannol i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a/neu gymorth i brynu llyfrau ac offer angenrheidiol i ddilyn cyrsiau yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, nid oedd ysgolion mewn sefyllfa i wahodd ceisiadau yn ystod tymor yr haf 2019/20 ac o ganlyniad, ni ddyfarnwyd unrhyw grantiau. Gofynnir felly i ysgolion atgoffa disgyblion ar ôl iddynt ddychwelyd fod y grant ar gael ac annog ceisiadau. Yn ogystal â hyn, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn gweinyddu cynllun ysgoloriaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd dan anfantais ariannol i ddilyn cyrsiau Prifysgol a Choleg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, er bod angen gwneud rhagor o waith, y gwnaed dechrau cadarn o ran defnyddio'r gronfa a rhoi cymorth ariannol i'r rhai y'i bwriadwyd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at yr hyn y mae'r cyfrifon yn ei gynrychioli o ran cyfansoddiad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, ffynhonnell ei hincwm a diben y tair cronfa sy’n rhan o’r ymddiriedolaeth. Cadarnhaodd fod cynllun wedi'i roi ar waith gyda'r ysgolion uwchradd i weinyddu’r broses o ddyfarnu'r grantiau i ddisgyblion ond bod y pandemig wedi amharu ar y broses hon. Gobeithio yn awr, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, y bydd ysgolion yn gallu dosbarthu a defnyddio mwy o'r cyllid yn nhymor yr haf nesaf. Ychwanegodd Swyddog Adran 151 ei fod yn gallu adrodd bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cadarnhau y bydd 4 myfyriwr yn derbyn grant o £500 ym mis Medi, 2021 ac y bydd y gwariant hwn yn cael ei adlewyrchu yng nghyfrifon 2020/21. Mae'r adroddiad yn amlinellu perfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth am y flwyddyn - cyfanswm yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 326 KB

Cyfwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am sêl bendith y Pwyllgor Gwaith i gynyddu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2021/22 fel y'i cynigiwyd i'w ystyried.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, ymneilltuodd y Cynghorydd Richard Dew o'r cyfarfod pan drafodwyd y mater.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad yn nodi, o 6 Ebrill 2016, fod y fframwaith ar gyfer asesu ariannol wedi dod o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Ganolog i fudd-daliadau a lefelau pensiwn ac, wrth bennu lefelau ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, mae angen i'r Awdurdod ddangos ei fod wedi ystyried costau'r ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Rhanbarthol.  Mae'r Awdurdod yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2021/22 sydd wedi adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth o ran pensiynau, y cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant yn ogystal â chostau a briodolir i dalu costau staff asiantaeth. Nodir argymhellion Methodoleg Gogledd Cymru yn Nhabl 1 yr adroddiad ac maent yn seiliedig ar Elw ar Fuddsoddiad ar 10% ar gyfer 2020/21 a 2021/22.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod yr Awdurdod, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, yn cynnig diwygio ychydig ar yr Elw ar Fuddsoddiad cyn ei fabwysiadu ar gyfer 2 gategori (Preswyl Oedolion a Phreswyl i Bobl Hŷn Bregus eu MeddwlElfen Gofal Cymdeithasol) ac felly mae'n argymell bod y cyfraddau a nodir yn Nhabl 2 yn cael eu cymeradwyo ar gyfer Ynys Môn. Efallai y bydd angen ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynglŷn â'r ffioedd a gynigir. Ystyrir eithriadau i'r cyfraddau ffioedd os oes tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a bennir yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 o ran y goblygiadau i gyllideb y Cyngor, wrth bennu cyllideb 2021/22, fod darpariaeth ychwanegol wedi’i gwneud ar gyfer chwyddiant ar sail nifer y cleientiaid yng nghartrefi gofal/nyrsio annibynnol Ynys Môn yn y gorffennol. Er bod y cynnydd mewn lefelau ffioedd yn uwch na'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer chwyddiant, mae nifer y cleientiaid yn y cartrefi wedi gostwng ers hynny ac os bydd y nifer hwnnw'n parhau'n gyson, dylai’r gwariant aros o fewn y gyllideb. Mae nifer y cleientiaid y mae'r ffioedd yn berthnasol iddynt yn tueddu i amrywio bob blwyddyn beth bynnag gan arwain at amrywiadau yn y gyllideb wrth i'r nifer ostwng neu godi, felly ni ystyrir bod y ffaith bod y cynnydd mewn ffioedd yn fwy na'r ddarpariaeth ar gyfer chwyddiant yn destun pryder.

