Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 8fed Gorffennaf, 2014 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Jeff Evans yn Gadeirydd.

 

Diolchodd i’r Aelodau am eu hyder ynddo.

 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Jim Evans yn Is-Gadeirydd.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr. Lewis Davies ddiddordeb yng nghais 29 - Canolfan Gymunedol Llanfaes a chais 45 - Cae Chwarae Llangoed.  Gadawodd Mr. Davies y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio ar y ceisiadau.

 

Datganodd Mr. Peter S. Rogers ddiddordeb yng nghais 18 - Institiwt Pritchard Jones Cyf., cais 20 - Malltraeth Ymlaen Cyf., a chais 40 - Ysgol Parc y Bont - Cymdeithas Rhieni Athrawon.  Arhosodd Mr. Rogers yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth a’r pleidleisio ar y ceisiadau.

 

4.

Cofnodion Cyfarfod 9 Gorffennaf, 2013 pdf eicon PDF 229 KB

Bydd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Gorffennaf, 2013.

5.

Grantiau Blynyddol 2014/15 pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

(Adroddiad Hwyr)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Gwneir y dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:-

 

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)

·         Grantiau Eraill (yn bennaf grantiau bychan unwaith yn unig)

 

Yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill, 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn i awdurdodi’r Pwyllgor hwn i gymeradwyo’r holl geisiadau a dderbyniwyd erbyn yr amser cau ac a oedd yn cydymffurfio â meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau mewn blynyddoedd i ddod a bod rhan o’r gronfa gyfalaf yn cael ei defnyddio i’r pwrpas hwn pe bai angen hynny.  Dywedodd yr Ysgrifennydd bod 5 cais wedi ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau am grant.  Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn na ddylid ystyried y ceisiadau hyn. 

 

Roedd y Swyddogion perthnasol o’r adrannau penodol wedi ystyried ac wedi blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd i’r graddau y gellid gwneud hynny ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, y meini prawf a sefydlwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac o fewn swm y cyllid oed ar gael i bob dyraniad.  Roedd argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.   Roedd system gyfeirio ar y cyd wedi ei defnyddio ar gyfer y grantiau a roddwyd gerbron y pwyllgor hwn ac am geisiadau grant i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru; bydd unrhyw fylchau yn y rhifau cyfeirnod wedi eu hachosi oherwydd i’r grantiau hynny gael eu rhoi ymlaen i Gronfa’r  Eglwys yng Nghymru yn hytrach nag i’r Ymddiriedolaeth.  Nodwyd bod y ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol’ gyda chopi ohono ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

 

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf am 2014/15 fel a ganlyn:-

 

4.   Digwyddiadau Carnifal Llanfairpwll

Gwella safon yr ystafelloedd newid a chegin

(NIL)

(Nid y sefydliad yw perchennog yr adeilad ac nid oes ganddo brydles arno)

 

5.   Canolfan Gymuned      Brynsiencyn

I uwchraddio’r system wresogi am un sy’n fwy ynni effeithlon a rhatach i’w redeg

£1,844

(Yn amodol ar ymestyn eu prydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y cwôt ariannol hwn)

 

6.   Clwb Dinasyddion Hŷn Millbank

Addasu tolied i’r anabl a thrwsio wal derfyn y tu allan

 

£6,000

(Hyd at 70% o’r cwôt isaf, uchafswm dyraniad fydd £6,000)

 

7.   2474 Cadetiaid Awyr (Cefni)

Uwchraddio systemau cyfrifiadurol fel gall y cadetiaid astudio ac eistedd arholiadau ar y sylabws Cadetiaid Awyr, yn arwain at gymwysterau 4 BAETIWCH.  Hefyd i wella’r profiad hedfan

 

£2,320

 

10. Cyfeillion Pentraeth

 

Creu ardal chwarae saff i’r gymuned leol

(NIL)

(Byddai’r ardal ar libart yr ysgol, ac nid yw felly’n gymwys i dderbyn cyllid)

 

11. Ffederasiwn Sefydliad y Merched Ynys Môn

Uwchraddio’r neuadd yn Llanfairpwll (gorchudd rhag glaw i’r to)

£2,520

(Neuadd Llanfairpwll yw cartref Sefydliad y Merched cyntaf ym Mhrydain a byddant yn dathlu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.