Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2013. |
|
Rheoli Buddsoddi Cyflwyno, adroddiadau gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2014. (BYDD Y DDOGFEN AR WAHAN) Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad Chwarterol gan HSBC Global Asset Management (UK) am y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2014.
Dywedodd y Rheolwr Buddsoddi fod y portffolio yn dangos perfformiad o +7.3% dros y cyfnod o 12 mis o gymharu â’r meincnod o +5.5%.Fodd bynnag, dros y 3 mis diwethaf roedd y portfolio ychydig yn is na’r meincnod. Gwerth y gronfa ar 19 Mai 2014 oedd £17,214.934. Cafwyd adroddiad byr gan Mr. Gareth Watts ar berfformiad y portffolio ac ar ddyrannu asedau, difidendau a’r incwm o’r buddsoddiadau.
Dywedodd y bu adferiad graddol yn y byd sy’n datblygu a bod y dychweliadau o farchnadoedd esblygol dramor yn gryf. Cyfeiriodd at dapro camau lliniaru meintiol yn yr Unol Daleithiau a oedd wedi cael effaith ar y marchnadoedd ariannol yno ar y dechrau. Ar ddiwedd Mai ac ym mis Mehefin 2013 roedd marchnadoedd yn wan oherwydd pryderon y byddai’r Gronfa Ffederal yn dechrau tapro ei rhaglen lliniaru meintiol yn gynharach nag a ragwelwyd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd bron i bob ased wedi disgyn ac arian parod oedd yr unig le diogel.
Mae cyfraddau llog yn y DU yn parhau i fod yn hanesyddol o isel ac yn debygol o barhau felly i’r dyfodol rhagweladwy. Ymddengys bod gwariant a hyder ymysg cwsmeriaid yn parhau i fod yn isel ar hyn o bryd. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi codi’r pwnc buddsoddiadau moesegol ac wedi holi a oes gan y Rheolwyr Buddsoddi unrhyw fframwaith polisi mewn perthynas â buddsoddiadau moesegol o fewn portffolios. Ymatebodd Mr. Watts trwy ddweud bod HSBC bob amser yn trafod ac yn ymgysylltu gyda chwmnïau cyn pleidleisio mewn cyfarfodydd cyffredinol. Dywedodd y byddai’n rhannu adroddiadau ar fframwaith moesegol HSBC gydag Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd hefyd bod nifer o Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi holi a oedd yn briodol gwario rhywfaint o arian cyfalaf y Gronfa oherwydd bod perfformiad y portffolio yn weddol dda. Dywedodd y Cadeirydd bod angen adolygu meincnod y portffolio i ddenu difidendau canrannol uwch bob blwyddyn. Gofynnodd i HSBC roi ffigyrau i’r Pwyllgor ynghylch y difidendau o’r portfolio dros y 10 mlynedd diwethaf.
Yn dilyn sesiwn o holi ac ateb PENDERFYNWYD :-
· Derbyn yr adroddiad. · Bod HSBC yn rhannu ei fframwaithmoesegol gyda’r Ymddiriedolaeth Elusennol fel y gofynnwyd. · Bod HSBC yn rhoi ffigyrau i’r Pwyllgor hwn ynghylch difidendau o’rportffolio dros y 10 mlynedd diwethaf. |
|
Eitem Ychwanegol Cofnodion: EITEM A DRAFODWYD YN BREIFAT
ADOLYGU RHEOLI BUDDSODDIADAU
Dywedodd y Cadeirydd na chynhaliwyd adolygiad o’r trefniadau Rheoli Buddsoddiadau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol ers nifer o flynyddoedd.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD y byddai’r Ysgrifennydd yn ysgrifennu at HSBC Investment Management i drafod adolygiad o’r strwythur ffioedd a’r angen i godi meincnod yr Ymddiriedolaeth. |