 

Penderfynwyd 

 

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ei gwneud yn bosib i Gyngor Sir Ynys Môn esblygu i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 - gan ddarparu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd pdf eicon PDF 666 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn amlinellu'r camau i'w cymryd i ddarparu Rhaglen newid hinsawdd gorfforaethol newydd i gefnogi'r Cyngor i newid i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cyfeiriodd Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd at yr argyfwng newid hinsawdd fel un sy'n berthnasol i'r Cyngor yn gorfforaethol ac i wasanaethau'n unigol, a bod y Cyngor wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Er bod y ffocws uniongyrchol wedi bod ar reoli effaith pandemig Covid-19, mae'r argyfwng newid hinsawdd yn parhau. Bydd yn dod yn fwy pwysig wrth symud ymlaen a bydd disgwyliadau’n lleol y bydd y Cyngor yn cymryd camau pendant yn cynyddu. Er bod rhai pethau eisoes wedi’u cyflawni ar draws yr Awdurdod – ym maes Tai, Priffyrdd ac Eiddo er enghraifft - o ran lleihau'r defnydd o garbon, diogelu ac ychwanegu gwerth at yr amgylchedd naturiol a lleihau teithio, mae gwaith y Cyngor ar newid hinsawdd yn gofyn am ddull corfforaethol hirdymor a phellgyrhaeddol. Er y bydd adnoddau ar gael, mae angen i ymateb y Cyngor gael ei ategu gan gynlluniau mesuradwy pendant a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

 

Cytunodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd proffil, arwyddocâd a disgwyliadau'r Cyngor i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â mater newid hinsawdd yn cynyddu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, yn enwedig unwaith y bydd argyfwng Covid-19 drosodd. Bydd angen i'r Cyngor roi arweiniad clir yn fewnol ac yn allanol ar gyfer cymunedau  a busnesau’r Ynys a'i bartneriaid, ac mae'r adroddiadau'n ceisio gosod sylfaen gadarn a fydd yn fodd i ystyriaethau newid hinsawdd gael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar waith y Cyngor yn y dyfodol. Mae Adran 3.2.1 o'r adroddiad yn allweddol i nodi ymrwymiadau awdurdodau lleol o ran sefydlu llinell sylfaen, adrodd, monitro a darparu tystiolaeth o gynnydd ystyrlon tuag at darged 2030 o gyflawni statws carbon niwtral a rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi map ffordd cyn bo hir ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a fydd yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau hynny.

 

