Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 19 Gorffennaf, 2022 i’w cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2022 yn rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr (a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Hydref, 2022 i Fai, 2023 i’w ystyried a nodwyd y newidiadau a ganlyn :-

 

Eitemau newydd

 

·      Eitem 1 –Cais cymhleth am Grant Cyfleusterau i’r Anabl - Dirprwyo’r Penderfyniad i’r Aelodau Portffolio Gwasanaethau Oedolion

·      Eitem 4 – Arolwg Estyn ar Ddarpariaeth Addysg y Cyngor – Cynllun Gweithredol Ôl-arolwg ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref, 2022;

·      Eitem 15 – Cyllideb 2023/2024 – dyddiad i’w gadarnhau ar gyfer ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, amodol ar amserlen Llywodraeth Cymru;

·      Eitem 24 – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/2024 – dyddiad i’w gadarnhau ar gyfer ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, amodol ar amserlen Llywodraeth Cymru.

 

Eitem a ohiriwyd

 

·      Eitem 17 – Cynllun y Cyngor 2023 – 2028 i’w aildrefnu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref, 2022 i’r cyfarfod ar 24 Ionawr, 2023.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith, am y cyfnod Hydref, 2022 i Fai, 2023 fel y’i cyflwynwyd.

 

5.

Aelodau Pwyllgor Gwaith Cynorthwyol pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas ag Aelodau Cynorthwyol o’r Pwyllgor Gwaith i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cyflwyno darpariaethau sy’n golygu bod modd penodi aelodau etholedig i fod yn gynorthwywyr i’r Pwyllgor Gwaith (cynorthwywyr). Dim ond drwy

benderfyniad gan y Cyngor llawn y gellir rhoi Adran 57 ar waith. Ni chaniateir penodi mwy na thri aelod cynorthwyol o’r pwyllgor gwaith ac ni fyddant yn derbyn unrhyw gydnabyddiaeth ariannol. Bydd yr holl delerau ac amodau eraill yn cael eu penderfynu gan yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn A.2 yn yr adroddiad i’w hystyried gan y Cyngor llawn.

 

6.

Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/2022 pdf eicon PDF 559 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/20222 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/2022 yn ddiweddar – y Llythyr Blynyddol.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ei fod wedi cyfarfod gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar a’i bod yn fodlon gyda’r trefniadau cadarn y mae’r Awdurdod wedi’u rhoi ar waith i ddelio gyda chwynion.

 

PENDERFYNWYD:-

·         Nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) 2021/22;

·         Nodi unrhyw adborth i’w rannu â’r OGCC – dim adborth i’w nodi;

·         Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC er mwyn cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol ac i ddarparu sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion ac felly darparu aelodau â’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gallu craffu ar berfformiad y Cyngor.

 

7.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 1, 2022/23 pdf eicon PDF 574 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1, 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y cerdyn sgorio’n amlygu safle’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gwella. Ystyrir bod adroddiad Chwarter 1 yn rhoi’r Cyngor mewn safle cadarnhaol mewn perthynas â pherfformiad, fodd bynnag bydd rhaid cadw llygaid ar yr heriau ariannol yn sgil yr argyfwng costau byw.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 1 yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2022 ac ar ôl ystyried yr adroddiad a’r diweddariadau gan y Swyddogion a oedd yn y cyfarfod penderfynwyd nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau  i’r dyfodol a’r mesurau lliniaru yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams y bydd y Cyngor yn wynebu heriau ariannol a bod hynny wedi’i drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 26 Medi, 2022. Gofynnodd a fyddai modd ychwanegu colofn ychwanegol i’r Cerdyn Sgorio mewn perthynas â thueddiadau tymor hir a thueddiadau blynyddol y broses monitro gorfforaethol. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar gerdyn sgorio Ch1, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

 

