Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd Mr. T. Ll. Hughes fuddiant personol mewn perthynas â chais 02 (Clwb Pêl-droed Holyhead Hotspurs) a ni chymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
|
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Gorffennaf, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2016.
|
|
Grantiau Blynyddol 2016/17 PDF 11 MB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Adroddwyd bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar Orffennaf 13eg, 2016, wedi penderfynu gohirio ystyried 8 cais er mwyn casglu gwybodaeth bellach y gofynnwyd amdani gan y Pwyllgor. Roedd manylion am y ceisiadau ynghlwm i’r adroddiad yn Atodiad A a B.
Dywedodd y Trosorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn a gynhaliwyd ar Fedi 13eg, 2016 wedi penderfynu dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymerdwyo ceisiadau am Grantiau Bach ac felly ni fydd angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau cyffredinol o hyn ymlaen.
Yn dilyn trafodaethau ar bob cais PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol – Grantiau Cyfalaf 2016/17 fel a ganlyn:-
01 3D KIDS I alluogi gweithgareddau £2,100 cymdeithasol ar gyfer Plant ac Oedolion (0-25) a’u Teuluoedd
02 Clwb Pêl-droed Adnewyddu’r ardal i wylwyr £3,900 Holyhead Hotspur (yn ddibynnol bod prydles y tir wedi’i chytuno â’r perchnogion newydd)
06 Parti Meibion Bara Arian i greu CD Tynnwyd y cais yn Brith ôl
15 ADLAIS Cefnogaeth i ariannu cyngerdd DIM Pen-blwydd y côr yn 25 (ddim yn gymwys)
17 PANTRI 6 Arian ar gyfer arwyddion, peintio, DIM gostwng y nenfwd, inswleiddio, inswleiddio’r waliau, gwres canolog gosod toiled ar gyfer yr anabl, tudalen we a chyflog un swydd (ni ymatebodd y sefydliad i'r cynnig gan y Swyddogion i drafod y cais yn unol â chais y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol)
20 Cyngor Cymuned Diogelu’r Rhandiroedd £1,850 Llannerch-y-medd Cymunedol yn unol â gofynion y Brydles ac amodau Iechyd a Diogelwch
(Ymatalodd Llinos M. Huws ei phleidlais oherwydd ei bod yn bresennol yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llannerch-y-medd yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Sir)
26 Cymdeithas Ardal Offer i greu ardal chwarae £4,984 Chwarae Llanfaes 36 Clwb Hwylio Cyfraniad tuag at brynu cwch £8,000 Brenhinol Ynys Môn ddiogelwch
Cais a adawyd allan o’r adroddiad gwreiddiol.
37 Cwmni Cemaes Cyf. Gosod ffenestri newydd, gosod £7,664 gwydr dwbl mewn drws allanol, rheiliau o flaen yr adeilad i atal cwympiadau a ffensys
|