Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 12fed Gorffennaf, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Penodwyd Mr. Vaughan Hughes yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

2.

Etholiad Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol.

Cofnodion:

Etholwyd Mrs. Margaret M. Roberts yn Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Ms. Llinos M. Huws ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 036 (Clwb Gymnasteg Ynys Môn) ac ni chymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Hydref, 2016.

Cofnodion:

Nodwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2016.

5.

Grantiau Blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 520 KB

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynglŷn â’r uchod.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i brosiectau o dan y categorïau a ganlyn :-

 

·        Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·        Grantiau Eraill (grantiau bychan unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach, ac felly dim ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol fydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wneud yn dilyn hynny. £8,000 yw uchafswm y grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a hyd at 70% o’r costau cymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu uchafswm a chanran y gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbyniwyd.

 

Mae Swyddogion perthnasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiad A sydd ynghlwm i’r adroddiad. Defnyddiwyd system gyfeirio ar y cyd ar gyfer y ddau fath o grant a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; mae unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm.

 

Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac roedd copi ohono ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.

 

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellir ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2017/18 fel a ganlyn :-

 

001 -

Clwb Pêl Droed Bro Goronwy

Uwchraddio ac adnewyddu’r cawodydd yn yr ystafelloedd newid

DIM

 

(Ddim yn gymwys am fod y clwb wedi derbyn grant yn 2015/16)

 

002 -

Côr Cymunedol Llanddona

Cynorthwyo’r Côr i gynhyrchu cryno ddisg

 

 

£1,395

003 -

Cymdeithas Morisiaid Môn

Cyhoeddi cylchgrawn ‘Tlysau’r Hen Oesoedd’. Datblygu gwefan gyfoes. Cyhoeddi llyfr poblogaidd/cael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol

 

£4,676

 

(Yn amodol ar dderbyn dyfynbrisiau)

004 -

Cymdeithas Hamdden Benllech a’r Cylch

Adnewyddu’r Cwrt Tenis

DIM

 

(Nid yw cynlluniau gwerth dros £30,000 yn gymwys am ystyriaeth)

 

005 -

Clwb Bowlio Biwmares

Gwella cynnal a chadw’r lawnt fowlio drwy brynu casetiau ychwanegol i’r peiriant torri gwair

 

£1,295

006 -

Clwb Henoed Llanfaethlu

Cynorthwyo gyda chostau cludiant i fynd â phensiynwyr ar deithiau

 

£500

 

(Cymeradwyo’r egwyddor, yn amodol ar dderbyn mwy o wybodaeth am y gweithgareddau a chyfraniad gan y rhai sy’n cymryd rhan)

 

007 -

Creatasmile

Darparu sesiynau hwyl i’r teulu ar gyfer plant awtistig/gdd/aur ac anghenion ychwanegol a’u teulu agos

 

£1,750

009 -

Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Llanbedrgoch

Adeiladu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.