8.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2022/23 pdf eicon PDF 910 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar berfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 o flwyddyn ariannol 2022/2023 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei bod yn anodd rhagweld y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ar ddiwedd Chwarter 1, a gall y

sefyllfa newid yn sylweddol wrth i weddill y flwyddyn ariannol fynd rhagddi oherwydd bod chwyddiant yn codi, y ffaith na chytunwyd eto ar ddyfarniadau cyflog staff ar gyfer 2022/23, y posibilrwydd o gostau cysylltiedig â Covid wrth i ni symud i fisoedd y gaeaf, ynghyd â’r effaith a gaiff yr argyfwng costau byw ar y galw am wasanaethau’r Cyngor.  Nid yw’r sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn ystyried y dyfarniadau cyflog arfaethedig ar gyfer athrawon (o fis Medi 2022) a staff arall (wedi’i ôl-ddyddio i Ebrill

2022). Pan fydd y costau hyn yn hysbys, byddant yn cael eu cynnwys yn yr amcangyfrifon yn y dyfodol. Crëwyd cronfa wrth gefn glustnodedig o £2.3m er mwyn darparu cyllid ychwanegol i gwrdd â’r pwysau chwyddiant yma, a bydd angen £2m yn ychwanegol i ariannu’r dyfarniadau cyflog os mai’r cynnig presennol fydd yn cael ei dderbyn. Bydd hyn yn defnyddio’r cyfan o’r gronfa wrth gefn glustnodedig, ac ni fydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gwrdd â’r cynnydd disgwyliedig mewn costau eraill. Aeth ymlaen i ddweud yn hanesyddol, mae pwysau’r gaeaf i’w weld yn y gwasanaethau Priffyrdd ac Oedolion a gall fod yn anodd mesur y costau ychwanegol mor fuan â hyn yn y flwyddyn ariannol. Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 y bydd y tendr newydd ar gyfer trafnidiaeth ysgol yn weithredol o fis Tachwedd 2022 a’r tendr ar gyfer tacsis a bysiau mini o fis Ionawr, 2023, a bod disgwyl iddynt gynyddu costau’r Cyngor yn sylweddol.  Roedd yn dymuno nodi bod gorwariant o £1.5m yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant ar hyn o bryd a bod grantiau a chronfeydd wrth gefn i gefnogi’r gwasanaethu hyn, ond hebddynt byddai’r gorwariant dros £3m ac mae angen ystyried hyn wrth osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae digartrefedd hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb gan fod y cyflenwad o lety rhent sector preifat yn lleihau ac mae hyn yn creu problemau wrth i fwy o bobl gyflwyno’u hunain yn ddigartref i’r gwasanaeth. Daeth i’r casgliad ei bod yn annhebygol iawn mai’r rhagolygon yn yr adroddiad hwn fydd y sefyllfa derfynol a bod disgwyl i’r Cyngor orwario ar ei gyllideb refeniw yn 2022/23, ond y bydd y sefyllfa’n gliriach ar ddiwedd yr ail chwarter. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23;

·         Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23, fel y manylir arnynt yn Atodiad C;

·         Nodi’r modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH a D.

 

9.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2022/23 pdf eicon PDF 517 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai £48.7m yw cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022/2023. Fe nododd y rhagwelir y bydd £6.6m wedi’i wario erbyn diwedd Chwarter 1. Mae nifer o gynlluniau Grant Cyfalaf yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23, ac mae’r mwyafrif ohonynt wedi cychwyn ac yn mynd rhagddynt (mae’r rhain wedi eu hamlygu yn yr adroddiad).  Aeth ymlaen i ddweud y rhagwelir tanwariant o £4.176m ar y Rhaglen Gyfalaf. Mae’r tanwariant a ragwelir yn bennaf yn ymwneud â chynlluniau lliniaru llifogydd a’r gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd, gwaith amgylcheddol a chynlluniau effeithlonrwydd ynni o fewn y CRT, sydd yn cael ei egluro yn yr adroddiad monitro ar gyllideb y CRT ar gyfer Ch1 sy’n eitem ar wahân ar yr Agenda.   Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ymlaen i ddweud bod angen ailddyrannu cyllid cyfatebol o £0.140m mewn perthynas â chynllun llifogydd Traeth Coch i gynlluniau ar raddfa fach er mwyn ymorol am y cynnydd disgwyliedig mewn costau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23 yn chwarter 1.

·         Cymeradwyo ailddyrannu £0.140m o gyllid cyfatebol mewn perthynas â Thraeth Coch i gynlluniau ar raddfa fach er mwyn ymorol am y cynnydd disgwyliedig mewn costau, fel yr eglurir yn 3.1.1 yn yr adroddiad.

