Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Ail etholwyd Mr. Jeff Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

 

Diolchodd Mr. Evans i’r Aelodau am eu hyder ynddo.

2.

Etholiad Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Cafodd Mr. Lewis Davies ei ethol yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Jeff M. Evans mewn perthynas â chais 04 - Clwb Caban Rhoscolyn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ar y cais.  

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Ms. Llinos Medi Huws mewn perthynas â chais 22 - Clwb Gymnasteg Môn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ar y cais.    

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Richard O. Jones mewn perthynas â chais 03 - Relay for Life Gwynedd & Anglesey ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ar y cais.   

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan  Mr. Peter S. Rogers mewn perthynas â chais 39 - Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth ar y cais.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gafwyd ar 8 Gorffennaf, 2015. 

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2015 fel cofnod cywir.

5.

Grantiau Blynyddol 2016/17 pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd mai diben yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol drwy Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:- 

 

·         Cyfleusterau cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·         Grantiau Eraill (grantiau bach untro yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr, 2016 fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn hefyd y byddai clustnodi grantiau i sefydliadau unigol yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn. Yr uchafswm a ganiateir ar gyfer Grantiau Cymunedol ac Adnoddau Chwaraeon yw £8,000 a hyd at 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill, 2011 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn i gynyddu’r uchafswm a graddfa’r canran o ganlyniad i’r ceisiadau a gafwyd.  

 

Mae Swyddogion perthnasol Cyngor Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a gafwyd cyn belled a bo hynny’n bosibl ac yn unol â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Gwelir argymhellion y Swyddogion yn Atodiad A sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi’i sefydlu ar gyfer y ddau grant sydd wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau grant i’r Gronfa Eglwys yng Nghymru. Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini prawf ar gyfer Dyraniad Grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, copi ohono sydd wedi’i atodi fel Atodiad B i’r adroddiad. 

 

Roedd aelodau o’r Pwyllgor yn bryderus bod ceisiadau am grantiau i weld wedi gostwng hyd at 20% eleni. Nododd y Cadeirydd y byddai’n hoffi gweld mwy o hyrwyddo’r grantiau Ymddiriedolaeth Elusennol a mwy o gymorth yn cael ei roi i sefydliadau er mwyn llenwi’r ceisiadau am grant. Awgrymwyd bod Medrwn Môn yn sefydliad a allai fod ar gael i sefydliadau sydd angen cymorth i lenwi ceisiadau.   

 

CYTUNWYD y dylid trefnu gweithdy er mwyn adolygu’r weithdrefn grantiau flynyddol ac y dylid rhoi cymorth i ymgeiswyr er mwyn symleiddio’r broses o ymgeisio am grant blynyddol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  

 

Mae’r ceisiadau a gafwyd a’r symiau a gafodd eu hargymell ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf ar gyfer 2016/17 fel a ganlyn:-

 

01  3D KIDS                                    Er mwyn hwyluso’r gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer plant  ac oedolion (0-25) a’u teuluoedd.               

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Er bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cais am grant, ystyriwyd bod diffyg gwybodaeth yn y cais o ran ar gyfer pa weithgareddau y mae’r sefydliad yn bwriadu defnyddio’r grant: 

·           Gofyn i’r Swyddog gysylltu â’r ymgeiswyr er mwyn trafod y mater ymhellach;

·           Awdurdodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn i ddyrannu grant o £2,100 os ydynt yn fodlon ag ymateb y sefydliad. 

 

 

02  Clwb Pêl-droed Hotspurs         Ailwampio ardal y cefnogwyr                                     £3,900

                Caergybi

 

03  Ras Gyfnewid am Fywyd       Costau cynnal y digwyddiad ras gyfnewid a      £1,000

          Gwynedd a Môn                 gynhelir ar 9 a 10 Gorffennaf. Mae’r arian a gesglir

                                                    yn cyfrannu at strategaethau ymdopi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.