Mae'n bwysig bod newid hinsawdd a lles amgylcheddol yn rhan annatod o broses adfer Covid-19. Dylai cynlluniau adfer geisio cynnwys ac adeiladu ar y newidiadau mewn agwedd, ymddygiad a ffyrdd o weithio sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig. ond dylai hefyd gydnabod mai unigolion a'u penderfyniadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly dylai’r dull gweithredu fod yn un strategol a hefyd yn ddull sy'n seiliedig ar grwpiau sy'n cynnwys staff y Cyngor, trigolion yr Ynys a'r Aelod lleol o’r Senedd a’r Aelod Seneddol sy'n eu cynrychioli. Mae Adran 7 yr adroddiad yn egluro'r rhesymu ar gyfer y cynigion sy'n argymell y dylid cryfhau cydgysylltiad, capasiti ac arbenigedd corfforaethol yn y maes hwn er mwyn galluogi'r Cyngor i symud ymlaen yn bendant ac yn effeithiol â'r cyfrifoldeb newid hinsawdd, a hynny gyda chymorth adnoddau penodol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Cadeirydd Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mawrth 2021 lle  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cwrs Golff Llangefni pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys yr adroddiad ymgynghori ar y bwriad i werthu Cwrs Golff Llangefni i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd gyd-destun y bwriad i werthu cwrs Golff Llangefni a chyfeiriodd at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2018 i gefnogi mewn egwyddor y bwriad i werthu tir y cwrs Golff ac aelwyd Ffridd ac ail-fuddsoddi’r elw i wella Canolfan Hamdden Plas Arthur. Cynhaliwyd proses dendro agored i reoli a gweithredu'r llain ymarfer, gyda Golf Môn yn sicrhau'r cytundeb tenantiaeth gyda'r Cyngor. Mae'r llain ymarfer, a ail-agorodd ym mis Ionawr 2019, wedi bod yn boblogaidd a llwyddiannus iawn a bydd yn parhau ar agor. Gan ei fod yn cynnwys cae chwarae, bu'n rhaid cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y cwrs golff o dan broses a ragnodir gan Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 a diolch i'r Swyddogion am eu holl waith mewn cysylltiad â rheoli'r broses.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) fod y Gwasanaeth, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn 2018 i gymeradwyo mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff, wedi bod yn ystyried opsiynau ar gyfer ei ddyfodol. Roedd ffigurau defnyddwyr y cwrs wedi gostwng ac roedd y costau rhedeg wedi dod yn anghynaliadwy i'r Gwasanaeth. Wrth gynnal yr ymgynghoriad mae'r Cyngor wedi cadw at ofynion Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 ac mae'n hyderus bod y broses a ddilynwyd yn gadarn, bod yr opsiynau'n realistig a bod modd eu cyflawni. Dywedodd y Swyddog fod y gwaith wedi cynnwys nifer o swyddogion o wasanaethau eraill a’i fod yn gwerthfawrogi ac yn ddiolchgar am eu mewnbwn i wneud y broses mor dryloyw ac agored â phosibl. Gan gyfeirio at Ganolfan Hamdden Plas Arthur, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaeth fod y Gwasanaeth wedi nodi rhaglen fuddsoddi amlinellol yr hoffai ei gweld yn cael ei gweithredu ar gyfer iechyd a lles y gymuned leol a bod unrhyw oedi o ran bwrw ymlaen yn risg.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus o dan Reoliadau Caeau Chwarae 2015 yn brofiad newydd ac yn her. Aeth ymgynghoriad ffurfiol cynharach ar y bwriad i werthu Cwrs Golff Llangefni yn fyw ar 9 Mawrth, 2020 a’r bwriad oedd ei gynnal tan 26 Ebrill, 2020 pe na bai'r pandemig wedi digwydd. Er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, comisiynwyd cyfreithwyr allanol i roi cyngor, arweiniad a chymorth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Rheoliadau. Nid ydynt wedi codi unrhyw faterion ac mae hynny’n rhoi sicrwydd ynghylch cadernid y broses. Y penderfyniad sydd i'w wneud yw p’un ai y dylid gwerthu'r Cwrs Golff ai peidio gan ystyried nifer yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Datganiad ar y Polisi Trwyddedu am y cyfnod 2021-2026 pdf eicon PDF 909 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Dadblygu Economaidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer 2021 i 2026 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad yn nodi bod y Ddeddf Trwyddedu yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Trwyddedu bob pum mlynedd i nodi sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau o ran rheoleiddio gweithgarwch rheoleiddiedig trwyddedig. Paratowyd y polisi drafft yn unol â chanllawiau statudol y Ddeddf Trwyddedu ynghylch ffurf a chynnwys y Polisi ac mae'n fersiwn ddiwygiedig a diwygiedig o bolisi blaenorol y Cyngor.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Trwyddedu a Diogelwch Corfforaethol ar gynnwys y polisi o ran yr egwyddorion a gymhwysir wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau, gwrandawiadau, adolygiadau ac apeliadau o dan y Ddeddf mewn perthynas â gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu lluniaeth hwyr y nos a darparu adloniant a reoleiddir. Mae dyletswydd ar yr Awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau dan y Ddeddf gyda golwg ar hyrwyddo’r Pedwar Amcan Trwyddedu yn gyfartal, sef atal trosedd ac anhrefn; diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Cyflawnir pwerau'r Awdurdod o dan y Ddeddf gan y Pwyllgor Trwyddedu, gan is-bwyllgor Trwyddedu neu gan un neu fwy o swyddogion sy'n gweithredu o dan awdurdod dirprwyedig (gweler Atodiad D). Pan fydd ceisiadau'n cael eu hysbysebu, mae gan yr Awdurdodau Cyfrifol yr hawl i wneud sylwadau – mae Atodiad B yn rhestru'r awdurdodau hynny y mae'r Cyngor yn ymwneud â nhw wrth weinyddu'r polisi a deddfwriaeth. Mae'r Polisi hefyd yn nodi sut yr ymdrinnir â hysbysiadau digwyddiadau dros dro a thrwyddedau personol a thystysgrifau safleoedd clwb ac mae'n cyfeirio at y cysylltiad â Chynllunio a Rheoli Adeiladu. Mae’r Polisi hefyd yn amlinellu’r trefniadau o ran gorfodi.

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn y dylid mabwysiadu'r Datganiad ar Bolisi Trwyddedu 2021-2026.

11.

Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai 2021/22 pdf eicon PDF 309 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Rhaglen grant ymyrraeth gynnar yw Grant Cymorth Tai i gefnogi gweithgaredd, sy'n atal pobl rhag bod yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw. Nid yw'r Grant Cymorth Tai yn ariannu'r ddyletswydd statudol sydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Mae gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, yn hytrach, yn ymestyn y gwasanaeth statudol, yn