 

 

10.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 - Chwarter 1, 2022/23 pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 1 2022/2023 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y CRT wedi’i glustnodi i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian o’r cronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio’r Gronfa Gyffredinol i gyllido’r CRT. Mae gorwariant o £119k mewn perthynas â chynnal a chadw ac atgyweirio ar ddiwedd Ch1 ac mae hyn wedi’i amlygu yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at wariant Cyfalaf y CRT a nododd bod y gyllideb ar gyfer adeiladu’r unedau newydd wedi ei leihau £4.704k fel y gwelir yn 9.2 yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 hefyd at y tanwariant o £337k a ragwelir yn y gyllideb Gwella Perfformiad Ynni.  Mae'r prosiectau gwella perfformiad ynni megis gosod paneli Solar PV yn dibynnu ar ymgynghori â'r Gweithredwr Rhwydwaith Ardal (DNO) cyn gwneud y gwaith. Mae cael y caniatâd angenrheidiol yn gallu bod yn broses hir ac mae hyn yn egluro’r oedi gyda’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Nodi’r sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 1 2022/23.
  • Nodi’r alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.
  • Cymeradwyo'r gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf o £4,704k fel y nodir ym mharagraff 9.2 yn yr adroddiad. 

 

11.

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24 i 2024/25 pdf eicon PDF 818 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori’r gofyniad ar y Cyngor i sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw, ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod hwn fel arfer yn gynllun tair blynedd ond oherwydd yr ansicrwydd bernir na fyddai rhagamcan ar gyfer 2025/26 o unrhyw werth, gan y byddai’n golygu nifer o ragdybiaethau, heb fawr neu ddim tystiolaeth i’w cefnogi.  Rhoddwyd diweddariad ar Economi’r DU a strategaeth economaidd y Llywodraeth i’r Aelodau. Cyfeiriodd at y prif bwysau cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod tymor y cynllun hwn fel y gwelir yn adran 5.2 yn yr adroddiad h.y. Codiadau Cyflog – cyflogau staff nad ydynt yn athrawon a chyflogau athrawon; Cyfraniadau Pensiwn Llywodraeth Leol ac Athrawon; Contractau Gwasanaeth Mawr; Costau Ynni; Cartrefi Gofal Henoed, Nyrsio, Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl a Phreswyl; Contract Gofal Cartref; Gwasanaethau Plant ac Oedolion; Digartrefedd; Trafnidiaeth Ysgol; Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor;  Costau Cyllido Cyfalaf a Chwyddiant Cyffredinol mewn Prisiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad fyddai’r setliad dangosol o 3.6% a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gyfan yn ddigonol i gyllido’r pwysau cyllidebol a wynebir gan y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau yn benodol Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr amcangyfrifiad cychwynnol yn dangos y bydd cyllideb y Cyngor yn cynyddu o £158m i oddeutu £176m, sydd yn gynnydd o 11.5%.  Cyfeiriwyd at Dabl 3 yn yr adroddiad sydd yn amlygu’r effaith y bydd y newidiadau yn yr AEF a’r Dreth Gyngor yn 2023/24 yn ei gael ar Gyllid y Cyngor ac mae’n dangos na fydd cynnydd o 10% yng nghyllid Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor yn ddigonol i ariannu’r gofyniad cyllidebol a ragwelir ar gyfer 2023/24. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor falansau cyffredinol o £11m a £23m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig er mwyn ymorol am unrhyw gostau annisgwyl yn ystod y flwyddyn. Nododd bod gan y Cyngor y gallu i ddefnyddio balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn i helpu i leihau’r bwlch cyllido, ond wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn mae risgiau i'r graddau nad ydynt yn ffynhonnell incwm gylchol ac nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn yn dileu'r angen i bontio'r bwlch cyllido yn y tymor hir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, a oedd yn y Gadair, ei fod o’r farn bod angen trefnu Sesiwn Briffio ar gyfer yr Aelodau Etholedig i drafod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac amlygu’r pwysau cyllidebol y bydd y Cyngor yn ei wynebu oherwydd yr ansicrwydd yn yr economi fyd-eang.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • bod gofyn i’r Cyngor sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw, ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC). Mae’r cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Sefydlogrwydd Marchnad pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Strategaeth y Farchnad Rhanbarthol a Lleol (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio ar 26 Medi, 2022 lle cafwyd trafodaeth hir ynglŷn â goblygiadau’r Strategaeth. Nododd bod y Cyngor yn wynebu heriau o ran y gwasanaethau a fydd ar gael yn y dyfodol.