Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir arbennig hwn o'r Pwyllgor Gwaith.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ddatgan diddordeb personol nad yw’n rhagfarnu o ran eitem 2 ar yr agenda gan fod ei dad-yng-nghyfraith yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Talwrn.

2.

Adroddiad Gwrthwynebu – Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn nodi'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol o fwriad y Cyngor i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid grynodeb o gefndir y cynnig a oedd yn rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardal Llangefni a chyfeiriodd at yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 ar ddyfodol y ddwy ysgol. Ar ôl gohirio oherwydd y pandemig, craffodd y Pwyllgor Sgritiwni Corfforaethol ar y mater ar 10 Rhagfyr, 2020 ac yna fe'i hystyriwyd gan y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, 2020 a benderfynodd gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Mae'r broses ddilynol wedi arwain at y cam hwn o dderbyn yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau i'r cynnig a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad statudol ar 18 Ionawr 2021 o'i fwriad i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Yna cafwyd cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod a ddaeth i ben ar 15 Chwefror, 2021. Derbyniwyd cyfanswm o 46 o wrthwynebiadau i'r cynnig. Er mwyn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rhaid i'r Cyngor, fel y cynigydd, gyhoeddi adroddiad gwrthwynebu yn disgrifio'r gwrthwynebiadau a gafwyd; cyflwynir hwn o dan Atodiad 1. Mae’r ffordd y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn delio gyda gwrthwynebiad i rybudd statudol yn dilyn trefn sydd yn unol ȃ’r Còd Trefniadaeth Ysgolion ac sydd mewn grym ers mis Hydref 2013. Yn unol ag adran 5.3 o'r Cod, rhaid i awdurdodau lleol wedyn benderfynu a ddylid cymeradwyo, gwrthod neu gymeradwyo'r cynnig gydag addasiadau. Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, argymhellir bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r cynnig gwreiddiol sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y cefndir hyd yma gan ddechrau gyda'r ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a gynhaliwyd gan Swyddogion y Cyngor rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 ar ôl cael eu hawdurdodi i wneud hynny ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddiwrnod olaf yr ysgol cyn cyfnod y cyfyngiadau symud cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang. Dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru i gadarnhau bod Gweinidogion yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan 19 Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.