ei ategu ac yn ei gynorthwyo i sicrhau bod y cynnig cyffredinol a roddir gan

awdurdodau yn helpu pobl i gael y cartrefi priodol gyda'r cymorth priodol i lwyddo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad drwy ddiolch i Brif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai am ei waith yn datblygu'r cynlluniau, yn enwedig gan mai dim ond dyddiau cyn y Nadolig y derbyniwyd yr hysbysiad gan Lywodraeth Cymru o'r dyraniad uwch. Er bod y cynnydd yn y grant i'w groesawu'n fawr, mae rhywfaint o bryder ynghylch ei barhad ar ôl 2021/22 a thu hwnt o gofio y bydd wedi'i ymrwymo at y dibenion a ddisgrifir yn yr adroddiad, er y deellir yn answyddogol y caiff ei gynnal ar y lefel hon o leiaf. Bydd dyraniad dangosol Ynys Môn ar gyfer 2021/22 yn cynyddu o fis Ebrill, 2021 £856,722.50 sef y cynnydd cyntaf yn y grant am 5 mlynedd gyda'r dyfarniad dangosol newydd yn £3,571,720.50. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r dyraniad wedi'i bennu ar £2,714,998, a dyrannwyd £2,643,866 ohono i'r elfen Cymorth Tai; £64, 923 ar gyfer Atal Digartrefedd (anstatudol) a £6,209 ar gyfer gorfodi Rhentu Doeth Cymru.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod trafodaethau gyda darparwyr a rhanddeiliaid eraill a data a ddadansoddwyd wedi dangos dros y 18 mis i ddwy flynedd diwethaf bod newid wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau i'r Rhaglen Cymorth Tai ac yn nifer yr achosion cymhleth y mae angen cymorth ac ymyriadau wedi'u targedu arnynt. Cafwyd dros 1,000 o atgyfeiriadau yn 2019/20 a disgwylir gweld nifer cyfatebol os nad uwch o atgyfeiriadau yn 2020/21. Mae achosion sy'n ymwneud â cham-drin domestig, materion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, unigolion sydd â hanes o droseddu a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn destun pryder yn enwedig wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi pan ddisgwylir i lefelau digartrefedd, anghenion iechyd meddwl a cham-drin domestig gynyddu a dod yn fwy amlwg. O ganlyniad, rhagwelir cynnydd yn y galw am Wasanaethau Cymorth Tai. Ar hyn o bryd, mae unedau cymorth a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth yr wythnos tua 700 gydag un uned yn cyfateb i un unigolyn neu deulu; mae'r niferoedd sy'n aros am gyswllt neu sy’n cale eu gosod ar restrau aros yn amrywio rhwng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion ar y cynnydd a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod Panel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y chwe mis diwethaf ac yn parhau i dderbyn tystiolaeth o ddatblygiadau ar draws Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Mae'r adroddiad yn darparu crynodeb o'r prosiectau/mentrau sydd wedi'u datblygu yn ystod y cyfnod. Mae hefyd yn galonogol nodi bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio o fewn y gyllideb ar hyn o bryd a bod Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd ar y trywydd iawn i gau'r flwyddyn ariannol ar sail hyn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er gwaethaf heriau dyddiol Covid-19 a'r galwadau digynsail ar staff, fod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi llwyddo i barhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn ogystal â datblygu prosiectau datblygiadol ac arloesol ar draws y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Lansiwyd Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc yn ystod y cyfnod i dynnu sylw at statws person ifanc fel gofalwr ac mae fformat digidol hefyd wedi'i ddatblygu gan fod gofalwyr ifanc yn ffafrio cardiau adnabod digidol. Mae cynllun Cartrefi Clyd yn parhau i ehangu gyda'r trydydd Cartref Grŵp Bychan bellach yn mynd rhagddo a chynnig wedi'i wneud ar bedwerydd eiddo i Ogledd yr Ynys. Mae'r Gwasanaeth wedi sicrhau cyllid ICF i brynu byngalo ar wahân er mwyn cynnig gwell darpariaeth gofal dydd i blant ag anghenion cymhleth ac mae eiddo wedi'i nodi ac mae wrthi'n cael ei brynu. Mae'r Gwasanaeth hefyd wedi cydnabod yr angen i symud yn gyflym i ddull Dim Drws Anghywir wrth ymateb i les emosiynol ac anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc a fydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant yn gofyn amdano ac na fyddant yn cael gwybod eu bod yn curo ar y drws anghywir ac y dylent fynd i rywle arall.

 

Diweddarodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion y Pwyllgor Gwaith ar gynnydd yn y Gwasanaethau i Oedolion a chydnabu fod y cyfnod wedi bod yn heriol yn enwedig i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, ac i ofalwyr a phartneriaid y Gwasanaeth ar draws y sector. Yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg fodd bynnag yw bod pawb wedi dod at ei gilydd i ddod o hyd i atebion creadigol i sicrhau bod cymorth wedi parhau i gael ei ddarparu i'r rhai sydd ei angen ac o ganlyniad, mae gwell cydweithredu. O ran ffrydiau gwaith penodol, comisiynwyd archwiliad annibynnol o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y bwriad yw darparu trosolwg o faes gwasanaeth sy’n gymhleth, a llunio argymhellion clir y cytunir arnynt ar feysydd penodol y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn gwella'r canlyniad i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae tri Thîm Adnoddau Cymunedol bellach ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.