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod problemau recriwtio ledled y sector gofal a’i bod hi’n anodd iawn denu pobl ifanc yn benodol i’r rolau hyn.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu asesiadau ar y cyd ar ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn galluogi’r awdurdod i ddeall y farchnad gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, fel y gall yr awdurdod gomisiynu a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gwrdd ag anghenion y boblogaeth yn effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr adroddiad sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn cynnwys asesiad o’r farchnad ar gyfer gofal a chymorth ym mhob ardal awdurdod lleol yn ogystal ag ardal y BPRh yn ei chyfanrwydd.   Bydd yr adroddiad yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch comisiynu gofal a chymorth, gan fwydo i mewn i'r cynllun ardal strategol ar gyfer ardal y BPRh a helpu i lunio strategaethau comisiynu lleol a rhanbarthol. Nododd bod cysylltiad cryf rhwng yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth sy’n nodi'r angen a'r galw ar hyn o bryd ac a ragwelir am ofal a chymorth, ac ystod a lefel y gwasanaethau y bydd eu hangen i ateb y galw hwnnw. Bydd y dogfennau Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Asesiad Sefydlogrwydd y Farchnad yn cael eu defnyddio i gynllunio cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a chynlluniau datblygu gwasanaethau wrth symud ymlaen. Aeth ymlaen i adrodd bod y Gwasanaeth Gofal Cartref wedi gweld cynnydd o 33% yn y galw am wasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf a bod disgwyl i’r galw gynyddu.  Bu gostyngiad mewn darparwyr gwasanaeth gofal cartref ac mae’n peri pryder bod llai yn dewis gweithio yn y Sector Gofal, yn enwedig yn y gwasanaeth Gofal Cartref gydag oedran cyfartalog gweithwyr Gofalwyr Cartref dros 50 oed.   Aeth y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ymlaen i ddweud bod angen cymorth anffurfiol i Ofalwyr ar yr Ynys. Dywedodd bod angen cynyddu’r ddarpariaeth arbenigol sydd ar gael ynghyd â Gofal Dementia oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio.  Mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant rhaid cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth h.y. anawsterau dysgu, problemau emosiynol ac iechyd meddwl.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi trafod yr Adroddiad Rhanbarthol a  Lleol ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2022 ac ar ôl ystyried yr adroddiad a ddarparwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Adroddiad Cynnydd – Gwelliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 597 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r Adroddiad Cynnydd ar Welliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant bod effaith y pandemig yn dal i greu heriau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru. Nododd bod yr Awdurdod yn arwain nifer o brosiectau ac mai’r nod ydi amlygu cynlluniau ataliol yn hytrach na mesurau ymatebol. 

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion brif lwyddiannau’r Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gwelir yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod yr Adroddiad Cynnydd: Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2022 a bod y Pwyllgor wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau hyd yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cynnydd ar Welliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

14.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 90 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol  

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

 “O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

15.

Sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer awdurdod cynllunio Ynys Môn i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd bod angen sefydlu strwythur addas ar gyfer y Tîm newydd i sicrhau bod ei ddyletswyddau cynllunio polisi statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol, effeithlon a chadarn. Amlygodd y prif ystyriaethau a’r cyllid refeniw ychwanegol sydd ei angen i sefydlu a gweithredu Tîm Polisi Cynllunio ar gyfer Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Awdurdodi rhyddhau £69,632 o gyllid refeniw blynyddol ychwanegol, i’w rannu 50/50 rhwng balansau cyffredinol y Cyngor a chyllideb refeniw bresennol y Swyddogaeth Gynllunio, sefydlu a gweithredu Tîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Ynys Môn.

·           Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr, i awdurdodi penderfyniadau pellach mewn perthynas â sefydlu'r Tîm Polisi Cynllunio newydd.