Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Election of Chairperson

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. G.W. Roberts OBE yn Gadeirydd.

2.

Etholiad Is Gadeirydd

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. H. Eifion Jones yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod Buddoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2012

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2012, yn amodol ar gynnwys enw Mr. Aled Morris Jones yn cael ei ychwanegu at y rhestr o ymddiheuriadau.

 

 

5.

Investment Management

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd Adroddiadau Chwarterol HSBC Global Asset Management (UK) Cyf am y chwarteri a ddaeth i ben Mehefin 2012 a Medi 2012.

 

Dywedodd y Rheolwr Buddsoddi fod y portffolio yn ystod y 12 mis diwethaf wedi dangos dychweliad o 15.0% yn erbyn y meincnod o 14.4%. Gwerth y gronfa ar 30 Medi 2012 oedd £14,133,234. Yr incwm a dderbyniwyd rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2012 oedd £109,852.

 

Dywedodd Mr Gareth Jones fod y marchnadoedd ecwiti wedi codi yn ôl i fyny er gwaethaf pryderon economaidd byd-eang. Gwelwyd cynnydd o 4.7% ym marchnad y DU dros y trydydd chwarter tra bod marchnad yr UD wedi codi gan 4.7%, Ewrop gan 8.0% a’r Marchnadoedd newydd gan 7.9%. Ar y llaw arall, gwelwyd cwymp o 3.2% ym marchnad Siapan. Gwelwyd cynnydd pellach o ran bondiau, 1.1% dros y chwarter. Nododd fod y portffolio wedi perfformio’n well na’r meincnod oherwydd y modd cadarnhaol y cafodd asedau eu dyrannu a stoc ei ddewis gyda’r cyfraniad mwyaf yn dod o’r stoc a ddewiswyd o ecwiti’r DU. Yn ystod y trydydd chwarter, gwerthodd HSBC rai o fondiau corfforaethol y DU ac ecwiti Asia gan ail-fuddsoddi’r arian yn ecwiti’r DU. Perfformiodd y portffolio’n dda yn ystod y trydydd chwarter.

 

Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i Mr Jones am ei gyflwyniad ac roeddynt yn hapus gyda pherfformiad cyfredol y portffolio.

 

Nodwyd y bydd cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau yn cael ei drefnu yn ystod Ebrill 2013 cyn etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.